Ewch i’r prif gynnwys

Mathemateg (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae ein MSc mewn Mathemateg yn archwilio byd hynod ddiddorol, heriol ac urddasol Mathemateg; gan dywys eich sylfaen sgiliau o BSc mewn Mathemateg (neu debyg) tuag at bwynt lle gallwch gychwyn ar ymchwil wreiddiol ym maes Mathemateg Pur a Chymhwysol.

academic-school

Cwrs 1 flwyddyn

Ar gael am flwyddyn llawn amser

notepad

Datblygu eich sgiliau

Mae’r cwrs hwn yn rhoi sylfaen gadarn o, wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ym mhrif feysydd mathemateg.

tick

Teilwra eich dysgu

Byddwch yn dod i ddeall cysyniadau mathemategol haniaethol, dadleuon rhesymegol a rhesymu casgliadol.

star

Deall mathemateg yn fwy trylwyr

Mae’r cwrs hwn yn addysg fathemategol sy'n briodol ar gyfer y rhai sy'n bwriadu bod yn fathemategwyr proffesiynol, neu sydd am gael dealltwriaeth ddyfnach o fathemateg.

people

Traethawd hir dan oruchwyliaeth

Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle i ymgymryd â thraethawd hir dan oruchwyliaeth ar lefel uwch.

globe

Arbenigedd ymchwil

Mae myfyrwyr yn cael eu haddysgu a'u goruchwylio gan ein staff ymchwil gweithredol. Bydd y staff yn cynnig arweiniad a chyngor ar sail un i un i’r myfyrwyr.

Mae ein MSc mewn Mathemateg yn archwilio byd hynod ddiddorol, heriol ac urddasol mathemateg; gan dywys eich sylfaen sgiliau a gwybodaeth o BSc mewn Mathemateg (neu debyg) tuag at bwynt lle gallwch gychwyn ar ymchwil wreiddiol ym maes mathemateg bur a chymhwysol.

Mae’r cwrs yn cynnwys cymysgedd o fodiwlau a addysgir mewn mathemateg bur a chymhwysol, modiwlau hunan-astudio sy’n meithrin sgiliau hanfodol ar gyfer gradd ymchwil a’r gweithle, a thraethawd hir, sy’n eich galluogi i ymchwilio i faes mathemateg o dan arweiniad academyddion profiadol, sy’n weithgar ym maes ymchwil.

Mae’r cwrs gradd blwyddyn hwn yn ffordd ddelfrydol o baratoi os ydych chi am fynd ymlaen i wneud PhD, gweithio ym maes ymchwil neu weithio i gwmni technolegol. Byddwch yn ennill dealltwriaeth ddyfnach o fathemateg a datblygu sgiliau y mae galw amdanyn nhw gan amrywiaeth o ddarpar gyflogwyr.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Mathemateg

Mae ein graddau deallusol cyffrous wedi'u hachredu er mwyn cwrdd â gofynion addysgol enwebiad Mathemategydd Siartredig.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4811
  • MarkerFfordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu: 

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol fel mathemateg neu ddisgyblaeth gysylltiedig gydag elfen fathemategol gref, sy'n ymdrin â hanfodion dadansoddi go iawn ac algebra llinol, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Geirda (academaidd neu broffesiynol) i gefnogi eich cais. Dylai eich canolwr wneud sylwadau ar eich gallu academaidd, eich moeseg gwaith a'ch cymeriad cyffredinol. Dylid llofnodi geirda, dyddiad a llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch geirda gan eich cyflogwr at dystiolaeth eich bod yn gweithio ar hyn o bryd mewn maes sy'n berthnasol i'r rhaglen. Dylid llofnodi geirda, dyddiad a llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r cwrs hwn yn para am flwyddyn. Mae pob myfyriwr yn cwblhau modiwl darllen 20 credyd a gynlluniwyd i ddatblygu sgiliau ymchwil a sgiliau trosglwyddadwy eraill; gellir gwneud hyn naill ai yn semester 1 neu 2. Mae myfyrwyr hefyd yn cymryd 100 credyd o fodiwlau dewisol yn elfen a addysgir y rhaglen. Dilynir hyn gan draethawd hir 60 credyd a fydd yn cael ei gynnal dros yr haf, o dan arweiniad academydd profiadol, sy’n gwneud gwaith ymchwil.

Mae gan y rhaglen ddau brif lwybr, mewn mathemateg bur a chymhwysol, ond gall myfyrwyr hefyd gael mynediad at fodiwlau a addysgir ym mhob un o brif feysydd arbenigedd yr Ysgol: Algebra, Dadansoddi, Mathemateg Gymhwysol a Chyfrifiadurol, Ymchwil Weithredol ac Ystadegau.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.

Darperir esboniad o strwythur y rhaglen, a chanllawiau o ran y dewis o fodiwlau dewisol, yn ystod yr wythnos ymsefydlu. Dyrennir tiwtor personol i bob myfyriwr, i roi cymorth ac arweiniad drwy gydol cyfnod y rhaglen.

Disgwylir i bob myfyriwr MSc Mathemateg fod wedi cwblhau a phasio Dadansoddi Go Iawn ac Algebra Llinol neu gyfwerth ar lefel ail flwyddyn eu gradd israddedig. Mae dau brif lwybr drwy'r radd MSc: pur a chymhwysol. I ddilyn y llwybr pur bydd angen i chi fod wedi cwblhau cwrs lefel trydedd flwyddyn ar ddadansoddiad swyddogaethol a Fourier. I ddilyn y llwybr cymhwysol bydd angen i chi fod wedi cwblhau cwrs lefel trydedd flwyddyn ar hafaliadau gwahaniaethol rhannol a'u cymwysiadau.

Mae'n ofynnol i bob myfyriwr MSc Mathemateg ddilyn y Modiwl Darllen craidd MA4901 naill ai yn semester yr Hydref neu'r Gwanwyn.

Mae gan rai o'r modiwlau dewisol ofynion ychwanegol, megis cefndir mewn tebygolrwydd/ystadegau neu mewn theori rhifau.

Anogir myfyrwyr i drafod eu rhagofynion a'u ffyrdd o wneud iawn am rai bylchau gyda'u Tiwtor Derbyn ac, ar ôl cofrestru, gyda'u Tiwtor Personol.

Mae'n ofynnol i chi gyflawni o leiaf 50% ar gyfartaledd a phasio pob un o'r 120 credyd i fynd ymlaen i gam y traethawd hir. Mae'r traethawd hir yn werth 60 credyd ac mae'n gyfle i gymhwyso'ch sgiliau mathemategol i bwnc ymchwil o'ch dewis.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Modiwl DarllenMAT09120 credydau
Traethawd hirMAT09860 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Rydyn ni’n addysgu gan ddefnyddio cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau. Bydd dulliau addysgu yn amrywio o un modiwl i’r llall, fel y bo'n briodol, yn dibynnu ar y pwnc a'r dull asesu.

Byddwch yn cymhwyso'r sgiliau rydych chi'n eu datblygu trwy gyflwyniadau, aseiniadau darllen, a thraethawd hir yr haf.

Sut y caf fy asesu?

Mae gan y rhan fwyaf o’r modiwlau arholiadau ysgrifenedig heb lyfrau ar ddiwedd semestrau'r hydref neu'r gwanwyn, ac mae gan rai ohonyn nhw elfen asesu barhaus hefyd. Gall hyn gynnwys ymarferion datrys problemau, adroddiadau ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar. Mae adborth ar gynnydd yn cael ei roi fel arfer drwy gyfuniad o drafodaeth yn y dosbarth, sylwadau ysgrifenedig ar waith a gyflwynwyd ac adolygu atebion amlinellol i broblemau. Fe'ch anogir i drafod unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â modiwlau penodol gyda darlithwyr unigol. Gall yr holl fyfyrwyr adolygu eu sgriptiau arholiad a thrafod eu perfformiad â darlithydd y modiwl penodol.

Mae eich traethawd hir yn cael ei asesu drwy adroddiad ysgrifenedig ac arholiad llafar.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae tiwtor personol yn cael ei neilltuo i bob un o'n myfyrwyr pan fyddan nhw’n cofrestru ar y cwrs. Mae tiwtor personol yno i'ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau, a gall roi cyngor i chi ar faterion academaidd a phersonol a all fod yn effeithio arnoch. Dylech gael cyfarfodydd rheolaidd â’ch tiwtor personol er mwyn sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth lawn.

Bydd gennych fynediad i Lyfrgell Senghennydd, sy'n dal ein casgliad o adnoddau mathemategol a chyfrifiadureg, yn ogystal ag i Lyfrgelloedd eraill Prifysgol Caerdydd.

Byddwn yn rhoi copi i chi o'r Llawlyfr Myfyrwyr, sy'n cynnwys manylion polisïau a gweithdrefnau'r Ysgol. Rydyn ni hefyd yn cefnogi myfyrwyr trwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, lle gallwch ofyn cwestiynau mewn fforwm neu ddod o hyd i ddogfennau cysylltiedig â’r cwrs

Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth sy'n agored i'n myfyrwyr, fel Canolfan y Graddedigion, cwnsela a llesiant, cynghorwyr ariannol a gyrfaoedd, y swyddfa ryngwladol ac Undeb y Myfyrwyr.

Adborth

Rydyn ni’n cynnig adborth ysgrifenedig ac adborth llafar, yn dibynnu ar y gwaith cwrs neu'r asesiad rydych wedi'i wneud. Fel arfer, byddwch yn derbyn eich adborth gan arweinydd y modiwl. Os oes gennych gwestiynau am eich adborth, mae arweinwyr modiwlau yn hapus i roi cyngor ac arweiniad i chi ar eich cynnydd. Ein nod yw rhoi adborth i chi cyn pen ugain diwrnod ar ôl i chi gyflwyno asesiad.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon i’w gweld isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • dealltwriaeth fanwl o ystod o bynciau mewn mathemateg bur (algebra, dadansoddi a theori rhif) a/neu sail ddamcaniaethol dulliau mewn mathemateg gymhwysol
  • dealltwriaeth o'r cysyniad o brawf mathemategol

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • y gallu i lunio problemau mathemategol a’u datrys
  • sgiliau cyfathrebu a'r gallu i gyfathrebu gwybodaeth a dealltwriaeth fathemategol
  • cynllunio a chynnal darn o ymchwil newydd
  • meddwl yn feirniadol yn annibynnol

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • cymhathu a chyfleu dadleuon mathemategol manwl
  • defnyddio llenyddiaeth fathemategol a’i gwerthuso’n feirniadol

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • rhesymu rhesymegol
  • meddwl yn annibynnol
  • meddwl yn feirniadol
  • y gallu i gymhwyso sgiliau mathemategol i ddatrys problemau
  • defnyddio technoleg gwybodaeth ac adnoddau llyfrgell
  • rheoli amser a llwyth gwaith
  • y gallu i wneud ymchwil annibynnol
  • cyfathrebu a chyflwyno

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Costau ychwanegol

Nid oes unrhyw gostau ychwanegol yn gysylltiedig â'r cynllun gradd MSc Mathemateg oni bai bod myfyrwyr yn dymuno prynu copïau o werslyfrau at eu defnydd personol yn hytrach na defnyddio'r rhai sydd ar gael yn llyfrgell y Brifysgol.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Beth y dylai’r myfyriwr ei ddarparu:

Cyfrifiannell sy'n bodloni rheoliadau arholiadau Prifysgol Caerdydd. Efallai y bydd myfyrwyr eisiau prynu gwerslyfrau ond mae copïau ar gael drwy lyfrgelloedd y brifysgol.

Yr hyn y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei gynnig:

Labordai, labordai cyfrifiadurol a meddalwedd priodol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae sgiliau rhifiadol arbenigol a meddwl mewn ffyrdd rhesymegol a dadansoddol, yn rhinweddau y mae galw amdanynt ar draws amrywiaeth o yrfaoedd ysgogol a buddiol. Mae cryn alw am fathemategwyr ar draws ystod o sectorau fel y diwydiannau olew a niwclear, meddygaeth a TG, yn ogystal â llawer o ffurfiau ar beirianneg a gwahanol adrannau’r llywodraeth. Gall astudiaeth bellach ar lefel Meistr fod yn ddefnyddiol ar gyfer rhai gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â mathemateg, megis ymchwil weithredol, ystadegau meddygol mewn cwmnïau fferyllol, meteoroleg, dylunio peirianneg, cyllid, bancio buddsoddi, gwyddoniaeth actiwaraidd a rolau TG. Mae asiantaethau’r llywodraeth fel y Swyddfa Ystadegau Gwladol a’r Swyddfa Feteorolegol hefyd yn cynnig swyddi i raddedigion Mathemateg.

Os byddai’n well gennych barhau ar lwybr gyrfa mwy academaidd, efallai y byddwch yn dewis parhau â'ch astudiaethau drwy wneud PhD.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Mathemateg


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.