Yanhui Sun
Yn ystod ei amser ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’r myfyriwr MSc Peirianneg strwythurol wedi ennill sylfaen trwyadl yn ei faes astudio, ac yn teimlo y bydd, yn ddiamau, yn helpu ei ymdrechion yn y dyfodol.
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/153549/Yanhui-Sun-PG-taught.jpg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
"Mae Caerdydd yn le braf a chanolog i astudio ynddo."
"Yn ystod fy astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd, fe gefais wybodaeth ddamcaniaethol werthfawr a hefyd sylfaen drylwyr o ddulliau astudio ac ymchwilio.
“Bydd yr hyfforddiant hwn heb os yn hwyluso fy ngwaith a fy astudiaethau yn y dyfodol.
“Anogodd goruchwyliwr fy nhraethawd ymchwil, Dr Haijiang Li, fi wrth gwblhau fy nhraethawd a rhoi cyfoeth o wybodaeth i mi ar dechnolegau diwydiant newydd. Mae’r gefnogaeth benodol hon wedi fy mharatoi yn dda ar gyfer gweithio yn y maes.
"Mae’r Brifysgol yn cymryd ei myfyrwyr o ddifrif, gan geisio adborth ar brofiadau ac adeiladu ar gryfderau. Am y rheswm hwn, yn fy marn i, dim ond gwella y gall Prifysgol Caerdydd!”