Meddygaeth Plant Newydd-anedig
Mae'r modiwlau ar-lein hyn yn darparu addysg Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i ymarferwyr, hyfforddeion, staff nyrsio a pharafeddygol mewn ysbytai yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill sy'n ymwneud â gofal amlddisgyblaethol plant newydd-anedig a phlant ifanc iawn.
Mae modiwlau annibynnol yn ffordd wych o wella eich gwybodaeth a chyfrannu at eich portffolio datblygiad proffesiynol parhaus. Bydd cwblhau pob modiwl yn llwyddiannus yn rhoi credyd sefydliadol i chi, ond nid yw'r modiwlau unigol a restrir yma wedi'u cynllunio i adeiladu tuag at ddyfarniad penodol (e.e. PGCert/PgDip/MSc). Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio sy'n arwain at ddyfarniad a enwir, edrychwch ar ein MSc Arferion sy’n Datblygu ym maes Neonatoleg.
Bydd yr asesu yn cynnwys ystod o ddulliau gan gynnwys profion gwybodaeth a dealltwriaeth (Cwestiynau Amlddewis, Profion Gwrthrychol, Profion Atebion Byr), myfyrio personol ynghylch ymarfer, cyfraniadau at drafodaethau sy’n seiliedig ar achosion a gwaith ysgrifenedig.
MET854 Gofal Niwrolegol mewn Meddygaeth Newydd-enedigol
Nod y modiwl hwn yw astudio’r cysyniadau craidd ynghlwm wrth ofal niwrolegol i blant newydd-anedig. Byddwch chi’n astudio cylchrediad hylif yr ymennydd (CSF), gwendidau ymennydd y plentyn newydd-anedig a enir cyn amser a’r gwahaniaethau penodol rhwng anaf i’r ymennydd y plentyn newydd-anedig a enir cyn amser a’r plentyn a enir ar amser. Ymhlith y cyflyrau pwysig a fydd yn cael eu trafod y mae IVH, PVL ac HIE. Ymhlith yr achosion o anaf i'r ymennydd ar amser fydd yn cael sylw y mae strôc, haint a hyperbilirubenemia.
Bydd y modiwl yn canolbwyntio hefyd ar yr hyn sy’n achosi ffitiau plant newydd-anedig, a’u rheoli. Drwy gydol y cyfnod, agwedd allweddol i'w hystyried fydd canlyniadau tymor hir anaf i'r ymennydd a’r penderfyniadau clinigol cysylltiedig, a chyfleu'r rhain yn effeithiol i gydweithwyr a rhieni.
MET855 Maeth a Swyddogaeth Perfedd mewn Newydd-enedigion
Nod y modiwl hwn yw astudio’r cysyniadau creiddiol ynghlwm wrth ofal niwrolegol plant newydd-anedig. Byddwch chi’n astudio gofynion maethol plant newydd-anedig ac yn trafod manteision llaeth y fron. Bydd cymhariaeth o’r dulliau bwydo a dulliau priodol gwahanol ynghlwm wrth gynyddu bwydo’r plentyn yn cael ei ystyried yn ôl yr amgylchiadau.
Ymdrinnir â’r pathoffisioleg, y ffactorau risg a’r diagnosis o Enterocolitis Necrotig (NEC) ynghyd ag astudio strategaethau atal, rheoli meddygol/llawfeddygol a chymhlethdodau tymor hir NEC.
MET871 Cludo Newydd-enedigion a Phlant
Mae penderfynu pryd i gludo baban newydd-anedig neu blentyn a sut i sicrhau'r safonau diogelwch a gofal uchaf posibl wrth wneud hynny yn ystyriaethau hollbwysig i unrhyw system gofal iechyd. Bydd y modiwl yn ystyried y manteision a'r cyfiawnhad ar gyfer trefnu gwasanaethau iechyd yn ganolog neu ddosbarthu’r rhain.
Bydd trafodaeth ynghylch pwysigrwydd a natur asesu risgiau wrth gludo plant, gan gynnwys cyflymder o’i gymharu â diogelwch. Bydd gwaith tîm a chyfathrebu effeithiol, dewis yr aelodau o staff priodol, yr adnoddau sydd eu hangen i gludo’n ddiogel ac yn effeithiol a'r effaith ar wasanaethau lleol yn cael eu hystyried hefyd.
MET971 Ymchwil ac Ystadegau
Nod y modiwl hwn yw rhoi gwell dealltwriaeth a gwybodaeth i chi am y broses ymchwil ac ystadegau, a hynny er mwyn i chi allu gwerthuso, cyfannu syniadau a myfyrio'n feirniadol ar dystiolaeth ymchwil unwaith eich bod yn ymarfer. Bydd y ffocws ar ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth o'r lleoliad newyddenedigol ond bydd sgiliau cyffredinol mewn ymchwil mewn lleoliad gofal iechyd yn cael eu dysgu.
Bydd yr asesu yn cynnwys ystod o ddulliau gan gynnwys profion gwybodaeth a dealltwriaeth, myfyrio personol ynghylch ymarfer, cyfraniadau at drafodaethau sy’n seiliedig ar achosion a gwaith ysgrifenedig.
Ar ôl cwblhau'r modiwl, dylai myfyriwr allu gwneud y canlynol:
- Nodi a myfyrio ar wahanol ddulliau ymchwil (ymchwil ansoddol a meintiol), sy'n cael eu defnyddio ac y gellir eu defnyddio ym maes gofal critigol
- Defnyddio'r wybodaeth hon i werthuso llenyddiaeth yn feirniadol a myfyrio ar eu goblygiadau ar gyfer ymarfer gan ddefnyddio dulliau priodol ar gyfer gwerthuso ymchwil ansoddol a meintiol
- Integreiddio egwyddorion ystadegol dadansoddi data; gallu darlunio’r dulliau priodol i’w defnyddio ar gyfer setiau data gwahanol
- Arddangos eich ymchwil a gwybodaeth a sgiliau ystadegol, gan allu nodi dulliau ymchwil priodol er mwyn mynd i'r afael â chwestiynau clinigol ystyrlon
- Defnyddio'r wybodaeth am ymchwil, ystadegau a meddygaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i fyfyrio ar ganfyddiadau'r ymchwil a'u cyfosod â'ch ymarfer clinigol
MET972 Gofal Anadlol mewn Meddygaeth Newyddenedigol
Nod y modiwl hwn yw astudio’r cysyniadau craidd ynghlwm wrth ofal anadlol plant newydd-anedig. Byddwch yn astudio gwahanol gyfeintiau'r ysgyfaint ac egwyddorion cymorth anadlu. Trafodir manteision gwahanol fathau o gymorth anadlu er mwyn addysgu dadansoddi budd-dal risg a chyfiawnhad strategaethau cymorth anadlu penodol, gan gyfleu'r rhain yn effeithiol i gydweithwyr a rhieni. Ystyrir y defnydd o steroidau a'i ganlyniadau. Ymhlith y cyflyrau meddygol yr ymdrinnir â nhw y mae clefyd cronig yr ysgyfaint a gorbwysedd ysgyfeiniol eilaidd.
Bydd yr asesu yn cynnwys ystod o ddulliau gan gynnwys profion gwybodaeth a dealltwriaeth, myfyrio personol ynghylch ymarfer, cyfraniadau at drafodaethau sy’n seiliedig ar achosion a gwaith ysgrifenedig.
Ar ôl cwblhau'r modiwl, dylai myfyriwr allu gwneud y canlynol:
- Disgrifio datblygiad anatomegol a ffisiolegol yr ysgyfaint trwy gydol plentyndod.
- Egluro sut mae ymosodiadau a heriau tebyg i'r system anadlol yn arwain at wahanol gyflwyniadau clinigol a phatholegau wrth i'r plentyn ddatblygu.
- Dadansoddi’r risgiau a’r manteision ar gyfer cymorth anadlu.
- Datblygu a chyfiawnhau strategaethau cymorth anadlu sy'n lleihau'r canlyniadau tymor byr a hirdymor i systemau anadlol a systemau eraill.
- Gwerthuso’n feirniadol ganlyniadau hirdymor a rheolaeth cymorth anadlu.
- Mynegi canlyniadau tebygol triniaeth yn glir mewn ffyrdd a fydd yn hwyluso dealltwriaeth rhieni a gwneud penderfyniadau ar y cyd.
- Dethol, gwerthuso'n feirniadol a chymhwyso tystiolaeth ymchwil berthnasol.
- Asesu rolau cyflenwol gwahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol a thimau amlddisgyblaethol wrth ofalu am blant.
- Myfyrio ar eich dysgu ar y modiwl a chysylltu hyn â'ch ymarfer a'ch profiadau clinigol unigol.
MET973 Gofal Critigol y Newydd-anedig
Ceir heriau penodol pan fydd yn rhaid i dimau gofal ymdrin â sefyllfaoedd sy'n golygu triniaeth frys a gofal critigol i fabanod newydd-anedig. Bydd y modiwl yn dysgu egwyddorion dadebru’r newydd-anedig ac yn astudio gofynion gwahanol fabanod a enir cyn amser ac ar amser. Drwy edrych yn fanwl ar y gofynion hyn a'r ffisioleg sylfaenol, y bwriad yw y byddwch chi’n gallu datblygu a chyfiawnhau strategaethau gofal priodol, gan gyfleu’r rhain yn effeithiol i gydweithwyr a rhieni. Bydd addasiad ffisiolegol ar enedigaeth o ran hylifau ac electrolytau a sut i reoli hylifau ac electrolytau pan fydd sefyllfaoedd gofal critigol hefyd yn cael eu hystyried.
Mae penderfynu pryd i gludo baban newydd-anedig neu blentyn a sut i sicrhau'r safonau diogelwch a gofal uchaf posibl wrth wneud hynny yn ystyriaethau hollbwysig i unrhyw system gofal iechyd. Bydd trafodaeth ynghylch pwysigrwydd a natur asesu risgiau wrth gludo plant, gan gynnwys cyflymder o’i gymharu â diogelwch. Bydd gwaith tîm a chyfathrebu effeithiol, dewis personél priodol, yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer cludo’n ddiogel ac effeithiol a'r effaith ar wasanaethau lleol yn cael eu hystyried.
Bydd yr asesu yn cynnwys ystod o ddulliau gan gynnwys profion gwybodaeth a dealltwriaeth, myfyrio personol ynghylch ymarfer, cyfraniadau at drafodaethau sy’n seiliedig ar achosion a gwaith ysgrifenedig.
Ar ôl cwblhau'r modiwl, dylai myfyriwr allu gwneud y canlynol:
- Disgrifio egwyddorion hanfodol a heriau penodol dadebru ar enedigaeth.
- Gwahaniaethu rhwng gofynion gwahanol fabanod a enir cyn amser ac ar amser.
- Gwerthuso'n feirniadol y cyfyng-gyngor moesegol sy'n gysylltiedig â dadebru baban newydd-anedig cyn-amser eithafol a newydd-anedig sy’n sâl.
- Cyfiawnhau strategaethau cymorth anadlu cynnar yn seiliedig ar dystiolaeth briodol.
- Gwerthuso’n feirniadol dystiolaeth a chysyniadau sy’n ymwneud â’r ‘awr dyngedfennol’ a’r heriau ymarferol sy’n codi o ran triniaeth a rheolaeth.
- Egluro addasu ffisiolegol sylfaenol adeg geni o ran hylifau ac electrolytau
- Cyfiawnhau dulliau o reoli hylifau ac electrolytau o ran y goblygiadau clinigol mwyaf tebygol.
- Mynegi canlyniadau cyflwr plentyn yn glir mewn ffyrdd a fydd yn hwyluso dealltwriaeth rhieni.
- Dethol, gwerthuso'n feirniadol a chymhwyso tystiolaeth ymchwil berthnasol.
- Asesu rolau cyflenwol gwahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol a thimau amlddisgyblaethol wrth ofalu am blant.
- Asesu risgiau cymharol cludo yn erbyn gofal lleol i fabanod newydd-anedig a phlant.
- Gwerthuso amgylchiadau pan fo cyflymder trosglwyddo yn hollbwysig ac egluro sut y gallai cyflymu beryglu diogelwch.
- Penderfynu sut y dewisir personél priodol ar gyfer dyletswyddau cludo.
- Rhagweld ffactorau sy'n cyfrannu at gyfathrebu effeithiol a gwaith tîm yn ystod cludo.
- Trafod ymarferoldeb a heriau senarios clinigol cyffredin ar gyfer cludo cleifion.
- Myfyrio ar eich dysgu ar y modiwl a chysylltu hyn â'ch ymarfer a'ch profiadau clinigol unigol.
Rydyn ni’n cadw'r hawl i ganslo modiwl unigol. Gallai hyn ddigwydd os na fydd digon wedi cofrestru ar gyfer cwrs neu os bydd newid yn yr amgylchiadau. Digwydd hyn oherwydd bod angen lleiafswm o fyfyrwyr ar rai modiwlau cyn y gellir eu cynnal. Diben hynny yw gwneud yn siŵr y gellir cynnal addysg o safon briodol. Os bydd hyn yn digwydd byddwn ni’n rhoi ad-daliad llawn neu rannol gan ddibynnu ar a gynhaliwyd dosbarthiadau neu beidio.
Gofynion mynediad
Yn ogystal â bodloni isafswm gofynion mynediad y Brifysgol, gan gynnwys gofynion o ran Saesneg, mae'n rhaid bod ymgeiswyr:
- yn meddu ar gymhwyster mewn pwnc clinigol perthnasol
- yn gweithio mewn maes clinigol perthnasol ar hyn o bryd
Dylai’r ymgeiswyr nad ydyn nhw’n bodloni'r gofynion uchod gysylltu â’r Tîm Derbyn Myfyrwyr i Gyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yn yr Ysgol Meddygaeth i gael cyngor.
Sut i wneud cais
Cysylltwch â’n Tîm Derbyn Myfyrwyr i Gyrsiau Ôl-raddedig i gael manylion ar sut i wneud cais.
Cyllid a ffioedd
Ewch i’n tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu ar gyfer y rhaglenni hyn.
Tîm Derbyn Ôl-raddedig a Addysgir
Yr Ysgol Meddygaeth