Ewch i’r prif gynnwys

Cynllunio Cynaliadwyedd a Pholisi Amgylcheddol (MSc)

  • Hyd: 2 flynedd
  • Dull astudio: Rhan amser

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Video providing details on MSc Sustainability, Planning and Environmental Policy. School of Geography and Planning.

Mae’r MSc hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau cymhwysol a dysgu beirniadol ym maes cynaliadwyedd cyfoes.

briefcase

Cydnabyddiaeth broffesiynol

Wedi’i hachredu gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI).

structure

Cydbwysedd rhwng theori, polisi ac arfer

Cyfle i gysylltu dadleuon damcaniaethol am gynaliadwyedd ar wahanol raddfeydd gofodol, gydag ystyriaethau ymarferol creu a gweithredu polisi.

globe

Dilynwch eich diddordebau

Y cyfle i ganolbwyntio ar broblemau amgylcheddol a pholisi amgylcheddol mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys cynllunio, bwyd/amaethyddiaeth, trafnidiaeth a thai.

tick

Sgiliau trosglwyddadwy

Datblygu sgiliau ymchwil sy'n berthnasol i gynaliadwyedd sy'n ddelfrydol ar gyfer cynnydd academaidd neu arfer proffesiynol.

Datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o theori, egwyddorion ac arferion cynaliadwyedd a chael eich grymuso i wella a dylanwadu ar atebion polisi a chynllunio ar gyfer yr heriau amgylcheddol a chynaliadwyedd y mae’r llywodraeth, cyrff rheoleiddio a busnes yn eu hwynebu.

Mae ein MSc mewn Cynaliadwyedd, Cynllunio a Pholisi Amgylcheddol (wedi'i achredu gan RICS ac wedi'i achredu'n rhannol gan RTPI), yn mynd i'r afael â thri dimensiwn allweddol a fydd yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i chi gyfrannu at ddatblygu polisi yn y dyfodol ac yn helpu i fynd i'r afael â materion amgylcheddol a chynaliadwyedd sensitif. Byddwn yn ystyried:

  • Egwyddorion a phroses - gofyn sut gall polisïau gyflawni datblygu mwy cynaliadwy, neu beidio.
  • Astudiaethau sector adnoddau - dadansoddiad cymharol a manwl o faterion cynaliadwyedd mewn sectorau economaidd allweddol (gan gynnwys bwyd, trafnidiaeth, ynni adnewyddadwy a thai).
  • Hyfforddiant ymchwil - yn eich helpu i ddatblygu sgiliau ymchwil sy'n berthnasol i gynaliadwyedd sy'n ddelfrydol ar gyfer dilyniant academaidd, ac ymarfer proffesiynol.

Byddwch yn elwa o addysgu sy'n cysylltu dadleuon damcaniaethol am gynaliadwyedd ar wahanol raddfeydd gofodol, wedi'u llywio gan yr ymchwil gwyddor gymdeithasol ddiweddaraf ynghylch problemau amgylcheddol, gyda dimensiynau ymarferol llunio a gweithredu polisïau. Rhoddir sylw arbennig i'r system gynllunio gan ei bod yn un o'r mecanweithiau cyfoes mwyaf soffistigedig ar gyfer rheoleiddio newid amgylcheddol.

Achrediadau

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Ymunwch â ni wrth i ni archwilio a mynd i'r afael â'r heriau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd, datblygiad ac amgylcheddol sy'n effeithio ar ble a sut yr ydym ni'n byw.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4022
  • MarkerRhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WA

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc perthnasol fel economeg, daearyddiaeth, gwleidyddiaeth a chymdeithaseg, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhaid i'ch cyflogwr ddarparu geirda i ddangos eich bod yn gweithio mewn maes sy'n berthnasol i'r rhaglen ar hyn o bryd. Dylai hyn gael ei lofnodi, ei ddyddio a'i fod yn llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais. 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r cwrs hwn yn cael ei gynnig mewn modd amser llawn am flwyddyn, gan arwain at ddyfarnu MSc mewn Cynaliadwyedd, Cynllunio a Pholisi Amgylcheddol. Mae Diploma yn cael ei ddyfarnu i fyfyrwyr sy'n cwblhau'r rhan a addysgir o'r Rhaglen yn llwyddiannus, ond nad ydyn nhw’n dymuno ymgymryd â thraethawd hir.

Mae wedi'i rhannu'n ddwy ran:

  • Mae rhan un yn cynnwys rhaglen addysgu o fodiwlau craidd a dewisol dros ddau semester.
  • Mae rhan dau yn cynnwys traethawd hir unigol ar bwnc y byddwch yn ei ddewis mewn ymgynghoriad ag aelodau o staff. Er bod rhywfaint o gyfyngiadau o ran y pwnc y gellir ei ddewis, rhaid iddo fynd i'r afael â themâu craidd y cwrs, sef cynaliadwyedd, polisi amgylcheddol a chynllunio.

Mae modiwlau'r cwrs yn mynd i’r afael â thri dimensiwn allweddol:

  • Egwyddorion a phrosesau - sut gall polisïau gyflawni datblygu mwy cynaliadwy, neu beidio.
  • Astudiaethau sector adnoddau - dadansoddiad cymharol a manwl o faterion cynaliadwyedd mewn sectorau economaidd allweddol (gan gynnwys bwyd, trafnidiaeth a thai).
  • Hyfforddiant ymchwil - datblygu sgiliau ymchwil cynaliadwyedd a chynllunio.

Bydd gofyn i chi gymryd gwerth 120 credyd o fodiwlau a addysgir i gyd, yn ogystal â'r traethawd hir sy'n werth 60 credyd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.

Blwyddyn un

Blwyddyn dau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy asesu?

Mae'r dulliau asesu yn cynnwys:

  • Arholiadau
  • Traethodau
  • Adroddiadau
  • gwaith prosiect
  • cyflwyniadau llafar.

Mae arholiadau ysgrifenedig yn cael eu defnyddio i brofi eich dealltwriaeth o fframweithiau polisi amgylcheddol allweddol, gwybodaeth am gyfraith sylwedd a'r gallu i lunio dadleuon cyfreithiol.

Bydd traethodau ac adroddiadau yn caniatáu i chi ddefnyddio gwybodaeth a geir yn ystod y modiwlau mewn darnau o waith gwerthuso polisi neu ddatblygu cynaliadwy ar waith.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd gennych fynediad at amrywiaeth o gyfleusterau ac adnoddau, gan gynnwys:

  • Labordy 40 cyfrifiadur pwrpasol gyda pherifferolion o safon uchel gan gynnwys; argraffu laser ar gyfrif rhwydwaith, argraffu lliw fformat mawr, argraffu lliw maint A4.

  • Cyfleusterau GIS/gweithfan/mynediad at gyfleuster mapio digidol digimap Edina.

  • Labordy 30 cyfrifiadur mynediad agored ychwanegol yn Adeilad Morgannwg.

  • Llyfrgell ragorol ar gyfer y maes Cynllunio, sy’n cynnwys tua 12,000 o lyfrau, 280 o gyfnodolion a gwariant sylweddol ar stoc bob blwyddyn.

  • Mynediad at gronfeydd data rhyngwladol ar-lein/cyfleusterau llyfrgelloedd cyfrifiadurol.

  • Mynediad at gyfleusterau adnoddau Dyslecsia.

  • Gallu defnyddio Dysgu Canolog ym mhob modiwl i gael gwybodaeth am fodiwlau ac adnoddau dysgu.

Byddwch yn cael cyfarfodydd rheolaidd â'ch tiwtor personol penodol i adolygu eich cynnydd.

Bydd cymorth iaith Saesneg ar gael os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf.

Bydd cymorth ar gael hefyd os ydych yn gweithio/cael eich asesu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Byddwn yn cefnogi datblygiad eich sgiliau proffesiynol yn ystod yr wythnos ymsefydlu drwy ddarparu hyfforddiant ar ddefnyddio cyfrifiaduron a sgiliau cyflwyno.

Adborth

Rhoddir adborth ffurfiannol mewn tiwtorialau, dosbarthiadau trafod a dosbarthiadau problemau yn ogystal â thrwy sylwadau ysgrifenedig unigol ar waith cwrs.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn ennill amrywiaeth o sgiliau wrth ddadansoddi a gwerthuso llenyddiaeth, polisi ac ymarfer yn feirniadol, wrth lunio a chyflwyno dadleuon ysgrifenedig, ac wrth gyflwyno gwaith ar lafar.

Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i sgiliau perthnasol o ran asesiad amgylcheddol prosiectau a pholisïau. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn ennill sgiliau mewn ystod o fethodolegau ymchwil amgylcheddol.

Fel un o raddedigion y rhaglen hon byddwch yn gallu:

  • Deall dimensiynau athronyddol, economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol datblygu cynaliadwy.
  • Bod yn effro i gryfderau a gwendidau'r cysyniad o ddatblygu cynaliadwy, yn enwedig gan fod y rhain yn berthnasol mewn sefyllfaoedd 'bywyd go iawn'.
  • Dehongli datblygiadau cyfoes wrth gynllunio drwy ddealltwriaeth ddamcaniaethol ehangach o newid amgylcheddol a gwleidyddol economaidd-gymdeithasol.
  • Datblygu dealltwriaeth fanwl a beirniadol o bolisi amgylcheddol a phrosesau cynllunio amgylcheddol ar lefel fyd-eang, yn Ewrop ac yn enwedig yn y DU; a'r cysylltiadau rhwng polisi amgylcheddol a'r system cynllunio defnydd tir.
  • Ymgyfarwyddo â materion cynaliadwyedd mewn ystod o feysydd arbennig, gan gynnwys: asesu amgylcheddol, newid yn yr hinsawdd, trafnidiaeth a'r amgylchedd, cynaliadwyedd a'r system bwyd-amaeth, rheoli a rheoleiddio amgylcheddol, a rheoli amgylcheddol yn ymarferol.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae'r cwrs hwn yn cynnig y wybodaeth a'r arbenigedd ar gyfer datblygu gyrfa ymchwil, neu fanteisio ar broffesiynoli cynyddol swyddi amgylcheddol yn y sectorau preifat a chyhoeddus, gan gynnwys adrannau'r llywodraeth ac asiantaethau amgylcheddol; y sector busnes; ymgynghoriaeth, a sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Environmental science, Geography and planning, Sustainability


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.