Ffioedd ymchwil ôl-raddedig
Dod o hyd i'r ffioedd ar gyfer ein cyrsiau ymchwil ôl-raddedig 2022/23.
Cyrsiau Llawn Amser
Mae'r ffioedd a restrir ar gyfer pob blwyddyn astudio.
Cwrs | Ffioedd y DU | Ffioedd rhyngwladol |
---|---|---|
Rhaglenni yn y Celfyddydau - ffi safonol | £4,596 | £17,950 |
Rhaglenni yn y Gwyddorau - ffi safonol (MPhil, PhD, MD, MCh) | £4,596 | £22,700 |
Cyrsiau clinigol - ffi safonol (MPhil, MScD, PhD, MD, MCh) | £4,596 | £35,450 |
DEdPsy mewn Seicoleg Addysgol | £10,450 | Amherthnasol |
Meistr Ymchwil - Biowyddorau | £9,250 | £22,700 |
Os bydd rhaid i chi dalu ffi cymorth ymchwil ychwanegol ar gyfer rhai meysydd astudio yn y gwyddorau, cewch eich hysbysu o hynny cyn i chi ddechrau eich astudiaethau.
Cyrsiau Rhan-amser
Oni nodir yn wahanol, mae'r ffioedd rhan-amser yma yn cynrychioli'r gost ar gyfer un flwyddyn astudio. Bydd ffioedd yn daladwy ar gyfer pob blwyddyn astudio ddilynol.
Cwrs | Ffioedd y DU |
---|---|
Rhaglenni yn y Celfyddydau - ffi safonol | £2,298 |
Rhaglenni yn y Gwyddorau - ffi safonol (MPhil, PhD, MD, MCh) | £2,298 |
Cyrsiau clinigol - ffi safonol (MPhil, MScD, PhD, MD, MCh) | £2,298 |
Ysgol Busnes MPhil a PhD | £2,298 |
Doethuriaeth Broffesiynol mewn Gwyddorau ac Ymarfer Gofal Iechyd Uwch (6 modiwl) | £2,298 |
Mae cyfleoedd rhan-amser ar gael i fyfyrwyr mewn rhai meysydd pwnc, ond bydd angen trafod hyn gyda'r ysgol academaidd unigol. 50% o'r ffi amser llawn ar gyfer pob blwyddyn astudio yw'r ffi safonol ar gyfer y rhaglenni, ond gall amrywio yn ôl yr ysgol.
Statws ffioedd
Bydd y Brifysgol yn pennu statws eich ffioedd dysgu wrth brosesu ceisiadau, felly ni allwn gadarnhau hyn ymlaen llaw. Os nad ydych yn siŵr ynghylch eich statws ffioedd, gallai'r canllawiau gan Gyngor y DU ar gyfer Materion Myfyrwyr Rhyngwladol (UKCISA) fod o ddefnydd.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich ffioedd dysgu, cysylltwch â ni: