Adrodd Radiograffig (PgCert)
- Hyd: 1 flwyddyn
- Dull astudio: Rhan amser
Nid ydym yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd
Does dim modd gwneud cais ar hyn o bryd. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Mae’r cwrs yn cynnig gwybodaeth ac arbenigedd sy’n fodd i bobl broffesiynolion gofal iechyd cymwysedig weithredu fel proffesiynolion annibynnol wrth gyflawni tasgau adrodd ar ddelweddau clinigol yn eu gweithle.
Rhaglen achrededig
Achredir y rhaglen hon gan Gymdeithas a Choleg y Radiograffwyr.
Cymuned ddysgu
Byddwch yn elwa ar ddysgu ochr yn ochr â grŵp amrywiol sy'n astudio ar gamau gwahanol yn eu gyrfaoedd.
Cefnogaeth i fyfyrwyr
Bydd gennych gefnogaeth academaidd ac yn cael tiwtor personol penodol gydol cyfnod eich astudiaethau gyda ni.
Addysgu o ansawdd uchel
Byddwch yn cael eich addysgu gan staff clinigol ac addysgol profiadol sydd ag enw da sylweddol ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Cynrychiolydd myfyrwyr
Cewch y cyfle i ddod yn gynrychiolydd myfyrwyr ac i lywio darpariaeth addysgol ar gyfer y dyfodol.
Ymunwch â’n rhaglen Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Adrodd Radiograffig sydd wedi'i hachredu gan Gymdeithas a Choleg y Radiograffwyr ac sydd wedi'i chynllunio i'ch helpu i ehangu eich gwybodaeth a gwella eich sgiliau clinigol yn y sector hwn sy'n datblygu'n gyflym. Mae modd trosglwyddo'r sgiliau a gewch ar y rhaglen hon i bob sefydliad gofal iechyd ac maen nhw’n cael eu cydnabod dramor.
Mae ein rhaglen wedi’i hanelu at y rhai hynny sydd â chymhwyster ac sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd fel radiograffydd diagnostig neu radiograffydd therapiwtig, neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sydd wedi cofrestru â Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) neu gyfwerth.
Nod y cwrs rhan-amser hwn yw datblygu eich sgiliau o ran adrodd radiograffig ac arferion craidd eraill sy’n gysylltiedig â radiograffeg. Oherwydd ein dull dysgu dewisol, byddwch yn cael y cyfle i ddewis modiwlau sy'n cyd-fynd orau â'ch anghenion fel bod eich dysgu'n berthnasol i chi. Mae ein modiwlau dewisol yn canolbwyntio ar feysydd o Adrodd Radiograffig ar yr Abdomen i Adrodd Radiograffig Atodol ac Echelinol
Byddwch hefyd yn cael cyfle i weithio yn ein hystafell pelydr X gyffredinol bwrpasol gyda system PACS ar gyfer gweld delweddau ac at ddibenion arbrofol. Yn ogystal â man pwrpasol ar gyfer pelydr X, mae gennym hefyd offer dosimetreg, ystafell hyfforddiant radiograffeg sy’n defnyddio dulliau efelychu rhyngweithiol 3D gan gynnwys cyfrifiaduron Shaderware ac offer uwchsain pwrpasol sydd ar gael ar gyfer cyfleoedd ymchwil ac i wella eich dysgu.
Bydd ymchwilwyr ac academyddion profiadol yn eich dysgu ac yn eich cefnogi, yn ogystal ag arbenigwyr clinigol. Mae radiolegwyr a radiograffwyr clinigol yn cefnogi pob un o'r modiwlau clinigol gan sicrhau bod lefel uchel o wybodaeth glinigol gyfredol a pherthnasol yn cael ei chymhwyso ochr yn ochr â'r gofyniad i gwestiynu ymarfer. Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi hefyd, a fydd yn eich helpu gyda’ch astudiaethau.
Byddwch hefyd yn rhan o grŵp o fyfyrwyr sy'n dod o amrywiaeth o gefndiroedd clinigol sydd hefyd yn gwella eich profiad dysgu a byddwch yn cael eich annog i rannu syniadau a phrofiadau.
Bydd ein rhaglen yn cefnogi eich datblygiad personol a phroffesiynol, yn ogystal â dylanwadu ar lywio gofal iechyd ar draws Cymru a thu hwnt.
Achrediadau
Society and College of Radiographers
Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
Dyluniwyd ein cyrsiau er mwyn eich darparu gyda'r wybodaeth a'r profiad y bydd angen arnoch er mwyn dechrau dilyn gyrfa goal iechyd proffesiynol.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd neu wedi pasio Diploma Addysg Uwch mewn Radiograffeg, neu radd ryngwladol gyfwerth.
- copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
- Geirda gan eich cyflogwr at dystiolaeth eich bod yn radiograffydd cymwys gydag o leiaf dwy flynedd o brofiad clinigol cyfwerth ag amser llawn a'ch bod yn gweithio mewn adran radioleg/mamograffeg yn y DU ar hyn o bryd. Dylid llofnodi geirda, dyddiad a llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.
- Datganiad personol y mae'n rhaid iddo fynd i'r afael â'r pwyntiau allweddol canlynol:
- Pam ydych chi wedi dewis y rhaglen hon?
- Beth sydd o ddiddordeb i chi am y rhaglen hon?
- Dealltwriaeth o'r modiwlau sy'n cael eu cynnig ym Mhrifysgol Caerdydd.
- Unrhyw brofiad perthnasol sy'n gysylltiedig â chynnwys y rhaglen neu'r modiwl.
- Sut rydych yn bwriadu defnyddio'r cymhwyster yn eich gyrfa a'r budd proffesiynol posibl o'ch astudiaethau.
- Pam rydych chi'n teimlo y dylid rhoi lle i chi ar y rhaglen.
Os ydych yn bwriadu cwblhau modiwlau HCT207 Atodol/Adrodd Radiograffig Echelinol ac HCT108 Adult Chest and Abdomen Report, rhaid eich bod wedi sicrhau cefnogaeth mentor radiolegol ar adeg y cais. Rhowch fanylion i'ch mentoriaid fel eich ail ganolwr a'u gwneud yn ymwybodol y bydd tîm y rhaglen mewn cysylltiad i gadarnhau eu cefnogaeth.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau yn cau ddiwedd mis Gorffennaf ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, gan gynnwys asesiad o addasrwydd drwy'r datganiad personol, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Caiff ffioedd eu hanfonebu fesul modiwl. Fel arfer, caiff anfonebau eu rhyddhau yn fuan ar ôl cofrestru ar gyfer yr holl fodiwlau y byddwch yn eu hastudio. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau ffioedd dysgu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Nid yw'r cwrs hwn yn derbyn myfyrwyr o du allan i'r DU/UE ar hyn o bryd.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Nid
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Mae astudio ar lefel ôl-raddedig yn hanfodol os ydych am gynyddu i bractis uwch ac arbenigol. Mae'r Dystysgrif Ôl-raddedig yn hanfodol ar gyfer ymgymryd â rolau adrodd radiograffig mewn adran radioleg. Caiff y cymhwyster ei ddilysu gan Gymdeithas a Choleg y Radiograffwyr ac mae'n drosglwyddadwy ledled y DU.
Mae ein modiwlau'n amrywiol ac yn heriol ac yn rhoi cyfle i chi ystyried dilyniant o fewn ymarfer clinigol, ond hefyd i hwyluso symud i'r byd academaidd neu ymchwil.
Mae ein graddedigion wedi ennill rolau gan gynnwys:
- Arbenigwyr clinigol
- Adrodd Radiograffwyr
- Swyddi rheoli radiograffeg
- Radiograffeg a swyddi addysg glinigol.
- Darlithydd
Lleoliadau
p>Mae lleoliad clinigol yn ofynnol ar gyfer y modiwlau clinigol - rhaid i fyfyrwyr fod yn gweithio yn yr amgylchedd clinigol i allu ymarfer y sgiliau hyn. Rhaid cytuno ar y mentor radiolegol cyn dechrau'r rhaglen a rhaid i dimau'r modiwlau ei gadarnhau. Nid yw Prifysgol Caerdydd yn trefnu'r lleoliadau clinigol.Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Gofal iechyd, Meddygaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.