Ewch i’r prif gynnwys

Ffioedd dysgu ôl-raddedig ar gyfer dechrau astudio yn 2021

Mae ffioedd ôl-raddedig yn dibynnu ar y cwrs, modd a lefel o astudio.

Talu ffioedd dysgu

Gallwch dalu eich ffioedd dysgu mewn un o'r ffyrdd canlynol:

  • talu'n llawn cyn neu ar ôl cofrestru
  • gallwch dalu un rhan o dair cyn neu ar ôl cofrestru, ac wedyn talu un rhan o dair o'r ffi ar 28 Chwefror a 28 Mai.

Am ragor o wybodaeth am dalu ffioedd, gweler ein tudalennau myfyrwyr newydd.

Statws ffioedd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol

Mae statws ffioedd dysgu'n cael eu penderfynu yn ystod cyfnod prosesu ceisiadau, felly nid ydym yn gallu cadarnhau hyn o flaen llaw na chynghori am benderfyniadau statws ffioedd.

Os ydych yn ansicr o statws eich ffioedd, dylech gyfeirio at ein egwyddorion arweiniol o asesu ffioedd. (Nodwch, mae'r ddogfen ar gael yn Saesneg yn unig)