Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (Cymdeithaseg) (MSc)
- Hyd: 1 flwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Hyfforddiant uwch mewn dulliau ymchwil i’ch paratoi ar gyfer eich astudiaeth PhD.
Llwybrau arbenigol
Cewch ddewis llwybr sy’n cyd-fynd â’ch prif faes diddordeb.
Ymwneud ag ymchwil newydd
Cewch gymryd rhan ac ymgysylltu â, gweithgareddau a digwyddiadau grwpiau ymchwil sydd wedi’u trefnu gan nifer o ganolfannau ymchwil cymdeithaseg.
Wedi’i llywio gan arbenigwyr
Mae'r rhaglen yn cael ei dylanwadu gan ymchwil ein staff academaidd; ymchwil sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol.
Ymchwil annibynnol
Cewch gymryd rhan mewn ymchwil annibynnol wedi'i seilio ar hyfforddiant dulliau dosbarth-cyntaf, yn rhan o'ch traethawd hir terfynol.
Bydd y cwrs MSc Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol yn cynnig uwch-hyfforddiant mewn dulliau ymchwil ar draws holl ystod y gwyddorau cymdeithasol. Mae gan bob llwybr cwrs gydnabyddiaeth ESRC ac maent yn bodloni’r anghenion hyfforddiant ar gyfer cyllid PhD ESRC.
Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd helaeth i astudio’n rhyngddisgyblaethol, i gymhwyso arbenigedd o ran ymchwil gymdeithasol at ddatblygu gyrfa alwedigaethol, ac i fynd ar drywydd maes sylweddol o ddiddordeb ar lefel ôl-raddedig.
Cewch lawer iawn o wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol am lunio astudiaethau ymchwil effeithiol, am yr amrywiaeth o ddulliau o gasglu data sydd ar gael i’r gwyddonydd cymdeithasol ac am y prif ddulliau o ddadansoddi data o fyd y gwyddorau cymdeithasol. Hefyd, cewch eich cyflwyno i’r fframweithiau gwleidyddol a moesegol y gwneir ymchwil i’r gwyddorau cymdeithasol ynddynt, a rhai o’r ffyrdd o ledaenu canlyniadau ymchwil gwyddorau cymdeithasol.
Llwybr Cymdeithaseg
Rydym yn ganolfan rhagoriaeth ymchwil ym maes Seicoleg, gyda nifer o ganolfannau ymchwil sydd wedi hen sefydlu, ac yn cael ein cydnabod yn eang ar gyfer ein harloesedd, cymhwysiad a hyfforddiant methodolegol gyda dulliau ymchwil meintiol ac ansoddol.
Bydd gennych y cyfle i weithio gydag ystod eang o ymchwilwyr blaenllaw, ar ystod o themâu a thynnu ar ddulliau a damcaniaethau amrywiol. Bydd gennych gyfleoedd i fynd i seminarau a sesiynau dadansoddi data wedi’u trefnu gan ein grwpiau ymchwil rhyngddisgyblaethol niferus, yn ogystal â mynd i ddigwyddiadau wedi’u trefnu gan ein prif ganolfannau ymchwil, gan gynnwys Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru.
Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Cynhelir ein graddau gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd ag enw da o ran dylanwadu ar bolisi ac ymarfer ar draws y byd.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc perthnasol megis astudiaethau maes, troseddeg, seicoleg feirniadol, addysg, daearyddiaeth, hanes, cysylltiadau diwydiannol a gweithwyr, y gyfraith, astudiaethau rheoli a busnes, addysgeg, gwleidyddiaeth, gweinyddiaeth gyhoeddus, polisi cymdeithasol a gwaith cymdeithasol, neu gymdeithaseg, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.5 yn ysgrifenedig a 5.5 yn yr holl is-sgiliau eraill, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail profiad proffesiynol diweddar a pherthnasol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Rhaglen amser llawn dros flwyddyn yw hon.
Bydd gofyn i chi gwblhau chwe modiwl 20 credyd - pum modiwl ymchwil craidd ac un modiwl llwybr arbenigol. Ym mhob modiwl, cewch gyfle i ddefnyddio llenyddiaeth ac ymchwil sy'n berthnasol i'ch llwybr.
Ar ôl cwblhau'r gydran a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn paratoi traethawd hir hyd at 20,000 o eiriau. Mae angen astudio'n annibynnol ar gyfer y gydran traethawd hir sy’n 60 credyd. Byddwch yn dewis pwnc eich traethawd hir mewn cytundeb â'ch goruchwyliwr.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Datblygu Sgiliau Ymchwil Craidd | BST703 | 20 credydau |
Sylfeini Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol | CPT898 | 20 credydau |
Dulliau Ymchwil Ansoddol | SIT700 | 20 credydau |
Dulliau Ymchwil Meintiol | SIT701 | 20 credydau |
Ceisiadau Ymchwil | SIT703 | 20 credydau |
Cysyniadau Uwch mewn Cymdeithaseg Gyfoes | SIT706 | 20 credydau |
Traethawd hir | SIT078 | 60 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dinasoedd a Symudedd mewn Cymdeithas Ddigidol | SIT317 | 20 credydau |
Cymdeithas Ddigidol a Thechnoleg sy'n Dod i'r Amlwg | SIT318 | 20 credydau |
Economi Wleidyddol Fyd-eang Cyfalaf a Dyfodol Gwaith | SIT319 | 20 credydau |
Iechyd Planedol: safbwyntiau cymdeithasegol a chyfraniadau | SIT320 | 20 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Bydd eich rhaglen yn cynnwys gweithgareddau dysgu ar yr amserlen (gan gynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a sesiynau ymarferol) ac astudio annibynnol o dan arweiniad.
Bydd disgwyl i chi gymryd rhan weithredol yn yr holl weithgareddau addysgol ar eich rhaglen astudio, paratoi at yr holl weithgareddau addysgu ar yr amserlen a bod yn bresennol ynddyn nhw, a dod yn ddysgwyr annibynnol a hunan-gyfeiriedig.
Sut y caf fy asesu?
Bydd yn rhaid i chi gwblhau'r gydran a addysgir yn llwyddiannus, sy'n cynnwys 120 credyd.
Ar ôl cwblhau'r gydran a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn paratoi traethawd hir hyd at 20,000 o eiriau.
Sut y caf fy nghefnogi?
Byddwch yn cael tiwtor personol.
Mae pob modiwl yn y rhaglen yn defnyddio ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir - Dysgu Canolog - lle byddwch chi'n dod o hyd i ddeunyddiau’r cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig a gwybodaeth am asesiadau.
Adborth
Bydd adborth ar gael i chi drwy gydol y rhaglen a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad â'ch tiwtor personol.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Byddwch yn caffael ac yn meithrin amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr sy’n benodol i’r ddisgyblaeth a sgiliau ""cyflogadwyedd"" mwy cyffredinol.
Bydd sgiliau’n cynnwys:
- y gallu i gasglu, dadansoddi a dehongli amrywiaeth o ddata cymhleth;
- amrywiaeth o sgiliau ymchwil ansoddol a meintiol priodol;
- defnyddio a chymhwyso technolegau gwybodaeth;
- y gallu i gyfleu a chyflwyno syniadau a chanfyddiadau mewn amrywiaeth o ffyrdd, er enghraifft, yn ysgrifenedig, ac ar lafar;
- y gallu i ddatrys problemau, a gweithio'n unigol ac mewn grwpiau.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd graddedigion
Mae’r rhaglen yn darparu gwybodaeth ac arbenigedd sy’n addas ar gyfer gyrfaoedd ym maes ymchwil a datblygu, busnes, astudiaethau marchnad, asiantaethau cyhoeddus ar lefelau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol, addysg, addysgu a gwaith gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill, a sefydliadau gwirfoddol.
Mae hefyd yn cynnig hyfforddiant addas ar gyfer symud ymlaen at PhD.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Gwyddorau cymdeithasol , Cymdeithaseg
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.