Addysg Feddygol (PgCert)
- Hyd: 1 flwyddyn
- Dull astudio: Rhan amser yn dysgu o bell
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Mae’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Feddygol yn gwrs e-ddysgu, sy’n cynnig ffordd o adeiladu credyd astudio drwy gwrs tri cham, cynyddol ar-lein.
Hybu rhagoriaeth
Dewch i elwa ar ein hangerdd a’n harbenigedd hirsefydlog o ran cyrsiau addysg feddygol arweiniol sy'n integreiddio ymchwil ac ysgolheictod.
Hyblygrwydd
Mae cynllun a chyflwyniad y cwrs yn pwysleisio egwyddorion a chymhwyso drwy drafodaeth a gweithgareddau rhyngweithiol mewn amgylchedd ar-lein i ddiwallu anghenion ac amgylchiadau unigol.
Cymhwysol ac ymarferol
Cynllun y cwrs a thasgau asesu'n gysylltiedig â'ch ymarfer addysgol eich hun, yn caniatáu i chi gymhwyso theori a chysyniadau i'ch lleoliad clinigol.
Rhannu arfer da
Cewch gyfle i astudio ochr yn ochr â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o gefndiroedd amrywiol i hyrwyddo dealltwriaeth a rhannu arfer da.
Cwrs achrededig
Wedi'i achredu gan Advance HE, AoME ac wedi'i alinio â meini prawf Hyfforddwr GMC.
Nod y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Feddygol yw rhoi cyfle i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, sydd â diddordeb arbennig mewn addysg, ddatblygu eu rôl fel athro clinigwr. Mae'r Dystysgrif Ôl-raddedig yn rhaglen blwyddyn, rhan-amser ar lefel Meistr, sy'n arwain at 60 credyd ar Lefel 7. Rydym yn cynnig y llwybr hwn fel opsiwn annibynnol i'r rhai nad ydynt efallai mewn sefyllfa i ymrwymo i MSc a thair blynedd o astudio. Fodd bynnag, mae opsiwn i ddefnyddio'r credydau o fewn tair blynedd a chwblhau'r MSc.
Mae’r cwrs yn hynod ymarferol a’i nod yw modelu arferion gorau mewn dysgu ac addysgu a defnyddio ystod eang o ddulliau gweithredu arloesol er mwyn datblygu a chefnogi dysgwyr. I'r rhai ohonoch a hoffai ennill gwobr Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch, mae cyfle i chi ddewis y llwybr hwn. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu pan fyddwch yn dechrau'r rhaglen.
Mae'r rhaglen hon ar gyfer yr holl weithwyr proffesiynol meddygol, deintyddol, milfeddygol a gofal iechyd eraill sydd am ehangu eu dealltwriaeth o addysgeg a gallu cymhwyso theori addysgol i addysg glinigol er mwyn rhoi boddhad uchel yn y rhai y maent yn eu haddysgu. Bydd y rhaglen yn eich cefnogi i asesu a myfyrio ar eich ymarfer eich hun a nodi lle mae'r bylchau presennol yn y broses o ddarparu addysg glinigol. Byddwch yn cael cyfle i ddatblygu atebion addysgol arloesol i fynd i'r afael ag anghenion dysgu clinigol heb eu diwallu a fydd yn gwella canlyniadau.
Trwy ddatblygu rhwydwaith o athrawon clinigol profiadol, nod ein rhaglen yw annog diwylliant ar gyfer hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a dangos aliniad ymarfer addysgu a dysgu gyda Safonau Proffesiynol a gwerthoedd proffesiynol y DU (AdvanceHE, Cyngor Meddygol Cyffredinol, Academi Addysgwyr Meddygol).
Mae’r cwrs wedi’i achredu gan Academi’r Addysgwyr Meddygol (AoME) gan ganiatáu i chi wneud cais am aelodaeth llwybr cyflym.
Mae 'Llwybr Cymrodoriaeth' dewisol wedi'i achredu gan Advance HE, a gellir ei ddilyn ochr yn ochr â blwyddyn astudio 1, sy'n eich galluogi i geisio cymrodoriaeth (FHEA). Dylid cyflwyno'r portffolio terfynol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Meddygaeth
Rydym ni'n un o ysgolion meddygaeth fwyaf y DU, wedi ein hymrwymo i geisio gwella iechyd pobl drwy addysg ac ymchwil.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn pwnc sy'n gysylltiedig â gofal iechyd, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
- Datganiad personol sy'n dangos eich diddordeb/cyfranogiad mewn dysgu ac addysgu mewn cyd-destunau gofal iechyd. Dywedwch wrthym pam eich bod yn dymuno dilyn y rhaglen hon, pa fuddion y disgwyliwch eu cael ohono, a pha sgiliau a phrofiad sydd gennych sy'n eich gwneud yn ymgeisydd addas. Rhowch eich datganiad fel PDF (500 gair) a nodwch y cwestiynau canlynol fel penawdau:
- Pa brofiad sydd gennych chi fel gweithiwr iechyd proffesiynol? Dylech feddu ar o leiaf blwyddyn o brofiad meddygol cyffredinol ar ôl graddio.
- Pam ydych chi'n dymuno dilyn y cwrs hwn?
- Pa brofiad ôl-gymhwyso sydd gennych chi o addysgu fel gweithiwr iechyd proffesiynol?
- Pa gyfranogiad sydd gennych chi ar hyn o bryd mewn addysgu yn eich proffesiwn iechyd?
Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol mewn maes sy'n gysylltiedig â gofal iechyd. Mae'n rhaid i chi ddal cofrestriad proffesiynol gyda chorff cydnabyddedig. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais a'ch profiad addysgu ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrion
- Rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae'r Dystysgrif hon yn gymhwyster Lefel 7 annibynnol ac yn gam un o raglen MSc a addysgir yn rhan-amser dros flwyddyn.
Mae'r cam hwn yn para am 12 mis, ac mae'n cynnwys tri modiwl 20 credyd, sy’n dod i gyfanswm o 60 credyd, ar Lefel 7. Bydd gennych yr opsiwn o ddewis pynciau mewn rhai modiwlau sy'n cyd-fynd â'ch anghenion dysgu a chlinigol.
Bydd myfyrwyr sy'n cyflawni'r PGCert annibynnol mewn Addysg Feddygol yn gallu credydu'r tri modiwl 20 credyd a gwneud cais i symud ymlaen i'r cwrs MSc llawn, a fydd yn ddwy flynedd arall o astudio (bydd Blwyddyn 2 ar lefel Diploma ac yn werth 60 credyd; os ydynt yn llwyddiannus ar y lefel hon, gallant symud ymlaen i Flwyddyn 3, sef traethawd hir 20,000 o eiriau gwerth 60 credyd).
Gellir astudio pob modiwl hefyd ar sail DPP annibynnol i roi mwy o hyblygrwydd dysgu wedi'i deilwra i ofynion dysgu unigol.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Glinigol | MET956 | 20 credydau |
Asesu Dysgu ac Adolygiad gan Gymheiriaid o Addysgu | MET957 | 20 credydau |
Cyfryngau a Thechnolegau Addysg | MET958 | 20 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae’r cwrs wedi’i drefnu’n gyfres o fodiwlau sy’n cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol a gyflwynir ar-lein. Cynhelir y gweithgareddau mewn grwpiau ac fe’u hwylusir gan diwtor ar-lein. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i chi ymchwilio i bwnc y modiwl drwy drafodaeth a sicrhau eglurhad. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle a’r amser i ddefnyddio’r hyn a ddysgir drwy drafodaethau ar-lein, tasgau, blogiau ac aseiniadau. Mae digon o amser i fyfyrio ar eich ymarfer eich hun a rhannu profiadau a mewnwelediadau newydd gyda chydweithwyr. Fe'ch anogir i gymryd rhan mewn deialog feirniadol sy'n hyrwyddo mewnwelediad dyfnach i theori ac egwyddorion addysgol sy'n berthnasol i addysg glinigol.
Byddwch yn cwblhau asesiadau ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth lefel 7 o ansawdd uchel, sy'n uniongyrchol berthnasol i'ch ymarfer clinigol addysgol, a chewch eich annog a'ch cefnogi i ddatblygu gwybodaeth ym maes addysg feddygol.
Cyflwynir y cwrs hwn yn gyfan gwbl drwy ddysgu o bell ar-lein ac felly gallwch ei gwblhau o unrhyw le yn y gymuned gofal iechyd proffesiynol ryngwladol. Mae hyn hefyd yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd astudio i weddu i'ch anghenion unigol. Bydd cymorth yn cael ei ddarparu lle bynnag y bo modd i ddiwallu'r anghenion hynny.
Cyflwynir y cwrs drwy amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Caerdydd, Dysgu Canolog. Mae'r cwrs yn defnyddio ystod eang o ddulliau ar-lein i gefnogi a datblygu dysgwyr. Mae dulliau dysgu ac addysgu yn cwmpasu ystod o strategaethau a thechnegau i hyrwyddo dysgu cydweithredol a phwrpasol. Mae'r addysgu'n digwydd ar-lein mewn grwpiau, sy'n cael eu hwyluso gan diwtoriaid ar-lein. Mae amrywiaeth o dasgau ym mhob modiwl, pob un ohonynt yn rhoi cyfle i drafod, dadlau, archwilio a rhyngweithio â chyfoedion ac maent wedi'u cynllunio i wella dysgu, yn ogystal ag annog astudiaeth dan arweiniad a dysgu annibynnol.
Mae tiwtoriaid ar-lein yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflwyno addysgu ar gyfer pob modiwl. Mae elfennau ymarferol yn nodwedd allweddol o'r cwrs, a byddwch yn cael eich annog i roi cynnig ar ddulliau newydd o addysgu a dysgu drwy gydol y rhaglen. Bydd cyfosod eich gwybodaeth a defnyddio theori i ymarfer yn eich lleoliad addysgu clinigol eich hun yn un o ofynion canolog asesu ffurfiol a gwaith ffurfiannol. Bydd cyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau gweithio mewn tîm a chydweithio ar gael drwy eich tasgau a'ch gweithgareddau mewn byrddau, gweminarau a thrwy gymryd rhan gyffredinol mewn dadleuon gyda thiwtoriaid a grwpiau cyfoedion. Bydd yr addysgu yn cael ei ddarparu gan dîm addysgu amlbroffesiynol yng Nghanolfan Addysg Feddygol Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd (C4ME). Byddwch hefyd yn cael adborth adeiladol rheolaidd drwy gydol y cwrs, er mwyn ysgogi brwdfrydedd a darparu cefnogaeth, gan sicrhau y byddwch yn cael y cyfle i gyflawni'r deilliannau dysgu. Bydd y defnydd o’r gwahanol ddulliau dysgu yn meithrin cymuned o ymarfer ac yn gwella eich gwaith ar y cyd â’ch cyfoedion a’r gyfadran, gan gydnabod y bydd gan unigolion arddulliau ac anghenion dysgu gwahanol.
Sut y caf fy asesu?
Cewch eich asesu mewn amrywiaeth o ffyrdd er mwyn llywio dysgu (ffurfiannol) ac i asesu dysgu (crynodol). Mae pob tasg aseiniad yn gysylltiedig â'ch ymarfer addysgol. Er enghraifft, gall aseiniadau nodweddiadol ymwneud â datblygu cynllun gwers wedi'i ategu gan theori dysgu, creu adnodd cyfryngau annibynnol, beirniadu dulliau asesu, neu ysgrifennu cyfres o fyfyrdodau ar eich rôl fel addysgwr yn ystod y modiwl adolygu gan gymheiriaid. Dewiswyd yr asesiadau i sicrhau bod y deilliannau dysgu yn cael eu profi'n briodol a bod y dulliau addysgu sy'n arwain at yr asesiadau hyn yn addas. Mae’r asesiadau ffurfiannol yn eang i'ch galluogi i ganolbwyntio ar feysydd sy'n gweddu orau i'ch anghenion dysgu a'ch rôl glinigol. Nod yr aseiniadau crynodol yw sicrhau bod y meysydd hyn yn briodol ar gyfer eich anghenion dysgu, eich maes ymarfer, a'ch meysydd diddordeb, gan roi pwyslais addysgol iawn iddynt.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae tîm o staff academaidd, staff gweinyddol, staff technoleg dysgu a staff llyfrgell ar gael drwy gydol y flwyddyn i’ch helpu. Byddwch yn cael adborth ysgrifenedig ar bob asesiad. Yn ogystal, mae llawer o gyfleoedd drwy gydol y cwrs i dderbyn adborth gan gymheiriaid a thiwtoriaid. Byddwch yn cael tiwtor personol a fydd yn cefnogi eich cynnydd ar y cwrs, yn monitro eich cynnydd cyffredinol, yn trafod materion perthnasol ac yn darparu cyngor, arweiniad a chymorth. Byddant yn cysylltu â chi ar wahanol adegau yn ystod y cwrs. Mae amrywiaeth o dasgau a gweithgareddau ym mhob modiwl, a byddwch yn trafod ystod o faterion addysgol drwy ymgysylltu â'r rhain gyda thiwtoriaid ar-lein a chyfoedion. Bydd tiwtoriaid personol yn gwneud sylwadau ar eich blog myfyriol os ydych yn dymuno, ac mae hyn yn gyfle i gael trafodaeth am eich rolau addysgol, eich cyfrifoldebau a’ch profiadau yn eich lleoliad clinigol. Gwneir hyn hefyd drwy eich mapiau datblygiad personol a'ch trafodaeth addysgol yn y fforwm trafod.
Bydd adborth ffurfiannol yn cael ei gyfleu’n electronig ac yn ysgrifenedig yn brydlon. Rhoddir adborth crynodol yn dilyn asesiadau o fewn yr amser a nodir gan y Brifysgol.
Disgwylir i fyfyrwyr gymryd rhan weithredol yn yr amserlen ar-lein o weithgareddau a gynigir gan y cwrs a fydd hefyd yn eu helpu i gwrdd â myfyrwyr eraill ar-lein. Mae cynnwys y cwrs ar Dysgu Canolog, platfform sydd wedi'i gynllunio i ddarparu profiad gwych i fyfyrwyr ar-lein. Mae ymgysylltu ar y platfform dysgu yn cael ei wella gan nifer o fyrddau trafod anghydamserol a gweminarau cydamserol.
Mae cymorth am gymrodoriaeth ar gael drwy diwtoriaid personol, gweminarau ar-lein, fforymau trafod a blogiau myfyriol.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi wedi’i gyflawni erbyn diwedd y rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn nodi'r wybodaeth a'r medrau fydd gyda chi. Maen nhw’n eich helpu i ddeall faint mae disgwyl ichi ei wneud, hefyd.
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu gwneud y canlynol:
Gwybod a deall:
GD 1 adolygu'n feirniadol ddulliau dysgu ac addysgu mewn lleoliadau addysgol clinigol ac ymarfer proffesiynol.
GD 2 gwerthuso addysg, damcaniaethau a modelau yn feirniadol i lywio dewisiadau asesu, adolygu gan gymheiriaid a'r defnydd o gyfryngau i ddylunio amgylcheddau dysgu cynhwysol sy'n berthnasol i ddiwallu a chefnogi anghenion dysgu amrywiol ac yn unol â safonau proffesiynol ar gyfer ymgysylltu a dysgu effeithiol
GD 3 cyfosod y dystiolaeth i ddylunio amgylcheddau dysgu cynhwysol gyda chydlyniad, integreiddiad a pherthnasedd i ddiwallu a chefnogi anghenion dysgu amrywiol ac yn unol â safonau proffesiynol ar gyfer ymgysylltu a dysgu’n effeithiol
GD 4 myfyrio a dangos aliniad arferion dysgu ac addysgu â safonau proffesiynol a gwerthoedd proffesiynol y DU (Advance HE UKPSF, Academi’r Addysgwyr Meddygol, a’r Cyngor Meddygol Cyffredinol).
Sgiliau deallusol:
SD 1 defnyddio ystod o strategaethau addysgol, offer, modelau a fframweithiau, gan adolygu eu cryfderau a'u gwendidau yn feirniadol i lywio ymarfer addysgol
SD 2 hyrwyddo hunanymwybyddiaeth feirniadol a myfyrio ar ymarfer addysgol i lywio datblygiad addysgol.
SD 3 meithrin creadigrwydd, arloesedd ac ymarfer moesegol mewn datblygiadau addysgol ac arweinyddiaeth o fewn addysg glinigol
Sgiliau ymarferol proffesiynol:
SY 1 llywio amgylcheddau digidol, ymgyfarwyddo â Dysgu Canolog, astudio sgiliau ac adnoddau llyfrgell, y Ganolfan Graddau a Turnitin.
SY 2 cyfosod cysyniadau er mwyn datblygu arferion personol a phroffesiynol ymhellach.
SY 3 dangos sgiliau cyfathrebu effeithiol mewn arena myfyrwyr ôl-raddedig.
Sgiliau trosglwyddadwy/allweddol:
SA 1 defnyddio strategaethau chwilio i nodi a gwerthuso arfer gorau mewn addysg feddygol.
SA 2 cynllunio, trefnu a rheoli gwaith cwrs yn effeithiol, gan ddangos annibyniaeth, mentergarwch a gwreiddioldeb.
SA 3 cyfathrebu'n gywir, yn glir ac yn gryno mewn amrywiaeth o arddulliau, gan ddefnyddio ystod o gyfryngau i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Bydd angen i chi allu defnyddio'r rhyngrwyd yn rheolaidd er mwyn ymgysylltu â'ch rhaglen.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd graddedigion
Mae gweithwyr iechyd proffesiynol wedi ymuno â'r cwrs o bob cwr o'r byd. Mae llawer o raddedigion yn defnyddio'r wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno ar y cwrs i newid eu dulliau addysgu mewn ffyrdd arloesol. Mae eraill yn mynd ymlaen i gael swyddi uwch a chymryd rhagor o gyfrifoldeb dros arwain a hyrwyddo rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
Dyma oedd gan gyn-fyfyrwyr Tystysgrif Ôl-raddedig i'w ddweud...
"Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mewn addysg feddygol ac yn ddiweddar wedi datblygu'r diddordeb hwn ymhellach drwy ymgymryd â gwaith fel tiwtor i fyfyrwyr meddygol. Roedd dechrau ar y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Feddygol i weld yn ddilyniant naturiol. Ers dechrau'r cwrs rwy'n teimlo bod fy sgiliau addysgu wedi gwella'n sylweddol. Mae'r cwrs wedi fy nghyflwyno i ddamcaniaethau addysgol sydd wedi dyfnhau fy nealltwriaeth o'r hyn sy'n gwneud athro effeithiol ac y mae technegau addysgu yn cynnig y canlyniadau gorau ohono. Mae'r cymorth a gynigir drwy'r rhaglen ar-lein hon yn rhagorol ac yn darparu dysgu adeiladol drwy fynediad o bell. Mae cwblhau'r rhaglen hon wedi bod o fudd i mi fel athro, ac felly mae wedi gwella profiad dysgu fy myfyrwyr."
Llinos Roberts, Partner a Hyfforddwr Meddygon Teulu
Fel clinigydd rwyf bob amser wedi mwynhau addysgu ac roedd y cyfle i gwblhau PCCE a gefnogir gan Ddeoniaeth Cymru drwy ddysgu o bell gyda Phrifysgol Caerdydd yn ffordd berffaith o gadarnhau fy ymarfer a chaniatáu i mi ddatblygu fel addysgwr. Mae'r TAR yn ysgogol ac yn heriol. Mae'n cwmpasu pob maes o ddamcaniaeth addysgol hyd at ddulliau asesu mewn 4 modiwl."
Lewys Richmond, Hyfforddai Anaesthetig ST6
"Mae'n hawdd ei ddilyn ac mae'r cyfranogiad ar-lein yn ddefnyddiol ac yn ysgogol iawn. Mae'r gwaith wedi'i rannu'n fodiwlau ac o fewn y modiwlau mae tasgau yr ydych yn cael eich tywys drwyddynt. Mae'r drafodaeth ar-lein gydag eraill yn ddefnyddiol iawn ac yn gysurus. Mae'n helpu i allu mynd ati i drafod y gwaith a'r cysyniadau sy'n cael eu dysgu."
Sian Elin Griffiths, Partner a Hyfforddwr Meddygon Teulu
"Rwyf wedi ystyried y cwrs yn agoriad llygad go iawn ac yn ddiddorol iawn, bydd yn bendant yn newid y ffordd rwy'n mynd at fy rôl fel tiwtor clinigol."
Una Man, Deintydd
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Addysg , Gofal iechyd, Meddygaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.