Cadwraeth Gynaliadwy Adeiladau (MSc)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn

Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Mae cwrs achredig Sefydliad Gwarchod Adeiladau Hanesyddol (HBC) yn ceisio bod yn unigryw ymysg ysgolion ym Mhrydain mewn dwy ffordd:
Achredwyd IHBC
Fel cwrs achrededig IHBC, mae'r cwrs yn galluogi ymgeiswyr â chymwysterau addas i gyflawni achrediad IHBC llawn mewn 2 yn hytrach na 5 mlynedd.
Wedi'i alinio ag ICOMOS
Mae dilysiad y cwrs ar gyfer achrediad IHBC yn seiliedig ar ei aliniad â meini prawf addysg y Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd (ICOMOS). O'r herwydd, dylai myfyrwyr rhyngwladol allu hawlio cydnabyddiaeth broffesiynol debyg yn eu gwledydd cartref.
Llwybrau gyrfa newydd
Y tu hwnt i gynnig gradd Meistr achrededig IHBC, mae'r cwrs yn creu llwybrau gyrfa newydd trwy alluogi myfyrwyr i ddatblygu arbenigedd mewn perthynas â chadwraeth ynni a'r defnydd cynaliadwy o ddeunyddiau yng nghyd-destun adeiladau hanesyddol.
Mynediad at arbenigedd blaenllaw
Mae'r addysgu'n cynnwys cyfraniadau gan lawer o arbenigwyr gwahoddedig o ymarfer, diwydiant a'r byd academaidd, nifer o deithiau maes i safleoedd byw a thaith ddwys tridiau yn y pedwerydd modiwl.
Cael eich hachredu mewn Cadwraeth Adeiladau
Cynlluniwyd y rhaglen i baratoi myfyrwyr sy'n gwneud cais am achrediad cadwraeth gyda chyrff y DU fel AABC, RIBA a RICS ond hefyd gyda sefydliadau proffesiynol rhyngwladol y mae eu cynlluniau yn gofyn am astudiaethau achos sy'n cyd-fynd â meini prawf ICOMOS.
Wedi'i achredu gan y Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol (IHBC), mae'r cymhwyster meistr unigryw hwn yn mynd i'r afael â'r heriau cyfredol a gydnabyddir ledled y byd.
Rydyn ni'n rhoi pwyslais ar rôl cynaliadwyedd yn y cyd-destun hanesyddol ar lefelau technegol a strategol. Drwy ddefnyddio ein harbenigedd sefydledig fel locws ymchwil ar gyfer dylunio cynaliadwy, mae'r cwrs yn mynd i'r afael â'r pryderon hyn, sydd wedi'u nodi'n rhyngwladol gan y Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd y DU (ICOMOS), fel cyfeiriad hollbwysig addysg cadwraeth ar gyfer y dyfodol.
Cynigir y cwrs ar sail amser llawn neu’n rhan amser ac mae'n denu myfyrwyr sy'n hanu o sawl cefndir, sy’n manteisio ar y cyfle i gyfnewid a datblygu eu harbenigedd.
Ar gyfer pwy mae’r rhaglen?
Mae wedi’i chynllunio ar gyfer graddedigion sydd eisiau dilyn gyrfa yn y maes hwn, sydd â gradd gyntaf mewn maes cysylltiedig fel Peirianneg, Cynllunio, Pensaernïaeth, Archaeoleg, Tirfesur neu Adeiladu. Mae croeso i bawb a chanddo brofiad cyfatebol ym meysydd adeiladu neu reoli treftadaeth, hefyd.
Mae cynfyfyrwyr wedi dod o gefndiroedd gan gynnwys Pensaernïaeth, Cynllunio, Tirfesur, Peirianneg, Rheoli Prosiectau, Adeiladu, Hanes, Archaeoleg a Chadwraeth Celfyddyd Gain. Mae llawer yn cael eu cyflogi mewn Awdurdodau Lleol neu Bractis Preifat; mae rhai yn rhedeg eu busnesau eu hunain fel contractwyr cadwraeth, rheolwyr prosiect neu benseiri. Mae gennym hefyd fyfyrwyr sydd wedi graddio’n ddiweddar. Mae amrywiaeth y sgiliau a'r profiad ymhlith y myfyrwyr yn allweddol i fywiogrwydd y drafodaeth, gan adlewyrchu natur gymhleth ymarfer yn y maes hwn.
Yn fyr, mae’r cwrs yn anelu at wneud y canlynol:
- Ehangu eich cyfleoedd gyrfa drwy eich galluogi i arbenigo mewn cadwraeth sy'n arwain at achrediad proffesiynol.
- Gwella eich arbenigedd presennol drwy ddatblygu sgiliau i fynnu ymatebion manwl a strategol i faterion cymhleth sy'n ymwneud â chadwraeth adeiladu yng nghyd-destun agenda gynaliadwy.
- Sicrhau bod gennych chi’r wybodaeth hanfodol, ond eich bod hefyd yn gwybod lle i fynd i gael cyngor er mwyn cymryd cyfrifoldeb wrth wneud penderfyniadau rhesymegol o ran materion amlochrog cadwraeth.
- Eich galluogi chi i ddefnyddio astudiaethau achos sy'n seiliedig ar brosiectau er mwyn datblygu dealltwriaeth glir o fframweithiau deddfwriaethol perthnasol.
- Eich galluogi chi i benderfynu’n annibynnol ynghylch pa mor briodol yw ymatebion i’r amgylchedd adeiledig hanesyddol.
Achrediadau
Ble byddwch yn astudio
Ysgol Pensaernïaeth Cymru
Ein nod yw gwneud y byd yn lle gwell gyda phensaernïaeth sy'n sensitif i'w gyd-destun, yn gynaliadwy a phrydferth.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd adeiledig hanesyddol fel archaeoleg, pensaernïaeth, cadwraeth, peirianneg, treftadaeth, hanes, pensaernïaeth tirwedd, cynllunio neu arolygu, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
- Datganiad personol sy'n cynnwys eich rhesymau dros astudio'r rhaglen hon ac unrhyw brofiad gyda materion sy'n ymwneud â'r amgylchedd adeiledig hanesyddol a/neu gynaliadwyedd yn eich astudiaethau blaenorol neu yrfa broffesiynol.
Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin yn dilyn y cyfweliad, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os byddwch yn bodloni'r gofynion mynediad, byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad. Yn dilyn cyfweliad, bydd cynigion yn cael eu gwneud i'r ymgeiswyr sydd â'r sgôr uchaf.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrion
- Rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau ychwanegol
Bydd y Brifysgol yn talu unrhyw gostau ychwanegol sy'n hanfodol i chi basio'r rhaglen. Am y rheswm hwn byddwch yn cael dyraniad ariannol bach ar gyfer creu modelau ac ar gyfer ymweliadau astudio, yn ôl y gofyn. Bydd manylion hyn yn cael eu darparu gan Arweinydd eich Rhaglen drwy gydol y flwyddyn academaidd.
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Byddwn yn darparu unrhyw offer sy'n hanfodol i'r cwrs. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn dod â gliniadur gyda meddalwedd priodol (e.e. prosesu geiriau), USB neu yriant caled, deunydd ysgrifennu cyffredinol a thâp mesur. Byddwn yn darparu offer amddiffyn personol sylfaenol; fodd bynnag, efallai y byddai'n well gan fyfyrwyr ddod â'u hetiau caled eu hunain, siacedi gwelededd uchel ac esgidiau amddiffynnol ar gyfer ymweliadau â safleoedd.
Yn ystod y cwrs, bydd gennych fynediad i'r Llyfrgell Bensaernïaeth arbenigol, a llyfrgelloedd eraill y Brifysgol, a mannau astudio ar draws y campws. Yn yr Ysgol, gallwch ddefnyddio ein hystafell gyfrifiadura a chyfleusterau eraill sy'n cynnwys sganiwr laser digidol. Bydd meddalwedd delweddu strwythur o symudiad a modelu hygrothermol ar gael ar eich cyfer hefyd.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Ar gyfer eu traethodau hir, mae tri o'n graddedigion wedi ennill gwobr IHBC Gus Astley ac mae un hefyd wedi bod yn ysgolhaig yng Nghymdeithas Technoleg Cadwraeth Rhyngwladol Gogledd America.
Mae ein graddedigion wedi mynd yn eu blaenau i drawsnewid eu harferion proffesiynol, ennill ysgoloriaethau PhD a ariennir, ymgymryd â rolau uwch-reolwyr yn asiantaethau treftadaeth y llywodraeth mewn tri chyfandir, bod yn gynghorwyr arbenigol yn yr Arolygiaeth Gynllunio ac wedi mabwysiadu rolau uwch mewn nifer o awdurdodau lleol a chyrff anllywodraethol gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Lleoliadau
Ni chynigir lleoliadau drwy'r cwrs. Fodd bynnag, caiff cyfleoedd gwaith perthnasol eu dosbarthu pan fydd cyfleoedd o’r fath yn codi.
‘My course at the Welsh School of Architecture offered a unique opportunity to study conservation and sustainability within a practical design context, and I am indebted to Dr Oriel Prizeman for her continued support and encouragement. In my last year at Cardiff I was fortunate to be offered a fully funded EPSRC PhD research post – a rare opportunity to extend my studies in the conservation of coastal heritage.I am delighted to be awarded the Gus Astley Prize for 2016, and delighted to have the opportunity to attend the Annual School in 2017. My thanks to the IHBC for their generous award’.
Gwaith maes
There are numerous site visits in the UK throughout the course giving tangible access to live issues at heritage sites in the UK. We undertake one 5-day study visit as part of the ART 504 Case Studies and Regional Work module.

Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Pensaernïaeth , Cynaliadwyedd, Cadwraeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.