Cymdeithaseg (MSc)
- Hyd: 1 year
- Dull astudio: Amser llawn
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Sut y gall cymdeithaseg eich helpu i wneud synnwyr o fyd sy’n cael ei ddiffinio gan newid ac aflonyddwch ond sydd, ar yr un pryd, yn cael ei siapio gan anghydraddoldebau parhaus a threiddiol?
Taflu goleuni ar gymdeithas fyd-eang
Hyd yn hyn, mae’r 21ain Ganrif wedi’i diffinio gan newid, aflonyddwch, ac ansicrwydd; bydd y cwrs hwn o gymorth wrth i chi geisio gwneud pen-a-chynffon cymdeithasegol o'r byd.
Bri rhyngwladol
Bydd arbenigwyr ac arloeswyr blaenllaw yn y maes yn cyd-weithio gyda chi er mwyn datblygu a thanio eich dychymyg cymdeithasegol.
Cymdeithaseg ryngddisgyblaethol
Byddwn yn eich annog a'ch galluogi i ddatblygu’r ddeialog rhwng disgyblaethau sy'n hanfodol ar gyfer gwneud synnwyr o'r byd cyfoes.
Cymuned academaidd fywiog
Dewch i ymuno â chymuned sydd wedi’i llywio gan ganolfannau ymchwil rhyngwladol blaenllaw, sy'n cynnal digwyddiadau a seminarau rheolaidd a drefnir o amgylch pynciau sylweddol a methodolegol.
Trylwyredd methodolegol ac arloesi
Datblygu sgiliau ymchwil, gan gynnwys ymgysylltu â ffurfiau traddodiadol ar ymholi cymdeithasol, eu cymhwyso i ffurfiau newydd o fyw, a'r ffyrdd newydd o drin mathau newydd o ddata cymdeithasol.
Mae'r rhaglen ôl-raddedig hon wedi'i chynllunio i ddatblygu eich dychymyg cymdeithasegol, gan roi'r sgiliau beirniadol a dadansoddol y mae arnoch eu hangen i ddeall y trawsnewidiadau cymdeithasol a fydd yn nodweddu bywyd yn yr 21ain ganrif. Byddwch yn gweithio gydag arbenigwyr o feysydd allweddol cymdeithaseg a fydd yn eich cyflwyno i'w hymchwil flaengar, ac i ymchwil ysgolheigion blaenllaw eraill. Trwy ddeunydd y cwrs, byddwch yn dysgu integreiddio damcaniaeth, dull, a data i fynd i'r afael â heriau byd-eang enbyd a achosir gan ffenomenau megis:
- Symudedd digidol a chorfforol
- Perthnasoedd bodau dynol â'r amgylchedd
- Bywyd trefol cyfoes
- Technolegau digidol aflonyddgar
- Biofeddygaeth a geneteg gymdeithasol
Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i chi ymgysylltu â’r gymdeithas fyd-eang gyfoes o sylfaen wybodaeth ddamcaniaethol, drylwyr o ran cysyniadau, a methodolegol arloesol. Gan weithio gyda’r themâu hyn a rhyngddynt, byddwch yn astudio effaith datblygiadau diweddar yn y meysydd hyn ar brif sefydliadau cymdeithas, ynghyd â meysydd clasurol ymholi cymdeithasegol, megis gwaith, teuluoedd, addysg, hamdden, crefydd, gofal iechyd, gwyddoniaeth a’r wladwriaeth. Ar yr un pryd, byddwch yn ystyried sut a pham y mae anghydraddoldebau cymdeithasol yn parhau i fod yn nodwedd dreiddiol o fywyd cymdeithasol a'r ffyrdd y gellir mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn. Yn y modd hwn, bydd y cwrs hefyd yn datblygu eich gwerthfawrogiad beirniadol o waith llunwyr polisi, grwpiau proffesiynol, safleoedd arbenigedd cyferbyniol, a chymdeithas sifil.
Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Cynhelir ein graddau gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd ag enw da o ran dylanwadu ar bolisi ac ymarfer ar draws y byd.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc perthnasol megis troseddeg, addysg, cysylltiadau rhyngwladol, y gyfraith, seicoleg, polisi cymdeithasol, cymdeithaseg neu ddisgyblaethau gwyddorau cymdeithasol eraill, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.5 yn ysgrifenedig a 6.0 ym mhob is-sgil arall, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
- Dau gyfeiriad academaidd sy'n dangos eich addasrwydd ar gyfer y rhaglen. Dylid llofnodi geirda, dyddiad a llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.
- Datganiad personol sy'n amlinellu eich rhesymau dros fod eisiau dilyn astudiaethau ôl-raddedig, eisiau astudio cymdeithaseg ar lefel ôl-raddedig, ac eisiau astudio cymdeithaseg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Mehefin ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad ac yn dangos cymhelliant digonol ar gyfer a dealltwriaeth o'r rhaglen, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Nac oes.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhoddir gwerth mawr ar y sgiliau ymchwil, llythrennedd a rhifedd lefel uchel a ddatblygir yn ystod y radd mewn amrywiaeth o rolau rheoli ac arwain lle mae meddwl yn feirniadol a dealltwriaeth o sefydliadau a diwylliannau yn bwysig.
Mae’r pynciau gwrioneddol yr ymdrinnir â nhw yn arbennig o addas ar gyfer gyrfaoedd ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, yn ogystal â chymdeithas sifil a sefydliadau trydydd sector, gyrfaoedd sy’n ymwneud â materion cyfiawnder cymdeithasol, anghydraddoldeb a/neu arloesi. Mae tasgau’r gwaith cwrs yn seiliedig ar ymgysylltu â materion a chymwysiadau “y byd go iawn”, gan gynnwys, er enghraifft, y toreth o dechnolegau digidol a newid yn yr hinsawdd, ac maent yn annog myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol. Yn achos myfyrwyr sydd â diddordeb mewn astudiaethau pellach, mae'r rhaglen hefyd yn darparu sylfeini cadarn ar gyfer gwaith doethuriaeth, naill ai trwy PhD traddodiadol neu ddoethuriaeth broffesiynol. Rydym yn annog ein myfyrwyr i feddwl am fywyd y tu hwnt i'r brifysgol o'r diwrnod cyntaf un, ac yn cynnig modiwlau i roi mantais gystadleuol i chi pan fyddwch yn graddio.
Lleoliadau
Nac oes.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Social sciences
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.