Ewch i’r prif gynnwys

Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (MSc)

  • Hyd: 18 months
  • Dull astudio: Dysgu cyfunol llawn amser

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.


Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae Ymweliadau Iechyd yn rôl hynod werth chweil mewn nyrsio iechyd cyhoeddus lle gallwch gael effaith gadarnhaol a hirhoedlog ar les corfforol a meddyliol teulu yn ystod dyddiau cynharaf eu bywyd teuluol.

Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPHN) Mae bod yn Ymwelydd Iechyd yn yrfa broffesiynol gyffrous sydd ar flaen y gad ym maes iechyd y cyhoedd. Mae Ymwelwyr Iechyd mewn sefyllfa unigryw i gyrraedd plant a theuluoedd yn eu cartrefi eu hunain, gan feithrin perthnasoedd llawn ymddiriedaeth a all ddylanwadu'n gadarnhaol ar ganlyniadau iechyd yn y dyfodol. Dyluniwyd y rhaglen hon, sydd wedi’i chymeradwyo gan yr NMC, o amgylch safonau hyfedredd SCPHN yr NMC (2022) a bydd yn datblygu eich sgiliau i weithredu fel ymarferydd annibynnol cydnerth, gan nodi anghenion iechyd a rhoi ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar waith mewn partneriaeth â theuluoedd.

Ar ôl cwblhau ein rhaglen Ymwelwyr Iechyd yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i wneud cais i'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) i gofrestru ar ran tri o'r gofrestr ac yna ymarfer fel Ymwelydd Iechyd SCPHN cofrestredig. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd i weithio'n agos gyda sefydliadau iechyd cyhoeddus, edrych ar syniadau arloesol ynghylch hybu iechyd ac arwain gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac wedi'u llywio gan dystiolaeth. Yn ogystal, gweithio i amlygu a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, eirioli ar ran y rhai sy’n agored i niwed, a defnyddio ymagwedd tîm amlddisgyblaethol at ofal.

Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys Dogfen Asesu Ymarfer Cymru Gyfan a fydd yn cofnodi eich dysgu clinigol a’r hyfedredd clinigol rydych wedi’i gyflawni. Yn ogystal, bydd hyn yn rhoi cyfle i chi arddangos eich datblygiad clinigol.

Achrediadau

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Dyluniwyd ein cyrsiau er mwyn eich darparu gyda'r wybodaeth a'r profiad y bydd angen arnoch er mwyn dechrau dilyn gyrfa goal iechyd proffesiynol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44(0) 29 2068 7538
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif cymhwyster a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd neu ddiploma (120 credyd ar lefel 2) mewn maes pwnc perthnasol fel nyrsio neu fydwreigiaeth, neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 7.0 gydag o leiaf 7.0 mewn Gwrando, 7.0 mewn Darllen, 7.0 mewn Siarad, a 6.5 mewn Ysgrifennu, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudiwyd yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Geirda gan eich cyflogwr at dystiolaeth eich bod yn gweithio ar hyn o bryd mewn maes sy'n berthnasol i'r rhaglen. Dylid llofnodi geirda, dyddiad a llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais. 
  4. Eich rhif cofrestru corff proffesiynol sy'n dangos eich bod wedi'ch cofrestru ar naill ai rhan un neu ddau o gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar hyn o bryd.
  5. Tystiolaeth y byddwch yn cael eich cefnogi gan sefydliad cynnal priodol drwy gydol y cwrs i ddarparu elfen ymarfer y rhaglen, lle bo hynny'n briodol.
  6. Datganiad personol y mae'n rhaid iddo fynd i'r afael â'r pwyntiau canlynol:
  • Pam ydych chi wedi gwneud cais am y rhaglen hon?
  • Beth sydd o ddiddordeb i chi am y rhaglen hon? 
  • Unrhyw brofiad perthnasol sy'n gysylltiedig â chynnwys y rhaglen neu'r modiwl.
  • Sut rydych chi'n bwriadu defnyddio'r cymhwyster yn eich gyrfa.
  • Sut y byddwch chi a'ch proffesiwn yn elwa o'ch astudiaethau.
  • Pam rydych chi'n teimlo y dylid rhoi lle i chi ar y rhaglen. 

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Y dyddiad cau yw 28 Mehefin ar gyfer 2024 yn unig. Os byddwch yn cyflwyno cais ar ôl y dyddiad hwn, gellir ei ystyried ar gyfer y cymeriant nesaf sydd ar gael. 

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, gan gynnwys asesiad o addasrwydd drwy'r datganiad personol, fe'ch gwahoddir i fynychu cyfweliad a gynhelir gan staff academaidd y rhaglen a bwrdd iechyd ategol.

Cydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol
Gallwch wneud cais am gydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol (RPL) ar lefel 7 neu uwch o hyd at 60 credyd. Caiff RPL ei ystyried drwy fapio deilliannau dysgu modiwlau tebyg, fel y nodir yn safonau'r NMC (2023).
 
Os ydych yn bwriadu gwneud cais am gydnabyddiaeth ar gyfer dysgu blaenorol, bydd angen cyflwyno hyn gyda'ch cais am y rhaglen. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma.
 
Am fwy o wybodaeth am RPL, gweler y polisi RPL.

 

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Bydd gofyn i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) os yw eich cais yn llwyddiannus. Os ydych yn gwneud cais o wledydd penodol dramor, efallai y bydd angen Tystysgrif Ymddygiad Da.

Os oes gennych euogfarn droseddol berthnasol, bydd hyn yn cael ei nodi yn y siec a gallai effeithio ar eich gallu i gofrestru ar y cwrs. Dylai ymgeiswyr sydd ar y rhestr waharddedig fod yn ymwybodol bod gwneud cais am y cwrs hwn yn debygol o gael ei ystyried yn drosedd.

Strwythur y cwrs

Mae’r rhaglen Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol MSc yn para 18 mis.  Mae hyn yn cynnwys elfen 120 credyd a addysgir dros un flwyddyn academaidd, ynghyd â thraethawd hir 60 credyd dros chwe mis ychwanegol, gan roi cyfanswm o 180 credyd.  Mae chwe modiwl craidd yn y gydran a addysgir a thri modiwl dewisol i ddewis o’u plith gan gynnwys prosiect traethawd hir sy’n seiliedig ar waith, traethawd hir adolygiad systematig, neu ragnodi annibynnol. 

Mae profiadau yn ystod lleoliadau trwy gydol y rhaglen a fydd yn eich caniatáu i integreiddio theori ag ymarfer SCPHN gwirioneddol. Bydd aseswyr ymarfer a goruchwylwyr ymarfer profiadol yn hwyluso eich dysgu ar leoliad, a byddant yn eich cefnogi i gyflawni’r hyfedredd o fewn safonau hyfedredd yr NMC ar gyfer nyrs iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Blwyddyn un

Ym Mlwyddyn un byddwch yn dilyn chwe modiwl a gynlluniwyd i gynyddu eich gwybodaeth wrth i chi fynd yn eich blaen drwy'r rhaglen. Wrth i chi gwblhau'r rhain byddwch yn cwblhau ymarfer cydamserol a fydd yn eich galluogi i gymhwyso theori yn eich ymarfer mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn.

Yn semester yr hydref byddwch yn datblygu eich sgiliau academaidd ac yn cwblhau modiwl sy'n edrych ar hanfodion ehangach ymarfer cymunedol ac ymwelwyr iechyd.  Mae yna hefyd fodiwl iechyd y cyhoedd, sy'n cynnig cyfle i chi gymryd rhan yn dadleuon allweddol ynghylch diogelu a hybu iechyd ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang; gan felly eich galluogi i ddeall penderfynyddion iechyd, ymarfer iechyd y cyhoedd a sut y caiff ei gymhwyso i wella statws iechyd unigolion a chymunedau.

Yn semester y gwanwyn, byddwch yn cwblhau modiwl yn edrych ar rôl arweinyddiaeth ac ymchwil wrth ddatblygu ymarfer ymwelwyr iechyd SCPHN. Byddwch hefyd yn cwblhau modiwl pellach, gan ddatblygu eich sgiliau wrth asesu a gwneud penderfyniadau gyda chysyniadau ac egwyddorion asesu a chynllunio gofal mewn ymarfer ymwelwyr iechyd. Nod hyn yw eich paratoi i fod yn ymarferydd hynod fedrus ac annibynnol. Byddwch hefyd yn ymgymryd â modiwl sy'n edrych ar gymhlethdodau diogelu a gweithio gyda phlant a theuluoedd agored i niwed fel ymwelydd iechyd yng nghyd-destun gwaith rhyngasiantaethol a phartneriaethau.

Byddwn yn asesu dogfen asesu ymarfer Cymru Gyfan mewn modiwl nad yw'n cynnig credydau, sy'n rhedeg drwy gydol y flwyddyn gyntaf. Bydd eich asesydd ymarfer, eich goruchwylwyr ymarfer a’ch asesydd academaidd yn defnyddio’r ddogfen hon i asesu eich ymarfer clinigol.

Caiff 120 credyd academaidd a PGDip Nyrsio Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol eu dyfarnu i chi os byddwch chi’n llwyddo i gwblhau holl fodiwlau craidd blwyddyn un. Bydd hyn yn eich gwneud yn gymwys i gofnodi eich cymhwyster fel ymwelydd iechyd SCPHN ar drydedd rhan cofrestr yr NMC. 

Blwyddyn dau

Bydd llwyddo i gwblhau'r Diploma Ôl-raddedig mewn ymweliadau iechyd SCPHN ym mlwyddyn un yn rhoi'r opsiwn i chi ddewis un o'r modiwlau 60 credyd dewisol lefel 7. Ymhlith y rhain mae’r canlynol:

 

  • Traethawd hir prosiect seiliedig ar waith.
  • Traethawd hir adolygiad systematig.

 

Yn gyswllt a’r modiwl 60 credyd hwn mae yna gontract dysgu traethawd hir nad yw'n dwyn credyd, sy'n eich galluogi i ddangos eich bod yn parhau i gymhwyso dysgu i ymarfer SCPHN.

Mae cwblhau'r 60 credyd ychwanegol hwn a’r traethawd hir yn arwain at ddyfarnu MSc Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol a byddwch yn gymwys i gofnodi eich cymhwyster wedi'i gofnodi ar drydedd ran y gofrestr CNB (os na wnaethoch adael a chofrestru ar adeg cwblhau Diploma Ôl Raddedig).

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae dulliau addysgu ar y rhaglen yn dilyn model dysgu cyfunol, lle defnyddir dulliau addysgu lluosog i ddarparu ar gyfer gwahanol arddulliau dysgu, tra hefyd yn defnyddio dulliau priodol i gyflwyno deunydd perthnasol mewn ymarfer SCPHN. Mae hyn yn cynnwys defnyddio darlithoedd, seminarau, gweithdai, dysgu drwy ddatrys problemau, gweithdai sgiliau, a gwaith dadlau. Mae'r trafodaethau hyn ar ffurf gwaith ar y cyd rhwng myfyrwyr a hwyluswyr, neu waith grŵp rhwng cymheiriaid. Rydym hefyd yn defnyddio astudio dan gyfarwyddyd ac astudio hunan-gyfeiriedig gyda'r nod o ddatblygu eich galluoedd fel dysgwr gydol oes annibynnol  ymhellach. Fel y byddech yn disgwyl mewn astudiaethau ôl-raddedig, darperir rhag-ddarllen i'ch cynorthwyo i baratoi ar gyfer unrhyw sesiynau lle defnyddir trafodaeth grŵp, cyngor academaidd ar asesiadau neu ddadleuon. Er mwyn dysgu ar lefel ôl-radd mae angen i chi gymryd cyfrifoldeb dros eich dysg, a byddwn yn annog hyn trwy gydol y rhaglen.

 

Cyflwynir sesiynau addysgu gan dîm y rhaglen, gyda mewnbwn rheolaidd gan ymarferwyr SCPHN arbenigol a dysgu rhyngbroffesiynol gan y tîm amlddisgyblaethol. Mae defnyddwyr gwasanaeth hefyd yn cyfrannu at sesiynau addysgu, gan ddarparu persbectif manwl gan yr union bobl y mae ymwelwyr iechyd yn eu gwasanaethu.

Yn ogystal, ymgorfforir technoleg efelychu a rhith-realiti, gan eich galluogi i ddefnyddio'ch gwybodaeth mewn amgylchedd diogel wedi’i efelychu, gan ganiatáu i chi ddatblygu eich hyder a’ch cymhwysedd ar gyfer sefyllfaoedd yn y byd go iawn.

Sut y caf fy asesu?

Mae’r cwricwlwm yn cynnwys ystod amrywiol a chreadigol o strategaethau a dulliau asesu dilys, sy’n adlewyrchu dull gweithredu cynhwysol sy’n canolbwyntio ar y dysgwr ac sy’n gyson â deilliannau dysgu bwriadedig y rhaglen.

Cafodd yr asesiadau ffurfiannol ar gyfer pob modiwl eu teilwra i gynorthwyo wrth baratoi ar gyfer yr asesiad crynodol, gan gynnig cymorth i gyflawni canlyniadau asesu cadarnhaol. Mae pob asesiad ffurfiannol yn cynnig cyfleoedd am adborth gan eich cymheiriaid a staff academaidd.

Mae canllawiau ysgrifenedig a meini prawf asesu i gyd-fynd â phob asesiad sy'n cyfateb â chanlyniadau dysgu'r rhaglen a modiwlau unigol. Cynhelir pob arholiad wyneb yn wyneb ar ein campws ym Mharc y Mynydd Bychan.

Byddwch yn cael eich asesu’n grynodol yn y ffyrdd canlynol:

  • Traethodau
  • Prosiect ymchwil seiliedig ar dystiolaeth
  • Adnodd e-ddysgu
  • Cyflwyniadau llafar ar y campws 
  • Arholiad clinigol strwythuredig integredig (ISCE) ar y campws 
  • Archwiliad yn seiliedig ar ymarfer
  • Dogfen asesu ymarfer Cymru gyfan (PAD)

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwn yn neilltuo tiwtor personol i chi o dîm academaidd SCPHN, a byddwch yn cyfarfod yn rheolaidd â’r tiwtor drwy gydol y rhaglen i gefnogi eich datblygiad cyffredinol a rhoi cymorth bugeiliol personol i chi. Mae tiwtoriaid personol sy’n siarad Cymraeg ar gael os ydych chi’n ffafrio cael cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Byddwch yn ymgymryd â dysgu wrth ymarfer yn ychwanegol, lle byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm teiran sy'n cynnwys Asesydd Ymarfer iechyd gwadd SCPHN, Goruchwyliwr Ymarfer enwebedig, ac Asesydd Academaidd enwebedig.  Bydd y tîm hwn yn gweithio ar y cyd â chi i'ch galluogi i gyflawni gofynion y rhaglen ymarfer.

Byddwch hefyd yn aelod o Set Dysgu Gweithredol, sy'n cynnwys cymryd rhan mewn cyfres o drafodaethau myfyriol rhwng cymheiriaid yn ystod y rhaglen. Cefnogir y setiau hyn gan yr Aseswr Academaidd a'u nod yw eich galluogi i fynd i'r afael â materion ymarfer SCPHN go iawn gyda'ch cymheiriaid trwy drafodaethau myfyriol a datblygu eich sgiliau arwain. 

Mae pob modiwl yn y rhaglen yn gwneud defnydd helaeth o Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd Blackboard Ultra, lle byddwch chi'n dod o hyd i ddeunyddiau ar gyfer y cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig ac enghreifftiau o asesiadau. Cofnodir pob darlith wyneb yn wyneb trwy Panopto ac maent ar gael i chi edrych arnynt trwy gydol eich rhaglen.

Byddwch yn cael adborth llafar ac ysgrifenedig ar eich asesiadau ffurfiannol wrth i ni eich paratoi chi ar gyfer eich asesiad crynodol. Bydd adborth personol ar eich holl asesiadau crynodol yn cael ei ddarparu'n electronig trwy ein platfform dysgu rhithwir, sy'n ceisio galluogi eich datblygiad parhaus trwy gynnig adborth i lywio eich asesiadau yn y dyfodol.

Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cynnig ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i'ch cefnogi chi. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaeth cwnsela myfyrwyr, gwasanaeth cynghori myfyrwyr, cyfleusterau gofal dydd, a chyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff, yn ogystal â gwybodaeth am y campws a gwasanaethau llyfrgell a TG.

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y gall y brifysgol ei gynnig i chi ar y ddolen ganlynol:

Bywyd myfyrwyr – Astudio – Prifysgol Caerdydd

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n ei gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych..

Mae Deilliannau Dysgu'r Rhaglen hon i'w gweld isod:

O gwblhau’r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Gwybodaeth a dealltwriaeth:

  • Cymhwyso lefelau uwch o wybodaeth SCHPN yn feirniadol i atal afiechyd, diogelu iechyd a hybu lles gan roi ystyriaeth gynhwysfawr i ddylanwadau economaidd, nodau datblygu cynaliadwy, a fframweithiau deddfwriaethol, moesegol a rheoleiddiol.
  • Dangos dealltwriaeth gynhwysfawr o benderfynyddion iechyd cymdeithasol mewn ystod amrywiol o boblogaethau, gan gydnabod pa mor anrhagweladwy a chymhleth y gall amgylcheddau, cymunedau a phoblogaethau amrywiol fod.
  • Dangos dealltwriaeth systematig o ddulliau sy'n meithrin perthnasoedd llawn ymddiriedaeth sy'n galluogi SCPHN i nodi, asesu a chynllunio ar gyfer anghenion iechyd a lles plant a theuluoedd, hybu iechyd a sefydlu ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a meddyginiaethau priodol ar bresgripsiwn.

  • Dadansoddi canllawiau deddfwriaethol a chanllawiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn feirniadol i ddarparu cyngor iechyd sy'n canolbwyntio ar y teulu, gan ystyried ffactorau unigol, amgylcheddol a genetig.

Sgiliau Deallusol:

  • Datblygu a chynnal dadansoddiadau annibynnol, wedi’u hymchwilio’n ofalus, o bolisi sy’n effeithio ar ddarpariaeth y gwasanaeth iechyd i blant, teuluoedd a phoblogaethau, gan ddefnyddio gwerthusiad beirniadol o amryw o ffynonellau o dystiolaeth sy’n sail i arferion ymwelwyr iechyd.
  • Cyfuno a chymhwyso gwybodaeth o ymchwil a’i archwilio i arwain datblygiad gwasanaeth wrth wella iechyd plant, teuluoedd a chymunedau, gan rannu arfer da.
  • Dangos gallu i feddwl yn feirniadol ac yn annibynnol wrth wneud diagnosis ac ymdrin â phroblemau iechyd cymhleth, rhoi meddyginiaethau priodol ar bresgripsiwn, datblygu ac arwain ar atebion arloesol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn wrth-wahaniaethol, yn ddiwylliannol gymwys ac yn gynhwysol.
  • Arddangos amrywiaeth o ddulliau arwain sy'n dangos cydweithrediad a thosturi wrth arwain strategaethau gwella ansawdd mewn partneriaeth â rhanddeiliaid.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Ymarfer fel SCPHN annibynnol sy'n ymarfer menter ac yn gwerthuso'n feirniadol ac yn myfyrio ar eu hymarfer i alluogi datblygiad proffesiynol parhaus wrth gadw at safonau hyfedredd yr NMC a Chod yr NMC..
  • Gweithio fel aelod cydweithredol o’r tîm amlddisgyblaethol sy’n gallu gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anodd eu rhagweld, gan ddarparu gofal sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ystod gymhleth o boblogaethau, gan ystyried materion moesegol a chyfreithiol.
  • Dangos y gallu i ddefnyddio sgiliau cyfathrebu gwell, gan eiriol dros degwch, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, gan ddefnyddio amryw o ddulliau rhannu gwybodaeth i gyfleu gwybodaeth i gynulleidfaoedd amrywiol.
  • Ymateb yn arbenigol i lefelau lluosog o gymhlethdod, anrhagweladwyedd ac ansicrwydd mewn cyd-destunau gofal iechyd trwy arddangos a defnyddio rhesymu arbenigol i ddarparu gofal effeithiol ar draws ystod o leoliadau cymunedol.

  • Cymhwyso crebwyll proffesiynol lefel uchel i arsylwi, adnabod ac ymateb i arwyddion o gam-drin ac esgeulustod ar hyd cwrs bywyd trwy eiriol dros y rhai sydd fwyaf agored i niwed a’u hamddiffyn.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol (SA)::

  • Dangos creadigrwydd a gwreiddioldeb wrth ddatrys problemau yn yr amgylchedd academaidd ac ymarferol, gan gynnwys ymrwymiad i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd trwy atal ac ymyrryd yn gynnar, gan ddangos entrepreneuriaeth o fewn ymarfer ymwelwyr iechyd. 
  • Cymryd rhan weithredol wrth barhau â’ch datblygiad personol a phroffesiynol, gyda myfyrio beirniadol ac ymrwymiad i ddysgu annibynnol gydol oes yn sail i hynny.
  • Dangos sgiliau cyfathrebu uwch yn yr amgylchedd academaidd ac ymarferol i gydweithio a gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill.
  • Ymarfer hunanreolaeth effeithiol a gallu uwch i addysgu ac ysgogi eraill, gan ddefnyddio amryw o sgiliau arwain a rheoli.
  • Dangos sgiliau digidol a thechnolegol uwch mewn addysg ac ymarfer i ddiwallu anghenion pobl a chymunedau.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd ffioedd dysgu'r rhaglen hon ar gael yn fuan. Wrth i ni ddiweddaru'r wybodaeth hon, anfonwch unrhyw ymholiadau ffioedd dysgu i'n tîm.

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Costau ychwanegol

Disgwylir i ymgeiswyr dalu cost eu tystysgrif DBS.

Nid yw ffioedd dysgu a ariennir gan AaGIC yn cynnwys modiwl traethawd hir y Meistr (60 credyd). . Mae cyfleoedd ariannu ar gael naill ai trwy drafod gyda’ch Bwrdd Iechyd, neu drwy sefydliadau trydydd sector. Mae’n bosibl y bydd llwybrau cyllid ychwanegol AaGIC yn berthnasol, a chewch wybod am hyn yn ystod y rhaglen. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am hyn gan arweinydd y rhaglen. 

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae llwyddo i gwblhau'r rhaglen hon a gymeradwywyd gan yr NMC yn arwain at y gallu i gofrestru eich cymhwyster ar ran 3 o gofrestr yr NMC, gofyniad gorfodol er mwyn ymarfer fel ymwelydd iechyd SCPHN yn y Deyrnas Unedig. Mae galw mawr ymhlith cyflogwyr am yr holl elfennau hyn o’r rhaglen, a fydd yn eich galluogi i ymgeisio am swyddi mewn Byrddau Iechyd Lleol, ymddiriedolaethau’r GIG, sefydliadau’r sector preifat a’r trydydd sector megis elusennau.

Lleoliadau

Byddwch yn ymgymryd â lleoliad ymarfer trwy gydol y rhaglen a fydd yn eich galluogi i integreiddio theori ag ymarfer ymwelwyr iechyd go iawn. Bydd Aseswyr Ymarfer a Goruchwylwyr Ymarfer profiadol yn eich hwyluso chi, a byddant yn eich cefnogi ar bob cam o'r rhaglen wrth i chi ddatblygu eich ymarfer. Bydd gennych statws ychwanegol wrth gyflawni’r rhaglen, gan eich cefnogi i gyrraedd y safonau gofynnol o ran hyfedredd. Yn yr achos hwn, mae’r statws ychwanegol yn golygu na all unrhyw berson neu gorff eich cyflogi o dan gontract gwasanaeth i ddarparu gofal nyrsio iechyd cyhoeddus arbenigol yn y gymuned fel rhan o'r rhaglen. 

Rydych yn dysgu llawer o'r sgiliau ymarferol proffesiynol yn ystod eich leoliad. Mae pwyslais ar ‘ddysgu trwy wneud’ trwy gydol y rhaglen sy'n eich galluogi i drosi’r wybodaeth rydych yn ei datblygu am fod yn ymwelydd iechyd SCPHN yn ymarfer yn y byd go iawn. 

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Healthcare, Nursing, Healthcare sciences


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.