Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd (MA)

  • Hyd: 1 flwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
under-review

Mae'r cwrs yma o dan adolygiad

Rydym yn gweithio i ddiweddaru a gwella cynnwys ein cyrsiau i sicrhau'r canlyniadau addysg a gyrfa gorau. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol ac yn destun newid. Gallwch wneud cais nawr o hyd. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon ac yn cysylltu â holl ddeiliaid y cynnig pan fydd yr adolygiad wedi'i gwblhau i gadarnhau unrhyw newidiadau.

calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Ymunwch â ni i archwilio llenyddiaeth, iaith a diwylliant Cymru o safbwynt rhyngwladol a rhyngddisgyblaethol.

globe

Cyd-destun rhyngwladol

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o faterion diwylliannol ac ieithyddol o safbwynt iaith leiafrifol y gellir eu cysylltu â chyd-destunau rhyngwladol eraill.

star

Dan arweiniad arbenigwyr

Cewch weithio gydag arbenigwyr blaenllaw sy'n ymchwilio ym maes diwylliant, iaith a llenyddiaeth Gymraeg a Cheltaidd.

building

Profiad proffesiynol

Cewch gyfleon i archwilio profiadau a hyfforddiant a fydd yn ehangu eich proffil proffesiynol a’ch sgiliau cyflogadwyedd.

book

Astudio hyblyg

Cewch astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg neu'n ddwyieithog, gallwch deilwra'r rhaglen yn unol â'ch diddordebau chi.

Mae ein MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn rhoi cyfle i chi ymchwilio i'r berthynas rhwng llenyddiaeth, iaith, diwylliant a hunaniaeth dros y canrifoedd - o lenyddiaeth ganoloesol i feysydd cyfoes megis cynllunio a pholisi iaith.

Dyma raglen agored a hyblyg sydd yn caniatáu i chi deilwra’r cynnwys yn ôl eich diddordebau chi ac arbenigeddau ymchwil eang ac amrywiol ein staff.

Dan arweiniad arbenigwyr cydnabyddedig yn eu meysydd ymchwil, byddwch yn rhan o gymuned ymchwil ac addysgu ddeinamig, heriol a thrawsnewidiol. Un o’n prif gryfderau yw traweffaith a dylanwad ein gwaith ymchwil ar y byd y tu hwnt i ffiniau academia - yn wleidyddol, ieithyddol, diwylliannol ac yn gymdeithasol.

Rydym wedi torri tir newydd mewn amryw o feysydd ac mae’r rhain yn rhan o’r rhaglen MA. Trwy ddewis astudio gyda ni, cewch gyfle i ymgymryd â phynciau amrywiol a pherthnasol i’r Gymraeg ac ieithoedd  eraill megis:

  • Llenyddiaeth Gymraeg a beirniadaeth lenyddol
  • Ysgrifennu creadigol
  • Llenyddiaeth plant
  • Sosioieithyddiaeth
  • Caffael Iaith
  • Tafodieitheg
  • Polisi iaith a chynllunio ieithyddol
  • Theori a methodoleg cyfieithu.

Mae myfyrwyr diweddar yr MA wedi cynnal gwaith ymchwil gwreiddiol a threiddgar ar draws sawl maes gan gynnwys: mapio tirwedd ieithyddol, beirniadaeth lenyddol greadigol, ymchwil ryngdestunol a llenyddiaeth Gymraeg ganoloesol, a thechnolegau digidol ac ieithoedd lleiafrifol.

Gallwch astudio’r rhaglen hon trwy’r Gymraeg neu’r Saesneg, neu gyfuniad o’r ddau.

“Yr hyn rwyf wedi ei fwynhau fwyaf yw cael y cyfle i gael blas ar wahanol agweddau o'r Gymraeg fel disgyblaeth academaidd, o lenyddiaeth i ieithyddiaeth, ac o bolisi iaith i gymdeithaseg iaith. Cyn dechrau'r radd, rhaid imi gyfaddef bod llawer o'r meysydd hyn yn anghyfarwydd iawn imi, ond drwy gael blas ar wahanol feysydd, rwyf bellach wedi ennyn diddordeb ac wedi ymchwilio i feysydd nad oeddwn yn gwybod am eu bodolaeth cyn i mi ddechrau yn yr Ysgol.”
Osian Morgan, MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno rhaglenni sy'n arloesol ac yn berthnasol, a chynnig y deilliannau dysgu a'r rhagolygon gyrfaol gorau i'n myfyrwyr. O gofio hyn, rydym yn adolygu rhai elfennau o'r rhaglen hon ar hyn o bryd. Felly, mae'r manylion yn rhai dangosol yn unig a gallent gael eu newid. Gallwch gyflwyno cais o hyd. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon ac yn cysylltu â'r holl ddeiliaid cynnig pan fydd yr adolygiad wedi'i gwblhau er mwyn cadarnhau unrhyw newidiadau.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Gymraeg

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad iaith, cymdeithas a hunaniaeth yng Nghymru gyfoes drwy addysgu ac ymchwil o'r safon uchaf.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0679
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis Archaeoleg, Astudiaethau Celtaidd, Daearyddiaeth, Hanes, Ieithoedd, Ieithyddiaeth, Sosioieithyddiaeth, Cymdeithaseg, Cymraeg, neu Ysgrifennu Creadigol Cymraeg, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro. Mae ceisiadau gan y rhai sydd â 2:2 yn cael eu hystyried fesul achos.
  2. Un geirda sy'n dangos eich addasrwydd ar gyfer y rhaglen. Yn ddelfrydol, dylid cael hwn cyn i chi wneud cais a bydd ei angen cyn y gallwn wneud penderfyniad ar eich cais. Dylid llofnodi'r geirda, ei ddyddio a llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno eich cais.
  3. Datganiad personol nad yw'n fwy na 500 gair. Dylai eich datganiad personol fanylu ar eich diddordebau ymchwil a'ch ymrwymiad i Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd. Mae ein modiwlau yn cynnig dau brif lwybr dysgu sy'n gysylltiedig yn fras â 'Sosioieithyddiaeth' ac 'Astudiaethau Llenyddol a Diwylliannol'. Nodwch pa lwybr yr hoffech ei ddilyn, a'ch diddordebau penodol o fewn y llwybr hwnnw (e.e. sosioieithyddiaeth: caffael iaith, dwyieithrwydd, polisi a chynllunio iaith, tafodieitheg; Llenyddiaeth a Diwylliant: llenyddiaeth a diwylliant yr oesoedd canol, llenyddiaeth fodern, ysgrifennu creadigol, theori lenyddol, llenyddiaeth plant, ysgrifennu bywyd). 
  4. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r gofynion mynediad, byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich cais a'r cwrs yn fanylach. Mae hyn oherwydd natur hyblyg y rhaglen hon, sydd wedi'i theilwra i adlewyrchu eich diddordebau ymchwil ac arbenigedd ein staff. Gwneir unrhyw gynigion yn amodol ar raggytundeb o ddewis modiwlau a llwybr ymchwil arfaethedig.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn rhaglen MA lawn-amser 12 mis.

Bydd y modiwl craidd yn rhoi cyflwyniad a dadansoddiad o’r nodweddion allweddol mewn ysgolheictod cyfoes (dulliau ymchwil, moeseg, cyfathrebu, gwybodaeth a llythrennedd digidol).

Bydd y ddau bwnc arbennig a ddewiswch yn eich galluogi i ddefnyddio’r nodweddion hynny mewn meysydd penodol o ymchwil ym maes Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd. Byddwch yn gweithio gydag ysgolheigion blaenllaw i archwilio’r maes o’ch dewis ac yn cyflwyno eich canfyddiadau mewn traethodau traddodiadol, portffolios ysgrifennu creadigol, papurau seminar ac adroddiadau myfyriol fel y bo'n briodol.

Y Prosiect Estynedig (60 credyd ) fydd penllanw’r cwrs lle byddwch chi, dan oruchwyliaeth aelod o staff, yn llunio ac yn ymchwilio i gwestiynau ymchwil gwreiddiol a fydd yn eich caniatáu i greu prosiect neu draethawd hir craff a chadarn (hyd at 12,000 o eiriau) a fydd yn datblygu ar ysgolheictod gyfoes ym maes Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd.

Fel myfyriwr llawn amser, bydd disgwyl i chi fynychu tua 4-6 awr o sesiynau addysgu’r wythnos yn ystod y ddau Semester.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae'r radd MA hon yn defnyddio llawer o wahanol ddulliau o addysgu a dysgu. Yn ystod eich gradd byddwch yn mynychu darlithoedd, seminarau a gweithdai, yn cwblhau tasgau ymarferol, yn ymgymryd â hyfforddiant ym maes cyflogadwyedd a chreu cysylltiadau â gweithleoedd, ac yn cwblhau darnau estynedig o waith annibynnol dan oruchwyliaeth eich tiwtor.

Bydd y sesiynau dysgu yn rhyngweithiol ac yn ymarferol, felly disgwylir i chi fynychu pob dosbarth (boed y rheini’n weithdai, yn seminarau, yn diwtorialau, yn ddarlithoedd neu’n sesiynau eraill). Mewn rhai achosion, megis oherwydd mamolaeth neu anabledd, gallwn wneud trefniadau eraill ar eich cyfer.

Adnoddau a Chyfleusterau

Byddwch yn gweithio'n agos ag ymchwilwyr academaidd yn yr Ysgol a fydd yn rhannu eu harbenigedd a'u gwybodaeth drwy addysgu mewn grwpiau bach. At hynny, mae gan Lyfrgell Prifysgol Caerdydd gasgliad penodol o ddeunyddiau argraffedig a llawysgrifau sy’n ymwneud â sawl agwedd ar Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn ei chasgliad Salisbury.

A hithau’n brifddinas Cymru, mae gan Gaerdydd amgueddfeydd ac archifau pwysig sy'n croesawu ymchwilwyr o'r Ysgol, megis Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Archifau Morgannwg. Mae ein staff hefyd wedi cynhyrchu archifau digidol arloesol y gallwch chi fanteisio arnynt, megis Archif Ann Griffiths a’r gwefannau Baledi.

M​ae diddordebau ymchwil ac arbenigedd ein staff academaidd yn cwmpasu llawer o feysydd sy’n ymwneud ag Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, boed hynny yn y cyfnod canoloesol neu fodern. Mae ymchwil y staff yn canolbwyntio’n benodol ar feysydd sy'n gysylltiedig â chynllunio a pholisi iaith, caffael iaith, cymdeithaseg iaith, cymdeithaseg yr iaith Wyddeleg, theori perfformiad, straeon y Mabinogi theori a methodoleg cyfieithu, beirniadaeth destunol, barddoniaeth Gymraeg o'r Oesoedd Canol, hanesyddiaeth a llenyddiaeth, ethnoleg ac astudiaethau gwerin, ysgrifennu creadigol, y Wladfa ym Mhatagonia a’r Cymry yn America, y faled a'r gân werin, llenyddiaeth plant, astudiaethau rhywedd, theori a beirniadaeth lenyddol, hunaniaeth, ethnigrwydd ac amlddiwylliant. Rhoddir cryn bwyslais ar osod ein holl ymchwil academaidd o fewn cyd-destun rhyngwladol cymharol.

Ceir rhestr lawn o broffiliau’r staff ar dudalennau’r Staff Academaidd ar ein gwefan.

Sut y caf fy asesu?

Mae’r rhaglen MA hon yn arloesol yn ei defnydd o ddulliau asesu amrywiol. Yn ogystal â datblygu sgiliau hanfodol o ran ymchwilio ac ysgrifennu traethodau/traethodau hir, byddwch hefyd yn rhoi cyflwyniad seminar 15 munud ar faes eich ymchwil, yn ymgymryd â chyfnod ar leoliad gwaith (ac yn llunio adroddiad myfyriol ar y profiad yng nghyd-destun eich cynlluniau gyrfa a’ch sgiliau academaidd a phroffesiynol), ac yn ffurfio cynnig manwl am waith ymchwil (ar gyfer y prosiect ymchwil estynedig).

Bydd y prif gyfnodau asesu ar ddiwedd Semester yr Hydref (Ionawr) ac ar ddiwedd Semester y Gwanwyn (Ebrill/Mai).

Yn rhan un, byddwch yn dilyn tri modiwl craidd ac yn cwblhau’r asesiadau canlynol:

Ymchwil Academaidd a Phroffesiynol (40 credyd) - cyflwyno papur mewn seminar, adroddiad profiad gwaith ac amlinelliad o brosiect ymchwil

Pwnc Arbennig 1 (pwnc o’ch dewis sy’n ymwneud ag Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd) (40 credyd) - adolygiad beirniadol (2,000 o eiriau) a thraethawd (6,000 o eiriau)

Pwnc Arbennig 2 (pwnc o’ch dewis sy’n ymwneud ag Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd) (40 credyd) - traethawd (8,000 o eiriau)

Yn Rhan 2, byddwch yn gweithio ar brosiect ymchwil estynedig (60 credyd) ac yn cwblhau traethawd hir (12,000 o eiriau). Gall y traethawd hwn fod ar ffurf traethawd, prosiect neu bortffolio creadigol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Rydym wedi ymrwymo i’ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau. Bydd gennych diwtor personol a gallwch droi ato ef/hi drwy gydol eich cyfnod astudio i drafod materion academaidd ac i gael arweiniad a gwybodaeth am amrywiaeth o faterion eraill. Hefyd, bydd arweinwyr modiwl ar gael i gynnig cyngor sy’n benodol i'r pwnc.

Yn ôl y gofyn, bydd y staff addysgu’n rhoi deunyddiau sy’n berthnasol i’r modiwlau ar amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Caerdydd (sef Dysgu Canolog). 

Dylech feithrin agwedd broffesiynol tuag at eich gwaith, gan gynnwys mynychu sesiynau eich tiwtor personol, cadw llygad ar eich negeseuon e-bost yn rheolaidd ac ymateb iddynt yn ôl yr angen, mynychu'r dosbarthiadau’n brydlon, a’n hysbysu ni pan fyddwch yn absennol. Rydym wedi ymrwymo i’ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau, felly os oes rhywbeth yn peri pryder i chi, cofiwch roi gwybod i ni. Byddwn bob amser yn parchu eich preifatrwydd.

Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau canolog i’ch cefnogi, sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, llyfrgell wych a chanolfannau adnoddau ardderchog. Os nad ydych chi’n rhugl yn eich Cymraeg llafar a/neu ysgrifenedig, gallwch fanteisio ar ein darpariaeth ar gyfer dysgu a gloywi eich Cymraeg.

Adborth

Ar y rhaglen MA hon, bydd gweithio mewn grwpiau bach a sesiynau tiwtora unigol yn eich galluogi i fanteisio’n rheolaidd ar gyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i gael adborth ar eich gwaith. Bydd yr adborth adeiladol a roddir ar dasgau ffurfiannol a osodwyd yn ystod y semester yn eich galluogi i ymgyfarwyddo â’r meini prawf marcio a’r safonau disgwyliedig cyn cyflwyno gwaith i'w asesu'n ffurfiol. Gallai’r tasgau ffurfiannol hyn fod yn gyflwyniadau llafar mewn seminarau, fersiynau drafft o draethodau, darnau ysgrifenedig byr neu dasgau cyfrifiadur. 

Byddwch yn cael adborth yn brydlon ar eich holl asesiadau. Mae’n bosib y cewch adborth ar lafar, yn ysgrifenedig neu’n electronig. Bydd yr adborth bob amser yn cynnwys sylwadau penodol am y gwaith a gyflwynwyd ac awgrymiadau ar gyfer ei wella.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Bydd y rhaglen radd hon yn eich galluogi i:

  • Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth ar lefel uchel mewn meysydd sy'n ymwneud ag Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd.
  • Gwerthfawrogi beirniadaeth ysgolheigaidd fel elfen hanfodol o ymchwil ddeallusol.
  • Cyfleu dadleuon ystyrlon a deallus yn ymwneud ag Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd mewn seminarau ac mewn aseiniadau ysgrifenedig.
  • Ymgysylltu ag amrywiaeth eang o lyfrau, llawysgrifau, archifau a ffynonellau electronig.
  • Ysgrifennu a chyflwyno gwaith o safon uchel mewn arddull briodol.
  • Defnyddio technoleg gwybodaeth i wella eich gwaith ymchwil.
  • Cynhyrchu ymchwil gan ddilyn arferion academaidd a phroffesiynol cydnabyddedig.
  • Dangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer gwaith ymchwil pellach (megis PhD) ac ar gyfer swyddi mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau drwy ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gallu cyfathrebu ar lafar ac ar bapur, ymarfer sgiliau technoleg gwybodaeth, dod i gasgliadau rhesymol mewn sefyllfaoedd cymhleth ac ansicr, cwestiynu a dadansoddi arferion a safbwyntiau, addasu i newidiadau, ac ymateb yn gadarnhaol i hyfforddiant pellach a dysgu gydol oes.
A minnau’n dod yn wreiddiol o Efrog Newydd, fy niddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol oedd sail fy mhenderfyniad i ddilyn yr MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae cyfleusterau'r Brifysgol a'r staff yn yr Ysgol wedi cyfrannu at yr hyn yr rwyf yn credu yw profiad academaidd mwyaf gwerthfawr fy mywyd.
Joseph Shack, MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Costau ychwanegol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Nac ydy

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae'r rhaglen hon yn cynnig hyfforddiant academaidd o'r safon uchaf ym maes Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd i'r rhai sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn meysydd sy'n ymwneud ag iaith a chynllunio, y cyfryngau, treftadaeth, llywodraeth, rheoli, cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, y diwydiannau creadigol, addysgu ac ymchwil. Byddwch yn ennill gwybodaeth ac yn meithrin sgiliau sy'n cael eu hystyried yn asedau mewn ystod o wahanol yrfaoedd. Byddwch hefyd yn elwa ar leoliad gwaith yn rhan o'r modiwl Ymchwil Academaidd a Phroffesiynol.

Lleoliadau

Mae profiad gwaith yn ofyniad craidd y rhaglen MA, fel rhan o'r modiwl Ymchwil Academaidd a Phroffesiynol. Bydd lleoliad pum niwrnod yn eich galluogi i archwilio sut mae eich sgiliau academaidd a phersonol yn berthnasol i ofynion gweithle proffesiynol mewn maes sy’n gysylltiedig â’ch gwaith ymchwil. Byddwch yn ysgrifennu adroddiad gwerthuso ac yn myfyrio ar eich profiad. Mae myfyrwyr MA blaenorol wedi mynd ar leoliadau gyda sefydliadau megis Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Archifau Morgannwg, gwasanaethau cyfieithu, cwmnïau cyfryngau ac ysgolion.

"Roeddwn i’n ffodus i ymgymryd â lleoliad gwaith a wnaeth ategu fy nysgu. Bûm i'n gweithio gyda chwmni cynhyrchu artistig o'r enw Adverse Camber, sy'n hyrwyddo adroddwyr stori ar draws y DU, gan greu llwyfan ar gyfer datblygu darnau perfformiadol newydd cyffrous. Roeddwn i'n Gymrawd Cynhyrchu ar gyfer eu gŵyl, y Leeds Storytelling Takeover, oedd yn gyfle gwych i archwilio posibiliadau a heriau'r byd adrodd straeon cyfoes yn y DU.”
Emma Watkins, MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd (Ysgolhaig Fulbright)

Gwaith maes

Mae’r addysgu a arweinir gan ymchwil ar y cwrs MA yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau gwaith maes, lle bo'n berthnasol. Rydym yn darparu hyfforddiant mewn casglu data, dehongli a moeseg ymchwil. 

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 100% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Hanes a hanes yr henfyd, Ieithoedd , Cymraeg


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.