Ffioedd myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir
Dewch o hyd i'r ffioedd ar gyfer ein cyrsiau ôl-raddedig a addysgir, ynghyd â manylion am dalu blaendal.
Ffioedd
Cyrsiau ôl-raddedig amser llawn a addysgir'
Ar gyfer ffioedd cwrs ôl-raddedig a addysgir, gweler cofnod y cwrs unigol, oni bai eich bod yn fyfyriwr sy'n parhau neu'n astudio modiwl annibynnol.
Myfyrwyr rhan-amser
Oni nodir yn wahanol, mae'r ffioedd rhan-amser yn cynrychioli'r gost ar gyfer un flwyddyn astudio. Bydd ffioedd yn daladwy ar gyfer pob blwyddyn astudio ddilynol. Felly, i gael amcangyfrif bras o gyfanswm y gost, dylech luosi’r ffioedd â nifer y blynyddoedd o astudio.
Myfyrwyr parhaus
Mae'r ffioedd a restrir ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau eu cyrsiau yn 2021/22. Gall ffioedd ar gyfer myfyrwyr parhaus fod yn wahanol. Cysylltwch â fees@caerdydd.ac.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.
Modiwlau unigol
Porwch drwy'r ffioedd ar gyfer modiwlau annibynnol yn ôl Ysgol Academaidd.
Myfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw
Bydd ffioedd safonol ar gyfer myfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw. Cysylltwch â fees@caerdydd.ac.uk ar gyfer eich ffioedd cwrs penodol.
Myfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw | Ffioedd dysgu amser llawn (£) y flwyddyn | Ffioedd dysgu rhan-amser (£) y flwyddyn |
---|---|---|
Cyrsiau'r Celfyddydau | £9,000 | £4,500 |
Cyrsiau'r Gwyddorau | £10,500 | £5,250 |
Cyrsiau Clinigol | £24,675 | £12,338 |
Blaendaliadau
Ar gyfer rhagor o wybodaeth am blaendaliadau, gweler ein tudalen blaendaliadau ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig a addysgir.
Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd i raglenni'r Ysgol Meddygaeth a’r Ysgol Deintyddiaeth dalu blaendal o £1,000, ac eithrio cyrsiau Clinigol Deintyddol a MSc Dermatoleg Glinigol sydd angen blaendal o £5,000.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich ffioedd dysgu, cysylltwch â ni: