Ewch i’r prif gynnwys

Diabetes

Mae'r Ysgol Meddygaeth yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau i gwmpasu pob agwedd ar ddiabetes, o therapiwteg i’r henoed neu glefyd diabetig ar y droed, i glefyd cardiofasgwlaidd.

Gyda hyblygrwydd o ran dewis modiwlau unigol, gallwch deilwra eich astudiaethau i'ch anghenion a'ch diddordebau.

Mae modiwlau annibynnol yn ffordd wych o wella eich gwybodaeth a chyfrannu at bortffolio eich datblygiad proffesiynol parhaus. Bydd cwblhau pob modiwl yn llwyddiannus yn rhoi credyd sefydliadol ichi, ond nid diben y modiwlau annibynnol a restrir yma yw gweithio tuag at gymhwyster penodol (e.e. PGCert/PgDip/MSc). Os hoffech chi astudio er mwyn ennill cymhwyster a enwir, edrychwch ar ein MSc Ymarfer Diabetes.

Mae pob modiwl 10 wythnos yn digwydd yn gyfan gwbl ar-lein, sy’n rhoi’r rhyddid i chi ddysgu ar adeg sy'n gyfleus i chi ac mae'n werth 20 Credyd Lefel M. Er bod disgwyl i bob modiwl ddigwydd ar adeg benodol, byddwn yn ceisio gwneud i bethau weithio i chi orau y gallwn.

Nodau’r cwrs

Ar ôl cwblhau modiwl unigol, dylai myfyriwr allu gwneud y canlynol:

  • gwerthuso llenyddiaeth feddygol a chyfiawnhau penderfyniadau ymarfer clinigol sy’n deillio o feddygaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
  • gwerthuso safonau ac argymhellion cyfredol yn feirniadol, o ran rhoi gofal ar gyfer diabetes
  • dangos arweinyddiaeth/creadigrwydd, sgiliau gweithio mewn tîm a gwerthuso wrth ymdrin yn systematig â materion cymhleth
  • wrth ddatrys problemau, cyfleu cysyniadau a/neu benderfyniadau pwysig yn effeithiol i eraill
  • myfyrio ar eu dysgu ar y modiwl a chysylltu hyn â'u hymarfer a'u profiadau clinigol eu hunain.

Nodweddion arbennig

Mae’r modiwlau yn seiliedig ar faes llafur cynhwysfawr y Ffederasiwn Diabetes Rhyngwladol (IDF).

Disgrifiad o'r cwrs

Rhan bwysig o’r dysgu ar y modiwlau hyn yw gwerthuso llenyddiaeth feddygol a chyfiawnhau penderfyniadau ymarfer clinigol sy’n deillio o feddygaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r modiwlau hefyd yn ceisio eich cynorthwyo o ran gwerthuso, dylunio, datblygu neu weithredu canllawiau ymarfer clinigol lleol mewn perthynas â diabetes.

Mae natur dysgu o bell y modiwlau hyn yn golygu nad oes angen i chi fynychu unrhyw ddarlithoedd a gallwch astudio mewn ffordd sy’n gweithio gyda’ch ymrwymiadau presennol. Cewch eich cefnogi’n barhaus gan ein cyfadran arbenigol drwy’r tudalennau ar-lein. Mae tîm y cwrs yn cynnig gwasanaeth gweinyddol a chymorth technegol Dydd Llun-Dydd Gwener (09:00-16:00) drwy ebost, a fforymau trafod ar y ffôn ac ar-lein.

Y dull asesu ar gyfer y modiwlau yw asesiad ar-lein parhaus yn ystod y 10 wythnos, yn ogystal â phrosiect grŵp, adroddiad unigol 2,000 o eiriau ac arholiad dewis lluosog 60 munud ar-lein. Nid oes unrhyw gydrannau preswyl nac arholiadau ysgrifenedig felly ni fyddai angen i chi deithio i Brifysgol Caerdydd at ddibenion y cwrs.

Modiwlau sydd ar gael

Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth gadarn i chi o ymchwil, arloesedd, ac archwilio a gwerthuso gwasanaethau a bydd yn eich galluogi i herio'r dystiolaeth ac i fynd i'r afael â chwestiynau clinigol pwysig sy'n berthnasol i'ch ymarfer clinigol.

Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i ddulliau ymchwil a’r ffordd y’u cymhwysir ym maes gofal iechyd a sut yr eir ati i’w gwella, y cyfan gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd ymchwil yn weithgarwch ar wahân i’r gwaith archwilio, datblygu gwasanaethau, gwerthuso gwasanaethau ac arloesi, a bydd y berthynas rhwng ac ymysg y gweithgareddau hyn yn cael eu harchwilio. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth ddatblygedig i chi o wahanol ddulliau o ran gwaith ymchwili a gwerthuso gofal iechyd; bydd hyn yn sail i'ch dysgu drwy gydol y rhaglen. Bydd y modiwl yn rhoi trosolwg o strwythur project ymchwil yn ogystal â dulliau rheoli prosiectau. Telir sylw i ddulliau cyffredinol ar gyfer casglu a dadansoddi data mewn paradeimau ymchwil meintiol ac ansoddol ac adolygu systematig, ac i sut y cymhwysir y rhain i arferion atal a rheoli diabetes. Mae pwyslais cryf iawn ar ddatblygu sgiliau gwerthuso beirniadol, gan gynnwys dadansoddi beirniadol, myfyrio ar y rhain a’u cysylltu ag ymarfer, a hynny drwy gydol y modiwl. Mae hyn yn rhoi’r sylfaen angenrheidiol i chi weithio tuag at eich asesiadau modiwlaidd.

Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylai myfyriwr allu gwneud y canlynol:

  • nodi’r gwahanol ddulliau ymchwil sydd yn cael eu defnyddio, ac y gellir eu defnyddio ym maes gofal iechyd (ymchwil ansoddol a meintiol) a’u hadolygu’n feirniadol, gan fyfyrio ar y dulliau priodol o fynd i'r afael â chwestiynau clinigol mewn modd ystyrlon;
  • ymgymryd â strategaethau chwilio cadarn i leihau tuedd farnwrol mewn ysgrifennu academaidd wrth nodi llenyddiaeth briodol i ateb cwestiynau â gogwydd clinigol;
  • gwerthuso llenyddiaeth yn feirniadol ac ystyried goblygiadau i ymarfer gan ddefnyddio dulliau priodol ar gyfer gwerthuso ymchwil ansoddol a meintiol;
  • trafod dulliau casglu data priodol ac integreiddio egwyddorion ystadegol wrth ddadansoddi data; gallu amlygu’r dulliau priodol i’w defnyddio ar gyfer gwahanol setiau data;
  • ystyried canfyddiadau ymchwil, a’u rhoi ar waith o ran ymarfer clinigol.
  • gwerthuso cryfderau a gwendidau ymchwil, gwerthuso gwasanaethau ac archwiliadau clinigol yn feirniadol er mwyn adlewyrchu ar sut y gall y rhain wella’r gofal ar gyfer cleifion, hyrwyddo arloesedd a gwella sut y cyflwynir gwasanaethau.
  • myfyrio ar y fframweithiau a'r prosesau moesegol a llywodraethu cyfredol sy’n cael eu defnyddio i gynnal ymchwil sy'n ymdrin â phobl yn ogystal â'r gwaith o werthuso gwasanaethau ac archwiliadau clinigol.
  • gwerthuso’r cysyniad o ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a dulliau ar gyfer datblygu canllawiau clinigol, a hefyd rôl y cyrff rheoleiddio statudol a chynghori presennol sy’n llywodraethu gofal iechyd.

Dyddiadau addysgu: 30 Medi - 25 Tachwedd 2024

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r maes pwnc o fewn ei gyd-destun clinigol dyddiol. Mae'r modiwl yn rhoi cyfle i chi gael dealltwriaeth gynhwysfawr o sut mae diabetes yn cael ei gategoreiddio, sut mae’n amlygu’i hun, a hefyd o roi diagnosis o ddiabetes, 'cyn diabetes' ac anhwylderau metabolaeth glwcos, gan hefyd roi’r cyfle i chi werthuso goblygiadau'r diagnosisau hyn. Cewch eich gwahodd i archwilio profion diagnostig, cynlluniau rheoli clinigol, a hefyd pathoffysioleg, aetioleg a ffactorau risg diabetes a rolau ategol gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gweithwyr proffesiynol eraill a chleifion. Rhoddir ystyriaeth arbennig hefyd i raglenni hunanreoli strwythuredig, ffordd o fyw a rheoli pwysau, gwella o ddiabetes ac archwilio dulliau seicolegol.

Mae'r modiwl hwn yn eich gwahodd i werthuso ffyrdd o reoli'r rhai sydd â chyflyrau hirdymor a byddwch yn gallu ystyried dulliau cymharol newydd o reoli gan ddefnyddio cyd-greu a chyd-gynhyrchu, gwneud penderfyniadau ar y cyd, hunanreoli a phresgripsiynu cymdeithasol.

Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, dylai myfyriwr allu gwneud y canlynol:

  • adolygu'r dystiolaeth yn feirniadol o ran epidemioleg, diagnosis a sgrinio, diabetes, 'cyn-diabetes' ac anhwylderau metaboledd glwcos yn seiliedig ar y ffordd maent yn arddangos eu hunain yn y claf a'u nodweddion allweddol, gan ddefnyddio metaboledd/ffisioleg glwcos arferol a gwrthgyferbynnu hyn gyda'r hyn sy'n digwydd mewn gwahanol fathau o ddiabetes.
  • ymgymryd ag ymchwil gwerthuso beirniadol sy'n canolbwyntio ar y wyddoniaeth honno sy'n sail i'n dealltwriaeth o ddiabetes gan gynnwys yr achoseg, pathoffisioleg, a ffactorau risg diabetes.
  • gwerthuso dulliau sy'n addas ar gyfer rhagfynegi ac atal cyflyrau diabetig (gan gynnwys ffordd o fyw, maeth a gweithgarwch corfforol) yn feirniadol, a myfyrio ar y gwahanol oblygiadau sy'n deillio o ddiagnosis o 'gyn-ddiabetes', diabetes ac anhwylderau metaboledd glwcos.
  • myfyrio ar brofion diagnostig addas a chynlluniau rheoli clinigol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer diabetes ac anhwylderau cysylltiedig, gan gynnwys ymyriadau, a ffordd o fyw sydd yn ymwneud â rheoli pwysau ac nad ydynt yn ymwneud â ffarmacoleg, gan werthuso’r rhain,
  • myfyrio ar strategaethau ar gyfer cefnogi hunanreolaeth ar gyfer delio â diabetes, addysg strwythuredig a seicoleg diabetes, a gwerthuso’r rhain
  • myfyrio ar yr hyn maen wedi’i ddysgu ar y modiwl a chysylltu hyn â'u hymarfer a'u profiadau clinigol eu hunain.

Dyddiadau addysgu: 2 Rhagfyr 2024 - 10 Chwefror 2025

Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i chi arfarnu therapïau'r gorffennol a'r presennol wrth reoli pobl sydd â diabetes. Bydd hyn yn cynnwys amrywiaeth o gyfryngau fferyllol/therapiwtig, therapïau’r geg a therapïau chwistrelladwy, ymyriadau ar gyfer rheoli risg, a rhoddir sylw i ganlyniadau cardiofasgwlaidd, rheoli gordewdra a hefyd llawdriniaeth. Bydd y modiwl hefyd yn archwilio therapïau sy'n dod i'r amlwg sy'n berthnasol i reoli diabetes. Mae gwerthuso tystiolaeth ymchwil yn feirniadol yn rhan bwysig o'r astudiaethau ar gyfer y modiwl hwn, hynny o ran llywio a chefnogi'r ffyrdd y mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ymwneud â dulliau rheoli clinigol ar gyfer pobl â diabetes, neu’n rhoi cymorth iddynt o ran rheoli ffordd o fyw.

Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, dylai myfyriwr allu gwneud y canlynol:

  • adlewyrchu ar brofion diagnostig addas a chynlluniau rheoli clinigol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer diabetes ac anhwylderau cysylltiedig, a’u gwerthuso. Mae’r rhain yn cynnwys ymyriadau rheoli ffordd o fyw, dulliau ffarmacolegol ac an-ffarmacolegol gan ystyried hefyd y wybodaeth am effeithiau andwyol therapïau'r gorffennol a'r presennol.
  • gwerthuso gweithrediadau o ran therapïau ffarmacolegol sydd ar gael ar hyn o bryd ym maes diabetes, ynghyd â gwerthuso’u seiliau gwyddonol.
  • gwerthuso’r dewis o therapïau ffarmacolegol ac an-ffarmacolegol penodol sydd ar gael ar gyfer gwahanol gyflyrau diabetig, yn feirniadol.
  • dadansoddi effeithiau andwyol therapïau gwrth-diabetig y gorffennol a'r presennol.
  • gwerthuso tystiolaeth yn feirniadol a myfyrio ar fuddion cardiofasgwlaidd, arennol a metabolig o ran presgripsiynu cardiofasgwlaidd
  • dadansoddi'n feirniadol y sylfeini tystiolaeth cyfredol ar gyfer arferion cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg wrth reoli pobl â diabetes yn glinigol, gan gynnwys therapïau nad ydynt yn seiliedig ar inswlin.
  • creu, gwerthuso a/neu amddiffyn cynlluniau ymyrryd priodol ar gyfer pobl â diabetes.
  • myfyrio ar eu dysgu ar y modiwl a chysylltu hyn â'u hymarfer a'u profiadau clinigol eu hunain.

Dyddiadau addysgu: 17 Chwefror - 14 Ebrill 2025

Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i chi archwilio dulliau atal, adnabod a rheoli cymhlethdodau mewn diabetes. Fe'ch gwahoddir i werthuso’r safonau a’r argymhellion seiliedig ar dystiolaeth cyfredol o ran gofal mewn diabetes. Byddwch hefyd yn gallu archwilio dulliau a ddefnyddir i sgrinio ar gyfer cymhlethdodau microfasgwlaidd a macrofasgwlaidd mewn diabetes, a thelir sylw hefyd i glefydau cardiofasgwlaidd a llunio dulliau rheoli sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer amrywiaeth o senarios clinigol. Bydd hyn yn eich galluogi i gyflwyno opsiynau ataliol a rheoli cynnar, yn well, i gefnogi'r rhai sy'n byw gyda diabetes a hefyd o ran cyflwyno pecynnau gofal personol.

Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, dylai myfyriwr allu gwneud y canlynol:

  • cyfuno'r pathoffisioleg o gymhlethdodau diabetes sy'n digwydd yn gyffredin, gallu ystyried asesu mewn ffordd feirniadol, gallu rheoli a gwerthuso ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn feirniadol er mwyn sicrhau canfod a rheolaeth gynnar.
  • gwerthuso'n feirniadol ddulliau cyfredol o sgrinio ar gyfer y cymhlethdodau meicrofasgwlaidd a macrofasgwlaidd sy’n ymwneud â diabetes, yn ogystal â gwerthuso safonau cyfoes ac argymhellion gofal mewn diabetes gan gyfeirio'n benodol at gymhlethdodau clinigol.
  • gwerthuso ac (ail d)dylunio canllawiau ymarfer clinigol lleol yn ymwneud â sgrinio, diagnosis, a rheoli pobl â chymhlethdodau diabetig, a rhoi gofal parhaus iddynt.
  • arfarnu llenyddiaeth feddygol ar gymhlethdodau’n ymwneud â diabetes, yn feirniadol, a chyfiawnhau penderfyniadau ymarfer clinigol sy’n deillio o feddygaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
  • gwerthuso ac (ail d)dylunio protocolau ar gyfer rheoli argyfyngau hypoglycaemig a hyperglycaemig yn ddiogel ac effeithiol.
  • myfyrio ar eu dysgu ar y modiwl a chysylltu hyn â'u hymarfer a'u profiadau clinigol eu hunain.

Dyddiadau addysgu: 5 Mai - 30 Mehefin 2025

Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i werthuso'r safonau cyfredol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac argymhellion ymarfer clinigol o ran diabetes math 1. Byddwch yn archwilio amgylchiadau arbennig ac yn llunio cynlluniau rheoli ar gyfer amrywiaeth o senarios clinigol, gan gynnwys gofal trosiannol, anhwylderau bwyta a gastroparesis. Byddwch hefyd yn gwerthuso'r dystiolaeth ar gyfer technoleg mewn diabetes ac yn datblygu strategaethau ar gyfer eu cymhwyso mewn ymarfer clinigol.

Dyddiadau addysgu: 30 Medi - 25 Tachwedd 2024

Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i adnabod, gwerthuso a rheoli diabetes mewn amgylchiadau salwch acíwt yn ystod derbyniadau yn yr ysbyty. Bydd myfyrwyr yn archwilio ac yn gwerthuso safonau ac argymhellion gofal cyfredol, y sylfaen dystiolaeth a rolau rhyngbroffesiynol ym maes gofal diabetes er mwyn cynllunio, datblygu a chyfiawnhau canllawiau a phenderfyniadau ymarfer clinigol lleol.

Dyddiadau addysgu: 30 Medi - 25 Tachwedd 2024

Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i adnabod a gwerthuso'r ystyriaethau cymhleth ar gyfer gofal diabetes yn yr henoed. Bydd hyn yn golygu dysgu sut i wahaniaethu rhwng categorïau swyddogaethol o ran unigolion hŷn sydd â diabetes, ac i werthuso amgylchiadau arbennig ar gyfer yr henoed a goblygiadau ar gyfer ymyriadau therapiwtig. Bydd myfyrwyr yn archwilio safonau ac argymhellion presennol ym maes gofal diabetes, a chanllawiau ymarfer clinigol lleol ac yn llunio strategaethau ar gyfer personoli gofal cleifion, gan gynnwys rheoli gofal diwedd oes ym maes diabetes.

Dyddiadau addysgu: 30 Medi - 25 Tachwedd 2024

Nod y modiwl yw datblygu clinigwyr sy'n gallu gwerthuso safonau cyfredol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i lunio rheolaeth glinigol, i'r safonau uchaf, ar gyfer diabetes sy'n bodoli eisoes cyn beichiogrwydd, yn ystod beichiogrwydd ac ôl geni, yn ogystal ag asesu a rheoli diabetes yn ystod beichiogrwydd yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd. Mae'r modiwl hefyd yn datblygu eich sgiliau gwerthuso o ran rhoi gofal diabetes cyfannol i fenywod cyn beichiogrwydd, yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl beichiogrwydd

Dyddiadau addysgu: 2 Rhagfyr 2024 - 10 Chwefror 2025

Mae clefyd diabetig ar y droed yn cael effaith sylweddol ar yr unigolyn ac yn y gymuned. Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i wahaniaethu rhwng patholegau sy'n cyfrannu at glefyd diabetig ar y droed a datblygu strategaethau sgrinio ar gyfer clefyd diabetig ar y droed. Bydd myfyrwyr yn archwilio strategaethau ar gyfer gwerthuso a thrin clefyd fasgwlaidd ymylol, clefyd niwropathig y droed a llunio dulliau rheoli ar gyfer gofalu am glwyfau a heintiau. Ffocws allweddol arall fydd creu canllawiau ymarfer clinigol lleol ar gyfer adnabod a rheoli cyflyrau diabetig ar y droed.

Dyddiadau addysgu: 2 Rhagfyr 2024 - 10 Chwefror 2025

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno nifer o egwyddorion sy'n effeithio ar y gofal rydych yn ei roi, ac yn gyfle i chi werthuso un egwyddor yn y meysydd canlynol: arweinyddiaeth a hyfforddiant, ansawdd a diogelwch a gweithio mewn tîm. Mae'r cynnwys o ran arweinyddiaeth yn rhyngweithiol iawn ac yn cyflwyno'r offer, yr arferion a'r dulliau i fyfyrwyr ddod yn arweinwyr sy'n ymwybodol o anghenion rhanddeiliaid ac sy'n gallu uno timau, gweithio'n effeithiol i arwain a gweithio o fewn timau i ymgymryd â newidiadau arloesol a chynaliadwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae diogelwch cleifion a chynnwys ansawdd yn nodi’r pethau dylanwadol sy'n effeithio ar daith y claf ar draws nifer o leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd cynnwys yn caniatáu i fyfyrwyr ganolbwyntio ar sefyllfaoedd clinigol go iawn sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd yr agenda ansawdd a diogelwch mewn gofal iechyd.

Dyddiadau addysgu: 2 Rhagfyr 2024 -10 Chwefror 2025

Rydyn ni’n cadw'r hawl i ganslo modiwlau unigol. Hwyrach y bydd hyn yn digwydd os na fydd digon wedi cofrestru ar gwrs neu os bydd newid yn yr amgylchiadau. Digwydd hyn oherwydd bod angen lleiafswm o fyfyrwyr ar rai modiwlau cyn y gellir eu cynnal. Diben hynny yw gwneud yn siŵr y gellir cynnal addysg o safon briodol. Os bydd hyn yn digwydd byddwn ni’n rhoi ad-daliad llawn neu rannol gan ddibynnu ar a gynhaliwyd dosbarthiadau neu beidio.

Gofynion mynediad

Rhaid i fyfyrwyr fod â chysylltiad dibynadwy i’r rhyngrwyd a sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol.

Rhaid i fyfyrwyr hefyd:

  • feddu ar gymhwyster addysg uwch yn y DU, o leiaf gradd BSc (Anrh) neu BA (Anrh) gradd 2:2 neu uwch, o sefydliad yn y DU sydd â phwerau dyfarnu graddau perthnasol fel y nodir gan yr Adran Addysg a Sgiliau.
  • neu feddu ar gymhwyster o du allan i’r DU sy'n cyfateb i gredyd CQFW lefel 6 neu uwch fel y'i diffinnir ac y manylir arno gan y Ganolfan Wybodaeth Adnabod Genedlaethol ar gyfer y Deyrnas Unedig (NARIC)
  • neu allu dangos sgiliau cyfatebol sy’n ddigonol i ateb gofynion y rhaglen dan sylw; dylai’r ceisydd gael eu cymeradwyo gan Bennaeth yr Ysgol neu eu henwebai.
  • a bodloni unrhyw ofynion cymhwysedd iaith Prifysgol perthnasol fel y’u nodir yn rheoliadau Senedd Prifysgol Caerdydd.

Sut i wneud cais

Cysylltwch â'n Tîm Derbyn Myfyrwyr Meddygaeth Ôl-raddedig a Addysgir yn PGTMedAdmissions@caerdydd.ac.uk i gael manylion ar sut i wneud cais.

Ariannu a ffioedd

Ewch i’n tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu ar gyfer y rhaglenni hyn.

Tîm Derbyn Ôl-raddedig a Addysgir

Yr Ysgol Meddygaeth