Ffiseg (MSc)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Mae'r pynciau a addysgir yn adlewyrchu ein harbenigedd ymchwil mewn Ffiseg Cwantwm, Ffotoneg, dadansoddiad Damcaniaethol a Chyfrifiadurol, Synwyryddion a Deunyddiau yn ogystal ag Astroffiseg.
Mae ein gradd MSc mewn Ffiseg yn radd amser llawn sy’n ceisio rhoi hyfforddiant cynhwysfawr mewn sgiliau cyffredinol, trosglwyddadwy ac arbenigol, a phrofiad ymarferol. Ar y cwrs, byddwch yn ymdrin â ffiseg ddamcaniaethol ac arbrofol, ynghyd â meysydd cymhwysol uwch. Rydyn ni’n eich annog i ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau ymchwil cyfredol a dealltwriaeth newydd sydd ar flaen y gad ym maes ffiseg. Byddwn hefyd yn trafod cyd-destun y ffisegydd modern a materion diogelwch, moesegol, amgylcheddol a chymdeithasol mewn amgylchedd gwaith.
Ar ôl cwblhau’r cwrs, dylech feddu ar yr wybodaeth a’r sgiliau fydd arnoch eu hangen i ddilyn gyrfa ym meysydd ymchwil academaidd, gwyddoniaeth ffisegol, ymarfer diwydiannol, ymchwil a datblygu, neu yrfaoedd medrus eraill sy’n ymwneud â rhifau.
Nodweddion unigryw
The MSc programme is both research-lead and research-informed:
- Taught modules delivered by world-class researchers.
- Experimental and theoretical summer research projects based either at our excellent research facilities or in placement with one of our industrial partners.
- Innovative course design with dedicated teaching and learning support delivered by our specialist Teaching and Scholarship team.
- The option to tailor the course to your interests with our broad range of optional modules.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth
Mae ein rhaglenni gradd wedi’u hachredu gan y Sefydliad Ffiseg yn cynnwys meysydd arbenigol sy’n adlewyrchu ein diddordebau ymchwil.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis seryddiaeth, astroffiseg, cyfrifiadureg, peirianneg, mathemateg, ffiseg, neu wyddoniaeth ffisegol gysylltiedig, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cynllun Cymeradwyaeth Technoleg Academaidd (ATAS)
Bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n defnyddio unrhyw fath o visa gael cliriad ATAS i astudio'r cwrs hwn.
Strwythur y cwrs
Mae dau gam i’r rhaglen hon. Mae'r cam cyntaf yn cynnwys modiwlau craidd a dewisol a addysgir sy'n dod i gyfanswm o 120 credyd. Rhennir y rhain ar draws semester yr hydref a semester y gwanwyn ym mlwyddyn un.
Ar ôl i chi basio'r cam cyntaf yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i ail gam y rhaglen, sef prosiect traethawd hir (60 credyd). Byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil 4 mis, naill ai gydag un o'r grwpiau ymchwil yn ein Hysgolion neu'n allanol ar leoliad gydag un o'n partneriaid diwydiannol. Yna byddwch yn cwblhau traethawd hir yn amlinellu eich ymchwil. Dylid cyflawni’r traethawd hir yn annibynnol o dan oruchwyliaeth aelod priodol o staff academaidd sydd â diddordebau ymchwil yn eich maes dewisol.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.
Byddwch yn ymgymryd â'r holl fodiwlau craidd a dewisol a addysgir yn nhymor yr hydref a'r gwanwyn. Byddwch hefyd yn cwblhau prosiect ymchwil haf 4 mis o hyd a fydd yn cael ei asesu drwy draethawd hir.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Prosiect Ymchwil | PXT999 | 60 credydau |
Technegau Uwch mewn Ffiseg ac Astroffiseg | PXT991 | 20 credydau |
Sgiliau Astudio ac Ymchwil Uwch | PXT992 | 20 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Yng Nghaerdydd rydyn ni’n darparu cyfleusterau addysgu pwrpasol ar gyfer gradd meistr a addysgir, gan gynnwys labordy addysgu pwrpasol, ystafelloedd seminar a chyfarfod a man astudio tawel. Darperir cyfrifiaduron i garfan y radd meistr a addysgir eu defnyddio’n unig.
Mae ein rhaglenni MSc wedi'u cynllunio o amgylch y syniad canolog o adeiladu cymuned o fyfyrwyr gradd meistr a addysgir sy'n gweithio gyda'i gilydd fel grŵp i wella dysgu. Cyflwynwyd y dyluniad arloesol hwn i gymuned ehangach Cymuned Arbenigol Addysgu Addysg Uwch y DU yng Nghynhadledd Amrywiaeth mewn Addysg Cemeg / Addysg Ffiseg (ViCE/PHEC) yn 2016 ochr yn ochr â'n datblygiadau arloesol israddedig ac allgymorth. Gallwch felly fod yn dawel eich meddwl bod eich cwrs MSc wedi'i gynllunio a'i weithredu gan gyfeirio at y datblygiadau diweddaraf mewn ymchwil a methodoleg addysgol.
Bydd y dulliau addysgu y byddwn yn eu defnyddio yn amrywio o un modiwl i’r llall, fel y bo'n briodol, yn dibynnu ar gefndir y myfyrwyr sy'n bresennol, y pwnc a'r dull(iau) asesu. Mae ein hamser addysgu â chyswllt fel arfer yn gymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, sesiynau grŵp a sesiynau ymarferol.
O ddechrau tymor yr hydref, byddwn yn eich cyflwyno i'n cyfleusterau addysgu pwrpasol, i’r ardaloedd mynediad agored ac i'n labordai ymchwil. Bydd hyn yn eich galluogi i integreiddio'n hawdd i gymuned yr Ysgol. Mae ein carfan MSc hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd fel grŵp i drafod pynciau ymchwil, i gyflwyno papurau ac i fynd i'r afael ag ymarferion grŵp a chael hyfforddiant sgiliau ymarferol uwch gyda'i gilydd.
Byddwn yn dyrannu goruchwyliwr a mentor i chi ar gyfer eich prosiect ymchwil haf. Fel arfer, bydd eich goruchwyliwr yn aelod o staff academaidd sy’n arbenigwr sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ym maes ymchwil. Byddwch yn cyfarfod yn rheolaidd â'ch goruchwyliwr a'i grŵp drwy gydol eich prosiect. Mae mentor eich prosiect yn aelod diduedd o staff academaidd a fydd yn monitro eich cynnydd, yn rhoi cyngor ac yn sicrhau bod eich prosiect ymchwil haf yn mynd yn ddidrafferth.
Sut y caf fy asesu?
Asesir a ydych wedi cyflawni’r deilliannau dysgu yn ein modiwlau a addysgir drwy arholiadau bob semester.
Bydd eich prosiect ymchwil ar ddiwedd y cwrs yn cael ei asesu drwy draethawd hir. Gellir dewis eich pwnc ymchwil o amrywiaeth o deitlau prosiect a gynigir gan staff academaidd, fel arfer mewn meysydd o ddiddordeb ymchwil cyfredol. Rydych hefyd yn cael eich annog i gyflwyno eich syniad eich hun ar gyfer prosiect.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae tiwtor personol yn cael ei neilltuo i bob un o'n myfyrwyr pan fyddan nhw’n cofrestru ar y cwrs. Mae tiwtor personol yno i'ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau, a gall roi cyngor i chi ar faterion academaidd a phersonol a all fod yn effeithio arnoch. Dylech gael cyfarfodydd rheolaidd â’ch tiwtor personol er mwyn sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth lawn.
Bydd gennych fynediad i Lyfrgell Trevithick, sy'n dal ein casgliad o adnoddau ffiseg ac astroffiseg, yn ogystal ag adnoddau o ddisgyblaethau Peirianneg a Chyfrifiadureg.
Byddwn yn rhoi copi i chi o'r Llawlyfr Myfyrwyr, sy'n cynnwys manylion polisïau a gweithdrefnau'r Ysgol. Rydyn ni hefyd yn cefnogi myfyrwyr trwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, lle gallwch ofyn cwestiynau mewn fforwm neu ddod o hyd i ddogfennau cysylltiedig â’r cwrs
Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth sy'n agored i'n myfyrwyr, fel Canolfan y Graddedigion, cwnsela a llesiant, cynghorwyr ariannol a gyrfaoedd, y swyddfa ryngwladol ac Undeb y Myfyrwyr.
Adborth
Rydyn ni’n cynnig adborth ysgrifenedig ac adborth llafar, yn dibynnu ar y gwaith cwrs neu'r asesiad rydych wedi'i wneud. Byddwch yn derbyn adborth amserol gan arweinydd y modiwl. Os oes gennych gwestiynau am eich adborth, mae arweinwyr modiwlau yn hapus i roi cyngor ac arweiniad i chi ar eich cynnydd.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Ar ôl cwblhau'r cwrs dylech allu gwneud y canlynol:
- Deall deddfau ac egwyddorion sylfaenol ffiseg, gan eu cymhwyso at amrywiaeth o feysydd ym maes ffiseg.
- Meddu ar wybodaeth ymarferol am amrywiaeth o dechnegau arbrofol, mathemategol a chyfrifiadurol sy'n berthnasol i ymchwil gyfredol ym maes ffiseg.
- Deall cyfyngiadau gwybodaeth a thechnolegau cyfredol a'r angen i gael gwybodaeth newydd drwy astudio mwy.
- Gwybod sut i gynllunio, gweithredu ac adrodd ar ganlyniadau ymchwiliad neu arbrawf ac i ddadansoddi a gwerthuso ei ganlyniadau yng nghyswllt damcaniaethau cyfredol sylfaenol.
- Y gallu i gyfleu syniadau gwyddonol cymhleth, casgliadau arbrawf, ymchwiliad neu brosiect yn gryno, yn gywir ac yn llawn gwybodaeth.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau ychwanegol
Bydd yr Ysgol yn talu am bopeth sy’n rhan hanfodol o'r rhaglen - esbonnir hynny’n eglur yn yr holl wybodaeth am y rhaglen ac mewn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan diwtoriaid ar lafar.
Mae'r Brifysgol o'r farn nad oes angen i'r ysgolion dalu'r costau canlynol gan nad ydyn nhw’n hanfodol neu maen nhw’n gostau sylfaenol y dylid disgwyl i fyfyriwr eu talu eu hunain:
- Gliniaduron
- Cyfrifianellau
- Deunydd ysgrifennu cyffredinol
- Gwerslyfrau (y tybir eu bod ar gael yn y llyfrgell)
- Copïo/argraffu sylfaenol.
Os oes costau/ffioedd dewisol i'w talu gan y myfyriwr, nid yw'r rhain yn ofyniad i basio'r radd.
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Byddwn yn darparu offer sy'n hanfodol i'r cwrs. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn dod â gliniadur gyda meddalwedd priodol (e.e. rhaglenni Office), USB neu yriant caled, deunydd ysgrifennu cyffredinol a rhywfaint o offer llunio sylfaenol.
Byddwch yr holl feddalwedd ac offer perthnasol sy'n gysylltiedig â TG ar gael ar eich cyfer ar gyfrifiaduron ein rhwydwaith. Byddwch hefyd yn gallu cael gafael ar offer arbrofol mewn sesiynau labordy cysylltiedig.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Gall gradd meistr mewn ffiseg agor y drws i amrywiaeth eang o yrfaoedd posibl yn y dyfodol. Mae ein cyn-raddedigion wedi sicrhau cyflogaeth ym meysydd ffotoneg, bioffiseg, ymchwil a datblygu offerynnol, ffiseg lled-ddargludyddion mewn gwyddoniaeth academaidd ac ymarfer diwydiannol. Gallwch hefyd ddewis ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig pellach neu ymchwil academaidd ym maes ffiseg, neu ddechrau gyrfa rifol hynod fedrus mewn disgyblaeth arall.
Lleoliadau
Mae gennym gysylltiadau cryf a sefydledig â’r diwydiant ac efallai y gallwn gynnig lleoliad i chi gydag un o'r partneriaid hyn ar gyfer eich prosiect ymchwil. Efallai y bydd gennym hefyd rai lleoliadau academaidd ar gael yn yr Ysgol dros yr haf, a all fod yn hynod werthfawr i fyfyrwyr sy'n ceisio parhau mewn ymchwil academaidd.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Ffiseg a seryddiaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.