Ewch i’r prif gynnwys

Modiwlau unigol ôl-raddedig mewn Meddygaeth

Dewis o foldiwlau unigol sydd wedi eu cynllunio'n arbennig i gefnogi gweithwyr iechyd gofal proffesiynol gyda'u gwaith. Mae'r rhain naill ai'n rhan o'n MScs llawn neu fodiwlau unigryw, i gyd ar gael i hyrwyddo eich portffolio CPD.

Geriatreg Glinigol

Mae'r modiwlau dysgu cyfunol hyn yn cynnig addysg Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) i weithwyr proffesiynol amrywiaeth o sefyllfaoedd iechyd a gofal cymdeithasol ymchwilio i anghenion iechyd ac anghenion cymdeithasol cymhleth pobl hŷn sy’n byw yn y gymdeithas sydd ohoni.

Gofal Critigol

Mae'r modiwlau ar-lein hyn yn darparu addysg Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar lefel meistr i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n arbenigo ym maes gofal acíwt a chritigol.

Diabetes

Mae'r Ysgol Meddygaeth yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau i gwmpasu pob agwedd ar ddiabetes, o Baediatreg i’r Henoed neu Glefyd Diabetig ar y Droed, i Glefyd Cardiofasgwlaidd.

Cwnsela Genetig a Genomig

Bydd ein hystod o fodiwlau Geneteg yn gwella eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o ofal iechyd genetig, sy’n sector sydd ar gynnydd.

Artistic interpretation of DNA helix

Meddygaeth genomig

Modiwlau DPP wedi'u hariannu mewn meddygaeth genomig.

e-training

Addysg Feddygol

Gellir astudio ein modiwlau e-ddysgu Cyfryngau a Thechnolegau Addysgol ac Asesu Dysgu sy’n rhan o’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Feddygol ar eu pennau eu hunain neu fel cyrsiau unigol.

Rheoli Poen

Mae'r modiwlau ar-lein hyn yn darparu addysg Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n dymuno arbenigo ym maes rheoli poen.

Meddygaeth Liniarol ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol

Lluniwyd y modiwlau amlddisgyblaethol hyn ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n dymuno gwella eu gwybodaeth am reoli cleifion sydd â salwch angheuol neu salwch na ellir ei wella.

Seiciatreg

The course is suitable for medical and other health professionals wishing to gain an in-depth knowledge of current thinking and practices within psychiatry

Iechyd y Cyhoedd

Mae'r modiwlau dysgu cyfunol hyn yn cynnig addysg Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i weithwyr proffesiynol o ystod o leoliadau gofal iechyd a chymdeithasol, a’r cyfle i ymgymryd â dysgu integredig ac amlddisgyblaethol o safon uchel yn ymwneud ag arweinyddiaeth a datrys problemau ar draws maes eang iechyd y cyhoedd.

Iacháu Clwyfau

Nod y modiwlau annibynnol hyn yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i fyfyrwyr er mwyn eu galluogi i ymateb i'r her o ofalu am gleifion sydd ag ystod o glwyfau y deuir ar eu traws yn aml.