Dylunio Trefol (MA)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn

Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Mae’r cwrs hwn, a redir ar y cyd ag Ysgol Bensaernïaeth Cymru, yn galluogi myfyrwyr i ddysgu gan ddefnyddio dylunio, theori, ac arferion dylunio datblygu a rheoli, a fydd yn llywio'r prosesau dylunio trefol.
Cydnabyddiaeth broffesiynol
Wedi’i hachredu gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) (Arbenigwr).
Addysgu stiwdio-dylunio
Cyfle i ddatblygu cynigion beirniadol, creadigol ac ymarferol ar gyfer safleoedd go iawn, gan fynd i'r afael â materion dylunio cyfoes a threfoli pwysig.
Uchel ei pharch
Cyflwynir gan ddwy Ysgol sydd ymhlith y 100 Ysgol orau yn y byd.
Dan arweiniad arbenigwyr
Byddwch yn dysgu oddi wrth, ac yn ymgysylltu â, staff academaidd sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, yn ogystal ag ymarferwyr blaenllaw.
Mae ein cwrs MA Dylunio Trefol yn cael ei gyd-gyflwyno gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru a’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio. Nod y rhaglen hon yw galluogi ymarferwyr ac ysgolheigion i drawsnewid maes dylunio trefol drwy feddwl beirniadol ac ymarfer creadigol.
Mae dylunio trefol yn drawsddisgyblaethol, yn pontio meysydd proffesiynol fel pensaernïaeth, pensaernïaeth tirwedd, cynllunio trefol a pholisi cyhoeddus, a hefyd disgyblaethau fel gwleidyddiaeth, economeg, cymdeithaseg ac astudiaethau diwylliannol. Mae'r rhaglen yn cwmpasu'r trawsddisgyblaeth hon yn llawn drwy'r theori, yr hyfforddiant ymchwil a’r addysgu dylunio y mae'n eu cynnig.
Byddwch yn dysgu gan staff academaidd o'r ddwy ysgol, sy'n hynod fedrus ac sy'n gweithio’n lleol yng Nghaerdydd, yn genedlaethol yn y DU, ac yn rhyngwladol ar draws y byd. Yng nghyd-destun y stiwdios dylunio, byddwch hefyd yn gallu elwa ar fewnbwn ac arbenigedd ymarferwyr blaenllaw.
Prif fyrdwn yr addysgu yn y stiwdio fydd llunio cynigion craff, creadigol ac ymarferol ar gyfer safleoedd go iawn, gan drin a thrafod rhai materion cyfoes o bwys ynghylch dylunio a bywyd trefol.
Achrediadau
Rwyf yn teimlo fy mod wedi cael profiad sydd wedi cynnig boddhad academaidd a phersonol i mi tra’n astudio ar raglen dylunio trefol Prifysgol Caerdydd Gyda chwricwlwm a gynlluniwyd i gefndiroedd academaidd amrywiol, mae'r rhaglen yn cael ei chyfoethogi gan gyfadran gefnogol gan gynnwys grwpiau stiwdio bach. Yr hyn sydd yn gosod y rhaglen yma ar wahân oedd ei dull rhyngddisgyblaethol unigryw, a alluogwyd gan gydweithrediad rhwng Ysgol Pensaernïaeth Cymru a'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, a oedd yn gwneud rhaglen MADT yn brofiad gwirioneddol wych.
Ble byddwch yn astudio
Ysgol Pensaernïaeth Cymru
Ein nod yw gwneud y byd yn lle gwell gyda phensaernïaeth sy'n sensitif i'w gyd-destun, yn gynaliadwy a phrydferth.
Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio
Ymunwch â ni wrth i ni archwilio a mynd i'r afael â'r heriau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd, datblygiad ac amgylcheddol sy'n effeithio ar ble a sut yr ydym ni'n byw.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc perthnasol megis pensaernïaeth, dylunio amgylcheddol, daearyddiaeth ddynol, pensaernïaeth tirwedd, dylunio tirwedd, dylunio trefol, a chynllunio trefol, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhaid i'ch cyflogwr ddarparu geirda i ddangos eich bod yn gweithio mewn maes sy'n berthnasol i'r rhaglen ar hyn o bryd. Dylai hyn gael ei lofnodi, ei ddyddio a'i fod yn llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrion
- Rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Bydd yr Ysgol yn talu am bopeth sy’n rhan hanfodol o'r rhaglen - esbonnir hynny’n eglur yn yr holl wybodaeth am y rhaglen ac mewn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan diwtoriaid ar lafar.
Mae'r Brifysgol o'r farn nad oes angen i'r Ysgolion dalu'r costau canlynol gan nad ydyn nhw’n hanfodol neu maen nhw’n gostau sylfaenol y dylid disgwyl i fyfyriwr eu talu eu hunain:
- Gliniaduron
- Cyfrifianellau
- Deunydd ysgrifennu cyffredinol
- Gwerslyfrau (y tybir eu bod ar gael yn y llyfrgell)
Os oes costau/ffioedd dewisol i'w talu gan y myfyriwr, nid yw'r rhain yn ofyniad i basio'r radd.
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Byddwn yn darparu unrhyw offer sy'n hanfodol i'r cwrs. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn dod â gliniadur gyda meddalwedd priodol (e.e. prosesu geiriau), USB neu yriant caled, deunydd ysgrifennu cyffredinol a rhywfaint o offer lluniadu sylfaenol.
Rydym yn darparu trwyddedau i fyfyrwyr ar gyfer y rhan fwyaf o'r feddalwedd efelychu arbenigol a ddefnyddiwn ar y cwrs. Fodd bynnag, ar hyn o bryd dim ond ar gyfrifiaduron gyda system weithredu Windows y gallwn warantu y bydd y rhain yn gweithio. Mae llawer o'r feddalwedd a ddefnyddir fel arfer ar gael drwy gytundebau addysgol am ddim neu am gost is.
Yn ystod y cwrs, bydd gennych fynediad i'r Llyfrgell Bensaernïaeth arbenigol, a llyfrgelloedd eraill y Brifysgol, a mannau astudio ar draws y campws. Yn yr Ysgol, gallwch ddefnyddio ein hystafelloedd cyfrifiadura a chyfleusterau eraill sy'n cynnwys plotwyr fformat mawr, torrwr laser digidol, a gweithdy sydd yn helaeth ei offer.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd graddedigion
Gall raddedigion fynd yn ddylunwyr trefol neu weithio mewn gwaith sy'n gysylltiedig â dylunio trefol. Mae'r rhan fwyaf o'r gyrfaoedd hynny ym meysydd ehangach pensaernïaeth, cynllunio trefol, eiddo neu bolisïau cyhoeddus. Gall y rhain fod o fewn y sectorau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol. Mae rhai o'n graddedigion yn parhau i astudio i gael graddau ymchwil uwch.
Darperir canllawiau a mentora ar yrfaoedd yn ystod y flwyddyn.
Mae astudio MA Dylunio Trefol wedi bod yn brofiad braf a diddorol sydd wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy sgiliau dylunio a'm gwybodaeth am ddadleuon a phrosesau dylunio trefol. Roedd prosiect y stiwdio yn arbennig o ddiddorol: Roedd cyfle i ddadansoddi safle yng Nghaerdydd a chynnig ymyriadau dylunio. Roedd y lefel uchel o oriau cyswllt gyda thiwtoriaid a myfyrwyr eraill yn golygu ein bod wedi cael llawer o gyfle i drafod a rhannu syniadau a oedd o gymorth i mi ddatblygu fy rhesymu a gwella fy nyluniad terfynol. Ar y cyfan, mae wedi bod yn brofiad hynod o bositif!
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Pensaernïaeth, Daearyddiaeth a chynllunio, Dylunio
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.