Rheoli Poen
Mae'r modiwlau ar-lein hyn yn darparu addysg Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n dymuno arbenigo ym maes rheoli poen. Maen nhw hefyd wedi'u hanelu at addysgwyr, er mwyn rhoi’r wybodaeth a’r arbenigedd priodol ar boen ac addysgu pobl eraill o ddisgyblaethau gwahanol.
Mae modiwlau annibynnol yn ffordd wych o wella eich gwybodaeth a chyfrannu at eich portffolio datblygiad proffesiynol parhaus. Bydd cwblhau pob modiwl yn llwyddiannus yn rhoi credyd sefydliadol i chi, ond nid yw'r modiwlau unigol a restrir yma wedi'u cynllunio i adeiladu tuag at ddyfarniad penodol (e.e. PGCert/PgDip/MSc). Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio sy'n arwain at ddyfarniad a enwir, edrychwch ar ein MSc Rheoli Poen.
Bydd pob modiwl unigol ar Lefel 7, sydd â 20 credyd, yn digwydd unwaith pob blwyddyn academaidd, a'i gynnal yn gyfan gwbl ar-lein drwy ddysgu o bell. Defnyddir ystod o ddulliau asesu ffurfiannol a chrynodol, megis: aseiniadau ysgrifenedig, datblygu wicis, blogiau, cwestiynau amlddewis a gwaith grŵp ar-lein.
MET239 Ystadegau Ymchwil a Meddygaeth ar Sail Tystiolaeth
Nod y modiwl hwn yw rhoi trosolwg academaidd o'r prif bynciau ymchwil ac ystadegau fel y bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gallu gwerthuso tystiolaeth yn briodol wrth iddyn nhw ymarfer. Nid yw'n ganllaw cam wrth gam ar sut i gynnal profion ystadegol penodol ond mae'n dangos pam y defnyddir rhai profion a sut y dylid dehongli’r canlyniadau.
Mae'r modiwl hwn hefyd ar gael i'w astudio’n rhan o garfan Rheoli Poen (Gofal Sylfaenol a Chymunedol) (MET290) neu Ofal Critigol (MET250).
MET235 Hanfodion Rheoli Poen
Nod y modiwl hwn yw rhoi ichi ddealltwriaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth o strategaethau ffarmacolegol a rheoli (gan gynnwys ffarmacolegol), a ddefnyddir yn gyffredin i reoli poen acíwt ac anfalaen cronig.
MET236 Egwyddorion Bioseicogymdeithasol Rheoli Poen
Nod y modiwl hwn yw y bydd y myfyriwr yn gallu gwerthfawrogi’r egwyddorion Bioseicogymdeithasol sy'n ymwneud â phrofi poen.
MET270 Astudiaethau Achos Cleifion: Opsiynau
Nod y modiwl hwn yw y bydd y myfyriwr yn gallu gwerthfawrogi’r amryw gyflyrau sy'n achosi poen, gan ddefnyddio astudiaethau achos cleifion. Yn sgîl hyn, bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gallu cymhwyso theori i ymarfer clinigol.
MET271 Rheoli Clinigol: Opsiynau
Nod y modiwl hwn yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i'r myfyriwr a fydd yn ei alluogi i ddewis opsiynau rheoli clinigol addas ar gyfer mathau gwahanol o boen a sefyllfaoedd clinigol gwahanol.
Bydd y dulliau dadansoddol ar sail tystiolaeth sy'n galluogi dewisiadau o'r fath yn cael eu hastudio, a bydd y myfyrwyr yn cael y cyfle i gysylltu'r rhain â chyd-destun proffesiynol penodol.
Bydd y modiwl hefyd yn helpu myfyrwyr i werthfawrogi rolau rhyngbroffesiynol ac anghenion grwpiau gwahanol o gleifion ym maes rheoli poen.
MET272 Materion Proffesiynol: Opsiynau
Nod y modiwl hwn yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i'r myfyriwr a fydd yn ei alluogi i astudio’n feirniadol cysyniad 'proffesiynoldeb' yn ogystal â’r ffyrdd y mae materion ymarfer proffesiynol yn effeithio ar reoli cleifion a dewisiadau penderfynu a rheoli gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Mae'r modiwl yn cynnwys arweinyddiaeth ym maes gofal iechyd, agweddau cyfreithiol a safon a diogelwch. Yn y modd hwn caiff y myfyriwr ganolbwyntio ar faes proffesiynoldeb sy'n berthnasol iddo.
Rydyn ni’n cadw'r hawl i ganslo modiwlau unigol. Hwyrach y bydd hyn yn digwydd os na fydd digon wedi cofrestru ar gwrs neu os bydd newid yn yr amgylchiadau. Digwydd hyn oherwydd bod angen lleiafswm o fyfyrwyr ar rai modiwlau cyn y gellir eu cynnal. Diben hynny yw gwneud yn siŵr y gellir cynnal addysg o safon briodol. Os bydd hyn yn digwydd byddwn ni’n rhoi ad-daliad llawn neu rannol gan ddibynnu ar a gynhaliwyd dosbarthiadau neu beidio.
Gofynion mynediad
Yn ogystal â bodloni isafswm gofynion mynediad y Brifysgol, gan gynnwys gofynion o ran Saesneg, mae'n rhaid bod ymgeiswyr:
- yn meddu ar gymhwyster mewn pwnc clinigol perthnasol
- yn gweithio ar hyn o bryd mewn maes clinigol perthnasol gan feddu ar o leiaf ddwy flynedd o brofiad yn y maes.
Dylai’r ymgeiswyr nad ydyn nhw’n bodloni'r gofynion uchod gysylltu â’r Tîm Derbyn Myfyrwyr i Gyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yn yr Ysgol Meddygaeth i gael cyngor.
Sut i wneud cais
Cysylltwch â’n Tîm Derbyn Myfyrwyr Meddygaeth i Gyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir i gael manylion ar sut i wneud cais.
Cyllid a ffioedd
Ewch i’n tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu ar gyfer y rhaglenni hyn.
Tîm Derbyn Ôl-raddedig a Addysgir
Yr Ysgol Meddygaeth