Tocsicoleg Feddygol (PgDip)
- Hyd: 2 flynedd
- Dull astudio: Rhan amser yn dysgu o bell
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn

Anelir y rhaglen at feddygon, fferyllwyr a gwyddonwyr eraill a hoffai ddatblygu dealltwriaeth eang o egwyddorion sylfaenol gwenwyneg feddygol.
Mae'r Diploma Ôl-raddedig hwn mewn Tocsicoleg Feddygol yn gwrs dysgu o bell, rhan-amser am ddwy flynedd ar gyfer personél meddygol.
Mae wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer ffarmacolegwyr clinigol dan hyfforddiant, hyfforddeion arbenigol mewn meddygaeth damweiniau ac achosion brys neu feddygaeth acíwt a disgyblaethau eraill, a'r rhai sy'n bwriadu ymuno â'r diwydiant fferyllol neu sydd eisoes yn gweithio ynddo.
Mae hefyd wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn canolfannau gwenwyn, ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys fferyllwyr ysbyty a fferyllwyr cymunedol ac ar gyfer y rhai sydd â gradd mewn Gwyddorau Bywyd neu unigolion eraill sy'n chwilio am yrfa yng nghyff rheoleiddio'r llywodraeth neu'r diwydiant fferyllol neu gemegol.
Mae’r cwrs yn anelu at wneud y canlynol:
- eich cyflwyno chi i'r egwyddorion cyffredinol sy'n sail i docsicoleg feddygol.
- ceisio integreiddio dealltwriaeth o'r ffyrdd y mae cyffuriau a chemegau eraill yn cynhyrchu effeithiau gwenwynig a sut gellir rhagweld, trin a, lle bo'n bosibl, atal y rhain.
Un o nodau allweddol y rhaglen addysgu yw annog meddwl yn feirniadol, gan roi gwybodaeth ymarferol a ffeithiol i chi, ynghyd ag agwedd sylfaenol at broblemau gwenwynegol. Rydyn ni am annog agweddau a galluoedd fydd o werth parhaus yn y dyfodol.
Nodweddion unigryw
This is a distance learning course delivered entirely online so students can choose when and where to study. Case studies will provide opportunities to apply the theoretical knowledge in solving problems. This course is designed to give skills to candidates working or planning to work in various Toxicological fields which include clinical, laboratory, environmental and occupational and also in an advisory capacity.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Meddygaeth
Rydym ni'n un o ysgolion meddygaeth fwyaf y DU, wedi ein hymrwymo i geisio gwella iechyd pobl drwy addysg ac ymchwil.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd israddedig mewn unrhyw bwnc gwyddoniaeth, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro. Neu, copi o'ch Tystysgrif Ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd (PgCert) mewn Tocsicoleg Feddygol a gwblhawyd o fewn y pum mlynedd diwethaf.
- copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
- Datganiad personol sy'n dangos tystiolaeth o'ch ymrwymiad i yrfa gan ddefnyddio tocsicoleg.
Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail profiad proffesiynol perthnasol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrion
- Rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Bydd angen cyfrifiadur dibynadwy â mynediad cyflym at y we (ac amddiffyniad cyfredol rhag feirysau a maleiswedd) a meddalwedd priodol.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd graddedigion
Mae'r cwrs yn addas ar gyfer ffarmacolegwyr clinigol dan hyfforddiant, cofrestryddion arbenigol mewn disgyblaethau eraill, y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant fferyllol, y rhai sy'n gweithio yn y Gwasanaethau Gwybodaeth Cenedlaethol ar gyfer Gwenwynau, fferyllwyr, nyrsys a graddedigion gwyddor bywyd eraill. Gall y cwrs fod o ddiddordeb i unigolion sydd am ddilyn gyrfa gyda chyrff rheoleiddio’r llywodraeth neu'r diwydiant fferyllol neu gemegol.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Meddygaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.