Rhys Govier
Dysgwch sut mae’r cwrs MSc Cynaliadwyedd, Cynllunio a Pholisi Amgylcheddol wedi cynnal diddordeb Rhys yn yr amgylchedd a’i baratoi ar gyfer ei rôl ddilynol fel Cynlluniwr Graddedig gyda Savills.
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/153527/Rhys-Govier-PG-taught-cropped.jpg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
"Mae gan Gaerdydd holl nodweddion dinas fawr ond ar raddfa fwy cryno. Mae yna ddigonedd o ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliannol yn digwydd sy'n ei wneud yn le gwych i fyw ynddo. Mae'n addas iawn i'r myfyriwr ac i'r gweithiwr proffesiynol ifanc."
"Ar ôl astudio am radd BSc yng Nghaerdydd, dewisais barhau yn yr Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth ar yr MSc Cynaliadwyedd, Cynllunio a Pholisi Amgylcheddol.
"Llwyddodd y radd Meistr i ddiwallu fy niddordeb brwd yn yr amgylchedd a hwyluso dilyniant fy ngyrfa, gyda’r nod o ddod yn Aelod Siartredig o’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol - y corff achrededig ar gyfer Cynllunwyr Tref. Yn dilyn fy astudiaethau, rwyf i wedi sicrhau swydd gyda Savills fel Cynllunydd Graddedig ac yn gobeithio byw yng Nghaerdydd am y dyfodol rhagweladwy.
"Yn ystod fy astudiaethau fe ddes i’n aelod brwd o Glwb Crwydro a Cherdded Prifysgol Caerdydd, oedd yn gyfle i weld llawer o’r hyn sydd gan gefn gwlad a mynyddoedd de Cymru (a thu hwnt) i’w gynnig.
“Rwyf i hefyd wedi manteisio ar y cyfle i ehangu fy astudiaethau drwy Ganolfan Dysgu Gydol Oes y Brifysgol lle byddaf gobeithio yn parhau i ddysgu, datblygu diddordebau a chyfarfod â phobl newydd.”