Ewch i’r prif gynnwys

Meddygaeth genomig

Mae meddygaeth genomig yn chwyldroi meysydd oncoleg, fferylliaeth, anhwylderau prin, iechyd meddwl a chlefydau heintus.

Mae ymchwil yn parhau yn gyflym i ddatblygu gwell dealltwriaeth o'r berthynas rhwng ein genynnau a'n hiechyd.

Mae genomeg yn llywio'r gofal iechyd a ddarparwn i'n cleifion yn gynyddol, ac fel gweithiwr gofal iechyd proffesiynol rydych yn fwyfwy tebygol o siarad â'ch cleifion a'u teuluoedd am genomeg.

Gyda thwf meddygaeth fanwl wedi'i gwneud yn bosibl, yn rhannol, trwy astudio genomeg, mae'n bwysicach nag erioed eich bod yn deall sut mae meddygaeth genomig yn effeithio ar eich maes ymarfer clinigol.

Mae’r modiwlau unigol hygyrch hyn ar gael i staff GIG Cymru. Mae cyllid ffioedd dysgu llawn ar gael gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar gyfer hyd at ddau fodiwl fesul unigolyn. Mae pob modiwl yn werth 20 credyd a bydd yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â Gwasanaeth Genomig Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS), Parc Geneteg Cymru (WGP) a GIG Cymru i gyflwyno’r modiwlau.

Cyflenwi hyblyg

Mae'r rhain yn rhaglenni e-ddysgu rhyngbroffesiynol. Mae'r fformat ar-lein yn golygu y gallwch astudio'n hyblyg, i gyfrif am eich ymrwymiadau presennol. Bydd eich astudiaeth ar-lein yn cael ei gwella gan nodweddion rhyngweithiol gan gynnwys byrddau trafod, recordiadau ac ystafell ddosbarth rithwir ar gyfer sesiynau byw ar-lein neu gyfarfodydd tiwtor personol.

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais

Cysylltwch â'r tîm Genomeg i gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i wneud cais ar-lein.

E-bostiwch ni

Wrth i dechnolegau genomig gael eu gweithredu ar draws y rhan fwyaf o arbenigeddau clinigol, mae unigolion sydd ag arbenigedd mewn meddygaeth genomig yn chwarae rôl allweddol wrth alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddysgu, deall ac integreiddio data genomig i mewn i ymarfer clinigol.

Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyfle i chi astudio a chymhwyso'r strategaethau a'r technegau traddodiadol a chyfoes a ddefnyddir i adnabod genynnau sy'n gyfrifol am anhwylderau etifeddol prin (Mendelaidd) a chlefydau polygenig cyffredin. Byddwch yn defnyddio enghreifftiau wedi’u cymryd o ymarfer clinigol o'r anhwylderau mwyaf cyffredin i archwilio tirwedd clefydau etifeddol cyffredin a phrin. Byddwch yn datblygu gwerthfawrogiad o ddefnyddioldeb dulliau genomig wrth ddadansoddi bioleg sylfaenol clefyd genetig, gan gynnwys anhwylderau cymhleth, a sut y gellir defnyddio'r wybodaeth hon i wella canlyniadau cleifion.

Byddwch hefyd yn dysgu am ddulliau o reoli a thrin cleifion a'u teuluoedd, yn ogystal ag archwilio rôl genomeg mewn llwybr gofal, wrth ystyried safbwyntiau cleifion a theuluoedd. Mae'r modiwl hefyd yn darparu enghreifftiau ymarferol sy'n dangos sut y gall cleifion ag anghenion diagnostig heb eu diwallu elwa o ddilyniannu ecsom cyfan neu genom cyfan.

Arweinydd y modiwl: Athro Derek Blake

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn diffinio Iechyd y Cyhoedd fel pob mesur a drefnir (boed yn gyhoeddus neu'n breifat) i atal clefyd, hybu iechyd, ac ymestyn bywyd ymhlith y boblogaeth gyfan.

O fewn y system gofal iechyd, deellir cymhwysiad genomeg mewn perthynas â chlefydau heintus orau o fewn cyd-destun iechyd y cyhoedd. Mae hyn oherwydd bod data genomig pathogen yn gymwysadwy mewn sawl ffordd, o ddiagnosis ar lefel claf, hyd at olrhain pandemigau ar lefel fyd-eang.

Bydd y modiwl hwn yn rhoi i’r myfyrwyr ddealltwriaeth wedi’i llywio gan iechyd y cyhoedd/gwaith clinigol o genomeg clefydau heintus a phathogen clinigol. Bydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad i fioleg pathogen, gan gwmpasu hanfodion pathogen, gan gynnwys bioleg pathogen graidd, trosglwyddiad pathogen, strwythur genom pathogen ac ymwrthedd i gyffuriau.

Bydd y ddealltwriaeth sylfaenol o fioleg pathogen wedyn yn galluogi dysgwyr i gael eu cyflwyno i gymhwysiad genomeg ym maes iechyd y cyhoedd, o'r claf i'r boblogaeth. Bydd y modiwl yn archwilio genomeg pathogen trwy lens iechyd y cyhoedd a'i chymhwysiad eang, gan gysylltu genomeg clefydau heintus â thri maes Iechyd y Cyhoedd - Atal, Amddiffyn a Hybu.

Arweinydd y modiwl: Athro Thomas Connor - yn gweithio gyda Dr Fu Meng Khaw

Mae “omeg” yn disgrifio ystod o dechnolegau dadansoddol, gan gynnwys genomeg, trawsgriptomeg, metabolomeg a phroteomeg, a ddefnyddir i nodweddu cronfeydd mawr o foleciwlau biolegol.

Er bod genomeg a thrawsgriptomeg yn aml yn cynnwys y defnydd o ddilyniannu cenhedlaeth nesaf (NGS) mae ystod o dechnolegau y gellir eu defnyddio i archwilio'r metabolom a'r proteom. Gyda'i gilydd, gellir defnyddio'r technolegau hyn i nodi amrywiadau genetig a biofarcwyr a gallant gynnig mewnwelediadau swyddogaethol i fecanweithiau clefydau ac ymatebion triniaeth.

Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad cynhwysfawr i ystod o dechnegau “omeg” gyda phwyslais ar ddefnyddio NGS mewn gofal iechyd.

Mae’r pynciau a drafodir yn y modiwl hwn yn cynnwys:

  • dilyniannu exome a genom cyfan, gan gynnwys cymharu gwahanol lwyfannau dilyniannu a chemegau
  • dulliau o werthuso pathogenedd amrywiadau yng nghyd-destun adroddiad clinigol gan y GIG
  • dulliau o asesu'r trawsgrifiad trwy gynnwys dilyniannu RNA a thrawsgrifomeg ofodol
  • gwerthusiad beirniadol o ddarganfod biofarcwr
  • cymwysiadau clinigol proteomeg, metabolomeg a lipidomeg.

Arweinydd y modiwl: Dr Hywel Williams

Dros y degawd diwethaf bu newidiadau sylweddol o ran sut mae cleifion canser yn cael eu rheoli, gyda mwy o ffocws ar feddyginiaeth fanwl a haenu cleifion.

Byddai'r datblygiadau hyn wedi bod yn amhosibl heb ddeall y mecanweithiau moleciwlaidd sy'n sbarduno dechreuad a dilyniant tiwmor, yr arwyddiannau genomig sy'n datgelu'r nodweddion cyffredin a rennir rhwng gwahanol ganserau ac, yn baradocsaidd, yn amlygu'r unigrywiaeth ym mhob un. Genynnau a newidiadau genetig yw'r sylfaen i ddatblygiad canser.

Mae'r modiwl hwn yn rhoi cipolwg beirniadol ar fecanweithiau moleciwlaidd dechreuad a dilyniant canser, atgyweirio DNA a'i rôl wrth gynnal sefydlogrwydd genom, mecanweithiau metastasis canser a rôl microamgylchedd y tiwmor. Byddwch yn dysgu am sail foleciwlaidd canser, germlin ac amrywiadau genomig somatig a all gynyddu risg a dilyniant canser, ac ystyriaethau moesegol sgrinio genetig. Mae'r modiwl hwn yn amlygu sut mae datblygiadau yn y dadansoddiad genomig yn llywio’r broses o haenu a thrin cleifion ac yn cyflwyno cysyniadau ffarmacogenomeg a meddygaeth bersonoledig mewn canser.

Arweinydd y modiwl: Dr Zara Poghosyan

Nod y modiwl hwn yw rhoi'r sgiliau cwnsela a chyfathrebu i chi i gefnogi cleifion y bydd ymchwiliadau genomig yn dylanwadu ar eu gofal. Byddwch yn dod â’r profiad o’ch ymarfer clinigol presennol, ac yn cael y wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau i ymgorffori gofal iechyd genomig i mewn i’ch rôl.

Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o pryd y gall profion genomig gael eu cynnig mewn gofal iechyd, a goblygiadau moesegol a chymdeithasol hyn, gan gynnwys pwysigrwydd cydsyniad ar sail gwybodaeth ar gyfer profi. Byddwch yn dysgu sut i gyfathrebu ag unigolion a'u teuluoedd a darparu cymorth priodol iddynt. Datblygir sgiliau cwnsela drwy sesiynau damcaniaethol ac ymarferol.

Cewch gyfle i ddysgu sut i gofnodi a dehongli hanes teuluol, sut i drafod profion genomig gyda'ch cleifion, a sut i gyflwyno canlyniadau'n briodol.

Arweinydd y modiwl:  Dr Nicky Tavener

Yn ystod y degawd diwethaf gwelwyd cynnydd esbonyddol mewn dilyniannu genom sydd wedi chwyldroi’r gwaith o ddiagnosio, trin ac atal llawer o glefydau. Mae'r datblygiadau hyn mewn meddygaeth genom yn dibynnu ar fiowybodeg a bioleg gyfrifiadurol i alinio dilyniannau i genomau cyfeirio a nodi amrywiadau dilyniannu clinigol-berthnasol yn gywir. Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad cynhwysfawr i'r dadansoddiad biowybodig o ddata genomig gyda phwyslais ar ddefnyddio dilyniannu cenhedlaeth nesaf (NGS) mewn gofal iechyd. Mae'r pynciau a drafodir yn y modiwl hwn yn cynnwys rheoli ansawdd NGS a’r aliniad i genom cyfeirio; adnabod amrywiad, polymorffismau niwcleotid sengl (SNPs) a mewnosodiadau a dileadau (INDELs) o ddilyniant aliniedig, dulliau cyfrifiadurol i asesu effaith swyddogaethol amrywiadau a safonau ar gyfer rhannu data biowybodeg mewn llwybrau gofal iechyd.

Arweinydd y modiwl:  Dr Rik Anne

Gofynion mynediad

Mae’r modiwlau uchod ar gael i weithwyr iechyd proffesiynol a meddygon sy’n gweithio yn y GIG yng Nghymru, gan gynnwys meddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.

Os ydych yn ansicr a yw eich cymwysterau neu’ch profiad proffesiynol yn berthnasol, ebostiwch pgtgenomicsenquiries@caerdydd.ac.uk.