Datblygu Trefol a Rhanbarthol (MSc)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn

Mae'r MSc hwn yn gyfle i ddeall newid economaidd-gymdeithasol mewn gwahanol drefi, dinasoedd, rhanbarthau a dinas-ranbarthau yn fyd-eang.
Cydnabyddiaeth broffesiynol
Wedi’i hachredu gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) (Arbenigwr).
Cyd-destun byd-eang
Y cyfle i gael dealltwriaeth o newid economaidd-gymdeithasol mewn gwahanol drefi, dinasoedd, rhanbarthau a dinas-ranbarthau yn fyd-eang.
Dan arweiniad arbenigwyr
Byddwch yn dysgu gan, ac yn ymgysylltu â, staff sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n gweithio ar flaen y gad yn y ddisgyblaeth.
Gwneud gwahaniaeth
Byddwch yn datblygu'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyder i helpu i fynd i'r afael â'r heriau mawr sy'n wynebu dinasoedd a'u poblogaethau.
Mae ein rhaglen MSc Datblygu Trefol a Rhanbarthol wedi'i chynllunio ar gyfer y rhai sydd am ddeall mwy am theori ac ymarfer datblygu economaidd trefol a rhanbarthol.
Mae datblygiad economaidd dinasoedd a rhanbarthau yn dod yn fwyfwy pwysig mewn economi fyd-eang a nodweddir gan newid technolegol cyflym, economïau sy’n trawsnewid a globaleiddio. Bydd y rhaglen hon yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r meddwl beirniadol i chi i ateb yr her o ddatblygu economïau cystadleuol, deallus, cynaliadwy a chynhwysol.
Rydyn ni’n canolbwyntio ar eich galluogi i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth am natur a ffynhonnell y newid economaidd hwn a chydnabod ei effaith anghyson ar wahanol grwpiau cymdeithasol, cymunedau a gwledydd. Gan ddefnyddio dadleuon damcaniaethol amserol am ddatblygiadau gofodol anghyson a'r heriau y mae hyn yn eu cyflwyno ar raddfeydd gofodol penodol, bydd y rhaglen hon yn rhoi'r sgiliau allweddol - dadansoddi data, ymchwilio a datrys problemau - sydd eu hangen arnoch i lunio datblygiadau lleol a rhanbarthol drwy arloesi mewn polisi ac ymarfer.
Rydyn ni hefyd yn canolbwyntio ar adeiladu rhwydwaith a chonsensws drwy edrych ar strwythurau a fframweithiau ar gyfer ymgysylltu a gweithio ar draws gwahanol ddiwydiannau, sectorau a sefydliadau - gan gynnwys mentrau cyhoeddus, preifat, trydydd sector a chymdeithasol.
Byddwch yn ennill y sgiliau beirniadol a dealltwriaeth gadarn am bolisi i fynd i'r afael â'r her ymarferol o gynllunio strategaethau a fydd yn helpu dinasoedd a rhanbarthau i ddod yn lleoedd mwy arloesol a gwydn i fyw a gweithio ynddyn nhw.
Achrediadau
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio
Ymunwch â ni wrth i ni archwilio a mynd i'r afael â'r heriau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd, datblygiad ac amgylcheddol sy'n effeithio ar ble a sut yr ydym ni'n byw.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc perthnasol megis pensaernïaeth, cynllunio celf a dylunio, peirianneg, dylunio amgylcheddol/daearyddiaeth gwyddoniaeth, dylunio trefol neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhaid i'ch cyflogwr ddarparu geirda i ddangos eich bod yn gweithio mewn maes sy'n berthnasol i'r rhaglen ar hyn o bryd. Dylai hyn gael ei lofnodi, ei ddyddio a'i fod yn llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrion
- Rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd graddedigion
Mae'r cwrs yn cynnig y wybodaeth a'r arbenigedd i'ch galluogi i weithio mewn nifer fawr o yrfaoedd sy'n gysylltiedig â datblygu trefol a rhanbarthol. Gall y rhain amrywio o ymchwil, datblygu polisi a gweithredu, rolau cynllunio o fewn y sectorau cyhoeddus a phreifat i asiantaethau a busnesau sy'n ymwneud â phrosiectau newydd ac ail-ddatblygu.
Mae'r cwrs yn addas ar gyfer myfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Geography and planning, Social sciences
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.