Cyrsiau ôl-raddedig sy’n dechrau ym mis Ionawr
Cymerwch olwg ar yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i ddechrau ym mis Ionawr.
Cychwynnwch eich cwrs ar ddechrau'r flwyddyn, am ddewis amgen hyblyg i chi gael dilyn eich amcanion academaidd a gyrfa.
P'un a ydych chi eisiau gwella'ch sgiliau, newid eich gyrfa neu ehangu eich arbenigedd, bydd y cyrsiau hyn yn rhoi cyfleoedd newydd i chi ymuno â ni i lunio eich dyfodol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cyrsiau
Mae ceisiadau ar gyfer mynediad ym mis Ionawr 2025 bellach ar gau.
Cyfrifiadureg Uwch (MSc)
Modd: amser llawn - 15 mis
Cynlluniwyd y rhaglen flaengar hon i’r rhai sydd wedi graddio mewn cyfrifiadura ac yn awyddus i ragori ymhellach drwy sicrhau uwch-feistrolaeth ar y ddisgyblaeth. Ynddi, trafodir y pynciau cyfoes sy’n gyrru’r datblygiadau a’r tueddiadau technolegol diweddaraf.
Rheoli Busnes (MSc)
Modd: amser llawn - 1 flwyddyn
Byddwch yn rheolwr effeithiol sy’n gallu cynnig datrysiadau creadigol i amrywiaeth o heriau busnes.
Cwrs trosi yw hwn.
Gwyddor Data a Dadansoddi (MSc)
Modd: amser llawn - 17 mis
Caffael ystod o sgiliau y mae galw amdanynt ar gyfer echdynnu a thrin 'data mawr' a datblygu eich sgiliau ymarferol trwy ddod i gysylltiad â phroblemau a setiau data'r byd go iawn.
Ffisiotherapi (MSc)
Modd: amser llawn - 18 mis
Fel ffisiotherapydd cymwysedig, bydd yr MSc hwn yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau gwerthfawr a fydd yn eich helpu i symud ymlaen yn eich proffesiwn p'un a ydych yn chwilio am ddyrchafiad o fewn ymarfer clinigol neu'n symud i'r byd academaidd neu ymchwil.
Llety
Bydd angen i fyfyrwyr o'r DU a thramor drefnu llety preifat yng Nghaerdydd. Gall y Brifysgol gynnig cyngor ac arweiniad ar ddod o hyd i lety preifat.
Cyllid
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau a gwobrau, gan gynnwys ein Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr sy’n raddedigion Prifysgol Caerdydd.
Myfyrwyr y DU
Efallai y byddwch chi’n gymwys i gael benthyciad i ôl-raddedigion i gefnogi eich astudiaethau. Bydd y benthyciad sydd ar gael i chi yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw cyn i chi ddechrau eich cwrs, ac ar y cwrs rydych chi'n bwriadu ei astudio.
Myfyrwyr rhyngwladol
Efallai y byddwch chi’n gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth Ryngwladol yr Is-Ganghellor ac un o Ysgoloriaethau India Caerdydd.
Cysylltwch â ni
I gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau sy’n dechrau ym mis Ionawr, cysylltwch â ni.
Gallwch danysgrifio hefyd i gael ein cylchlythyr i ôl-raddedigion er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gyllid sydd ar gael, Diwrnodau Agored a mwy.
Dewch i edrych o gwmpas ein campws, cwrdd â myfyrwyr a staff, a chael blas ar sut beth yw astudio a byw yng Nghaerdydd.