Geriatreg Glinigol
Mae'r modiwlau e-ddysgu hyn yn cynnig addysg Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) i weithwyr proffesiynol o amrywiaeth o sefyllfaoedd iechyd a gofal cymdeithasol ymchwilio i anghenion iechyd ac anghenion cymdeithasol cymhleth pobl hŷn sy’n byw yn y gymdeithas sydd ohoni.
Mae modiwlau annibynnol yn ffordd wych o wella eich gwybodaeth a chyfrannu at eich portffolio datblygiad proffesiynol parhaus. Bydd cwblhau pob modiwl yn llwyddiannus yn rhoi credyd sefydliadol i chi, ond nid yw'r modiwlau unigol a restrir yma wedi'u cynllunio i adeiladu tuag at ddyfarniad penodol (e.e. PGCert/PgDip/MSc). Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio sy'n arwain at ddyfarniad a enwir, edrychwch ar ein MSc Geriatreg Glinigol.
Mae'r modiwlau annibynnol yn darparu hyblygrwydd gan fod rhai yn fodiwlau 10 credyd ac eraill yn fodiwlau 20 credyd Lefel 7. Gweler dosbarthiad y rhain isod. Maent i gyd yn cael eu darparu gan dîm craidd o arbenigwyr clinigol trwy ein platfform dysgu digidol, Learning Central Ultra. Byddwch yn cael eich cefnogi a'ch helpu i lywio trwy'r cynnwys a'r gweithgareddau a gynhelir ar y platfform hwn gan y tîm.
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i gael gwerthfawrogiad beirniadol o agweddau biolegol, cymdeithasol, moesegol, demograffig, economaidd a seico-gymdeithasol allweddol ynghlwm â heneiddio, ynghyd ag asesu eu perthnasedd a'r goblygiadau ar gyfer gweithio gyda phobl hŷn.
Ar ôl cwblhau’r modiwl 20 credyd hwn, dylai myfyriwr allu gwneud y canlynol:
- myfyrio ar sail fiolegol ac agweddau ffisiolegol y broses heneiddio.
- asesu'n feirniadol y penderfynyddion biolegol, yr achosion, a'r posibilrwydd o reoli clefydau sy'n gysylltiedig ag oedran.
- dadansoddi ffactorau demograffig, economaidd a seico-gymdeithasol yn systematig sy'n dylanwadu ar ofal oedolion hŷn a'u profiad o heneiddio.
- ymchwilio i agweddau cymdeithasau a rhagdybiaethau amlwg o ran heneiddio a phobl hŷn.
- dehongli damcaniaethau seicolegol sy'n ymwneud â heneiddio a'i ganfyddiad.
- gwerthuso materion cymhleth mewn gerontoleg yn feirniadol megis goblygiadau economeg ac ariannol heneiddio mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol.
- mynegi agweddau cymdeithasol a moesegol heneiddio.
- cymhwyso modelau priodol o wneud penderfyniadau moesegol i ddadansoddi materion moesegol mawr mewn perthynas â heneiddio, iechyd a chymdeithas.
Bydd y modiwl yn cynnig cyfle i chi archwilio dylanwad iechyd normal ac annormal ar broses batholegol a chyflwyniad clefydau. Bydd hefyd yn eich galluogi i werthuso’n feirniadol y sylfaen dystiolaeth y tu ôl i’r salwch corfforol a meddyliol cyffredin a geir mewn unigolion hŷn, er mwyn cyfosod canlyniadau i ymarfer.
Ar ôl cwblhau’r modiwl 20 credyd hwn, dylai myfyriwr allu gwneud y canlynol:
- myfyrio ar gyflwyniad afiechyd mewn henaint a natur amlddimensiwn salwch mewn oedolion hŷn.
- cynnal asesiadau amlddimensiwn sy'n llywio diagnosis a rheolaeth clefydau yn yr henoed yn briodol.
- llunio a gwerthuso cynlluniau gofal integredig a rhyngddisgyblaethol ar gyfer adsefydlu pobl hŷn sy'n sâl.
- gwerthuso'n feirniadol asesu a rheoli cleifion â chlwyfau a doluriau gwasgu.
- gwerthuso'r cysyniad o 'Gewri Geriatrig' yn feirniadol wrth asesu a rheoli pobl hŷn â phroblemau iechyd corfforol.
- nodi gwahaniaethau sylweddol yn gywir rhwng iechyd meddwl normal ac annormal mewn pobl hŷn.
- trafod gwahanol ddulliau o asesu a gwneud diagnosis o broblemau iechyd meddwl cyffredin ymhlith pobl hŷn.
- dulliau gwerthuso beirniadol o ddiwallu anghenion pobl hŷn sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Dyddiadau
12 Rhagfyr 2022 - 13 Mawrth 2023
Mae'r modiwl hwn yn darparu cyflwyniad i ddulliau ymchwil a'u cymhwyso i ddarpariaeth iechyd a gwelliant gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd gwaith ymchwil yn cael ei wahaniaethu oddi wrth archwilio, datblygu gwasanaethau, gwerthuso gwasanaethau ac arloesi, a bydd y berthynas rhwng ac ymysg y gweithgareddau hyn yn cael eu harchwilio. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth ddatblygedig i chi o wahanol ddulliau i ymchwilio a gwerthuso gofal iechyd a fydd yn sail i'ch dysgu drwy gydol y rhaglen. Bydd y modiwl yn rhoi trosolwg o strwythur prosiect ymchwil yn ogystal â dulliau rheoli prosiectau. Bydd dulliau cyffredinol ar gyfer casglu a dadansoddi data mewn paradeimau ymchwil meintiol ac ansoddol ac adolygiadau systematig yn cael eu cwmpasu, yn ogystal â'u cymhwysiad i iechyd a gofal cymdeithasol pobl hŷn. Mae pwyslais cryf iawn ar ddatblygu a chymhwyso gwerthusiad beirniadol, gan gynnwys dadansoddi beirniadol, myfyrio a chyfosod i ymarfer, drwy gydol y modiwl.
Ar ôl cwblhau’r modiwl 20 credyd hwn, dylai myfyriwr allu gwneud y canlynol:
- nodi ac adolygu'n feirniadol y gwahanol ddulliau ymchwil (ymchwil ansoddol a meintiol), sydd ac y gellir eu defnyddio o fewn gofal iechyd, gan fyfyrio ar y dulliau priodol i fynd i'r afael â chwestiynau clinigol ystyrlon;
- ymgymryd â strategaethau chwilio cadarn i leihau rhagfarn mewn ysgrifennu academaidd wrth nodi llenyddiaeth briodol i ateb cwestiynau â gogwydd clinigol;
- gwerthuso llenyddiaeth yn feirniadol ac ystyried goblygiadau i arfer gan ddefnyddio dulliau priodol ar gyfer gwerthuso ymchwil ansoddol a meintiol;
- trafod dulliau casglu data priodol ac integreiddio egwyddorion ystadegol wrth ddadansoddi data; gallu amlygu’r dulliau priodol i’w defnyddio ar gyfer gwahanol setiau data;
- ystyried a chyfosod canfyddiadau ymchwil, i ymarfer clinigol.
- gwerthuso cryfderau a gwendidau ymchwil, gwerthuso gwasanaethau ac archwiliad clinigol yn feirniadol er mwyn adlewyrchu ar sut y gall y rhain wella gofal cleifion, hyrwyddo arloesedd a gwella sut y cyflwynir gwasanaethau.
- myfyrio ar fframweithiau a phrosesau moesegol a llywodraethu cyfredol sy’n cael eu cymhwyso i gynnal ymchwil gyda phynciau dynol, gwerthuso gwasanaethau ac archwiliad clinigol.
- beirniadu’r cysyniad o ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, dulliau ar gyfer datblygu canllawiau clinigol, a rôl y cyrff rheoleiddio statudol a chynghorol presennol sy’n llywodraethu gofal iechyd.
Dyddiadau
13 Mawrth - 5 Mehefin 2023
Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyfle i chi ystyried sut y gellir diwallu anghenion penodol pobl hŷn ar draws yr ystod o sectorau gwasanaeth/gofal. Bydd disgwyl i chi ymchwilio a myfyrio ar sut mae'r gwahanol ffactorau (hanesyddol, cymdeithasol, gwleidyddol ac ideolegol) wedi dylanwadu ar ofalu am bobl hŷn.
Byddwch yn cymryd rhan mewn dulliau amrywiol o reoli ac arwain sy'n berthnasol yn uniongyrchol i ofal iechyd ac yn gweithio mewn timau gan ddefnyddio'r dysgu sy'n ymwneud â theori grŵp yn rhan o'r modiwl.
Ar ôl cwblhau’r modiwl 20 credyd hwn, dylai myfyriwr allu gwneud y canlynol:
- myfyrio ar anghenion penodol pobl hŷn a'r ffyrdd y dylai'r rhain ddylanwadu ar ddarpariaeth a sefydlu gwasanaethau a gofal.
- gwerthuso'n feirniadol y modelau presennol a hanesyddol ar gyfer darparu a threfnu gofal a'r mathau o ddarpariaeth gofal i bobl hŷn.
- cyfosod data sydd ar gael i’r cyhoedd sy'n berthnasol i gynllunio a gwerthuso gwasanaethau a gofal i'r henoed.
- dewis dulliau priodol ar gyfer monitro ansawdd y gofal i bobl hŷn.
- asesu safonau ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu mewn gwasanaeth i bobl hŷn
- cyferbynnu gwahanol fathau o arweinyddiaeth a modelau newid sefydliadol.
- trafod pwysigrwydd dynameg personoliaeth wrth weithio mewn tîm.
- crynhoi a chyfleu agweddau penodol ar gynllunio gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn yn effeithiol i gynulleidfa darged benodol.
Dyddiadau
Yn cael eu cynnal yn y flwyddyn academaidd 2023/4 - dyddiadau i'w cadarnhau.
Drwy'r modiwl hwn, byddwch yn archwilio'r cefndir gwyddonol a chlinigol i ddementia mewn pobl hŷn (clefyd Alzheimer, dementia fasgwlaidd a'r is-deipiau llai cyffredin) ac yn ystyried materion ymarferol sy'n ymwneud â rheolaeth gynhwysfawr. Y tu hwnt i ddementia, byddwch yn myfyrio ar y salwch seiciatrig ehangach mewn pobl hŷn. Er enghraifft, iselder, gorbryder a seicosis.
Ar ôl cwblhau’r modiwl 20 credyd hwn, dylai myfyriwr allu gwneud y canlynol:
- gwerthuso'r prif glefydau dementia a seiciatrig sy'n effeithio ar bobl hŷn yn seiliedig ar eu hachosion, patrymau digwyddiadau, risg, difrifoldeb a'u heffaith ar gleifion a'u gofalwyr.
- myfyrio ar sail wyddonol dementia ymhlith yr henoed.
- Dadansoddi'n feirniadol y diagnosis gwahaniaethol, y meini prawf diagnostig, yr opsiynau o ran triniaeth a'r ddarpariaeth gofal amgen sydd ar gael i bobl â dementia a chlefyd seiciatrig.
- adolygu'r dystiolaeth a'r cyfosod i ymarfer clinigol a sut mae’r dementia a'r clefydau seiciatrig mwyaf cyffredin ymhlith henaint yn ymddangos ac yn datblygu.
- gwerthuso rôl gofalwyr yn y dewisiadau a chyflwyno opsiynau triniaeth a chynlluniau gofal amgen, gan ddangos ymwybyddiaeth o anghenion gofalwyr am addysg a chefnogaeth.
- gwerthuso'n feirniadol y materion ymarferol sy'n ymwneud â gofal da am bobl â chyflyrau dementia, gan ystyried materion sy’n cynnwys hunaniaeth bersonol, ansawdd bywyd, a chefnogaeth i gleifion, gofalwyr a theulu.
- amddiffyn a beirniadu polisïau cyfredol a datblygu gwasanaethau sy'n ymwneud â dementia a chlefydau seiciatrig mewn henaint ac ymyriadau therapiwtig tebygol yn y dyfodol.
Dyddiadau
Yn cael eu cynnal yn y flwyddyn academaidd 2023/4 - dyddiadau i'w cadarnhau.
Bydd y modiwl yn cynnig cyfle i chi werthuso'n feirniadol datblygiad, asesiad a rheolaeth pobl hŷn eiddil.
Ar ôl cwblhau’r modiwl 20 credyd hwn, dylai myfyriwr allu gwneud y canlynol:
- myfyrio ar y gwahaniaethau rhwng heneiddio normal ac eiddilwch, gan werthuso rôl a phwysigrwydd sarcopenia o fewn y cysyniad o oedolyn hŷn bregus.
- gwerthuso achoseg, patholeg ac epidemioleg eiddilwch a phwysigrwydd cynyddol eiddilwch yn y system gofal iechyd modern.
- adolygu'n feirniadol y cysyniadau o heneiddio llid (inflammaging), llai o imiwnedd a llai o amrywiaeth microbiota yn rhyngweithio i achosi datblygiad eiddilwch.
- gwerthuso marcwyr eiddilwch, a chyfuno eu defnyddioldeb wrth asesu iechyd a risg canfyddedig o ganlyniadau niweidiol i ymarfer.
- asesu a llunio cynllun gofal integredig a rhyngddisgyblaethol ar gyfer rheoli pobl hŷn eiddil, yn seiliedig ar ddadansoddiad cadarn o lenyddiaeth gyfredol, myfyrio ar gryfder y dystiolaeth ac anghenion cleifion a gofalwyr lleyg.
- myfyrio ar bwysigrwydd geowleidyddol cynyddol eiddilwch a'i berthnasedd i'r pandemig diweddar a pherthnasedd eiddilwch yn y gwledydd hynny nad ydyn nhw'n perthyn i'r byd cyntaf.
Dyddiadau
Yn cael eu cynnal yn y flwyddyn academaidd 2023/4 - dyddiadau i'w cadarnhau.
Bydd y modiwl yn cynnig y cyfle i chi archwilio asesu, rheoli a gwerthuso pobl (a'u gofalwyr) y mae strôc yn effeithio arnynt a deall y goblygiadau ar gyfer yr anabledd a'r anfantais sy'n deillio o hynny, a sut i'w rheoli.
Ar ôl cwblhau’r modiwl 20 credyd hwn, dylai myfyriwr allu gwneud y canlynol:
- gwerthuso'r mecanweithiau patholegol ac epidemioleg sy'n gysylltiedig â datblygiad strôc.
- adolygu'n feirniadol y diagnosis gwahaniaethol o strôc, gan asesu'r tebygolrwydd o bosibiliadau eraill.
- gwerthuso'n feirniadol bwysigrwydd patholeg ac epidemioleg wrth ddatblygu cynllun rheoli.
- adolygu pwysigrwydd ffactorau risg fasgwlaidd sy'n gysylltiedig â strôc, gan gyfuno'r rhain i lywio ymarfer.
- dadansoddi'r dystiolaeth yn feirniadol er mwyn datblygu strategaeth atal risg fasgwlaidd.
- myfyrio ar yr asesiad clinigol a llunio cynllun gofal integredig a rhyngddisgyblaethol ar gyfer rheoli strôc, yn seiliedig ar ddadansoddiad cadarn o lenyddiaeth gyfredol, myfyrio ar gryfder y dystiolaeth ac anghenion cleifion a gofalwyr lleyg.
- Gwerthuso'n feirniadol y gwahanol fodelau a ddefnyddir ar gyfer trefnu gofal strôc.
Dyddiadau
Yn cael eu cynnal yn y flwyddyn academaidd 2023/4 - dyddiadau i'w cadarnhau.
Bydd y modiwl hwn yn ystyried ymataliaeth ac yn eich galluogi i fyfyrio ar anymataliaeth wrinol ac ysgarthiol a'r cysylltiad ag effeithiau anatomegol a ffisiolegol heneiddio. Byddwch yn adolygu'n feirniadol y dulliau o asesu a rheoli anymataliaeth, a'r canlyniadau cysylltiedig â rôl darparwyr gofal iechyd arbenigol wrth gefnogi gofal.
Ar ôl cwblhau’r modiwl 10 credyd hwn, dylai myfyriwr allu gwneud y canlynol:
- myfyrio ar effaith anatomegol a ffisiolegol heneiddio ar strwythurau a swyddogaethau'r llwybr cenhedlol-wrinol a gastro-berfeddol.
- myfyrio ar y gwahanol fathau o anymataliaeth, yr achoseg a'r ymchwiliadau cysylltiedig sydd eu hangen.
- adolygu tystiolaeth gyfoes yn feirniadol i gefnogi rheolaeth glinigol anymataliaeth (wrinol ac ysgarthion) a chyfosod y dystiolaeth gryfaf i lywio ymarfer.
- adolygu canlyniadau corfforol, meddyliol a chymdeithasol a goblygiadau hirdymor anymataliaeth i'r unigolyn.
- myfyrio ar rôl darparwyr gofal iechyd arbenigol wrth gefnogi gofal a’r goblygiadau hirdymor i’r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol ehangach.
Dyddiadau
Yn cael eu cynnal yn y flwyddyn academaidd 2023/4 - dyddiadau i'w cadarnhau.
Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i archwilio cefndir gwyddonol a chlinigol deliriwm. Byddwch yn ystyried isdeipiau deliriwm (is- a gorfywiog) a llwybr clinigol. Bydd y pathoffisioleg a'r cysylltiadau sy'n dod i'r amlwg â dementia dilynol yn cael eu gwerthuso'n feirniadol. Byddwch yn gallu ystyried y materion ymarferol sy'n ymwneud â rheolaeth gynhwysfawr, yn enwedig yng nghyd-destun ymagwedd amlddisgyblaethol.
Ar ôl cwblhau’r modiwl 10 credyd hwn, dylai myfyriwr allu gwneud y canlynol:
- categoreiddio deliriwm, yn benodol isdeipiau a llwybr clinigol pobl yn seiliedig ar eu hachosion, patrymau digwyddiadau, risg, difrifoldeb a chyfosod effaith y rhain ar gleifion a'u gofalwyr.
- myfyrio ar sail wyddonol deliriwm.
- dadansoddi'n feirniadol y diagnosis gwahaniaethol, y meini prawf diagnostig, yr opsiynau triniaeth a'r ddarpariaeth gofal amgen sydd ar gael i bobl â deliriwm a'i ddylanwad yn natblygiad dementia digwyddiad dilynol.
- gwerthuso rôl gofalwyr yn y dewisiadau a chyflwyno opsiynau triniaeth a chynlluniau gofal amgen, gan ddangos ymwybyddiaeth o anghenion gofalwyr am addysg a chefnogaeth.
- gwerthuso'n feirniadol y materion ymarferol sy'n ymwneud â gofal amlddisgyblaethol da i bobl â deliriwm ac opsiynau triniaeth ffarmacolegol ac anffarmacolegol.
Dyddiadau
Yn cael eu cynnal yn y flwyddyn academaidd 2023/4 - dyddiadau i'w cadarnhau.
Bydd y modiwl yn cynnig cyfle i chi archwilio asesu, rheoli a gwerthuso unigolion sydd â phroblemau sy'n gysylltiedig ag esgyrn, cymalau, a syrthio.
Ar ôl cwblhau’r modiwl 10 credyd hwn, dylai myfyriwr allu gwneud y canlynol:
- myfyrio ar y newidiadau sy'n gysylltiedig ag oedran mewn esgyrn a chymalau, a phwysigrwydd sut mae'r rhain yn dylanwadu ar batholeg, cyflwyniad clefydau a gofal cleifion.
- gwerthuso'r dystiolaeth i ystyried achoseg, patholeg ac epidemioleg osteoporosis a phwysigrwydd y ffactorau hyn wrth ddatblygu cynlluniau rheoli a strategaethau atal.
- dadansoddi tystiolaeth gyfoes yn feirniadol i asesu a llunio cynllun gofal integredig a rhyngddisgyblaethol ar gyfer rheoli oedolion hŷn sydd â chlefyd yr esgyrn a’r cymalau, yn enwedig osteoporosis ac arthritis, gan fyfyrio ar gryfder y dystiolaeth ac anghenion cleifion a gofalwyr lleyg.
- gwerthuso’n feirniadol y dulliau cyffredin o asesu a rheoli trawma yn y boblogaeth hŷn, yn enwedig o ran torri clun.
- gwerthuso epidemioleg, achosion a rheolaeth cwympiadau ymhlith yr henoed gan ddefnyddio llenyddiaeth sydd wedi'i hadolygu'n feirniadol.
- asesu a llunio cynllun gofal integredig a rhyngddisgyblaethol ar gyfer rheoli pobl hŷn sy’n syrthio, yn seiliedig ar ddadansoddiad cadarn o lenyddiaeth gyfredol, myfyrio ar gryfder y dystiolaeth ac anghenion cleifion a gofalwyr lleyg.
Dyddiadau
Yn cael eu cynnal yn y flwyddyn academaidd 2023/4 - dyddiadau i'w cadarnhau.
Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i archwilio’r cefndir gwyddonol a chlinigol i anhwylderau symud mewn pobl hŷn, yn nodweddiadol clefyd Parkinson, ond hefyd anhwylderau symud llai cyffredin ac i ystyried materion ymarferol sy’n ymwneud â rheolaeth a chefnogaeth gynhwysfawr i deulu a gofalwyr.
Ar ôl cwblhau’r modiwl 10 credyd hwn, dylai myfyriwr allu gwneud y canlynol:
- categoreiddio'r prif anhwylderau symud sy'n effeithio ar bobl hŷn yn seiliedig ar eu hachosion, patrymau digwyddiadau, risg, difrifoldeb a'u heffaith ar gleifion a'u gofalwyr.
- myfyrio ar sail wyddonol symudiad ymhlith yr henoed.
- dadansoddi'r dystiolaeth yn feirniadol ar y diagnosis gwahaniaethol, y meini prawf diagnostig, yr opsiynau triniaeth a'r ddarpariaeth gofal amgen sydd ar gael i bobl â Parkinsonism.
- myfyrio ar gyflwyniad a dilyniant yr anhwylderau symud mwyaf cyffredin mewn henaint a chyferbynnu hyn â phobl iau.
- gwerthuso rôl gofalwyr yn y dewisiadau a chyflwyno opsiynau triniaeth a chynlluniau gofal amgen, gan ddangos ymwybyddiaeth o anghenion gofalwyr am addysg a chefnogaeth.
- gwerthuso'n feirniadol y materion ymarferol sy'n ymwneud â gofal da pobl â chyflyrau niwro-ddirywiol, gan ystyried materion yn cynnwys hunaniaeth bersonol, ansawdd bywyd, a chefnogaeth i gleifion, gofalwyr a theulu.
Dyddiadau
Yn cael eu cynnal yn y flwyddyn academaidd 2023/4 - dyddiadau i'w cadarnhau.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo modiwl unigol. Gallai hyn ddigwydd os na fydd digon wedi cofrestru ar gyfer cwrs neu os bydd newid yn yr amgylchiadau. Mae hyn oherwydd bod angen lleiafswm o fyfyrwyr ar rai modiwlau cyn y gellir eu cynnal. Diben hynny yw gwneud yn siŵr y gellir cynnal addysg o safon briodol. Os bydd hyn yn digwydd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn neu rannol yn dibynnu ar p’un a cynhaliwyd unrhyw ddosbarthiadau.
Gofynion mynediad
Yn ogystal â bodloni gofynion mynediad y brifysgol, yn cynnwys gofynion o ran Saesneg, mae'n rhaid bod ymgeiswyr:
- yn meddu ar gymhwyster mewn meddygaeth, nyrsio, neu broffesiwn perthynol (e.e. ffisiotherapi, dieteteg, therapi galwedigaethol, gwasanaethau cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol a rheolwyr eraill sy'n gweithio gyda phobl hŷn)
- yn gweithio mewn maes perthnasol ar hyn o bryd
Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion uchod gysylltu â’r Tîm Derbyn Myfyrwyr i Gyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yn yr Ysgol Meddygaeth i gael cyngor.
Sut i wneud cais
Cysylltwch â'n Tîm Derbyn Myfyrwyr Meddygaeth Ôl-raddedig a Addysgir yn PGTMedAdmissions@caerdydd.ac.uk i gael manylion ar sut i wneud cais.
Ariannu a ffioedd
Gwiriwch ein tudalennau ffioedd i weld y ffioedd dysgu ar gyfer y rhaglenni hyn.
Tîm Derbyn Ôl-raddedig a Addysgir
Yr Ysgol Meddygaeth