Ffioedd Ymchwil Ôl-raddedig
Dewch o hyd i'r ffioedd ar gyfer cyrsiau ymchwil ôl-raddedig.
Bydd y ffioedd ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau yn 2025/26 ar gael yng ngwanwyn 2025.
Cyrsiau amser llawn
Mae'r ffioedd a restrir fesul blwyddyn astudio.
Cwrs | Ffioedd y DU | Ffioedd rhyngwladol |
---|---|---|
Rhaglenni’r Celfyddydau - ffi safonol | £4,786 | £20,200 |
Rhaglenni Gwyddoniaeth - ffi safonol (MPhil, PhD, MD, MCh) | £4,786 | £25,450 |
Cyrsiau clinigol - ffi safonol (MPhil, MScD, PhD, MD, MCh) | £4,786 | £38,200 |
DEdPsy Seicoleg Addysgol | £11,450 | Ddim yn berthnasol |
Meistr Ymchwil Biowyddoniaeth | £11,450 | £25,450 |
PhD gyda Chydran Glinigol (Deintyddiaeth) | £52,200 | £52,200 |
Hwyrach y bydd yn rhaid talu ffi cymorth ymchwil ychwanegol ar gyfer rhai meysydd astudio gwyddoniaeth, ond cewch wybod am hyn cyn dechrau eich astudiaethau.
Cyrsiau rhan-amser
Oni nodir yn wahanol, y ffioedd rhan-amser a welir yma yw cost blwyddyn astudio, a bydd y ffioedd yn daladwy ar gyfer pob blwyddyn astudio ddilynol.
Cwrs | Ffioedd y DU |
---|---|
Rhaglenni’r Celfyddydau - ffi safonol | £2,393 |
Rhaglenni Gwyddoniaeth - ffi safonol (MPhil, PhD, MD, MCh) | £2,393 |
Cyrsiau clinigol - ffi safonol (MPhil, MScD, PhD, MD, MCh) | £2,393 |
Ysgol Busnes MPhil a PhD | £2,393 |
Doethuriaeth Broffesiynol mewn Gwyddorau ac Ymarfer Gofal Iechyd Uwch (6 modiwl) | £2,393 |
Mae cyfleoedd rhan-amser ar gael i fyfyrwyr mewn rhai meysydd pwnc, ond bydd angen trafod y rhain gyda'r ysgol academaidd unigol. 50% o'r ffi amser llawn ar gyfer pob blwyddyn astudio yw'r ffi safonol ar gyfer y rhaglenni hyn, ond hwyrach y bydd hyn yn amrywio yn ôl yr Ysgol.
Statws ffioedd
Bydd y Brifysgol yn pennu statws ffioedd dysgu wrth brosesu ceisiadau, felly ni allwn gadarnhau hyn ymlaen llaw. Os nad ydych yn siŵr ynghylch statws eich ffioedd, hwyrach y bydd cyfeirio at ganllawiau Cyngor Addysg Ryngwladol (UKCISA) y DU o ddefnydd.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiynau am eich ffioedd dysgu, cysylltwch â ni: