Ewch i’r prif gynnwys

Gofal Critigol

Mae'r modiwlau ar-lein hyn yn darparu addysg Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar lefel meistr i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n arbenigo ym maes gofal acíwt a chritigol.

Maen nhw hefyd wedi'u hanelu at addysgwyr ym maes gofal acíwt a chritigol, er mwyn darparu’r wybodaeth a’r arbenigedd priodol wrth addysgu pobl eraill o amryw o ddisgyblaethau.

Mae modiwlau annibynnol yn ffordd wych o wella eich gwybodaeth a chyfrannu at eich portffolio datblygiad proffesiynol parhaus. Bydd cwblhau pob modiwl yn llwyddiannus yn rhoi credyd sefydliadol i chi, ond nid yw'r modiwlau unigol a restrir yma wedi'u cynllunio i adeiladu tuag at ddyfarniad penodol (e.e. PGCert/PgDip/MSc). Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio sy'n arwain at ddyfarniad a enwir, edrychwch ar ein MSc Gofal Critigol.

Mae pob modiwl unigol 20 credyd ar lefel 7 yn cael ei gynnal unwaith bob blwyddyn academaidd, a'i gynnal yn gyfan gwbl ar-lein drwy e-ddysgu. Defnyddir amryw o ddulliau asesu ffurfiannol a chrynodol, megis: aseiniadau ysgrifenedig, datblygu wicis, blogiau, cwestiynau amlddewis, gwaith grŵp ar-lein gan gynnwys rhannu syniadau ac arferion a datblygu cyflwyniadau gwaith ar y cyd.

Cyfeiriwch at dudalen y cwrsMSc Gofal Critigol am fanylion llawn pob un o'r modiwlau.

Nod y modiwl hwn yw sicrhau bod y myfyriwr yn gwybod rhagor am y broses ymchwil ac yn ei deall yn well, a hynny er mwyn iddynt allu gwerthuso, cyfannu syniadau a myfyrio'n feirniadol ar dystiolaeth ymchwil unwaith eu bod yn ymarfer.

Argymhellir yn gryf bod myfyrwyr sy'n ystyried ymgymryd â modiwlau "dull systemau" eraill yn yr MSc Gofal Critigol yn ymgymryd â'r modiwl hwn, a hynny i sicrhau sgiliau deall ac ysgrifennu ar lefel meistr.

Mae'r modiwl hwn hefyd ar gael i'w astudio yn rhan o garfan Rheoli Poen (MET239) neu Reoli Poen (Gofal Sylfaenol a Chymunedol) (MET290)

Dyddiadau

18 Medi - 4 Rhagfyr 2023

Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn, rhagwelir y bydd myfyrwyr yn gallu gwerthuso'n feirniadol y ffordd y bydd cleifion acíwt a difrifol wael y mae angen cefnogaeth gardiofasgwlaidd uwch arnyn nhw’n cael ei rheoli. Mae hyn yn cynnwys gallu asesu, rheoli a gwerthuso’r broses o reoli cleifion a deall pwysigrwydd rheoli digonol a goblygiadau rheoli annigonol. Bydd myfyrwyr yn astudio meysydd o ddiddordeb sy'n berthnasol yn glinigol a fydd yn eu paratoi ar gyfer eu hymarfer clinigol.

Argymhellir yn gryf bod myfyrwyr yn ymgymryd â MET250 Llywodraethu Ymchwil ac Ymarfer sy’n seiliedig ar Dystiolaeth (neu fodiwlau ymchwil eraill ar lefel meistr) cyn y modiwl hwn.

Dyddiadau

5 Rhagfyr 2022 - 20 Chwefror 2023

Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn, rhagwelir y bydd myfyrwyr yn gallu gwerthuso'n feirniadol y gwaith o reoli cleifion acíwt a difrifol wael y mae angen cymorth anadlol uwch arnyn nhw. Mae hyn yn cynnwys gallu asesu, rheoli a gwerthuso’r broses o reoli cleifion a deall pwysigrwydd rheoli digonol a goblygiadau rheoli annigonol. Bydd myfyrwyr yn astudio meysydd o ddiddordeb sy'n berthnasol yn glinigol a fydd yn eu paratoi ar gyfer eu hymarfer clinigol.

Argymhellir yn gryf bod myfyrwyr yn ymgymryd â MET250 Llywodraethu Ymchwil ac Ymarfer sy’n seiliedig ar Dystiolaeth (neu fodiwlau ymchwil eraill ar lefel meistr) cyn y modiwl hwn.

Dyddiadau

4 Medi - 6 Tachwedd 2023

Nod y modiwl yw caniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol fireinio eu gwybodaeth o ran ansawdd a diogelwch. Mae hyn yn cynnwys deall beth yw niwed a digwyddiadau niweidiol, ac astudio’r ffactorau cudd a dynol sy'n arwain at wallau clinigol. Bydd y myfyrwyr yn astudio sut i wella, mesur, monitro a gwerthuso mentrau gwella ansawdd. Bydd y myfyrwyr yn astudio sut mae ansawdd a diogelwch yn cael eu sicrhau yn eu meysydd clinigol tra eu bod yn deall yn well yr Agenda Ansawdd yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.

Dyddiadau

6 Mawrth - 15 Mai 2023

Rydyn ni’n cadw'r hawl i ganslo modiwl unigol. Gallai hyn ddigwydd os na fydd digon wedi cofrestru ar gyfer cwrs neu os bydd newid yn yr amgylchiadau. Mae hyn oherwydd bod angen lleiafswm o fyfyrwyr ar rai modiwlau cyn y gellir eu cynnal. Diben hynny yw gwneud yn siŵr y gellir cynnal addysg o safon briodol. Os bydd hyn yn digwydd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn neu rannol yn dibynnu ar p’un a cynhaliwyd unrhyw ddosbarthiadau.

Gofynion mynediad

Ar gyfer pob modiwl heb gynnwys MET257

Yn ogystal â bodloni gofynion mynediad sylfaenol y Brifysgol, gan gynnwys y gofynion iaith Saesneg, mae'n rhaid i’r ymgeiswyr:

  • feddu ar radd berthnasol hyd lefel 2:2 A’U BOD wedi'u cofrestru gyda chorff llywodraethu priodol

NEU

  • feddu ar o leiaf ddwy flynedd o brofiad yn y maes perthnasol A’U BOD wedi'u cofrestru gyda chorff llywodraethu priodol

Ar gyfer modiwl MET257

Yn ogystal â bodloni gofynion mynediad sylfaenol y Brifysgol, gan gynnwys y gofynion iaith Saesneg, mae'n rhaid i’r ymgeiswyr:

  • feddu ar radd berthnasol hyd lefel 2:2
  • fod yn gweithio mewn maes priodol sy'n berthnasol i faes ansawdd a diogelwch

Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion uchod gysylltu â’r Tîm Derbyn Myfyrwyr i Gyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yn yr Ysgol Meddygaeth i gael cyngor.

Sut i wneud cais

Cysylltwch â’n Tîm Derbyn Myfyrwyr i Gyrsiau Ôl-raddedig i gael manylion ar sut i wneud cais.

Cyllid a ffioedd

Gwiriwch ein tudalennau ffioedd i weld y ffioedd dysgu ar gyfer y rhaglenni hyn.

Tîm Derbyn Ôl-raddedig a Addysgir

Yr Ysgol Meddygaeth