Ffisiotherapi (MSc)
- Hyd: 18 mis - dechrau ym mis Ionawr
- Dull astudio: Amser llawn
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Nid ydym yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd
Does dim modd gwneud cais ar hyn o bryd. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
As a qualified physiotherapist, this MSc will enable you to develop valuable skills that will help you advance in your profession whether you are looking for promotion within clinical practice or a move into academia or research.
1af yng Nghymru
Ar gyfer Ffisiotherapi (BSc), yn ôl Complete University Guide yn 2025.
Ymchwilwyr rhyngwladol eu bri
Yr Athro Shea Palmer, yr Athro Nicola Phillips (OBE), a'r Athro Val Sparkes yw rhai o'n tîm o fri rhyngwladol sy'n arweinwyr yn eu maes.
Ymgysylltu â phartneriaid allanol
Rydym yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau, partneriaid clinigol, cyrff proffesiynol a’r diwydiant lleol a chenedlaethol.
Cymorth iaith Saesneg
Rydym yn cynnig cwrs Saesneg pwrpasol am ddim i gefnogi myfyrwyr rhyngwladol sy’n astudio gofal iechyd (nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael).
Ail-chwarae sesiynau addysgu
Lle bo'n briodol, mae ein holl sesiynau’n cael eu recordio, a bydd y recordiadau ar gael ar-lein.
Mae ein rhaglen ôl-raddedig wedi'i chynllunio ar gyfer ffisiotherapyddion cymwysedig, ledled y DU ac yn rhyngwladol.
Mae'n rhoi cyfle i chi fynd â'ch dysgu i'r lefel nesaf, gan wella eich sgiliau a'ch gwybodaeth er mwyn herio a gwerthuso eich ymarfer proffesiynol eich hun yn feirniadol a llywio gofal iechyd ffisiotherapi yn eich gwlad. Bydd y rhaglen yn helpu i lywio'r ffordd rydych yn ymarfer, gan gefnogi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rheoli newid, a gwella gwasanaethau i wella gofal cleifion. Rydyn ni’n ymdrechu i wneud yn siŵr eich bod chi’n barod ar gyfer y cam nesaf yn eich gyrfa.
Byddwch yn dysgu mewn amgylchedd cefnogol a chewch gyfle i deilwra eich modiwlau dewisol mewn ffordd sy'n gweddu orau i'ch anghenion. Mae ein modiwlau'n cwmpasu amrywiaeth o feysydd arbenigol gan gynnwys, cyhyrysgerbydol, niwro-adsefydlu ac anadlu cardiofasgwlaidd. Rydyn ni hefyd yn ymdrin â dulliau ymchwil i gefnogi eich dysgu ar lefel meistr. Nod y rhaglen yw datblygu eich meddwl beirniadol i'ch cefnogi i fod yn arbenigwr yn eich maes ymarfer a gwella eich cyflogadwyedd yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Bydd ymchwilwyr ac academyddion profiadol sy’n arbenigwyr yn eu meysydd yn cefnogi eich dysgu. Caiff tiwtor personol ei ddyrannu i chi, a fydd yn eich helpu gyda’ch astudiaethau. Efallai y byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau tiwtor personol mewn grŵp a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau mentora gyda'ch cyfoedion. Yn ogystal, byddwch yn dysgu ochr yn ochr â grŵp amrywiol o fyfyrwyr byd-eang sy'n astudio ar wahanol gamau yn eu gyrfa, gan rannu gwybodaeth a meithrin dealltwriaeth o ymarfer ffisiotherapi ledled y byd.
Mae eich amgylcheddau dysgu yn cynnwys ein labordy ffisiotherapi a'n hystafelloedd efelychu pwrpasol. Mae gennym amrywiaeth o offer yn yr Ysgol, fel melin draed gwrth-ddisgyrchiant a chanolfan cipio symudiadau, ynghyd ag offer arall a ddefnyddir i ddadansoddi symudiadau pobl.
Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
Dyluniwyd ein cyrsiau er mwyn eich darparu gyda'r wybodaeth a'r profiad y bydd angen arnoch er mwyn dechrau dilyn gyrfa goal iechyd proffesiynol.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif cymhwyster a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd neu ddiploma mewn ffisiotherapi, neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol.
- Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
- Datganiad personol y mae'n rhaid iddo fynd i'r afael â'r pwyntiau canlynol:
- Pam ydych chi wedi dewis y rhaglen hon?
- Beth sydd o ddiddordeb i chi am y rhaglen hon?
- Unrhyw brofiad perthnasol sy'n gysylltiedig â chynnwys y rhaglen neu'r modiwl.
- Sut rydych chi'n bwriadu defnyddio'r cymhwyster yn eich gyrfa.
- Sut y byddwch chi a'ch proffesiwn yn elwa o'ch astudiaethau.
- Pam rydych chi'n teimlo y dylid rhoi lle i chi ar y rhaglen.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, gan gynnwys asesiad o addasrwydd drwy'r datganiad personol, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae'r rhaglen MSc Ffisiotherapi yn fodiwlaidd, a rhaid i fyfyrwyr gwblhau 120 credyd yng nghydran a addysgir y rhaglen a 60 credyd arall yng nghydran y traethawd hir. Mae 60 credyd yn fodiwlau craidd a rhaid iddyn nhw gael eu cwblhau, ac mae 60 credyd yn ddewisol. Trefnir y modiwlau a addysgir mewn fformat bloc a chânt eu cynnal drwy gydol y semester.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.
Blwyddyn un
In Year One you will complete 60 credits and two optional modules (60 credits) which equates to 120 credits in the taught component of the programme.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Goruchwylio Dysgu mewn Ymarfer Proffesiynol Arbenigol | HCT199 | 30 credydau |
Dulliau ymchwil a dadansoddi data mewn gofal iechyd | HCT344 | 30 credydau |
Traethawd hir empirig | HCT117 | 60 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Diagnosis a Thriniaeth Cyhyrysgerbydol | HCT139 | 30 credydau |
Niwroadsefydlu: sail ddamcaniaethol | HCT200 | 30 credydau |
Gofal Cardio-Anadlol: Theori i Ymarfer | HCT341 | 30 credydau |
Hwyluso Dysgu ac Addysgu | HCT391 | 30 credydau |
Hwyluso Dysgu ac Addysgu | HCT391 | 30 credydau |
Arweinyddiaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol | HCT393 | 30 credydau |
Arweinyddiaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol | HCT393 | 30 credydau |
Diogelwch Cleifion a Risg Glinigol | NRT073 | 30 credydau |
Diogelwch Cleifion a Risg Glinigol | NRT073 | 30 credydau |
Blwyddyn dau
Ym mlwyddyn tri byddwch yn cwblhau eich traethawd hir
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Addysgir yn bennaf drwy weithdai, tiwtorialau a seminarau. Ceir darlithoedd hefyd, a cheir cyfleoedd priodol i drafod a gwerthuso’r syniadau a gyflwynir ar ôl y rhain. Cefnogir y cynnwys gan adnoddau ar-lein.
Mae gwaith astudio hunangyfeiriedig yn rhan bwysig o'r cwrs, a chyfeirir eich sylw at sgiliau astudio a chewch eich tywys drwy’r meysydd astudio.
Sut y caf fy asesu?
Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o asesiadau ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar. Mae hyn yn eich galluogi i ddangos eich gallu i ddadansoddi a gwerthuso sefyllfa ond hefyd i ddefnyddio amrywiaeth o ffyrdd i gyflwyno eich syniadau a'ch galluoedd. Y traethawd hir yw penllanw datblygu’r holl sgiliau hyn.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i chi rannu syniadau â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Yn ogystal â datblygu eich galluoedd deallusol eich hun, mae'r broses hon o rannu syniadau yn eich galluogi i ddysgu ac elwa ar brofiadau eraill. Rhoddir cyfle i gynnal trafodaethau o’r fath a chyfnewid syniadau drwy seminarau a thiwtorialau.
Byddwch yn cael tiwtor personol penodol ar ôl cofrestru ar y rhaglen, sy'n gallu helpu gydag unrhyw ofal bugeiliol yn ogystal â rhoi cyngor ar arddull ysgrifennu, gramadeg a mentora academaidd.
Mae pob modiwl yn y rhaglen yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd - Dysgu Canolog - yn helaeth. Yma byddwch chi'n dod o hyd i ddeunyddiau’r cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig ac enghreifftiau o asesiadau. Cofnodir pob darlith trwy Panopto ac maen nhw ar gael i chi drwy gydol eich rhaglen.
Bydd myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu cefnogi gan raglen Saesneg mewn-sesiynol bwrpasol (10 wythnos) yn semester 1. Dim ond i fyfyrwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y mae hyn ar gael a bydd presenoldeb yn seiliedig ar angen gan mai dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael.
Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i'ch cefnogi chi. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaeth cwnsela myfyrwyr, gwasanaeth cynghori myfyrwyr, cyfleusterau gofal dydd, a chyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff, yn ogystal â gwybodaeth am y campws a gwasanaethau llyfrgell a TG.
Mae ein ap myfyrwyr yn caniatáu i chi gael mynediad at wasanaethau Prifysgol Caerdydd a gwybodaeth wedi'i phersonoli mewn un lle ac mewn modd syml a chyfleus drwy ffôn clyfar, o’r siop apiau.
Dyma rai o’r nodweddion:
- Mapiau o’r campws
- Adnewyddu, taliadau ac eitemau sydd ar gael yn y llyfrgell
- Amserlen myfyrwyr
- Dod o hyd i gyfrifiadur sydd ar gael
- Cael cymorth a chefnogaeth i fyfyrwyr
- Newyddion myfyrwyr
- Derbyn hysbysiadau pwysig
- Dolenni i lansio apiau eraill y Brifysgol fel Outlook (ar gyfer ebost) a Blackboard (ar gyfer Dysgu Canolog).
- Dolenni i apiau a argymhellir fel Nextbike i helpu i wneud yn fawr o brofiad fel myfyrwyr.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon i’w gweld isod:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Datblygu gwybodaeth a sgiliau clinigol gwell a chymhwyso'r rhain yn feirniadol wrth ymarfer ffisiotherapi, i ddatblygu dull cyfannol o reoli cymhlethdodau a gwella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau.
Datblygu dealltwriaeth ymarferol drwy werthuso technegau ymchwil ac ymholi sefydledig, dehongli gwybodaeth a chefnogi'r gwaith o roi canfyddiadau ymchwil ar waith mewn ymarfer ffisiotherapi.
Gwerthuso sefyllfa ffisiotherapi mewn ymarfer gofal iechyd ac arfarnu datblygiadau neu newidiadau mewn ymarfer proffesiynol yn feirniadol.
Sbarduno newid ac arwain y gwaith o reoli newid a datblygu’r proffesiwn ffisiotherapi.
Sgiliau Deallusol:
Dadansoddi ymchwil yn feirniadol.
Myfyrio a dadansoddi’r proffesiwn ffisiotherapi a'ch ymarfer eich hun yn feirniadol.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ymdrinnir â chymhwyso theori ffisiotherapi at ymarfer clinigol drwy gydol y broses cynnwys ac asesu a addysgir.
Sgiliau trosglwyddadwy/allweddol
Cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd.
Ennill sgiliau ymchwil a'u cymhwyso wrth ymarfer.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau ychwanegol
Na
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Postgraduate level study is essential if you want to progress to advanced and specialist practice. An MSc will enable you to gain the skills to enhance your autonomy within your profession, to further your career and take advantage of a greater range of opportunities.
Our modules are designed to complement progression in clinical practice, but also to facilitate a move into academia or research.
Our graduates have gained roles including:
- clinical specialist
- consultant physiotherapist
- physiotherapy management positions
- academia/lecturer positions
- research associate
- PhD study.
Lleoliadau
Na
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Healthcare, Physiotherapy
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.