Ewch i’r prif gynnwys

Cwrs Ymarfer Cyfreithwyr (LLM)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Ymgeisiwch

Bydd angen i chi wneud cais i'r cwrs hwn trwy un o'n partneriaid.

calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Paratowch ar gyfer eich asesiadau SQE ac adeiladwch sylfaen gref ar gyfer eich gyrfa fel cyfreithiwr yn y dyfodol.

location

Lleoliad canolog

Astudiwch yng nghanol prifddinas Cymru.

star

Sefydledig ac arbenigol

Manteisio ar ein 30+ mlynedd o brofiad yn darparu hyfforddiant proffesiynol i genedlaethau o gyfreithwyr y dyfodol.

people

Dysgu gan ymarferwyr

Dysgu gan gyfreithwyr a bargyfreithwyr cymwys.

tick

Cymwys ar gyfer y dyfodol

Cyfunwch eich gwaith paratoi i’r SQE gyda'r cyfle i gael LLM gan un o Brifysgolion Grŵp Russell.

Mae ein Cwrs Ymarfer Cyfreithwyr yn rhaglen LLM academaidd gyda'r diben deuol o'ch helpu yn y broses o gymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr.

Er mwyn cymhwyso fel cyfreithiwr, rhaid i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr (1) sefyll asesiad canolog yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) a’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE), (2) ymgymryd â chyfnod o Brofiad Gwaith Cymhwyso (QWE) o ddwy flynedd, a (3) llwyddo ym mhrawf Cymeriad ac Addasrwydd yr SRA.

Mae’r SQE wedi'i rannu'n ddwy ran:

  • SQE1 – asesu gwybodaeth gyfreithiol weithredol (FLK)
  • SQE2 – asesu ystod o sgiliau cyfreithiol.

Bydd eich astudiaethau ar y Cwrs Ymarfer Cyfreithwyr yng Nghaerdydd yn eich galluogi i archwilio amrywiaeth o bynciau cyfreithiol. Byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu eich sgiliau meddwl beirniadol a'ch gallu i werthuso fel y gallwch gymhwyso'r wybodaeth yr ydych yn ei hennill i broblemau cleientiaid. Bydd hyn hefyd yn eich paratoi’n drylwyr ar gyfer yr asesiad SQE1 allanol ac ar gyfer eich QWE gyda chwmni cyfreithiol neu gyflogwr arall.

Byddwch yn cael y cyfle i feithrin a datblygu sgiliau cyfreithiol gwerthfawr trwy broses o fyfyrio a mireinio a fydd yn cefnogi eich datblygiad tuag at yrfa broffesiynol yn y sector cyfreithiol.  Bydd hyn hefyd yn darparu lefel sylfaenol ar gyfer eich asesiad SQE2 allanol yn y dyfodol (yr ydych yn debygol o fod yn ei wneud tuag at ddiwedd eich dwy flynedd o QWE). 

Drwy ymgymryd â’r prosiect ymchwil LLM neu drwy lunio’r portffolio myfyriol, byddwch yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy pwysig pellach a fydd yn eich helpu yn eich bywyd proffesiynol yn y dyfodol: sut i ysgrifennu a rhesymu'n feirniadol, sut i ysgrifennu ar gyfer y darllenydd ac ymgysylltu ag ef, a sut i fyfyrio'n feirniadol ar eich profiad. 

Yn gyffredinol, bydd eich astudiaethau ar y cwrs yn eich galluogi i ddatblygu arbenigedd deallusol a sgiliau ymarferol ar draws ystod eang o bynciau cyfreithiol, gan roi sylfaen gref i chi ar gyfer eich gyrfa fel cyfreithiwr yn y dyfodol. Byddwch yn caffael y sgiliau, yr wybodaeth a’r agweddau i’ch paratoi ar gyfer eich profiad gwaith cymhwyso ac i ddelio â’r gofynion sy’n debygol o gael eu gwneud ohonoch wrth ymarfer, ac i osod y sylfaen ar gyfer eich ymarfer fel cyfreithiwr yn y dyfodol, trwy annog arferion cymhwysedd, hyder a phroffesiynoldeb. Bydd eich astudiaethau hefyd yn eich paratoi ar gyfer eich asesiadau SQE1 ac yn rhoi cyflwyniad a sylfaen i chi ar gyfer SQE2.

Sylwer: Asesiadau canolog allanol yw’r asesiadau SQE a gaiff eu rhedeg gan ddarparwr asesu penodedig yr SRA, Kaplan.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Mae ein corff myfyrwyr bywiog, ynghyd â'n staff academaidd hynod gymwysedig, yn darparu'r amgylchedd perffaith i archwilio meysydd dynamig a phrysur y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 6102
  • MarkerRhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3AX

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon, bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad a chyflwyno cais drwy'r Bwrdd Ceisiadau Canolog (CAB).

Gyda'ch cais bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod naill ai: a) wedi ennill gradd anrhydedd 2:2 yn y Gyfraith yn y DU. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro. Neu b) wedi ennill gradd anrhydedd 2:2 mewn unrhyw bwnc neu radd ryngwladol gyfatebol ac wedi ennill cymhwyster mewn cwrs trosi cyfraith ôl-raddedig neu ôl-raddedig perthnasol (megis y GDL) sydd wedi ymdrin â phynciau sylfaen y gyfraith (contract, camwedd, cyfraith tir, ymddiriedolaethau, cyfraith droseddol, cyfraith gyhoeddus, cyfraith yr UE, a system gyfreithiol Cymru a Lloegr). Os yw eich tystysgrif neu ganlyniad cwrs gradd neu drosiad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau interim neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.5 yn ysgrifenedig a 6.0 ym mhob is-sgil arall, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudiwyd yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Datganiad personol sy'n amlinellu'ch ymrwymiad i'r proffesiwn cyfreithiol, profiad gwaith cyffredinol (os o gwbl), a'r rhesymau dros fod eisiau astudio'r Cwrs Pratice Cyfreithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.
  4. O leiaf un geirda academaidd sy'n amlinellu eich addasrwydd ar gyfer y rhaglen.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Bydd ceisiadau i'r CAB yn agor ar 1 Hydref ac yn cau ar 31 Gorffennaf ym mhob cylch cais, fodd bynnag, rydym yn gweithredu ein dyddiad cau ein hunain sef 30 Ebrill. Os byddwch yn cyflwyno cais i'r CAB ar ôl 30 Ebrill, byddwn ond yn ei ystyried os yw lleoedd ar gael o hyd.

Sylwch y bydd y CAB ond yn rhyddhau ceisiadau i ni ar ôl cyflwyno ffurflen gais wedi'i chwblhau'n llawn, ynghyd â'r holl dystiolaeth ategol gan gynnwys cyfeiriadau (lle bo hynny'n ofynnol gan y CAB), a'r ffi ymgeisio a dalwyd.

Broses ddethol

Byddwn yn adolygu eich cais ac yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar yr holl ffactorau canlynol:

  • os ydych wedi bodloni'r gofynion mynediad ac wedi darparu'r dystiolaeth sydd ar gael i gefnogi'ch cais (e.e. cofnod academaidd, geirdaon a datganiad personol)
  • eich gradd o ymrwymiad i'r proffesiwn cyfreithiol (dangosir, er enghraifft, drwy leoliadau gyda chwmnïau cyfreithwyr neu brofiad cyfatebol)
  • Profiad gwaith cyffredinol
  • rhesymau dros fod eisiau astudio'r Cwrs Ymarfer Cyfreithwyr LLM ym Mhrifysgol Caerdydd
  • dyddiad derbyn y cais gan Brifysgol Caerdydd
  • Trefn Dewis y Sefydliad
  • unrhyw amgylchiadau esgusodol a allai effeithio ar eich gallu i astudio yn rhywle arall.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Rhennir y Cwrs Ymarfer Cyfreithwyr yn ddau gam:

  • Cam 1 – y Cam a Addysgir
  • Cam 2 – Cam y Traethawd Hir

Mae'r Cam a Addysgir yn dechrau ym mis Medi ac yn gorffen ym mis Mai. Ar ôl hyn, byddwch yn dechrau ar Gam y Traethawd Hir, a byddwch yn cyflwyno’r prosiect ymchwil neu'r portffolio myfyriol ym mis Awst.

Cam 1

Yng Ngham 1, byddwch yn astudio tri modiwl craidd a fydd yn rhoi cyfle i chi archwilio ystod eang o bynciau cyfreithiol a datblygu eich sgiliau cyfreithiol proffesiynol.

  • SQE1: Gwybodaeth Gyfreithiol Weithredol 1 (Cyfraith ac Ymarfer Busnes, Datrys Anghydfodau, Contractau, Camweddau, y System Gyfreithiol, Cyfraith Gyhoeddus, Gwasanaethau Cyfreithiol)
  • SQE1: Gwybodaeth Gyfreithiol Weithredol 2 (Cyfraith ac Ymarfer Eiddo, Ewyllysiau a Gweinyddu Ystadau, Cyfrifon Cyfreithwyr, Cyfraith Tir, Ymddiriedolaethau, Cyfraith ac Ymarfer Trosedd)
  • SQE2: Sgiliau Cyfreithiol (Cyfweld Cleientiaid a Nodiadau Presenoldeb / Dadansoddiadau Cyfreithiol, Eiriolaeth, Dadansoddiadau Achos a Mater, Ymchwil Gyfreithiol, Ysgrifennu Cyfreithiol, Drafftio Cyfreithiol)

Byddwch hefyd yn astudio pynciau Moeseg ac Ymddygiad Proffesiynol a Threthiant yn y ddau fodiwl SQE1 FLK.

Cam 2

Yng Ngham 2, byddwch yn cyflwyno darn o waith wedi'i asesu o 15,000 o eiriau – naill ai Prosiect Ymchwil neu Bortffolio Myfyriol.

Darn o waith yw’r Prosiect Ymchwil sy'n canolbwyntio ar ymarfer, a hynny ar bwnc o'ch dewis chi o amrywiaeth o bynciau, yn seiliedig ar feysydd ymarfer cyfreithiol. Mae'r opsiwn hwn ar gael i bob myfyriwr.

Adlewyrchiad a gwerthusiad o'ch profiad mewn profiad gwaith cyfreithiol neu weithgareddau pro bono yw’r Portffolio Myfyriol.  O'r herwydd, dim ond myfyrwyr sydd â phrofiad sylweddol o brofiad gwaith cyfreithiol fydd yn gallu dilyn yr opsiwn hwn.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.

Mae'r Cam a Addysgir yn cynnwys 3 modiwl craidd.

Bydd 2 o'r modiwlau craidd, SQE1 (FLK1 a 2), yn eich galluogi i gynyddu eich arbenigedd ym meysydd sylfaenol y gyfraith ac ymarfer cyfreithiol ac i ddatblygu eich gallu i ddadansoddi, gwerthuso a chynghori cleient yn y pen draw. Byddwch hefyd yn ystyried y materion moesegol y gall cyfreithiwr eu hwynebu yn ymarferol ac yn llunio barn ar sut i ddelio â nhw. Bydd y modiwlau hyn hefyd yn eich paratoi ar gyfer asesiadau SQE1 allanol yr SRA.

Mae'r trydydd modiwl craidd yn rhoi cyflwyniad i sgiliau cyfreithiol proffesiynol a bydd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau llafar ac ysgrifenedig yng nghyd-destun y pynciau cyfreithiol rydych yn eu hastudio. Bydd y modiwl hwn hefyd yn rhoi sylfaen i Sgiliau Cyfreithiol SQE2.

Ar ôl cwblhau'r cam a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i'r Cam Traethawd Hir, lle byddwch yn cyflwyno prosiect ymchwil neu bortffolio myfyriol i gwblhau eich LLM.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae astudio ar gyfer LLM yn ddwys ac yn heriol a bydd angen i chi fanteisio ar yr addysgu a ddarperir er mwyn llwyddo. Bydd y Cwrs Ymarfer Cyfreithwyr yn cael ei gyflwyno wyneb yn wyneb gydag elfennau o ddysgu cyfunol. Bydd sesiynau grŵp bach wyneb yn wyneb (SGS) yn cael eu cyfoethogi gan recordiadau darlithoedd, adnoddau ar-lein ac ymarferion sgiliau.

Bydd y sesiynau grŵp bach yn cael eu haddysgu mewn grwpiau fel arfer a bydd y rhan fwyaf o’r sesiynau yn parhau am oddeutu 2 awr, ond bydd rhai yn hirach neu'n fyrrach yn ddibynnol ar y sgiliau a'r pynciau a gaiff eu hystyried yn y sesiwn.  Bydd elfen ymarferol gref yn perthyn i’r addysgu ym mhob pwnc a bydd llawer o sesiynau grŵp bach hefyd yn cynnwys elfen o waith ymarferol. Bydd hyn yn helpu i wreiddio'ch gwybodaeth drwy gymhwyso'r gyfraith yn ymarferol ac yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau dadansoddi. Byddwch hefyd yn cael llawer o gyfleoedd i ymarfer ateb y mathau perthnasol o gwestiynau a myfyrio ar eich dysgu er mwyn paratoi ar gyfer eich asesiadau SQE1.

 Mae'r addysgu ar draws modiwlau cam un wedi'i ddylunio mewn ffordd gyfannol fel y bydd y modiwlau'n ategu ei gilydd. Bydd y sgiliau y byddwch yn eu hymarfer yn y modiwlau SQE2 yn cael eu haddysgu yng nghyd-destun pwnc FLK gwahanol er mwyn sicrhau bod y gweithgareddau dysgu y byddwch yn ymgymryd â nhw yn y pynciau FLK yn sail i'r gweithgareddau sgiliau trwy roi'r wybodaeth bynciol sydd ei hangen arnoch. Bydd y gwersi sgiliau yn SQE2, yn eu tro, yn rhoi'r cyfle i chi ddatblygu eich arbenigedd pwnc trwy atgyfnerthu'r wybodaeth honno a rhoi cyfle pellach i chi gymhwyso, dadansoddi a gwerthuso wrth greu gwaith gwreiddiol yn y maes cyfreithiol hwnnw hefyd.  Bydd gwersi yn y pynciau SQE1 a sgiliau SQE2 yn rhedeg gydol y flwyddyn (o ddechrau mis Medi tan y mis Mai canlynol).

Byddwch yn cael eich cyflwyno i ymchwil gyfreithiol yn ystod y tymor cyntaf a’r ail dymor a fydd yn eich cynorthwyo i baratoi ar gyfer y Prosiect Ymchwil 15,000 o eiriau neu'r Portffolio Myfyriol. Bydd eich Prosiect Ymchwil / Portffolio Myfyriol yn cael ei oruchwylio wedi i chi gwblhau'r cam a addysgir.

Sut y caf fy asesu?

Mae'r Cwrs Ymarfer Cyfreithwyr yn cynnwys asesiadau ffurfiannol a chrynodol. Nid yw asesiadau ffurfiannol yn cyfrif tuag at eich gradd, ond yn hytrach yn rhoi cyfle i chi ymarfer ar gyfer eich asesiadau crynodol ac yn caniatáu i chi a'ch tiwtor fyfyrio ar y cynnydd rydych wedi'i wneud. Mae asesiadau crynodol yn cyfrif tuag at eich gradd. Mae eich marciau yn yr asesiadau hyn yn cyfrif tuag at eich dilyniant ffurfiol o gam un (modiwlau a addysgir) i gam dau (y traethawd hir), a thuag at benderfynu ar eich dyfarniad terfynol. Bydd yr asesiadau crynodol yng ngham un yn amrywio yn ôl modiwl:

Modiwlau Gwybodaeth Gyfreithiol Weithredol (FLK) SQE1 (FLK1 ac FLK2)

Caiff pob un o'r modiwlau hyn eu hasesu trwy ddau bapur arholiad crynodol, ar ffurf profion amlddewis, sy'n cynnwys ystod o gwestiynau amlddewis a chwestiynau sengl ateb gorau. Mae'r cwestiynau yn yr asesiadau hyn wedi'u cynllunio i brofi'r modd y cymhwysir egwyddorion cyfreithiol sylfaenol y gellir eu disgwyl gan gyfreithiwr newydd gymhwyso yng Nghymru a Lloegr heb iddo gyfeirio at lyfrau a nodiadau. Bydd gofyn i chi ddadansoddi senarios ffeithiol byr ac yna gwerthuso'r opsiynau a roddir i chi a dewis y cyngor cywir neu orau i'w roi i'r cleient. Mae'r asesiad ar gyfer y modiwlau hyn yn dilyn y dull asesu a ddefnyddir yn yr asesiad SQE1 allanol a gaiff ei redeg gan yr SRA. Bydd asesiadau ffurfiannol o fodiwlau FLK1 ac FLK2 yn dilyn ymagwedd debyg.  

Modiwl sgiliau cyfreithiol SQE2

Bydd yr asesiad yn cynnwys ymarfer ym mhob un o'r chwe sgìl SQE2:

  • Cyfweld Cleientiaid a Nodiadau Presenoldeb / Dadansoddiadau Cyfreithiol
  • Eiriolaeth
  • Dadansoddiadau Achos a Mater
  • Ymchwil Gyfreithiol
  • Ysgrifennu Cyfreithiol; a
  • Drafftio Cyfreithiol

Byddwch yn cael y cyfle i ymarfer pob sgìl sawl gwaith a byddwch yn derbyn adborth gan eich cyfoedion a'ch tiwtoriaid. Byddwch yn myfyrio ar eich gwaith eich hun er mwyn dewis yr enghreifftiau rydych am eu defnyddio ar gyfer eich asesiad crynodol.

Sylwer y bydd angen i chi gofrestru'n uniongyrchol gyda'r SRA i sefyll SQE1 ac SQE2 yn allanol a thalu'r ffioedd arholi a godir gan yr SRA a'i ddarparwr asesu, Kaplan. Nid yw'r ffioedd arholiad SQE allanol hynny wedi’u cynnwys yn ffioedd y cwrs ar gyfer y Cwrs Ymarfer Cyfreithwyr.

Prosiect Ymchwil / Portffolio Myfyriol

Byddwch yn cael y cyfle i adeiladu ar y sgiliau ymchwil gyfreithiol a'r wybodaeth yr ydych wedi’i hennill ar y Cwrs Ymarfer Cyfreithwyr trwy gyflwyno darn o waith 15,000 o eiriau. Bydd hwn naill ai'n Brosiect Ymchwil (darn o ymchwil annibynnol fanwl ar faes ymarfer cyfreithiol) neu'n Bortffolio Myfyriol (myfyrio ar eich profiad mewn gwaith pro bono neu brofiad gwaith cyfreithiol a'i werthuso). Bydd yr ail opsiwn ond yn cael ei gynnig os oes gennych brofiad sylweddol o waith cyfreithiol neu weithgareddau pro bono.

Sut y caf fy nghefnogi?

Rhoddir pwyslais ar ddysgu wyneb yn wyneb ar y Cwrs Ymarfer Cyfreithwyr a byddwch yn cael cyswllt sylweddol â'ch tiwtoriaid a'ch cyd-fyfyrwyr drwy'r nifer fawr o sesiynau grŵp bach.

Cefnogir yr holl fodiwlau gan adnoddau ar yr amgylchedd ddysgu rhithwir, lle byddwch yn cyrchu ystod eang o ddeunyddiau ar gyfer eich modiwlau, gan gynnwys recordiadau o ddarlithoedd a phrofion  amlddewis.

Byddwch yn cael cymorth bugeiliol penodedig drwy ein cynllun tiwtor personol. Rydym yn cynnig rhaglen helaeth o ddarlithoedd gyrfaoedd a gweithdai yn yr Ysgol gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd mewnol a'r cyfle i ymgysylltu ag un o gynlluniau pro bono'r Ysgol. Mae Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth yn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr ag anableddau.

Mae gan y Brifysgol amrywiaeth o wasanaethau i’ch cefnogi, gan gynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, ac adnoddau llyfrgell gwych ar-lein ac ar y safle.

Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi gan eich goruchwyliwr yn ystod eich Prosiect Ymchwil neu Bortffolio Myfyriol, a fydd yn cynnwys cyfarfodydd goruchwylio a drefnwyd.

Adborth

Byddwch yn derbyn adborth ar eich asesiadau ffurfiannol a chrynodol gydol y cwrs i'ch helpu i wella'ch gwaith. Bydd eich tiwtoriaid hefyd yn rhoi adborth llafar ac ysgrifenedig i chi mewn sesiynau grŵp bach, a byddwch yn cael y cyfle i roi adborth i’ch cyfoedion a’i dderbyn. Bydd eich goruchwyliwr yn rhoi adborth i chi ar y Prosiect Ymchwil neu'r Portffolio Myfyriol ac yn eich cefnogi i ddatblygu eich cynnig ac ymgymryd â chamau cychwynnol eich ymchwil.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi wedi’i gyflawni erbyn diwedd y rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn nodi'r wybodaeth a'r medrau fydd gennych chi. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych

Pan fyddwch wedi llwyddo i gwblhau eich Rhaglen, byddwch yn gallu:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

GD 1: Nodi a gwerthuso problemau dilys sy'n wynebu cleientiaid ar draws meysydd ymarfer allweddol Gwybodaeth Gyfreithiol Weithredol.

GD 2: Llunio atebion priodol ac effeithiol trwy gymhwyso dealltwriaeth gynhwysfawr o'r meysydd Gwybodaeth Gyfreithiol Weithredol, gan gymhwyso'r ddealltwriaeth hon i egwyddorion cyfreithiol, gweithdrefnol a thystiolaethol cymhleth.

GD 3: Amgyffred problemau moesegol yn systematig o fewn fframwaith gofynion proffesiynol a rheoliadol, gan lunio ymatebion a dulliau gweithredu priodol ac effeithiol.

GD 4: Datblygu darn estynedig o waith gan ddefnyddio gwaith myfyrio neu ymchwil sy'n canolbwyntio ar un neu fwy o feysydd ymarfer cyfreithiol, gan ddefnyddio methodolegau a sgiliau dadansoddi priodol.

Sgiliau Deallusol:

SD 1: Dangos dull gwybodus beirniadol o gasglu a gwerthuso gwybodaeth, myfyrio ar unrhyw fylchau yn yr wybodaeth, a nodi ffynhonnell yr wybodaeth ofynnol.

SD 2: Datblygu ac amddiffyn dadleuon perswadiol ar lafar a/neu'n ysgrifenedig, gan dynnu ar ymchwil gyfreithiol annibynnol a/neu ddadansoddiad o agweddau cyfreithiol, ffeithiol, gweithdrefnol a thystiolaethol achos.

SD 3: Syntheseiddio llawer iawn o wybodaeth gyfreithiol a'i defnyddio i ddadansoddi trafodion ac achosion ymarferol cleientiaid.

SD 4: Mynegi chwilfrydedd deallusol drwy eich ymchwil, er mwyn mynd ar drywydd gwybodaeth a dealltwriaeth bellach o fewn maes arbenigol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

SY 1: Defnyddio Sgiliau Cyfreithiol ysgrifenedig a llafar allweddol i gyflawni amcanion cleientiaid a chymhwyso a throsglwyddo sgiliau i gyd-destunau gwahanol.

SY 2: Gwerthfawrogi amcanion cleient, gan ystyried y blaenoriaethau ariannol, masnachol a phersonol, y cyfyngiadau, a'r risg a'r buddion cysylltiedig, ac argymell dulliau priodol o gyflawni'r amcanion.

SY 3: Dadansoddi problemau cyfreithiol cymhleth trwy werthuso a syntheseiddio’r data sydd ar gael a dadleuon gwrthwynebol er mwyn creu methodoleg ar gyfer eu datrys.

SY 4: Cyfleu syniadau cymhleth yn effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, cyfrannu at drafodaethau, a'u cyflwyno yn effeithiol.

SY 5: Gwerthuso ystod o ffynonellau priodol yn feirniadol, gan ddefnyddio eich sgiliau ymchwil i farnu dilysrwydd casgliadau cyfreithiol.

SY 6: Myfyrio ar eich dysgu a'ch adborth eich hun mewn modd beirniadol, gan osod nodau ar gyfer datblygiad personol parhaus ac ymarfer proffesiynol yn y dyfodol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

SA 1: Cyflwyno gwybodaeth, methodolegau, a chanlyniadau ysgrifenedig i safon sy'n addas ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys ymarferwyr, cleientiaid ac academyddion.

SA 2: Cynllunio, trefnu a rheoli gwaith yn effeithiol, gan ddangos annibyniaeth a menter.

SA 3: Datblygu sgiliau rhesymu rhesymegol a meddwl yn feirniadol trwy drafod a dadlau.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £13,450 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £23,700 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Bydd ffioedd eich cwrs yn talu am gost y llyfrau, y deunyddiau a’r adnoddau ar-lein fydd eu hangen arnoch ar gyfer y cwrs. Nid oes angen i chi brynu unrhyw lyfrau eraill ar gyfer y cwrs.

Ar gyfer asesiadau sgiliau llafar, bydd gofyn i chi wisgo dillad addas – siwt fusnes ar gyfer asesiadau eiriolaeth, a gwisg swyddfa briodol ar gyfer asesiadau cyfweld.

Nid yw’r gost o sefyll asesiadau SQE allanol wedi'i chynnwys yn ffi'r cwrs. Bydd angen i chi archebu a thalu am asesiadau SQE eich hun.  Telir y ffioedd hyn yn uniongyrchol i ddarparwr yr asesiad SQE ar gyfer arholiadau SQE1 ac SQE2.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae'r dysgu ar y rhaglen hon yn galluogi datblygiad  chwe Phriodwedd Graddedigion Caerdydd i baratoi myfyrwyr ar gyfer cyflogaeth, gyda chyfathrebu effeithiol, sgiliau cydweithredol, meddwl annibynnol a beirniadol, ymwybyddiaeth gymdeithasol a masnachol, y gallu i fyfyrio a gwydnwch fel sgiliau allweddol.

Bydd y Cwrs Ymarfer Cyfreithwyr yn rhoi cyfle i chi ddatblygu llawer o sgiliau a phriodoleddau a fydd yn annog ymreolaeth ac sy'n cefnogi cyflogadwyedd trwy eich paratoi ar gyfer bywyd fel dinesydd mewn cymdeithas ac fel cyfreithiwr proffesiynol.

Bydd astudio pynciau SQE1 yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich gallu i ddadansoddi ffeithiau, gwerthuso senario ddilys, a chymhwyso eich gwybodaeth gyfreithiol i allu cynghori cleient. Bydd hyn hefyd yn eich paratoi'n drylwyr ar gyfer yr asesiad SQE1 allanol ac ar gyfer eich profiad gwaith cymhwyso (QWE) gyda chwmni cyfreithiol neu gyflogwr arall.

Bydd astudio sgiliau SQE2 yn adeiladu ar eich gwybodaeth ac yn eich galluogi i ddatblygu ystod o sgiliau cyfreithiol ysgrifenedig a llafar. Bydd hefyd yn eich paratoi ar gyfer eich QWE ac yn darparu sylfaen ar gyfer eich asesiad SQE2 allanol yn y dyfodol.

Lleoliadau

Rydym yn cynnig lleoliad gwaith i bob myfyriwr nad oes ganddo gynigion i hyfforddi a chymhwyso gyda chwmnïau cyfreithiol neu gyflogwyr eraill ac nad yw â phrofiad gwaith blaenorol sylweddol.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Sut i ymgeisio

Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais i'r cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Y Gyfraith


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.