Ewch i’r prif gynnwys

Rhagnodi ar Lefel Glinigol Uwch yn Annibynnol i Fferyllwyr

Mae'r rhaglen hon, a reolir gan yr Ysgol Fferylliaeth ac Astudiaethau Fferyllol, yn paratoi fferyllwyr i ymarfer fel Rhagnodwyr Annibynnol ac i fodloni'r safonau perthnasol a osodwyd gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC).

Gellir ei atsudio naill ai fel modiwl annibynnol (cymeriant Medi a Mawrth) neu fel rhan o raglen ôl-raddedig e.e. Diploma (cymeriant Medi) neu raglen Hyfforddiant Sylfaen Ôl-gofrestru (cymeriant Medi a Ionawr).

Nodau’r cwrs

Ein nod yw galluogi ymarferwyr i fod yn rhagnodwyr sy’n gweithredu’n annibynnol i fferyllwyr, gan feddu ar y wybodaeth, y sgiliau, y rhinweddau a'r cymwyseddau priodol, ac sy'n berthnasol i gwmpas eu hymarfer, fel eu bod yn gallu rhagnodi'n ddiogel ac yn effeithiol.

Bydd sgiliau clinigol uwch, asesu cleifion a sgiliau diagnosis gwahaniaethol yn cael eu datblygu hefyd, a bydd ymarferwyr yn gwella eu sgiliau dadansoddi beirniadol a myfyrio personol ymhellach, sy'n hollbwysig i ddatblygiad proffesiynol gydol oes.

Drwy gwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, cewch eich anodi’n rhagnodwr sy’n gweithredu’n annibynnol i fferyllydd ar gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.

Disgrifiad o'r cwrs

Rydym yn derbyn myfyrwyr ar ddwy adeg benodol ar gyfer ein rhaglen 40 credyd, lefel 7, Rhagnodi ar Lefel Glinigol Uwch yn Annibynnol i Fferyllydd. Rydym yn derbyn y garfan gyntaf ym mis Medi, a'r ail garfan ym mis Mawrth.

Mae modd cwblhau modiwl 40 credyd Rhagnodi ar Lefel Glinigol Uwch yn Annibynnol i Fferyllydd yn rhan o un o raglenni ôl-raddedig yr Ysgol hefyd (bydd Cyfarwyddwyr y Rhaglenni hyn yn cyfathrebu â'r myfyrwyr ynghylch dyddiadau'r modiwlau).

Achrediad y cwrs

Cafodd y rhaglen ei hail-achredu gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol yn 2021.

Mae rhagor o fanylion am eu deilliannau dysgu a'r broses achredu ar gael ar wefan Pharmacy Regulation.

Gallwch ddod o hyd i'n hadroddiad ail-achredu diweddaraf yma. Cafodd y rhaglen ei hachredu yn erbyn y safonau newydd yn 2023.

Strwythur y cwrs

Rydym wedi datblygu'r rhaglen ran-amser hon (tua 6 mis o hyd) sy'n seiliedig ar gymwyseddau drwy ddefnyddio ein profiad o gynnal rhaglenni rhagnodi anfeddygol ers 2004.

Rydym wedi meithrin dealltwriaeth drylwyr o'r gofynion yn ystod y cyfnod hwn ac mae'r rhaglen hon wedi'i chreu yn seiliedig ar ddiwallu anghenion fferyllwyr a rhoi profiad rhagorol a fydd yn eich ysbrydoli. Felly, bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymgynghori, asesu cleifion a gwneud penderfyniadau clinigol.

Mae'r rhaglen yn cynnwys y canlynol:

  • 12 diwrnod astudio, a gynhelir naill ai ar-lein (n = 4) neu ym Mhrifysgol Caerdydd yn ystod yr wythnos (n = 8)
  • astudio dan gyfarwyddyd ac astudio hunangyfeiriedig
  • 90 awr dan oruchwyliaeth yr Ymarferydd Rhagnodi Dynodedig (DPP)
  • asesiadau

Gan mai cwrs 40 credyd yw hwn, bydd angen i chi neilltuo tua 400 awr i'r rhaglen hon, sy'n cyfateb i tua 8-10 awr o waith bob wythnos (nid yw hyn yn cynnwys diwrnodau astudio ac amser gydag Ymarferydd Dynodedig).

Diwrnodau astudio

Byddwch yn cymryd rhan mewn 12 diwrnod astudio sy’n cael eu rhannu fel arfer yn chwe bloc o ddau ddiwrnod ar gyfer y modiwl annibynnol. Mae tri o'r chwe bloc astudio yn cael eu cyflwyno ar-lein ar hyn o bryd; cyflwynir y tri bloc arall yn Adeilad Redwood, Prifysgol Caerdydd.

Mae ein dulliau addysgu yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, gweithdai, astudiaethau achos a thrafodaethau. Mae sgiliau ymgynghori a sgiliau asesu cleifion yn hanfodol i ragnodwr newydd, felly byddwn yn canolbwyntio ar y meysydd hyn yn ystod y rhaglen.

Rydym yn defnyddio actorion gofal iechyd proffesiynol mewn ymgynghoriadau realistig, a hynny mewn sefyllfaoedd a reolir, i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau craidd. Gellir recordio'r rhain ar fideo, gan roi’r cyfle i chi fyfyrio ar eich sgiliau a'u gwerthuso. Rydym wedi cael adborth rhagorol gan fyfyrwyr blaenorol ynghylch y dulliau addysgu hyn sy’n adlewyrchu 'bywyd go iawn'.

Disgwylir i chi fynychu'r holl ddiwrnodau astudio (mae presenoldeb 100% yn ofynnol).

Dysgu dan gyfarwyddyd a dysgu hunangyfeiriedig

Byddwn yn darparu dysgu dan gyfarwyddyd, gan eich tywys i'r deunydd darllen priodol o ran y cymwyseddau rhagnodi y byddwch yn eu datblygu. Bydd disgwyl i chi hefyd ddarllen deunydd penodol dan gyfarwyddyd mewn perthynas â sgiliau asesu cleifion. Mae hyn yn cynnwys darllen am anatomeg y corff dynol, yn ogystal ag asesu gwahanol systemau'r corff dynol.

Mae adnoddau ar-lein ar gael hefyd i gyd-fynd â’r addysgu ac i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau hyn.

Gwaith ymarferol

Yn seiliedig ar ofyniad cyfredol y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, bydd angen i chi dreulio o leiaf 90 awr o dan oruchwyliaeth Ymarferydd Dynodedig. Bydd yr amser hwn yn rhoi’r cyfle i chi fyfyrio'n feirniadol a chymhwyso egwyddorion rhagnodi i gwmpas eich ymarfer.

Bydd angen i chi dreulio o leiaf 45 o’r 90 awr gyda'ch Ymarferydd Dynodedig yn uniongyrchol, a gall y gweddill fod gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol neu bersonél eraill y cytunwyd arnynt. Mae angen treulio o leiaf 20 awr gyda meddygon yn yr un maes ymarfer â chi ar gyfer gweithgareddau sy'n gysylltiedig â’r portffolio.

Ni ellir treulio mwy nag 20 o’r 90 awr yn arsylwi pobl eraill. Dylech geisio treulio hyd at 30 awr yn cymryd rhan mewn ymgynghoriadau ac o leiaf 30 awr yn arwain ymgynghoriadau.

Mae'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol wedi paratoi Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer Ymarferwyr Rhagnodi Dynodedig (DPPs). Mae wedi'i rannu'n dri maes: Yr Ymarferwyr Rhagnodi Dynodedig, Cyflawni'r Rôl, a'r Amgylchedd Dysgu a Llywodraethu. Darllenwch y canllawiau hyn a gwnewch yn siŵr bod yr Ymarferydd Dynodedig yn bodloni'r cymwyseddau.

Yn benodol, gwnewch yn siŵr ei fod:

  • yn rhagnodwr profiadol mewn rôl sy'n dod wyneb yn wyneb â chleifion (diffinnir hyn fel rhagnodwr ar hyn o bryd sydd fel arfer ag o leiaf 3 blynedd o brofiad diweddar o ragnodi)
  • yn rhagnodwr mewn rôl ar hyn o bryd sy'n dod wyneb yn wyneb â chleifion, yn meddu ar ddealltwriaeth a phrofiad priodol sy'n berthnasol i faes ymarfer clinigol yr hyfforddai (Mae rhagnodwr sydd mewn rôl ar hyn o bryd yn ymgynghori â chleifion ac yn gwneud penderfyniadau rhagnodi yn seiliedig ar asesiad clinigol yn ddigon aml i gynnal gallu yn y maes Mae’n myfyrio ar arferion rhagnodi ac yn cynnal archwiliad ohonynt i nodi anghenion datblygiadol)
  • meddu ar y sgiliau clinigol a diagnostig diweddaraf o ran dod wyneb yn wyneb â chleifion, yn ogystal â thystiolaeth o ddangos gallu mewn maes ymarfer sy'n berthnasol i'r hyfforddai
  • sgiliau addysgu a hyfforddi

Asesiadau

Drwy gydol cyfnod y rhaglen, byddwch yn ymgymryd ag ystod o asesiadau i wneud yn siŵr bod yr holl ddeilliannau dysgu ar gyfer y rhaglen yn cael eu cyflawni. Bydd angen i chi basio pob asesiad i gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus gan nad yw’n seiliedig ar gyfartaledd marciau ar draws asesiadau.

Dyma amserlen bresennol yr asesiadau:

Disgrifiad o'r asesiadCyfraniad at y modiwl o ran canran
Portffolio40% o farc y modiwl
Fframwaith Therapiwtig30% o farc y modiwl
OSCE30% o farc y modiwl
Asesiadau cyfrifiadaupasio/methu (rhaid ei basio ar 100%)

Bydd eich portffolio rhagnodi yn dangos yr amser rydych wedi'i dreulio yn gwneud gwaith ymarferol o dan oruchwyliaeth yr Ymarferydd Dynodedig yn ogystal â’ch gallu i roi theori ar waith. Mae'n cynnwys gwybodaeth am gwmpas eich ymarfer, cofnodion clinigol (digwyddiadau yn ystod eich gwaith ymarferol), sgiliau asesu cleifion, sgiliau ymgynghori, a chofnod o oriau gyda'r Ymarferydd Dynodedig, ac enghreifftiau o sut rydych wedi bodloni'r cymwyseddau rhagnodi.

Mae'r fframwaith therapiwtig yn canolbwyntio ar gwmpas eich ymarfer a'r meddyginiaethau y byddwch chi'n eu rhagnodi. Mae'n eich galluogi i ymchwilio a dod yn fwy hyderus ynghylch y cyflyrau, y cynnydd a'r canllawiau perthnasol sy'n effeithio ar benderfyniadau wrth ragnodi.

Mae'r OSCE yn asesiad ymarferol sy’n asesu eich gallu i gynnal ymgynghoriadau â chleifion, gan gynnwys asesiadau cleifion a sut i’w dehongli e.e. asesiadau cardiofasgwlaidd. Caiff ei gynnal yn y Brifysgol a'i asesu gan staff addysgu gofal iechyd profiadol.

Mae'r prawf rhifedd a gynhelir ar-lein yn cynnwys 20 cwestiwn ac mae'n cymryd 45 munud i'w gwblhau.

Sgiliau y byddwch yn eu meithrin

  • Sgiliau ymgynghori
  • Sgiliau asesu cleifion
  • Gwneud penderfyniadau clinigol

Arweinwyr cyrsiau a thiwtoriaid

Cyfarwyddwyr y Rhaglenni:

  • Dr Rowan Yemm PhD FHEA MRPharmS (modiwlau annibynnol)
  • Yr Athro Karen Hodson PhD, MSc, BSc (Pharm), MRPharmS (modiwl Diploma)
  • Mrs Kate Francis, DiplClin, MRPharmS (Rhaglen Hyfforddiant Sylfaen Ôl-gofrestru)

Tiwtoriaid:

Mae nifer o Ragnodwyr Annibynnol sy'n gweithio ar hyn o bryd yn cynorthwyo arweinwyr y cwrs.

Dyrennir tiwtor personol ar eich cyfer ar ddechrau’r rhaglen. Os oes modd, bydd eich tiwtor naill ai'n academydd profiadol sy'n gweithio ym maes rhagnodi neu’n Rhagnodwr Annibynnol sydd â phrofiad o gwmpas y maes.

Diolch am drefnu cwrs mor wych. Yn bendant, dyma'r cwrs mwyaf pleserus a pherthnasol rwyf wedi'i wneud ac roedd yn wych gallu rhoi theori ar waith ar unwaith. Mae nid yn unig wedi rhoi sgiliau a dealltwriaeth newydd i mi ond hefyd wedi newid y ffordd rwy'n ymarfer o ddydd i ddydd. Mae'n rhaid ei fod yn gwrs anodd i'w gynnal ond mae wedi tanio fy mrwdfrydedd dros y proffesiwn ac am hyn rwy'n ddiolchgar iawn.

Ceri Phillips Fferyllydd Gwrthficrobaidd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Gofynion mynediad

Gofynion iaith Saesneg - o leiaf Gradd 6/B TGAU neu sgôr o 7 yn y System Brofi Ryngwladol ar gyfer Iaith Saesneg (IELTS)

Mae gofynion mynediad ychwanegol yn ofynnol gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol ar gyfer rhaglen ragnodi annibynnol i fferyllydd.  Mae’r rhain fel a ganlyn:

  • rhaid i ymgeiswyr fod yn fferyllwyr sydd wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) neu, yng Ngogledd Iwerddon, gyda Chymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon (PSNI)
  • rhaid i ymgeiswyr fod mewn sefyllfa gref gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol a/neu PSNI ac unrhyw reoleiddiwr gofal iechyd arall y maent wedi'u cofrestru ag ef
  • at ddibenion datblygu eu harferion rhagnodi annibynnol, rhaid i ymgeiswyr nodi maes ymarfer clinigol neu therapiwtig fel sylfaen ar gyfer eu hastudiaethau
  • mae'n rhaid i ymgeiswyr gael ymarferydd rhagnodi dynodedig sydd wedi cytuno i oruchwylio'u hastudiaethau yn ymarferol. Mae'n rhaid i ymarferydd rhagnodi dynodedig yr ymgeisydd fod yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig ym Mhrydain Fawr neu Ogledd Iwerddon sydd â hawliau rhagnodi annibynnol cyfreithiol yn ogystal â phrofiad addas a chymwys i gyflawni'r rôl oruchwylio hon. Dylai hefyd fod wedi dangos DPP neu gamau ailddilysu sy'n berthnasol i'r rôl hon. Er bod modd i ymgeisydd gael ei oruchwylio gan fwy nag un person, dim ond un rhagnodwr sy'n cael bod yr ymarferydd rhagnodi dynodedig. Yr ymarferydd rhagnodi dynodedig yw'r person a fydd yn ardystio bod fferyllwyr llwyddiannus yn gymwys i fod yn rhagnodwyr annibynnol
  • mae'n rhaid i ymgeiswyr fod â phrofiad perthnasol mewn fferyllfeydd yn y DU a meddu ar y gallu i adnabod, deall a mynegi'r sgiliau a'r priodoleddau sy'n ofynnol gan ragnodwr fel sylfaen ar gyfer eu hymarfer rhagnodi wrth hyfforddi

Sut i wneud cais

Cysylltwch â Thîm Recriwtio a Derbyn Gwasanaethau Proffesiynol yr Ysgol Fferylliaeth i ofyn am becyn cais.

Mae 3 rhan i’r broses ymgeisio.

Rhan 1: Bydd yr ymgeisydd yn cwblhau proses ymgeisio Prifysgol Caerdydd drwy roi manylion am gyflogaeth a chymhelliant i ymgymryd â'r rhaglen ymhlith materion eraill.

Rhan 2: Bydd ymgeiswyr yn llenwi’r ffurflen gais benodol ar gyfer y rhaglen i ddangos sut maent yn bodloni meini prawf derbyn y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, y maes ymarfer arfaethedig (cwmpas yr ymarfer yn nherminoleg Caerdydd) a'r grŵp o gleifion y byddant yn rhagnodi ar eu cyfer, a'u hystyriaethau o ran sut a gyda phwy y byddant yn treulio amser yn ystod eu cyfnod dysgu ymarferol. Anfonir ffurflen ar gyfer geirda proffesiynol hefyd i'w llenwi gan y cyflogwr neu berson priodol.

Rhan 3: Mae'n rhaid i'r Ymarferydd lenwi'r Ffurflen Cymhwysedd Ymarferydd Rhagnodi Dynodedig (DPP), gan roi manylion ei fod yn bodloni'r gofynion i fod yn Ymarferydd, ei brofiad o addysgu/goruchwylio ac asesu, a sut y gall gynorthwyo'r ymgeisydd yn ymarferol yn ystod y rhaglen.

Dim ond ceisiadau cyflawn fydd yn cael eu hystyried, ar ôl y dyddiad cau ar gyfer eu cyflwyno. Ar sail y ceisiadau bydd Cyfarwyddwr y Rhaglen yn asesu a yw'r gofynion mynediad GPhC wedi'u bodloni.

Mae enghreifftiau o dystiolaeth ddigonol a fydd fel arfer yn bodloni'r meini prawf yn cynnwys:

  • rhaglen ôl-raddedig wedi’i chwblhau yn llwyddiannus e.e. Diploma blaenorol neu flynyddoedd o brofiad yn gweithio ym maes clinigol neu therapiwteg a gaiff sylw penodol yn ystod y rhaglen ragnodi
  • blwyddyn gyntaf rhaglen ôl-raddedig a addysgir wedi’i chwblhau’n llwyddiannus.  Mae gennym y Rhaglen Hyfforddiant Sylfaen Ôl-gofrestru yng Nghymru erbyn hyn sy’n golygu bod gan bob fferyllydd Oruchwyliwr Ymarfer lleol a Goruchwyliwr Addysg o Brifysgol.  Y bwriad yw cynnal adolygiad rhwng y Goruchwyliwr Ymarfer ac Addysg a'r myfyriwr ar ôl 9 mis o’r rhaglen i weld a ddylai'r myfyriwr symud ymlaen i'r Rhaglen Ragnodi.  Bydd y rhaglen hyfforddi yn gwneud yn siŵr bod gan y myfyriwr ddigon o brofiad yn y gweithle a bydd yr adolygiad yn nodi unrhyw bryderon posibl gan y rhai sy'n gweithio gyda'r myfyriwr ar y rhaglen
  • fferyllydd newydd gymhwyso sy'n gweithio mewn sector penodol, sy’n gallu dangos ei fod wedi bod yn gweithio ym maes fferylliaeth yn rheolaidd, ac wedi cwblhau lleoliadau yn eu rhaglenni israddedig ac ymarfer ar y lefel 'gwneud' neu 'yn dangos sut' (h.y. nid ar y lefel 'gwybod sut')

Gall profiad ddeillio o'u gradd MPharm (tystiolaeth sylweddol o ddysgu drwy brofiad, efelychu neu leoliadau eraill), yn ystod eu blwyddyn hyfforddiant sylfaen a/neu swydd ym maes fferylliaeth. Dylai hyn gynnwys tystiolaeth o ddarparu gofal, ymrwymiad a thystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus yn y maes hwn, yn ogystal â defnyddio gwybodaeth a sgiliau.

Gall gynnwys enghreifftiau o arwain mewn ymgynghoriadau â chleifion neu gymryd rhan ynddynt, nodi hanes o gyffuriau sydd wedi’u cymryd, gwneud penderfyniadau ar y cyd, rhoi gwybodaeth i gleifion, datrys ymholiadau, cyfyng-gyngor moesegol, ac ati.

Gallwch gynnwys enghreifftiau o achosion cleifion dienw a chofnodion DPP. Gallwch hefyd gynnwys tystiolaeth gan gyflogwr, ymarferydd dynodedig neu feddyg arall neu fferyllydd yr ydych yn gweithio gyda nhw neu yr ydych yn darparu gwasanaeth fferyllfa ar ei gyfer.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am eich cais, cysylltwch â Thîm Recriwtio a Derbyn y Gwasanaethau Proffesiynol drwy anfon ebost at Pharmacy-IP@caerdydd.ac.uk.

Ffioedd a chyllid

£2,430 yw’r ffi ar gyfer y rhaglen i fyfyrwyr o’r Deyrnas Unedig.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn comisiynu nifer o leoedd fel arfer i fferyllwyr a gyflogir gan Fyrddau Iechyd ar gyfer y modiwl annibynnol ym mis Medi.  Trafodwch hyn gydag arweinwyr eich Bwrdd Iechyd.

Os ydych yn cael eich noddi’n llawn neu’n rhannol (ac eithrio nawdd gan AaGIC), bydd angen prawf o nawdd arnoch wrth gofrestru.  Bydd hyn ar ffurf llythyr gan eich noddwr.

Mae treuliau ychwanegol y gallech eu talu yn ystod y cwrs yn cynnwys:

  • llyfrau os yw'n well gennych gael eich copïau eich hun
  • llungopïo personol
  • costau teithio i'r cwrs

Manylion cyswllt

Pharmacy Independent Prescribing Team