Ewch i’r prif gynnwys

Dermatoleg Ymarferol (MSc)

  • Hyd: 1 flwyddyn
  • Dull astudio: Rhan amser yn dysgu o bell

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae’r PgDip yn rhaglen dra rhyngweithiol, dysgu o bell ar-lein a gynlluniwyd i ddarparu dealltwriaeth gadarn o glefyd y croen fel mae’n ymddangos mewn arfer i gyfranogwyr, ac i alluogi Meddygon Teulu i reoli problemau dermatolegol yn llwyddiannus mewn cleifion. Mae’r MSc blwyddyn-o-hyd yn benodol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi cwblhau eu Tyst.Ôl-radd. mewn Dermatoleg Ymarferol ac sydd am astudio’r maes hwn ymhellach.

screen

Rhaglen e-ddysgu hyblyg

Dysgu o bell, fformat ar-lein sy'n galluogi dysgu hyblyg yn eich pwysau.

building

Perthnasol i'ch ymarfer clinigol

Sicrhau bod y dysgwr yn cael dealltwriaeth gadarn o gyflwyno clefyd croen mewn ymarfer a galluogi meddygon i reoli cyflyrau croenol yn llwyddiannus.

cursor

Rhaglen hynod ragweithiol

Cyfathrebu buan ac effeithlon yn lleihau ynysu. Cefnogaeth tiwtorial a fforymau trafod penodol ar-lein, cymuned gydweithredol.

certificate

Achrediad gan gorff proffesiynol

Mae'r rhaglen wedi'i hachredu yn rhyngwladol, gan gynnwys gan Goleg Meddygon Teulu Hong Kong a Chymdeithas Feddygol Hong Kong.

Mae'r MSc mewn Dermatoleg Ymarferol ar gyfer Meddygon Teulu sy'n ymarfer neu feddygon eraill sy'n ymarfer sy'n delio'n rheolaidd â chleifion â phroblemau dermatolegol, ac sydd wedi cael y Diploma Ôl-raddedig (PgDip) mewn Dermatoleg Ymarferol.

Mae'r cwrs dysgu o bell, rhan-amser, 12 mis hwn yn ceisio galluogi meddygon i reoli problemau dermatolegol yn llwyddiannus mewn cleifion sy'n dod i'w meddygfeydd, drwy ddatblygu’r sgiliau a gawson nhw yn y PgDip.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Meddygaeth

Rydym ni'n un o ysgolion meddygaeth fwyaf y DU, wedi ein hymrwymo i geisio gwella iechyd pobl drwy addysg ac ymchwil.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2068 7214
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch rhaglen Diploma Ôl-raddedig mewn Dermatoleg Ymarferol Prifysgol Caerdydd neu'r dystysgrif a thrawsgrifiadau Diploma Ôl-raddedig QMUL mewn Dermatoleg Glinigol sy'n dangos eich bod wedi cyflawni isafswm dyfarniad teilyngdod (60% neu uwch) a gwblhawyd heb fod yn fwy na phum mlynedd cyn y flwyddyn rydych yn bwriadu dechrau'r MSc. 
  2. Datganiad personol sy'n cadarnhau eich bod yn gweithio ac yn rheoli cleifion ar hyn o bryd, gyda rhan o'ch ymarfer clinigol yn cynnwys gofalu am gleifion â phroblemau croen. Mae hyn yn ofynnol er mwyn cwblhau'r astudiaethau achos yn y traethawd hir. 
  3. Tystiolaeth eich bod yn dal cofrestriad proffesiynol parhaus gyda chorff meddygol perthnasol cyn ac am gyfnod llawn y rhaglen.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Y dyddiad cau yw 31 Gorffennaf. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau neu geisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, bydd yn cael ei ystyried i'w gynnig. Mae cynigion yn cynnwys nifer y lleoedd sydd ar gael ar gyfer y derbyniad hwnnw ar sail gystadleuol yn ôl y marc cyffredinol y mae pob ymgeisydd wedi'i gyflawni yn y Diploma Ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd mewn Dermatoleg Ymarferol. Bydd graddedigion Prifysgol Caerdydd yn cael blaenoriaeth dros ymgeiswyr QMUL os bydd nifer y ceisiadau yn fwy na'r nifer o leoedd sydd ar gael.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r cwrs MSc yn cynnwys un cam (traethawd hir), sy'n para am 12 mis (rhan-amser). Rhaid i bob myfyriwr gofrestru i ddechrau ar gyfer y Diploma Ôl-raddedig (PgDip) cyn dechrau ar gam traethawd hir MSc. Mae'r cwrs Diploma Ôl-raddedig yn para am ddwy flynedd academaidd ar gyfer myfyrwyr rhan-amser neu flwyddyn i fyfyrwyr amser llawn.

Bydd cam traethawd hir y cwrs MSc yn cynnwys bloc 10 wythnos ffurfiannol o astudio ar-lein i ddatblygu sgiliau astudio ac ymchwil, a chwblhau traethawd hir 60 credyd ar Lefel 7, er mwyn cyflawni cyfanswm o 180 o gredydau o leiaf, gan gynnwys y 120 credyd o Ddiploma Ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd mewn Dermatoleg Ymarferol, i gwblhau'r rhaglen MSc.

Sylwch:

  • Bydd yn cymryd dwy flynedd i gwblhau cam traethawd hir y cwrs MSc (rhan-amser) a’r Diploma Ôl-raddedig (amser llawn).
  • Bydd yn cymryd tair blynedd i gwblhau cam traethawd hir y cwrs MSc (rhan-amser) a’r Diploma Ôl-raddedig (rhan amser).

Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.

Blwyddyn tri

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno'n gyfan gwbl ar-lein drwy ein hamgylchedd dysgu rhithwir, sy’n golygu cyfathrebu rheolaidd, cyflym ac effeithlon rhwng cydweithwyr, tiwtoriaid a gweinyddwyr cyrsiau, gan leihau'r unigedd sy’n gysylltiedig yn aml â dysgu o bell.

Gyda chefnogaeth tiwtorial pwrpasol ar-lein, fforymau trafod ac asesiadau ar-lein, byddwch yn rhan o gymuned ar-lein frwdfrydig a chefnogol o feddygon sydd â diddordeb mewn dermatoleg. Mae'r amgylchedd hwn yn caniatáu cydweithio, yn academaidd ac yn glinigol, a all barhau y tu hwnt i oes y rhaglen.

Sut y caf fy asesu?

Mae angen asesu'r cwrs yn ffurfiol ar ffurf traethawd hir.

Fel arfer, ni fydd y traethawd hir yn fwy nag 20,000 o eiriau a chaiff ei gefnogi gan unrhyw ddeunydd arall a ystyrir yn briodol i'r pwnc.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae'r staff academaidd sy'n addysgu ac yn goruchwylio'r MSc mewn Dermatoleg Ymarferol yn cael eu cynorthwyo gan dîm o weinyddwyr ôl-raddedig penodol a thîm technoleg dysgu. Gellir cysylltu â phob un dros y ffôn neu drwy ebost i sicrhau cyfathrebu da rhwng myfyrwyr a'r Brifysgol. Mae'r rhan fwyaf o'r cyfathrebu drwy'r Amgylchedd Dysgu Rhithwir, lle ceir byrddau trafod sydd hefyd yn caniatáu i'r myfyrwyr gefnogi ei gilydd.

Adborth

Bydd goruchwyliwr yn cael ei ddyrannu i chi ar ddechrau'r cwrs. Bydd goruchwylwyr yn gallu cynorthwyo drwy gydol y cwrs drwy roi adborth ar dasgau wedi'u cwblhau a fersiynau drafft sydd wedi’u cyflwyno. Bydd tiwtor personol yn cael ei ddyrannu i fyfyrwyr hefyd i helpu i fynd i'r afael â phryderon a allai godi. Bydd cymorth rheolaidd ar gael i fonitro eich cynnydd a’ch cyflwyniadau yn ôl amserlen a bennwyd ymlaen llaw.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Dylai astudio ar lefel Meistr roi cyfoeth o sgiliau a galluoedd y gallwch eu defnyddio mewn unrhyw leoliad proffesiynol. Yn ogystal â gwell dealltwriaeth gysyniadol o wybodaeth, ystyriaethau a dulliau cyfredol, cewch y cyfle i ymarfer a datblygu galluoedd mewn dadansoddi beirniadol, mewn defnyddio meddygaeth seiliedig ar dystiolaeth ac wrth ddelio â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol.

Dylai eich astudiaethau hefyd eich helpu i ddatblygu eich gallu i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau drwy eich galluogi i ddefnyddio tystiolaeth yn effeithiol a chyfleu cysyniadau pwysig i gydweithwyr ac eraill. Drwy elfennau sy'n canolbwyntio ar ymchwil, byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu a gwella eich sgiliau a’ch dealltwriaeth mewn agweddau fel adolygu llenyddiaeth, gwerthuso beirniadol, dylunio ymchwil, methodolegau ymchwil, casglu data, dadansoddi data ac egwyddorion ymchwil.

Ar ôl cymryd rhan lawn yn y cwrs, dylech fod yn gallu:

  • Gwerthuso'n feirniadol y llenyddiaeth ddermatolegol sy'n berthnasol i bwnc penodol
  • Trefnu hanes achosion a chynlluniau rheoli mewn modd cydlynol academaidd
  • Cyfuno ystod eang o lenyddiaeth sy'n berthnasol i bwnc penodol mewn modd rhesymegol a chydlynol
  • Argymell meysydd ar gyfer gwella gwybodaeth/rheolaeth ar bwnc penodol ym maes dermatoleg
  • Myfyrio ar gryfderau a gwendidau a meysydd newid yn eu harferion eu hunain yn seiliedig ar dystiolaeth sy'n bodoli eisoes

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Gan fod y rhaglen hon yn dair blynedd neu'n hŷn ac mae ganddi gymhwyster cyfwerth ag amser llawn blwyddyn, ni fyddwch yn gymwys i gael benthyciad ôl-raddedig. Mae gan Lywodraeth y DU fwy o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer benthyciadau ôl-raddedig.

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Costau ychwanegol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Bydd angen cyfrifiadur dibynadwy â mynediad cyflym at y we (ac amddiffyniad cyfredol rhag firysau a maleiswedd) a meddalwedd priodol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae'r rhaglen hon wedi'i hanelu at feddygon sydd wedi cwblhau'r Diploma mewn Dermatoleg Ymarferol. Gall yr MSc fod yn rhan o bortffolio meddyg teulu sy'n dymuno cael swydd GPwSI/GPwER mewn dermatoleg.

Mae’r rhaglen Feistr hon yn eich galluogi i ddangos eich bod yn cymryd cyfle i ddatblygu’ch gallu dadansoddi beirniadol, datrys problemau, gwneud penderfyniadau, canfod a defnyddio tystiolaeth ac ymdrin â materion cymhleth. Er nad ydym yn asesu sgiliau neu gymhwysedd clinigol wyneb yn wyneb (nid yw’r rhaglen hon felly’n disodli rhaglen hyfforddi arbenigol ffurfiol), bydd astudio ar y lefel hon yn helpu myfyrwyr llwyddiannus i ddangos sgiliau academaidd niferus y dylid eu gwerthfawrogi’n fawr mewn perthynas â’u datblygiad a’u cynnydd gyrfaol. Yn benodol, mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i ddangos datblygiad gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas â chymhwyso meddygaeth yn seiliedig ar dystiolaeth, a chyfoethogi posibl ar wasanaethau a fframweithiau llywodraethu. O'r herwydd, dylai ddarparu tystiolaeth o ymrwymiad a photensial a allai eich cynorthwyo mewn perthynas â chymryd mwy o gyfrifoldebau neu efallai chwilio am rolau ymchwil, ysgolheictod neu arweinyddiaeth.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Meddygaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.