Ewch i’r prif gynnwys

Cadwraeth Gynaliadwy Adeiladau (MSc)

  • Hyd: 2 flynedd
  • Dull astudio: Rhan amser

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae cwrs achredig Sefydliad Gwarchod Adeiladau Hanesyddol (HBC) yn ceisio bod yn unigryw ymysg ysgolion ym Mhrydain mewn dwy ffordd:

academic-school

Achredwyd IHBC

Fel cwrs achrededig IHBC, mae'r cwrs yn galluogi ymgeiswyr â chymwysterau addas i gyflawni achrediad IHBC llawn mewn 2 yn hytrach na 5 mlynedd.

globe

Wedi'i alinio ag ICOMOS

Mae dilysiad y cwrs ar gyfer achrediad IHBC yn seiliedig ar ei aliniad â meini prawf addysg y Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd (ICOMOS). O'r herwydd, dylai myfyrwyr rhyngwladol allu hawlio cydnabyddiaeth broffesiynol debyg yn eu gwledydd cartref.

book

Llwybrau gyrfa newydd

Y tu hwnt i gynnig gradd Meistr achrededig IHBC, mae'r cwrs yn creu llwybrau gyrfa newydd trwy alluogi myfyrwyr i ddatblygu arbenigedd mewn perthynas â chadwraeth ynni a'r defnydd cynaliadwy o ddeunyddiau yng nghyd-destun adeiladau hanesyddol.

certificate

Mynediad at arbenigedd blaenllaw

Mae'r addysgu'n cynnwys cyfraniadau gan lawer o arbenigwyr gwahoddedig o ymarfer, diwydiant a'r byd academaidd, nifer o deithiau maes i safleoedd byw a thaith ddwys tridiau yn y pedwerydd modiwl.

star

Cael eich hachredu mewn Cadwraeth Adeiladau

Cynlluniwyd y rhaglen i baratoi myfyrwyr sy'n gwneud cais am achrediad cadwraeth gyda chyrff y DU fel AABC, RIBA a RICS ond hefyd gyda sefydliadau proffesiynol rhyngwladol y mae eu cynlluniau yn gofyn am astudiaethau achos sy'n cyd-fynd â meini prawf ICOMOS.

Wedi'i achredu gan y Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol (IHBC), mae'r cymhwyster meistr unigryw hwn yn mynd i'r afael â'r heriau cyfredol a gydnabyddir ledled y byd.

Rydyn ni'n rhoi pwyslais ar rôl cynaliadwyedd yn y cyd-destun hanesyddol ar lefelau technegol a strategol. Drwy ddefnyddio ein harbenigedd sefydledig fel locws ymchwil ar gyfer dylunio cynaliadwy, mae'r cwrs yn mynd i'r afael â'r pryderon hyn, sydd wedi'u nodi'n rhyngwladol gan y Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd y DU (ICOMOS), fel cyfeiriad hollbwysig addysg cadwraeth ar gyfer y dyfodol.

Cynigir y cwrs ar sail amser llawn neu’n rhan amser ac mae'n denu myfyrwyr sy'n hanu o sawl cefndir, sy’n manteisio ar y cyfle i gyfnewid a datblygu eu harbenigedd.

Ar gyfer pwy mae'r rhaglen?

Mae wedi’i chynllunio ar gyfer graddedigion sydd eisiau dilyn gyrfa yn y maes hwn, sydd â gradd gyntaf mewn maes cysylltiedig fel Peirianneg, Cynllunio, Pensaernïaeth, Archaeoleg, Tirfesur neu Adeiladu. Mae croeso i bawb a chanddo brofiad cyfatebol ym meysydd adeiladu neu reoli treftadaeth, hefyd.

Mae cynfyfyrwyr wedi dod o gefndiroedd gan gynnwys Pensaernïaeth, Cynllunio, Tirfesur, Peirianneg, Rheoli Prosiectau, Adeiladu, Hanes, Archaeoleg a Chadwraeth Celfyddyd Gain. Mae llawer yn cael eu cyflogi mewn Awdurdodau Lleol neu Bractis Preifat, ac mae rhai yn rhedeg eu busnesau eu hunain fel contractwyr cadwraeth, rheolwyr prosiect neu benseiri. Mae gennym hefyd fyfyrwyr sydd wedi graddio’n ddiweddar. Mae amrywiaeth y sgiliau a'r profiad ymhlith y myfyrwyr yn allweddol i fywiogrwydd y drafodaeth, gan adlewyrchu natur gymhleth ymarfer yn y maes hwn.

Yn fyr, mae’r cwrs yn anelu at wneud y canlynol:

Ehangu eich cyfleoedd gyrfa drwy eich galluogi i arbenigo mewn cadwraeth sy'n arwain at achrediad proffesiynol.

Gwella eich arbenigedd presennol drwy ddatblygu sgiliau i fynnu ymatebion manwl a strategol i faterion cymhleth sy'n ymwneud â chadwraeth adeiladu yng nghyd-destun agenda gynaliadwy.

Sicrhau bod gennych chi’r wybodaeth hanfodol, ond eich bod hefyd yn gwybod lle i fynd i gael cyngor er mwyn cymryd cyfrifoldeb wrth wneud penderfyniadau rhesymegol o ran materion amlochrog cadwraeth.

Eich galluogi chi i ddefnyddio astudiaethau achos sy'n seiliedig ar brosiectau er mwyn datblygu dealltwriaeth glir o fframweithiau deddfwriaethol perthnasol.

Eich galluogi chi i benderfynu’n annibynnol ynghylch pa mor briodol yw ymatebion i’r amgylchedd adeiledig hanesyddol.

Achrediadau

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Ein nod yw gwneud y byd yn lle gwell gyda phensaernïaeth sy'n sensitif i'w gyd-destun, yn gynaliadwy a phrydferth.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4430
  • MarkerRhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NB

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd adeiledig hanesyddol fel archaeoleg, pensaernïaeth, cadwraeth, peirianneg, treftadaeth, hanes, pensaernïaeth tirwedd, cynllunio neu arolygu, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS. 
  3. Datganiad personol sy'n cynnwys eich rhesymau dros astudio'r rhaglen hon ac unrhyw brofiad gyda materion sy'n ymwneud â'r amgylchedd adeiledig hanesyddol a/neu gynaliadwyedd yn eich astudiaethau blaenorol neu yrfa broffesiynol.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin yn dilyn y cyfweliad, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os byddwch yn bodloni'r gofynion mynediad, byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad. Yn dilyn cyfweliad, bydd cynigion yn cael eu gwneud i'r ymgeiswyr sydd â'r sgôr uchaf.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Cynigir y rhaglen hon fel cwrs amser llawn a rhan-amser.

Darperir y modiwlau a addysgir dros chwe sesiwn deuddydd bob blwyddyn, felly mae’n denu ymgeiswyr rhan-amser sydd wedi’u cyflogi mewn practis amser llawn.

Bydd myfyrwyr rhan-amser yn cwblhau tri modiwl a addysgir (h.y. 60 credyd) yn y flwyddyn gyntaf a dau fodiwl a addysgir yn yr ail flwyddyn, a bydd un o’r rhain yn fodiwl dwbl. Dilynir hyn gan draethawd hir, gyda myfyrwyr rhan-amser yn cael tan fis Rhagfyr i’w gyflwyno.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.

Blwyddyn un

Bydd myfyrwyr rhan-amser yn cwblhau tri modiwl (h.y. 60 credyd) yn y flwyddyn gyntaf.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Rôl y GwarchodwrART50120 credydau
Offer DehongliART50220 credydau
Defnydd o ynni mewn adeiladau hanesyddolART50320 credydau

Blwyddyn dau

Bydd myfyrwyr rhan-amser yn cwblhau dau fodiwl yn yr ail flwyddyn. Bydd ganddynt hyd at y mis Rhagfyr canlynol i gyflwyno eu traethawd estynedig.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae'r deunydd a addysgir yn cael ei ddarparu'n bennaf gan amrywiaeth o siaradwyr gwadd a ddewiswyd yn arbennig, gyda phob un yn uchel ei fri yn ei faes penodol. Dilynir cyflwyniad y siaradwr gan ddadl a thrafodaeth fywiog â'r grŵp, ar ffurf seminar, i roi'r cyfle i ddysgu o amrywiaeth o safbwyntiau. Rydyn ni’n cynnal llawer o ymweliadau safle yn ystod y rhaglen, gan weld prosiectau byw ac ymgysylltu ag ymarferwyr, cleientiaid ac awdurdodau statudol.

Adnoddau a Chyfleusterau:

Mae gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru enw da mewn ymchwil dylunio cynaliadwy sy'n bwynt cyfeirio yn y rhaglen. Mae gan yr Ysgol ei sganiwr laser ei hun ac mae'r myfyrwyr i gyd yn cael eu cyflwyno i ddulliau dogfennaeth ddigidol gan gynnwys technegau sganio laser daearol a strwythur-o-symud. Cyflwynir sgiliau meddalwedd hefyd, gan gynnwys egwyddorion modelu hygrothermol a modelu defnydd ynni. Os oes gan fyfyrwyr ddiddordeb, gellir eu cefnogi i astudio technegau monitro ymhellach. Rydyn ni’n cyflwyno myfyrwyr i ddulliau ymchwil archifol ym Mhrifysgol Caerdydd ac mewn archifau cyhoeddus.

Sut y caf fy asesu?

Mae pob darn o waith neu adroddiad yn cael ei asesu yn ystod cam amlinellol a cham cwblhau, gydag adborth yn cael ei roi i lywio cyflwyniadau yn y dyfodol. Nid oes unrhyw brofion dosbarth nac arholiadau yn ystod y rhaglen. Fodd bynnag, mae'n ofynnol i fyfyrwyr gyflwyno gwaith ysgrifenedig a gwaith prosiect ar amser a gallu cyflwyno eu gwaith ar lafar i'r grŵp ar adegau hefyd.

Mae briffiau'r cwrs wedi'u cynllunio i alluogi myfyrwyr o wahanol gefndiroedd i ddilyn llwybrau sy'n berthnasol i'w dilyniant gyrfaol presennol neu a ddewiswyd.

Mae pob modiwl 20 credyd llawn yn cael ei asesu drwy gyfuniad o aseiniadau ysgrifenedig (tua 4,000 o eiriau yr un) a chyflwyniadau. Asesir y modiwl ART 504 40 credyd ar Astudiaethau Achos a Gwaith Rhanbarthol ar ffurf ffeil 4000 o eiriau a chyflwyniad terfynol ac adroddiad 4000 o eiriau. Mae'r traethawd hir 60 credyd yn 20,000 o eiriau ac anogir myfyrwyr yn gryf i ddilyn a datblygu eu diddordebau unigryw eu hunain wrth ddewis eu pwnc yma.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae tiwtor personol yn cael ei neilltuo i bob un o'n myfyrwyr pan fyddan nhw’n cofrestru ar y cwrs. Mae tiwtor personol yno i'ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau, a gall roi cyngor i chi ar faterion academaidd a phersonol a all fod yn effeithio arnoch. Dylech gael cyfarfodydd rheolaidd â’ch tiwtor personol er mwyn sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth lawn.

Bydd gennych fynediad i'r Llyfrgell Pensaernïaeth, yn ogystal â deunyddiau yn Llyfrgelloedd eraill Prifysgol Caerdydd.

Rydyn ni hefyd yn cefnogi myfyrwyr trwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, lle gallwch ofyn cwestiynau mewn fforwm neu ddod o hyd i ddogfennau cysylltiedig â’r cwrs

Rydyn ni’n annog ein holl fyfyrwyr ôl-raddedig i ddatblygu’n bersonol. Ar ddechrau'r cwrs byddwn yn eich cyflwyno i'r cyfleoedd sydd ar gael i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol, ac unwaith eto yn ystod camau pwysig yn y cwrs.

Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth sy'n agored i'n myfyrwyr, fel Canolfan y Graddedigion, cwnsela a llesiant, cynghorwyr ariannol a gyrfaoedd, y swyddfa ryngwladol ac Undeb y Myfyrwyr.

Adborth

Rydyn ni’n cynnig adborth ysgrifenedig ac adborth llafar, yn dibynnu ar y gwaith cwrs neu'r asesiad rydych wedi'i wneud. Fel arfer, byddwch yn derbyn eich adborth gan arweinydd y modiwl. Os oes gennych gwestiynau am eich adborth, mae arweinwyr modiwlau fel arfer yn hapus i roi cyngor ac arweiniad i chi ar eich cynnydd.

Adborth Ffurfiannol

Mae’n cael ei roi ar gyfer pob darn o waith a gyflwynir mwyn eich helpu i sicrhau bod eich gwaith terfynol o’r safon orau bosibl.

Adborth Crynodol

Mae’n cael ei roi ar gyfer pob modiwl gyda sylwadau a graddau

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Ar ôl cwblhau'r chwe modiwl yn foddhaol byddwch:

  • Yn gallu ehangu cwmpas ac ystod y gwaith proffesiynol y gallwch ei wneud yn gyflym, gan gynyddu eich potensial i ennill ffi ac ehangu eu cynaliadwyedd economaidd yn y farchnad.
  • Yn gallu dilyn dull cadwraeth integredig o ymdrin â newid yn yr hinsawdd a'r agenda carbon isel. Yn hyn o beth, bydd gan raddedigion y rhaglen gymhwyster unigryw.
  • Yn gymwys i wella eich rhagolygon ar gyfer achrediad Cadwraeth Adeiladu fel yr amlinellir yn yr adran ""Nodweddion Unigryw"".
  • Wedi datblygu gwybodaeth ymarferol a dealltwriaeth ddamcaniaethol o gadwraeth adeiladu mewn termau deddfwriaethol, technegol a chyfannol a fydd yn eich galluogi i fynd i'r afael â phrosiectau perthnasol gydag ymreolaeth ac yn effeithiol.

Beth yw deilliannau dysgu’r cwrs/rhaglen?:

Cyfeiriwch at ddisgrifiadau'r modiwl

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r chwe modiwl yn foddhaol byddwch:

  • Yn gallu cydbwyso a mynegi, mewn termau ymarferol a chysyniadol, amgylchiadau newid a gwerthoedd yr amgylchedd ffisegol a ffurfio strategaethau effeithiol i fynd i'r afael â phroblemau o'r fath.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan IHBC, felly bydd modd i ymgeisydd a chanddo gymwysterau addas ennill achrediad cyflawn IHBC cyn pen dwy flynedd yn hytrach na phum mlynedd. Os bydd penseiri sydd wedi cofrestru â RIBA ac ARB yn cwblhau’r cwrs sydd wedi’i gymeradwyo gan RIBA, byddan nhw’n gallu cofrestru ar y ""Gofrestr Gadwraeth"" ar unwaith. Ar gyfer penseiri sydd wedi cofrestru ag ARB/RIBA, mae'n lleihau nifer y blynyddoedd o ymarfer sy'n ofynnol iddyn nhw fod â hawl i fod yn ""Bensaer Cadwraeth Arbenigol"" i 4 blynedd (o 5) a 2 flynedd (o 3) ar gyfer ""Pensaer Cadwraeth"".

Mae dilysiad y cwrs ar gyfer achrediad IHBC yn seiliedig arno’n bod yn gydnaws â meini prawf addysg y Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd (ICOMOS). O'r herwydd, dylai myfyrwyr rhyngwladol allu hawlio cydnabyddiaeth broffesiynol debyg yn eu gwledydd cartref.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Mae ein myfyrwyr wedi mynd ymlaen i gael eu cyflogi gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr Arolygiaeth Gynllunio, i gael dyrchafiad mewn awdurdodau lleol ac i sefydlu is-adrannau newydd yn eu cwmnïau a’u busnesau.

Millena Moreira Fontes, MSc Sustainable Building Conservation
I was able to study the MSc in Sustainable Building Conservation after receiving a scholarship from Chevening and Cardiff University Partnership. The course is the perfect balance between practice and theory. Every lecture was with a different professional from diverse fields, enriching our debates and adding a multidisciplinary approach within the architectural and heritage world. The study trips and workshops contributed to my hands-on experience but also made me realise how Wales is astonishing and rich in terms of heritage, castles, and culture. Cardiff is a welcoming city with lovely people and food from every corner of the world.
Millena Moreira Fontes, MSc Sustainable Building Conservation

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Costau ychwanegol

Bydd y Brifysgol yn talu unrhyw gostau ychwanegol sy'n hanfodol i chi basio'r rhaglen. Am y rheswm hwn byddwch yn cael dyraniad ariannol bach yn ôl y gofyn. Bydd manylion hyn yn cael eu darparu gan Arweinydd eich Rhaglen drwy gydol y flwyddyn academaidd.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Byddwn yn darparu unrhyw offer sy'n hanfodol i'r cwrs. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn dod â gliniadur gyda meddalwedd priodol (e.e. prosesu geiriau), USB neu yriant caled, deunydd ysgrifennu cyffredinol a thâp mesur. Byddwn yn darparu offer amddiffyn personol sylfaenol; fodd bynnag, efallai y byddai'n well gan fyfyrwyr ddod â'u hetiau caled eu hunain, siacedi gwelededd uchel ac esgidiau amddiffynnol ar gyfer ymweliadau â safleoedd.

Yn ystod y cwrs, bydd gennych fynediad i'r Llyfrgell Bensaernïaeth arbenigol, a llyfrgelloedd eraill y Brifysgol, a mannau astudio ar draws y campws. Yn yr Ysgol, gallwch ddefnyddio ein hystafell gyfrifiadura a chyfleusterau eraill sy'n cynnwys sganiwr laser digidol. Bydd meddalwedd delweddu strwythur o symudiad a modelu hygrothermol ar gael ar eich cyfer hefyd.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Ar gyfer eu traethodau hir, mae tri o'n graddedigion wedi ennill gwobr IHBC Gus Astley ac mae un hefyd wedi bod yn ysgolhaig yng Nghymdeithas Technoleg Cadwraeth Rhyngwladol Gogledd America.

Mae ein graddedigion wedi mynd yn eu blaenau i drawsnewid eu harferion proffesiynol, ennill ysgoloriaethau PhD a ariennir, ymgymryd â rolau uwch-reolwyr yn asiantaethau treftadaeth y llywodraeth mewn tri chyfandir, bod yn gynghorwyr arbenigol yn yr Arolygiaeth Gynllunio ac wedi mabwysiadu rolau uwch mewn nifer o awdurdodau lleol a chyrff anllywodraethol gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Lleoliadau

Ni chynigir lleoliadau drwy'r cwrs. Fodd bynnag, caiff cyfleoedd gwaith perthnasol eu dosbarthu pan fydd cyfleoedd o’r fath yn codi.

‘My course at the Welsh School of Architecture offered a unique opportunity to study conservation and sustainability within a practical design context, and I am indebted to Dr Oriel Prizeman for her continued support and encouragement. In my last year at Cardiff I was fortunate to be offered a fully funded EPSRC PhD research post – a rare opportunity to extend my studies in the conservation of coastal heritage.I am delighted to be awarded the Gus Astley Prize for 2016, and delighted to have the opportunity to attend the Annual School in 2017. My thanks to the IHBC for their generous award’.
Hilary Wyatt, PhD Researcher at Cardiff

Gwaith maes

There are numerous site visits in the UK throughout the course giving tangible access to live issues at heritage sites in the UK. We undertake one 5 day study visit in the second year as part of the ART 504 Case Studies and Regional Work module.

Students on a fieldtrip in Rome.
Students on our 2-day intensive fieldtrip to Rome during which we meet with tutors from the second level International Masters in Architectural Restoration and Cultural Heritage at Roma TRE University..

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Pensaernïaeth, Cynaliadwyedd, Cadwraeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.