Peirianneg Meinweoedd a Meddygaeth Adfywiol (MSc)
- Hyd: 1 flwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Mae'r cwrs yma o dan adolygiad
Rydym yn gweithio i ddiweddaru a gwella cynnwys ein cyrsiau i sicrhau'r canlyniadau addysg a gyrfa gorau. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol ac yn destun newid. Gallwch wneud cais nawr o hyd. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon ac yn cysylltu â holl ddeiliaid y cynnig pan fydd yr adolygiad wedi'i gwblhau i gadarnhau unrhyw newidiadau.
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Mae'r Rhaglen yn darparu hyfforddiant manwl yn y maes hwn o wyddoniaeth biofeddygol, gan gynnwys bioleg bôn-gelloedd, bioddefnyddiau a pheirianneg meinweoedd/organau.
Y cyntaf o'i fath yn y DU
Ein cwrs ni oedd y cyntaf o'i fath yn y DU gan adeiladu ar ragoriaeth ymchwil Prifysgol Caerdydd a màs critigol o ymchwilwyr peirianneg meinweoedd.
Rhwydwaith rhyngddisgyblaethol CITER
Cyflawnir addysgu gan academyddion ar draws y Brifysgol.
Ymweld â lleoliadau clinigol
Cyfleoedd i ymweld â lleoliadau clinigol a phartneriaid diwydiannol lleol i siarad â chlinigwyr sydd â diddordeb brwd mewn peirianneg ac atgyweirio meinweoedd.
Prosiect ymchwil
Mae’r MSc yn cyfuno modiwlau a addysgir a phrosiect ymchwil 5 mis y gallwch ei ddewis. Bu prosiectau myfyrwyr blaenorol mewn meysydd ymchwil megis bioleg celloedd, esgyrn, croen, meinweoedd geneuol a darparu cyffuriau.
Rhaglen astudio 1+3
Gall myfyrwyr sydd ag ysgoloriaethau/cymorth ariannol wneud cais ar gyfer yr MSc fel rhaglen astudio 1+3 mlynedd, gan barhau at raglen PhD yn yr Ysgol ar ôl gael cymhwyster gradd Feistr.
Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio a chlefydau cronig ar gynnydd, mae angen triniaethau meddygol mwy effeithiol, ac felly mae angen ymchwilwyr peirianneg meinwe hyfforddedig i ddarparu'r technolegau hyn.
Mae peirianneg meinweoedd a meddygaeth adfywio yn faes rhyngddisgyblaethol o ymchwil biofeddygol sydd yn parhau i ddatblygu ac sydd yn cyfuno gwyddorau bywyd, bioleg a pheirianneg er mwyn datblygu gwaith atgyweirio, adnewyddu a gwella meinweoedd sydd wedi'u difrodi.
Mae'n faes sydd â'r potensial i ddarparu triniaethau ar gyfer clefydau, anafiadau ac anhwylderau lle nad oes gan bobl unrhyw ddewisiadau ar hyn o bryd.
Mae'r Rhaglen yn darparu hyfforddiant manwl yn y gangen hon o wyddoniaeth fiofeddygol gan gynnwys bioleg celloedd, biodyfuddolion a pheirianneg meinweoedd/organau. Mae'r radd Meistr yn cynnig cyfuniad cytbwys o ddamcaniaeth ac ymarfer a all fod naill ai yn baratoad ar gyfer PhD neu fel cymhwyster meistr hunangynhwysol.
Mae'r rhaglen yn seiliedig ar ddarlithoedd a gwaith labordy gan elwa ar fodiwlau a addysgir sydd yn cwmpasu meysydd megis Bioleg Cellog a Moleciwlaidd a Chelloedd Bonyn a Meddygaeth Adfywiol ac sydd yn arwain at brosiect ymchwil 5 mis ymarferol. Mae hefyd yn cynnwys sawl cyfle i ymweld â lleoliadau clinigol perthnasol a phartneriaid diwydiannol lleol.
Mae’r myfyrwyr yn cael eu haddysgu gan academyddion o bob rhan o Ysgol y Biowyddorau, yr Ysgol Deintyddiaeth, yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg a’r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol.O ganlyniad, byddwch yn astudio o fewn cymuned amlddisgyblaethol gydag arbenigedd academaidd, ymchwil a chlinigol rhyngwladol rhagorol nad ydyw ar gael mewn nifer o sefydliadau eraill.
Lleolir y Rhaglen yn Ysbyty Athrofaol Cymru (y 3ydd ysbyty athrofaol mwyaf yn y DU) lle byddwch yn datblygu sgiliau labordy technegol a derbyn nifer o gyfleoedd i ymestyn eich sgiliau cyfathrebu a chyflwyno, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Byddwch yn caffael nifer o sgiliau penodol, megis y gallu i gasglu, dadansoddi a dehongli ystod o ddata meintiol ac ansoddol cymhleth. Byddwch hefyd yn datblygu nifer o sgiliau gwerthfawr sydd yn seiliedig ar ymchwil labordy drwy gwblhau prosiect ymchwil 5 mis o'ch dewis* a fydd yn cael ei gyflwyno fel poster.
Bydd gan raddedigion o'r Rhaglen hon sbectrwm eang o wybodaeth ac amrywiaeth o sgiliau gan eu gwneud yn ddeniadol iawn i ddarpar gyflogwyr a sefydliadau ymchwil yn y sector hwn sydd yn datblygu'n gyflym.
*yn amodol ar statws goruchwyliwr.
Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno rhaglenni sy'n arloesol ac yn berthnasol, a chynnig y deilliannau dysgu a'r rhagolygon gyrfaol gorau i'n myfyrwyr. O gofio hyn, rydym yn adolygu rhai elfennau o'r rhaglen hon ar hyn o bryd. Felly, mae'r manylion yn rhai dangosol yn unig a gallent gael eu newid. Gallwch gyflwyno cais o hyd. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon ac yn cysylltu â'r holl ddeiliaid cynnig pan fydd yr adolygiad wedi'i gwblhau er mwyn cadarnhau unrhyw newidiadau.
Ble byddwch yn astudio
Ysgol Deintyddiaeth
Ni yw'r unig Ysgol Deintyddiaeth yng Nghymru, ac rydym yn darparu arweiniad unigryw a phwysig ym meysydd ymchwil deintyddol, addysgu a gofal cleifion.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc perthnasol fel Biobeirianneg, Bioleg, Deintyddiaeth, Gwyddorau Bywyd, Peirianneg Feddygol, neu Feddygaeth, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arf. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
- Dau gyfeiriad academaidd neu broffesiynol/cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio sy'n dangos eich addasrwydd ar gyfer y rhaglen.
- Datganiad personol sy'n amlinellu eich rhesymau dros wneud cais i'r rhaglen a sut mae eich profiad academaidd, eich sgiliau neu'ch nodau tymor hir yn eich gwneud yn ymgeisydd delfrydol ar gyfer y rhaglen.
- CV cyfredol sy'n cynnwys eich hanes academaidd a gwaith llawn.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Y dyddiad cau yw 30 Mehefin 2024. Os byddwch yn cyflwyno cais ar ôl y dyddiad hwn, byddwn ond yn ei ystyried os oes lleoedd ar gael o hyd.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os byddwch yn bodloni'r gofynion mynediad, byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad. Yn dilyn cyfweliad, bydd cynigion yn cael eu gwneud i'r ymgeiswyr sydd â'r sgôr uchaf.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid oes gofyn i chi gwblhau gwiriad GDG (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) neu ddarparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys y canlynol (ymhlith eraill):
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer/dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffywiau
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae’r MSc Peirianneg Meinweoedd a Meddygaeth Adfywiol yn dechrau ym mis Medi bob blwyddyn gyda Cham 1, sef cydran 6 mis a addysgir.
Addysgir Cam 1 bron yn gyfan gwbl ar lefel addysgu grwpiau bach, ac ategir hynny gyda sesiynau labordy, gweithdai rhyngweithiol a thiwtorialau, yn ogystal ag ymweliadau â chlinigau ysbyty perthnasol a chwmnïau lleol sy'n ymwneud â chynhyrchu therapïau trwsio a pheirianneg meinweoedd. Asesir modiwlau drwy amrywiol aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau ac arholiadau ffurfiol.
Ar ôl cwblhau Cam 1, mae myfyrwyr yn ymgymryd â phrosiect ymchwil 5 mis, mewn labordy, rhwng Ebrill a Medi (Cam 2). Dewisir prosiectau gan fyfyrwyr o bynciau a gyflenwir gan oruchwylwyr academaidd. Mae prosiectau myfyrwyr blaenorol wedi bod mewn meysydd ymchwil fel bioleg bôn-gelloedd embryonig neu fesencymaidd; trwsio cartilagau, esgyrn, croen neu feinwe'r geg; ffibrosis; a bioddeunyddiau a chyflenwi cyffuriau. Mae Cam 2 yn arwain at gyflwyno Traethawd Hir MSc, yn seiliedig ar ganfyddiadau’r Prosiect MSc.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.
Mae'r MSc mewn Peirianneg Meinweoedd a Meddygaeth Adfywiol yn Rhaglen blwyddyn, llawn amser. Mae'r Rhaglen MSc yn dechrau ym mis Medi bob blwyddyn gyda Chyfnod 1, elfen 6 mis, a addysgir yn cynnwys pedwar Modiwl gorfodol.
Ar ôl cwblhau Cam 1, mae myfyrwyr yn ymgymryd â phrosiect ymchwil 5 mis, mewn labordy, rhwng Ebrill a Medi (Cam 2). Mae Cam 2 yn arwain at gyflwyno Traethawd MSc, yn seiliedig ar ganfyddiadau MSc y Prosiect.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Traethawd hir | DET003 | 60 credydau |
Bioleg Cellog a Moleciwlaidd | BIT001 | 30 credydau |
Peirianneg feinwe o'r cysyniad i ymarfer clinigol | DET002 | 30 credydau |
Dulliau Ymchwil | DET031 | 30 credydau |
Bôn-gelloedd, Meddygaeth Adfywiol a Dulliau Gwyddonol | DET068 | 30 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae’r addysgu’n cael ei ddarparu drwy ddarlithoedd, sesiynau labordy, gweithdai rhyngweithiol a thiwtorialau, yn ogystal ag ymweliadau â chlinigau ysbyty perthnasol, fel orthopedeg, arenneg a dermatoleg, a chwmnïau lleol sy'n ymwneud â chynhyrchu therapïau trwsio a pheirianneg meinweoedd.
Mae'r Rhaglen hon wedi'i lleoli yn yr Ysgol Deintyddiaeth ac fe'i haddysgir gan staff academaidd o bob rhan o Brifysgol Caerdydd a chan siaradwyr allanol.
Mae'r holl fodiwlau a addysgir yn y Rhaglen yn orfodol a disgwylir i fyfyrwyr fynd i'r holl ddarlithoedd, sesiynau labordy a sesiynau eraill sydd wedi'u hamserlennu. Bydd myfyrwyr yn cael eu goruchwylio i'w helpu i gwblhau'r traethawd hir, ond disgwylir iddyn nhw hefyd gymryd rhan mewn astudiaeth annibynnol sylweddol. Fel arfer, dewisir pynciau traethawd hir gan y myfyrwyr o restr o ddewisiadau a gynigir gan staff academaidd mewn meysydd sy'n berthnasol i'r MSc mewn Peirianneg Meinweoedd.
Sut y caf fy asesu?
Mae'r pedwar Modiwl a addysgir yn y Rhaglen yn cael eu hasesu drwy asesiadau mewnol y cwrs, gan gynnwys:
- Traethodau estynedig
- Cyflwyniadau llafar
- Cyflwyniadau poster
- Aseiniadau ystadegol
- Arfarniadau beirniadol
Traethawd hir (dim mwy nag 20,000 o eiriau).
Sut y caf fy nghefnogi?
Blackboard, lle bydd myfyrwyr yn dod o hyd i ddeunyddiau cwrs a dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig. Bydd myfyrwyr yn cael eu goruchwylio wrth iddyn nhw weithio ar eu traethawd hir. Bydd goruchwyliaeth yn cynnwys trefnu cyfarfodydd rheolaidd i drafod cynnydd, rhoi cyngor ac arweiniad; a darparu adborth ysgrifenedig ar gynnwys traethawd hir drafft.
Adborth
Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth ysgrifenedig ar bob asesiad, yn ogystal ag adborth llafar ar gyflwyniadau llafar/poster a asesir.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.
Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon i’w gweld isod:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Dealltwriaeth systematig o natur amlddisgyblaethol peirianneg meinweoedd a meddygaeth adfywiol a'r angen i integreiddio gwybodaeth o wahanol feysydd.
- Dealltwriaeth o'r newidiadau i gelloedd/meinweoedd sy'n digwydd yn ystod gwahanol gyflyrau clefydau ac wrth i bobl heneiddio.
- Gwybodaeth gynhwysfawr am egwyddorion craidd peirianneg meinweoedd a meddygaeth adfywiol.
- Dealltwriaeth o'r technegau ffisegol a biocemegol sydd ar gael ar gyfer asesu a datblygu cynhyrchion peirianneg meinweoedd a meddygaeth adfywiol at ddefnydd clinigol.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- Gwerthuso gwybodaeth yn feirniadol sydd ar flaen y gad mewn ystod o ddisgyblaethau, fel bioleg bôn-gelloedd, bioddeunyddiau a pheirianneg meinweoedd/organau.
- Defnyddio gwybodaeth a dulliau gwyddonol sy'n seiliedig ar dystiolaeth wrth asesu a datrys heriau ym maes peirianneg meinweoedd a meddygaeth adfywiol.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- Casglu, gwerthuso, cyfosod a dehongli data ansoddol a meintiol mewn amrywiaeth o ffyrdd; a nodi dulliau o gasglu data newydd pan fo angen.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Sgiliau dadansoddi
- Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £11,450 | £2,500 |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £27,450 | £2,500 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Nid oes unrhyw gostau ychwanegol y mae angen eu hystyried.
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol i astudio ar y rhaglen hon.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Ar ôl cwblhau'r MSc hwn yn llwyddiannus, dylech gael sbectrwm eang o wybodaeth ac amrywiaeth o sgiliau, gan eich gwneud yn ddeniadol iawn i ddarpar gyflogwyr a sefydliadau ymchwil.
Ers ei gyflwyno yn 2006, mae 95% o'n graddedigion MSc wedi symud ymlaen i lwybrau gyrfaol sy'n hynod berthnasol i beirianneg meinwe a meddygaeth adfywiol. Mae'r rhain yn cynnwys PhDs yng Nghaerdydd ac ym Mhrifysgolion eraill y DU, yr UE ac UDA, Meddygaeth Mynediad i Raddedigion, Hyfforddiant Cofrestrydd Arbenigol, Addysgu, a swyddi mewn lleoliadau Diwydiant a Labordai Clinigol.
Lleoliadau
Byddwch yn cael cyfle i fynychu ymlyniadau clinigol, mewn meysydd fel orthopedeg, arenneg a dermatoleg. At hynny, cewch gyfle hefyd i ymweld â chwmnïau lleol sy'n ymwneud â chynhyrchu therapïau trwsio a pheirianneg meinweoedd at ddefnydd clinigol. Mae’r rhain yn cynnwys Cell Therapy Ltd., Reneuron plc, Biomonde Ltd., ac MBI Wales Ltd.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Biomedical sciences, Biosciences, Dentistry
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.