Ffioedd dysgu ôl-raddedig ar gyfer dechrau astudio 2024
Mae ffioedd ôl-raddedig yn amrywio yn dibynnu ar gwrs, modd a lefel astudio.
Talu ffioedd dysgu
Gallwch dalu eich ffioedd dysgu mewn un o'r ffyrdd canlynol:
- taliad llawn cyn cofrestru neu wrth gofrestru
- os nad yw debyd uniongyrchol yn opsiwn, dylid talu traean o'r ffi cyn cofrestru neu wrth gofrestru, yna talu traean ar Ionawr 29 ac Ebrill 29.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thalu ffioedd, gweler ein tudalennau myfyrwyr newydd.
Statws ffioedd i fyfyrwyr rhyngwladol
Pennir y statws ffioedd dysgu wrth brosesu ceisiadau, felly ni allwn gadarnhau hyn ymlaen llaw na rhannu gwybodaeth am benderfyniadau ar statws ffioedd.
Os nad ydych yn sicr o'ch statws ffioedd, edrychwch ar ein hegwyddorion arweiniol o asesu ffioedd.
Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.