Ewch i’r prif gynnwys

Hepgor ffioedd ymchwil ôl-raddedig ar gyfer myfyrwyr yr UE

Anelir y cynllun hepgor ffioedd at fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig o’r UE fydd yn fyfyrwyr newydd ym mlwyddyn academaidd 2025/26 ac sy’n cael eu dosbarthu’n fyfyrwyr ‘UE’ at ddibenion ffioedd.

Bydd yr hepgoriad yn cyllido'r gwahaniaeth rhwng ffi’r DU a hysbysebir a chyfraddau ffioedd yr UE/Rhyngwladol am gyfnod yr ysgoloriaeth a bydd yn cael ei roi ar waith yn awtomatig os byddwch chi’n bodloni amodau'r dyfarniad.

Bod yn gymwys

  • Cael cynnig i astudio ar raglen Ymchwil Ôl-raddedig amser llawn
  • Cael eich dosbarthu’n 'UE' at ddibenion ffioedd dysgu

I gael eich dosbarthu’n ‘UE’ at ddibenion ffioedd dysgu, mae’n rhaid ichi:

  • Breswylio fel arfer* yn yr UE/AEE/DU/Swistir am y cyfnod llawn o dair blynedd cyn dechrau eich astudiaethau
  • Na fydd unrhyw gyfyngiad mewnfudo ar hyd eich arhosiad yn yr UE/AEE/DU/Swistir
  • Peidio â bod yn gymwys ar gyfer statws ffioedd y DU yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru

* Mae preswylio fel arfer yn golygu bod yn rhaid eich bod wedi bod yn preswylio fel rheol, yn arferol ac yn gyfreithlon yn yr ardal breswyl benodol o'ch dewis. Mae’n bosibl y bydd absenoldebau dros dro o’r ardal breswyl yn cael eu hanwybyddu ac felly ni fyddai hyn yn eich atal rhag preswylio fel arfer. Nid oes deddfwriaeth sy'n diffinio absenoldeb 'dros dro' ac felly bydd y rhain yn cael eu hasesu ar sail unigol yn unol â’r gyfraith achosion berthnasol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiynau am eich ffioedd dysgu, cysylltwch â ni:

Ymholiadau ffioedd dysgu