Pensaernïaeth
Mae’n bleser gennym gynnig detholiad o fodiwlau ôl-raddedig a addysgir gan yr MSc mewn Dylunio Adeiladau Amgylcheddol, rhaglen sydd wedi'i hachredu gan Sefydliad Siartredig Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu (CIBSE).
Mae'r modiwlau a gynigir yn addas ar gyfer penseiri proffesiynol, peirianwyr, technolegwyr adeiladu, neu'r rhai sy'n gweithio ym maes dylunio amgylcheddol sy'n dymuno datblygu eu sgiliau neu eu gyrfa, ac sy'n hapus i astudio ochr yn ochr â myfyrwyr MSc llawn.
Modiwlau
Fel arfer, mae’r modiwlau hyn wedi cael eu cynnig fel opsiynau unigol:
Cydnabyddir y cyrsiau hyn gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Iwerddon (RIAI).
Y Ddaear a Chymdeithas
Credydau
Modiwl 10 credyd ar Lefel 7 (lefel ôl-raddedig) (cyfeirnod ART122)
Dyddiadau a chost
Semester yr Hydref.Cysylltwch â ni i gael yr amserlen ddiweddaraf a gwybodaeth ffioedd.
Disgrifiad amlinellol
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno prif gysyniadau cynaliadwyedd. Mae'n ystyried bod datblygiad hanesyddol y mudiad 'gwyrdd' a Newid yn yr Hinsawdd yn gyd-destun pwysig ar gyfer datblygu cynaliadwy.
Mae'n nodi safbwyntiau gwahanol am gynaliadwyedd a fabwysiadir heddiw, ar lefel ddamcaniaethol yn ogystal ag ymarferol, ac yn annog myfyrwyr i gwestiynu'r rheini yn ogystal â'u safbwyntiau eu hunain. Mae'r modiwl yn gofyn i fyfyrwyr yn datblygu eu safbwynt eu hunain am gynaliadwyedd mewn perthynas â graddfa ddatblygu benodol (o adeiladau unigol drwy gymunedau i raddfa drefol); gan gynnwys ystyriaethau cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n sail i gynaliadwyedd yn yr amgylchedd adeiledig (h.y. iechyd a lles, cyfiawnder cymdeithasol, cyfrifoldeb proffesiynol a moeseg).
Mae'r modiwl yn rhoi strwythur i fyfyrwyr ddatblygu, trafod a llunio eu safbwynt cynaliadwyedd personol a myfyrio ar rôl eu proffesiwn dewisol yn y dyfodol wrth sicrhau cynaliadwyedd cyfannol.
Amcanion
Ar ôl cwblhau'r modiwl dylai myfyriwr fod yn gallu:
- crynhoi'r cysyniad a chyd-destun cynaliadwyedd
- nodi cymhlethdodau a chyd-ddibyniaethau datblygu cynaliadwy a'r cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â chymhwyso egwyddorion cynaliadwyedd ar waith ar amrywiaeth o raddfeydd datblygu
- llunio safbwynt y gellir ei gyfiawnhau i ddangos yr hyn y gall eu rôl broffesiynol o'u dewis ei wneud i wella cynaliadwyedd holistaidd mewn perthynas â'r amgylchedd adeiledig
Cyflwyniad
Bydd y deunydd ar gyfer y modiwl hwn ar gael i bob myfyriwr drwy Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd, sef Dysgu Canolog. Bydd deunydd yn cael ei ryddhau bob wythnos tra bydd y modiwl yn cael ei addysgu. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw gweithio drwy'r deunydd hwn mewn modd amserol. Bydd y deunydd yn:
Deunydd Darllen: Bydd disgwyl i fyfyrwyr weithio drwy destunau gosod. Bydd y rhain ar gael naill ai drwy ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir neu’r llyfr(au) a nodwyd isod a/neu a gaiff eu rhoi ar ddiwrnod cyntaf addysgu’r modiwl.
Deunydd Darlithoedd: Bydd nifer o ddarlithoedd yn ymdrin â'r pynciau allweddol. Bydd y pwnc yn cael ei esbonio ar lafar drwy ddefnyddio cymhorthion gweledol.
Deunydd Seminarau: Bydd materion penodol yn cael eu hystyried mewn seminarau grŵp. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i fynegi a thrafod eu barn ar bynciau penodol. Bydd tasgau byr yn cael eu gosod er mwyn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr astudio’n unigol a chreu fforwm ar gyfer cyfnewid barn.
Astudiaethau achos: Bydd astudiaethau achos o’r diwydiant a’r byd academaidd yn egluro cysyniadau ac egwyddorion.
Bydd recordiadau o ddarlithoedd a thrafodaethau ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n ymwneud â’r modiwl hwn ar gael i fyfyrwyr o bell, a bydd disgwyl iddynt eu gwylio/gwrando arnynt. Mae'r darlithoedd hyn yn esbonio neu’n ymhelaethu ar y prif bwnc a nodir yn y rhestr ddarllen hanfodol. Fel arfer, bydd cyflwyniadau PowerPoint neu PDF yn ategu recordiadau o'r darlithoedd.
Adeiladau Carbon Isel
Credydau
Modiwl 10 credyd ar Lefel 7 (lefel ôl-raddedig) (cyfeirnod ART135)
Dyddiadau a chost
Semester y Gwanwyn. Cysylltwch â ni i gael yr amserlen ddiweddaraf a gwybodaeth ffioedd.
Disgrifiad amlinellol
Mae dyluniad carbon isel yn gofyn am ddull holistaidd o ddefnyddio ynni adeilad. Mae angen i'r dylunydd ddeall mewn egwyddor sut mae adeiladau'n defnyddio ynni ac ategu'r ddealltwriaeth hon â thystiolaeth o ddefnydd ynni o'r maes. Bydd angen i'r myfyriwr allu gweithio gyda nodau o ran dylunio adeiladau, megis safonau dim carbon, a ffyrdd o wrthbwyso’r defnydd o ynni gyda thechnolegau adnewyddadwy.
Felly nodau'r modiwl yw:
- cyflwyno'r ffyrdd y mae adeiladau'n defnyddio ynni
- cyflwyno dulliau o ateb gofynion ynni adeiladau trwy ynni adnewyddadwy a systemau ynni isel
- cyflwyno technegau ar gyfer asesu ôl-troed carbon a pherfformiad yr adeilad gan ddefnyddio meincnodau
Amcanion
Ar ôl cwblhau'r modiwl dylai myfyriwr fod yn gallu:
- esbonio sut mae adeiladau’n defnyddio ynni, gofynion a llwythi adeiladau ac effaith deiliadaeth ar y defnydd o ynni
- esbonio’r defnydd o dechnolegau adnewyddadwy a thechnolegau oeri ynni isel mewn adeiladau
- dangos dealltwriaeth sylfaenol o’r cysyniad o ynni ymgorfforedig
- dangos dealltwriaeth o ddulliau asesu ar gyfer dyluniad cynaliadwy
- gwerthuso pa mor dda mae adeilad yn cyflawni dyluniad carbon isel
- asesu effaith opsiynau gwasanaethau adeiladu amrywiol ar broblem dylunio adeiladau
Cyflwyniad
Bydd y prif bwnc yn cael ei esbonio mewn darlithoedd drwy ddefnyddio cymhorthion gweledol. Bydd yr addysgu’n rhyngweithiol ac yn cynnwys arddangosiadau, lle bo’n berthnasol. Bydd y darlithoedd yn cael eu recordio, a bydd y recordiadau ar gael ar-lein.
Deunydd ategol ar lein: Bydd cynnwys y modiwl ar gael i fyfyrwyr yn electronig ar ffurf gwybodaeth ar y we, nodiadau technegol ac arddangosiadau rhyngweithiol, drwy wneud defnydd o Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd, sef Dysgu Canolog.
Testunau gosod: Bydd rhai testunau’n brif ffynonellau cyfeirio er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gyfarwydd â'r deunydd ynddynt.
Astudiaethau achos: Bydd cyflwyniadau mewn darlithoedd yn trafod enghreifftiau go iawn i ddangos sut mae'r theori sy’n cael ei hastudio’n rhan o’r modiwl wedi'i rhoi ar waith yn ymarferol.
- Bydd tasgau byr yn cael eu gosod i roi cyfleoedd i fyfyrwyr atgyfnerthu eu sgiliau a’u gwybodaeth am y pwnc a chreu fforwm ar gyfer cyfnewid barn. Byddant hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr wella eu sgiliau ysgrifennu a chyflwyno. Gellir cyflawni'r tasgau hyn drwy amgylchedd cydweithredol ar-lein
- Bydd cyfle i fyfyrwyr drafod pynciau penodol â thiwtoriaid a chymheiriaid mewn seminarau grŵp. Bydd myfyrwyr yn cyfrannu’n sylweddol at y seminarau grŵp hyn. Bydd cyfle i fyfyrwyr hefyd gyflwyno a thrafod eu barn eu hunain. Gellir cymryd rhan yn y sesiynau grŵp hyn drwy amgylchedd cydweithredol ar-lein
- Bydd gweithgareddau ymarferol yn cael eu cynnal i roi cyfle i fyfyrwyr ymarfer defnyddio sgiliau sy’n benodol i’r pwnc, yn ogystal â sgiliau datrys problemau a chyflwyno mwy generig. Bydd gweithdai’n cael eu cynnal, lle bydd myfyrwyr yn gweithredu’r feddalwedd a ddefnyddir yn y modiwl wrth derfynellau cyfrifiadurol. Gall y gweithdai hyn gael eu cynnal drwy amgylchedd cydweithredol ar-lein.
Modelu cyfrifiadurol: Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i gael profiad o ddefnyddio dulliau o fodelu meddalwedd a gyflwynir yn y cwrs.
Ymchwilio i’r Amgylchedd Adeiledig
Credydau
Modiwl 10 credyd ar Lefel 7 (lefel ôl-raddedig) (cyfeirnod ART142)
Dyddiadau a chost
Semester y Gwanwyn. Mae'r modiwl hwn ar gael i'w astudio'n llawn ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Cysylltwch â ni i gael yr amserlen ddiweddaraf a gwybodaeth ffioedd.
Disgrifiad amlinellol
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar gyflwyno'r dulliau a'r technegau y gall dylunwyr, perchnogion a gweithredwyr adeiladau eu defnyddio i bennu a yw eu hadeiladau'n perfformio yn ôl y disgwyl. Mae'n cyflwyno mesur a gwerthuso ôl-feddiannaeth.
Mae angen i adeiladau berfformio yn ôl y disgwyl er mwyn datblygu'r amgylchedd adeiledig yn gynaliadwy. Mae profiad wedi dangos i ni y bydd adeiladau sy'n anghyfforddus, yn cael eu gweithredu'n wael, neu wedi'u cynnal a'u cadw'n wael, yn defnyddio llawer mwy o adnoddau nag y cawsant eu cynllunio ar eu cyfer
Mae'r modiwl yn seiliedig ar y gred bod gwerthuso, adborth a beirniadaeth yn gydrannau hanfodol i gynnydd dylunio. Dim ond pan fydd yr asesiad hwn wedi'i gwblhau gan ddefnyddio dulliau credadwy a phriodol y gellir sicrhau cynnydd. Nod y modiwl yw atgyfnerthu'r neges hon a chyflwyno nifer o ddulliau a thechnegau ymchwilio a dadansoddol i'r myfyriwr, gan gynnwys efelychu, mesur ac arolygu. Bydd yn ystyried safbwyntiau ffisegol a dynol yr amgylchedd adeiledig ac yn defnyddio dulliau sy'n briodol i ymchwiliadau academaidd sy'n seiliedig ar ymarfer.
Amcanion
Ar ôl cwblhau'r modiwl dylai myfyriwr fod yn gallu:
- nodi ffactorau sy'n cyfrannu'n gadarnhaol at berfformiad cynaliadwy adeiladau sy'n cael eu defnyddio
- nodi technegau monitro ac ymchwil priodol i werthuso perfformiad adeiladu a datblygu sydd ar waith
- esbonio sut y gellir monitro ac ymchwilio i helpu i wella perfformiad adeiladu
Cyflwyniad
Bydd y deunydd ar gyfer y modiwl hwn ar gael i bob myfyriwr drwy Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol, sef Dysgu Canolog. Bydd deunydd yn cael ei ryddhau bob wythnos tra bydd y modiwl yn cael ei addysgu. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw gweithio drwy'r deunydd hwn mewn modd amserol. Bydd y deunydd yn:
- Deunydd Darlithoedd: Bydd y prif bwnc yn cael ei esbonio mewn darlithoedd drwy ddefnyddio cymhorthion gweledol. Bydd yr addysgu’n rhyngweithiol ac yn cynnwys arddangosiadau, lle bo’n berthnasol. Fel arfer, bydd darlithoedd yn cael eu recordio, a bydd y recordiadau ar gael i’w gwylio.
- Deunydd Darllen a Chymorth Ar-lein: Bydd cynnwys y modiwl ar gael i fyfyrwyr yn electronig. Yn ogystal, bydd rhai testunau’n brif ffynonellau cyfeirio er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gyfarwydd â'r deunydd ynddynt.
- Deunydd Aseiniadau: Bydd gweithgareddau ymarferol yn cael eu gosod er mwyn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymarfer defnyddio rhai sgiliau sy’n benodol i’r pwnc.
Yn ogystal, i gefnogi'r uchod, bydd:
- Trafodaethau: Bydd byrddau trafod ar-lein, ar gyfer myfyrwyr sy’n dysgu o bell a myfyrwyr lleol, yn cael eu defnyddio er mwyn i fyfyrwyr gael cymorth gan diwtoriaid a chymheiriaid.
Tiwtorialau: Gellir trefnu i grwpiau bach gael trafodaeth wyneb-yn-wyneb â thiwtor y modiwl drwy ddefnyddio meddalwedd cyfathrebu ar-lein, ar adeg sy’n gyfleus i’r ddwy ochr.
Dod o Hyd i Ffurf Gyfrifiadurol
Caiff y modiwl ei gyflwyno wyneb yn wyneb, gyda rhai elfennau’n cael eu cynnal ar-lein
Credydau
Modiwl 20 credyd ar Lefel 7 (lefel ôl-raddedig) (cyfeirnod ART802)
Dyddiadau a chost
Semester yr Hydref. Cysylltwch â ni i gael yr amserlen ddiweddaraf a gwybodaeth ffioedd.
Disgrifiad amlinellol
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno'r defnydd o ddulliau prototeipio ffisegol a digidol er mwyn dod o hyd i ffurfiau cyfrifiadurol at ddibenion cynnal ymchwil ddylunio creadigol. Mae'n datblygu’r cysyniadau a’r technegau o ran cynnal ymchwiliadau dylunio i gynnwys egwyddorion dylunio cyfrifiadurol. Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ymchwilio i nifer o gysyniadau dylunio, llifoedd gwaith, a chanfod atebion at ddiben dod o hyd i ffurfiau a llifoedd gwaith sy'n mynd i'r afael â nhw.
Cewch chi wybod sut y gwnaeth egwyddorion haniaethol ddysgu o ymchwiliadau i ddod o hyd i ffurfiau corfforol a'u cymhwyso i’r broses o ddod o hyd i ffurfiau digidol. Bydd y modiwl yn eich galluogi i ddeall y cysyniadau cyffredinol a’r strategaethau o ddod o hyd i ffurfiau neilltuol. Yn ogystal, byddwch chi’n ennill dealltwriaeth o’r egwyddorion a’r dulliau o ran dylunio a chynrychioli pensaernïol.
Amcanion
Ar ôl cwblhau'r modiwl dylai myfyriwr fod yn gallu:
- gwerthuso'n feirniadol y rôl y mae egwyddorion a dulliau cyfrifiadurol yn ei chwarae yn y broses greadigol
- defnyddio egwyddorion a dulliau cyfrifiadurol yn y broses ddylunio mewn modd creadigol
- cyflwyno prosesau cyfrifiadurol creadigol a'u deilliannau mewn modd effeithiol
Cyflwyniad
Yn y darlithoedd, cewch eich cyflwyno i gysyniadau dylunio, yn ogystal â strategaethau dod o hyd i ffurfiau a llifoedd gwaith sy'n mynd i'r afael â'r cysyniadau hyn. Drwy gydol y modiwl, bydd yr addysgu’n seiliedig ar ddysgu drwy drin a thrafod prosesau ffisegol a digidol, a’u harbrofi. Byddwch chi’n cwblhau rhywfaint o’r gwaith yn unigol, ac ambell ddarn o waith ar y cyd mewn grwpiau er mwyn ceisio dynwared natur ryngddisgyblaethol y gwaith a wneir yn y byd proffesiynol.
Bydd y prosiectau’n cael eu hategu gan y dulliau astudio canlynol:
- defnyddio technegau prototeipio digidol neu gorfforol i ymchwilio i ymatebion creadigol i broblemau dylunio
- Defnyddio technegau dod o hyd i ffurfiau digidol at ddibenion efelychu, modelu a delweddu
- defnyddio tiwtorialau ac adnoddau ar-lein er mwyn ymgymryd â dysgu hunangyfeiriedig, gan ddefnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd, sef ‘Dysgu Canolog’
A fydd angen unrhyw offer penodol arnaf?
Bydd angen mynediad at gyfrifiadur/gliniadur gyda meddalwedd prosesu geiriau a mynediad da i'r rhyngrwyd, ac sy'n gallu rhedeg meddalwedd Design Builder. Dylai meddalwedd briodol fod ar gael trwy fewnrwyd Prifysgol Caerdydd a byddwch yn cael eich cyfeirio ato pan fo angen.
Byddai gyriant USB neu galed i storio'ch gwaith, deunydd ysgrifennu cyffredinol a rhywfaint o offer darlunio sylfaenol yn ddefnyddiol hefyd
Lle bo hynny'n briodol, rydym yn darparu trwyddedau myfyrwyr neu fynediad i'r feddalwedd efelychu arbenigol a ddefnyddiwn ar gyfer addysgu, ond ar hyn o bryd gallwn ond warantu bod y rhain yn gweithio ar gyfrifiaduron gyda system weithredu Windows.
Bydd gennych fynediad i'r Llyfrgell Bensaernïaeth arbenigol, a llyfrgelloedd eraill y Brifysgol.
Efallai yr hoffech chi brynu rhai testunau allweddol hefyd. Er bod y testunau sy'n ofynnol ar gyfer astudio ar gael yn llyfrgell yr Ysgol, mae manteision i fod yn berchen ar eich copi personol o waith allweddol fel y gallwch gael mynediad atynt pryd bynnag y dymunwch.
Asesu
Asesir modiwlau a addysgir mewn amryw o wahanol ffyrdd. Rydym yn defnyddio profion dosbarth, gwaith cwrs (aseiniadau ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar neu asesiadau/adolygiadau beirniadol), a gwaith prosiect, neu gyfuniad o'r rhain i asesu'ch cynnydd. Efallai y gofynnir i chi hefyd gwblhau profion trwy oruchwylio ar-lein.
Gofynion mynediad
Fel arfer, bydd angen i ymgeiswyr fod â naill ai:
- gradd anrhydedd 2:1 mewn pensaernïaeth, peirianneg gwasanaethau adeiladu, technoleg adeiladu, neu astudiaethau amgylcheddol
- cymhwyster academaidd cyfatebol a gydnabyddir gan brifysgol
- neu brofiad proffesiynol perthnasol y mae geirda yn ei ddangos.
Gofynion Iaith Saesneg
IELTS sydd â sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth a dderbynnir.
Rhagor o wybodaeth am y gofynion iaith Saesneg.
Sut i wneud cais
Rhaid derbyn ceisiadau o leiaf bythefnos cyn dyddiad dechrau’r modiwl.
Dyddiadau semestrau 2024/25 yw:
Hydref: Dydd Llun 23 Medi 2024
Gwanwyn: Dydd Llun 27 Ionawr 2025
Cysylltwch â'r Uned DPP i gael arweiniad pellach ar y broses ymgeisio:
Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus
Cynigiwn borth i fusnesau fanteisio ar yr ystod eang o arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Caerdydd.