Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrifiadureg

Rydyn ni’n falch iawn o gynnig y cwrs microgymhwyster hwn i’r rhai sydd â diddordeb mewn cael profiad ymarferol ym maes dysgu peirianyddol.

Hyd: 12 wythnos
Cost: £795
Lefel: Ôl-raddedig

Mae dysgu peirianyddol wrth wraidd llawer o’r technolegau mwyaf arloesol ym maes deallusrwydd artiffisial, boed y ceir sy’n gyrru eu hunain neu’r peiriannau chwilio mwy clyfar. Nawr, mae busnesau mewn gwahanol ddiwydiannau’n darganfod ei fanteision.

Bydd y cwrs microgymhwyster hwn yn eich helpu i ddeall sut gall dysgu peirianyddol helpu busnesau mewn sawl ffordd, boed drwy leihau costau a gwella profiadau’r cwsmeriaid neu gyflymu arloesedd.

Drwy diwtorialau, ymarferion a sesiynau labordy, byddwch chi’n cael profiad ymarferol o ddefnyddio dysgu peirianyddol. Gyda'r wybodaeth hon, byddwch chi’n gallu gwireddu holl botensial dysgu peirianyddol yn eich sefydliad.

Byddwn ni’n eich cysylltu ag arweinwyr ym myd diwydiant ac yn trin a thrafod astudiaethau achos go iawn. Bydd y dull dysgu ymarferol hwn yn dwysáu eich dealltwriaeth o hanfodion dysgu peirianyddol ac yn dangos sut i’w defnyddio mewn sefyllfaoedd go iawn.

Gofynion mynediad

Mae’r cwrs microgymhwyster hwn ar lefel ôl-raddedig. Yr argymhelliad yw bod gennych chi radd Cyfrifiadureg, neu radd mewn pwnc tebyg, neu brofiad o godio.

Dylech chi wybod sut i ddefnyddio Python neu becynnau gwyddor data cyffredin eraill. Hefyd, dylai fod gennych chi sgiliau algebra llinol a sgiliau tebygolrwydd ac ystadegau.

Bydd angen gliniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith arnoch chi sydd â chysylltiad â’r rhyngrwyd, a hynny er mwyn gallu mynd at yr elfennau labordy o’r cwrs microgymhwyster hwn yn Colab gan Google. Mae mynediad i blatfform megis Anaconda yn ddefnyddiol, ond nid yw’n ofynnol.

Mae’r cwrs microgymhwyster hwn ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn uwchsgilio ym maes dysgu peirianyddol, ac mae’n addas ar gyfer amrywiaeth o sectorau.

Efallai eich bod yn wyddonydd data neu’n ddadansoddwr data sydd am ddatblygu ei rôl i gynnwys dysgu peirianyddol, neu efallai eich bod yn ystyried arbenigo ymhellach yn eich maes a defnyddio dysgu peirianyddol i ddatrys problemau penodol go iawn.

Dyddiad dechrau

Ein nod yw cynnal ein cyrsiau microgymhwyster bob ychydig fisoedd. Ymunwch â ni ar y dyddiad sydd orau i chi. Fel arall, cofrestrwch â FutureLearn i gael gwybod pryd y byddan nhw’n cael eu cynnal yn y dyfodol a chael y wybodaeth ddiweddaraf.

Ymunwch nawr

Manylion y cwrs

Dysgu sut i nodi a deall amrywiaeth o ddulliau dysgu peirianyddol

Byddwch chi’n ymchwilio i’r egwyddorion sy’n sail i ddulliau dysgu peirianyddol cyffredin. Byddwch chi hefyd yn dadansoddi dulliau traddodiadol yn ogystal â thechnegau mwy diweddar sy’n seiliedig ar rwydwaith niwral.

Gyda’r wybodaeth hon, byddwch chi’n dysgu sut i ddefnyddio a gwerthuso dulliau dysgu peirianyddol i ddatrys problem benodol.

Meistroli hanfodion prosesu data

Er mwyn gwella eich dealltwriaeth o ddulliau dysgu peirianyddol, byddwch chi hefyd yn trin a thrafod agweddau sy’n canolbwyntio ar ddefnydd, megis sut i rag-brosesu data.

Bydd hyn yn eich helpu i ddysgu sut i ddewis dull dysgu peirianyddol a strategaeth rhag-brosesu data sy’n briodol i sefyllfa benodol. Byddwch chi’n ymchwilio i hyn yn Python er mwyn cael gwybod am beirianneg nodweddion a thechnegau dewis ac echdynnu nodweddion, yn ogystal â dysgu sut i ddelio ag anghydbwysedd yn y dosbarthu a data coll.

Deall sut i ddefnyddio technegau dysgu peirianyddol

Er mwyn sicrhau y gallwch chi ddefnyddio’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu mewn sefyllfaoedd go iawn, byddwch chi’n dysgu sut i ddefnyddio technegau dysgu peirianyddol allweddol a sut i ddewis pa dechneg i’w defnyddio mewn sefyllfa benodol.

Byddwch chi hefyd yn dysgu sut i werthuso perfformiad system dysgu peirianyddol i sicrhau bod eich prosesau wedi’u hoptimeiddio.

Trin a thrafod modelau llinol o ddulliau dysgu peirianyddol

Mae modelau llinol yn ddosbarth o ddulliau dysgu peirianyddol a ddefnyddir yn helaeth. Ar y cwrs microgymhwyster hwn, byddwch chi’n datblygu eich dealltwriaeth o fodelau llinol, gan gynnwys peiriannau fector cymorth, coed penderfyniadau a dysgu ensemble.

Yn ogystal ag ymchwilio i'r pynciau technegol hyn, byddwch chi hefyd yn trin a thrafod rhai ystyriaethau moesegol pwysig, gan gynnwys sut gall y dewis o ddata hyfforddi arwain at ragfarnau dieisiau.

Gyda'r wybodaeth hon, byddwch chi'n dysgu sut i ddileu rhagfarn a sut i asesu’ goblygiadau moesegol a’r risgiau cymdeithasol sy’n gysylltiedig â defnyddio dulliau dysgu peirianyddol.

Gwella eich sgiliau dadansoddi data gyda chymorth arbenigwyr ym myd diwydiant

Dan arweiniad yr arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, byddwch chi’n dysgu sgiliau dadansoddi data hanfodol er mwyn deall pwysigrwydd cynrychioli data ar gyfer llwyddiant modelau dysgu peirianyddol.

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch chi wedi datblygu gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol am ddulliau dysgu peirianyddol, a bydd gennych chi’r hyder i ddechrau defnyddio’r dechnoleg hon ar unwaith i ragori yn eich gyrfa.

Deilliannau dysgu

Bydd gennych chi gymhwyster dysgu peirianyddol gan Brifysgol Caerdydd ar y diwedd. Mae’r cwrs microgymhwyster hwn yn werth 15 credyd yn y DU ar lefel ôl-raddedig.

Byddwch chi’n datblygu’r sgiliau canlynol:

  • Rhag-brosesu data yn Python
  • Cynrychioli data
  • Defnyddio llyfrgelloedd dysgu peirianyddol
  • Dewis offer dysgu peirianyddol
  • Defnyddio offer dysgu peirianyddol
  • Gwerthuso dulliau dysgu peirianyddol yn feirniadol

Modiwlau

Mae’r cwrs hwn yn eich cyflwyno i’r cysyniad o ddysgu peirianyddol a dulliau sylfaenol o rag-brosesu data yn Python.

Hyd: 4 wythnos

Wythnos 1: Hanfodion dysgu peirianyddol

  • Defnyddio dysgu peirianyddol
  • Cloi’r wythnos
  • Platfformau dysgu peirianyddol
  • Ffyrdd o ddefnyddio dysgu peiriannol
  • Piblinellau dysgu peirianyddol
  • Cyflwyniad i ddysgu peiriannol

Wythnos 2: Dulliau sylfaenol o rag-brosesu data

  • Croeso i Wythnos 2
  • Cyflwyniad i rag-brosesu data
  • Peirianneg nodweddion a dewis ac echdynnu nodweddion
  • Graddio nodweddion
  • Cloi’r wythnos

Wythnos 3: Dulliau sylfaenol o rag-brosesu data

  • Croeso i Wythnos 3
  • Amgodio categorïaidd
  • Delio â data coll
  • Cloi’r wythnos

Wythnos 4: Dulliau sylfaenol o rag-brosesu data

  • Croeso i Wythnos 4
  • Lleihau dimensiynoldeb
  • Dysgu o ddata anghytbwys
  • Cloi’r cwrs hwn

Dysgwch sut i gynllunio a gwerthuso arbrofion dysgu peirianyddol a pha mor bwysig yw dileu rhagfarn mewn arbrofion.

Hyd: 3 awr yr wythnos am bythefnos

Wythnos 1: Cynllunio dulliau dysgu peirianyddol

  • Gwerthuso dysgu peirianyddol
  • Cynllunio arbrofion dysgu peirianyddol
  • Dulliau asesu perfformiad
  • Metrigau gwerthuso
  • Cloi’r wythnos


Wythnos 2: Rhagfarn, moeseg a dysgu peirianyddol

  • Croeso i Wythnos 2
  • Rhagfarn a dysgu peirianyddol
  • Moeseg a rhagfarn
  • Cloi’r wythnos

Dysgwch beth yw dysgu peirianyddol traddodiadol: modelau dysgu peirianyddol llinol a theori.

Hyd: 2 wythnos

Wythnos 1:  Cyflwyniad i fodelau llinol

  • Modelau llinol a pheiriannau fector cymorth
  • Atchweliad llinol
  • Dulliau optimeiddio iterus
  • Cynyddu cymhlethdod model
  • Cloi’r wythnos

Wythnos 2: Modelau llinol wedi’u rheoleiddio a pheiriannau fector cymorth

  • Croeso i Wythnos 2
  • Modelau llinellol wedi'u rheoleiddio
  • Atchweliad logistaidd
  • Peiriannau fector cymorth
  • Cloi’r cwrs hwn

Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddadansoddi rhwydweithiau niwral a thrin a thrafod enghreifftiau o saerniaethau rhwydwaith niwral safonol.

Hyd: 4 wythnos

Wythnos 1: Dysgu ensemble

  • Dysgu ensemble a rhwydweithiau niwral
  • Coed penderfyniadau
  • Dysgu ensemble
  • Coedwig ar hap ac AdaBoost
  • Cloi’r wythnos

Wythnos 2: Rhwydweithiau niwral 1

  • Croeso i Wythnos 2
  • Cyflwyniad i rwydweithiau niwral
  • Optimeiddio yng nghyd-destun rhwydweithiau niwral
  • Actifadu a rheoleiddio yng nghyd-destun rhwydweithiau niwral
  • Cloi’r wythnos

Wythnos 3: Rhwydweithiau niwral 2

  • Croeso i Wythnos 3
  • Rhwydweithiau niwral troellol
  • Rhwydweithiau niwral ailadroddol
  • Amgodwyr awtomatig
  • Cloi’r wythnos

Wythnos 4: Newidyddion a chasgliad

  • Croeso i Wythnos 4
  • Newidyddion
  • Crynhoi’r cwrs microgymhwyster
  • Cyflwyno eich aseiniad
  • Cloi’r cwrs microgymhwyster

Asesu

Caiff credydau eu rhoi ar ôl i chi lwyddo yn yr asesiad terfynol. Bydd yr asesiad yn gofyn i chi gwblhau prosiect dysgu peirianyddol ar set ddata benodol ac yn rhoi sylw i brif elfennau piblinell dysgu peirianyddol nodweddiadol. Bydd hyn yn cynnwys rhag-brosesu data, dewis a defnyddio dull dysgu peirianyddol a gwerthuso perfformiad.

Yn rhan o’r asesiad, byddwch chi hefyd yn paratoi adroddiad cryno (hyd at 1,000 o eiriau, ac eithrio tablau a ffigurau) sy’n crynhoi eich gwaith ac yn dadansoddi ac yn trafod y canlyniadau.

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan FutureLearn.