Astudiaethau ôl-raddedig rhan-amser a addysgir
Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni ôl-raddedig rhan-amser y gallwch eu hastudio ar y campws neu ar-lein.
Mae ein cymwysterau ôl-raddedig rhan-amser yn eich galluogi i wella eich gyrfa tra ymdopi a’ch ymrwymiadau personol neu broffesiynol eraill.
Gallwch gwblhau eich cymhwyster dros gyfnod hwy o amser, gan wneud cost y cwrs a'r llwyth gwaith yn haws ymdopi â nhw, yn ogystal â manteisio yn llawn ar y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr a chyfleusterau'r campws.
Mae gennym hefyd gyfleoedd i ddatblygu sgiliau a dod i wybod am bwnc newydd trwy wneud cwrs trosi.
Edrychwch ar ein cyrsiau llawn amser a rhan-amser
Chwiliwch am gwrs i gael gwybod os yw’ch pwnc dewisol yn cynnig astudio rhan-amser.
Mae rhai o'n cyrsiau ôl-raddedig ar gael i'w hastudio fel modiwlau unigol.
Manteision astudio rhan-amser
Mae llawer o fanteision i astudio rhan-amser. Ymhlith y rhain y mae:
- cydbwysedd rhwng astudio ag ymrwymiadau personol neu broffesiynol
- gallu gweithio ac ennill incwm wrth astudio
- ymdopi â'r gost o astudio'n well
- y llwyth gwaith yn llai dwys
- cyfle i wella eich gyrfa
- gallu defnyddio pob un o’n gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr a chyfleusterau’r campws
- cyfle i ddatblygu sgiliau a dod i wybod am bwnc newydd trwy wneud cwrs trosi.
Cyllid
Yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwyster, a all roi sylw i hyd y rhaglen, mae gwahanol fenthyciadau, ysgoloriaethau, bwrsariaethau a grantiau ar gael i’ch helpu i ariannu eich addysg ôl-raddedig ran-amser. Mae’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys:
- Cyllid i ôl-raddedigion gan Lywodraeth y DU
- Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr
- Ysgoloriaeth Meistr
- Adnodd ‘The Alternative Guide to Postgraduate Funding’
Cymorth ar gyfer astudio’n rhan-amser
Mae’r un gwasanaethau cymorth sydd ar gael i ôl-raddedigion amser llawn ar gael i ôl-raddedigion rhan-amser.
Ymhlith y gwasanaethau sydd ar gael y mae:
Os ydych yn dychwelyd i ddysgu, rydym yn cynnal amrywiaeth eang o ddosbarthiadau i helpu i wella technegau astudio. Mae cymorth hefyd ar gael i fyfyrwyr aeddfed a myfyrwyr sy'n rhieni.
Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth am raglenni ôl-raddedig rhan-amser a addysgir, cysylltwch â’n timau ôl-raddedig.
Gallwch danysgrifio hefyd i gael ein cylchlythyr i ôl-raddedigion er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gyllid sydd ar gael, Diwrnodau Agored a mwy.
Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.