Logisteg a Rheoli Gweithrediadau (MSc)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Cwrs trosi
Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu yrfa gyfredol, a'ch cefnogi gyda newid llwybr gyrfa.
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Datblygwch y wybodaeth a’r sgiliau i reoli’r swyddogaethau busnes hanfodol hyn.
Addysgu a arweinir gan ymchwil
Fe gewch chi eich addysgu gan un o’r grwpiau mwyaf o arbenigwyr logisteg a rheoli gweithrediadau yn y DU.
Newid busnes er gwell
Cyfle i weithio â phartner diwydiannol ar brosiect ymchwil gan gasglu data sylfaenol ar gyfer eich traethawd hir.
Deall Diwydiant
Cyfle i gael y wybodaeth ddiweddaraf o ymchwil ac arfer logisteg a gweithrediadau, gan siaradwyr gwadd proffil uchel a chwmnïau sy’n ymweld.
Achrediad proffesiynol
Bydd gennych fynediad at wybodaeth unigryw am y diwydiant, a gallwch gael cyngor gyrfaol personol a mynychu gweithdai a hyfforddiant gyda'n haelodaeth CILT.
Mae creu a darparu cynnyrch a gwasanaethau ar amser, o fewn cyllideb, yn effeithiol ac effeithlon, yn hanfodol i hyfywedd economaidd sefydliadau cyfoes. Fodd bynnag, gyda galw cynyddol ar draws tirweddau eang, mae hyfywedd o dan fygythiad cyson.
Er mwyn diwallu’r galw hyn, mae gweithwyr proffesiynol logisteg a rheoli gweithrediadau yn cael eu denu fwyfwy o gefndiroedd disgyblaeth amrywiol gan gynnwys mathemateg, economeg, peirianneg, daearyddiaeth, y gyfraith, rheoli a seicoleg.
Newid y byd yw ein busnes ni.
Mae ein cwrs MSc Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn cydnabod pwysigrwydd aml-ddisgyblaeth. Byddwn yn eich helpu i fod yn weithiwr rheoli proffesiynol sydd cael ei drysori am ei alluoedd wrth ddatrys problemau; yn rhywun sy’n creu trefn o gymhlethdod, yn adnabod problemau ac yn creu atebion ac yn sicrhau effeithlonrwydd ar bob cam, heb gyfaddawdu ar foeseg logisteg a gweithrediadau ar draws cynnyrch a gwasanaethau sefydliadau.
Bydd ein harbenigwyr yn tynnu ar arbenigedd academaidd ac ymgynghori er mwyn eich paratoi ar gyfer cyfleoedd gyrfa byd-eang, gan eich helpu i archwilio cludiant a logisteg carbon isel, rhestrau eitemau, warysau a chaffael, a rheoli adnoddau a deunyddiau. Byddant yn defnyddio ymchwil o safon fyd-eang ac enghreifftiau bywyd go iawn er mwyn eich cyflwyno i ddatblygiadau arloesol technolegol ym maes logisteg, ochr yn ochr â’r technegau rheoli, systemau a’r meddylfryd diweddaraf.
Achrediadau
- Chartered Institute of Logistics and Transport (CILT)
- Chartered Institute of Procurement and Supply (CIPS)
- Association to Advance Collegiate Schools of Business (AACSB)
- Chartered Institute of Procurement and Supply (CIPS)
Cardiff Business School is accredited by AACSB international - The Association to Advance Collegiate Schools of Business.
Ble byddwch yn astudio
Ysgol Busnes Caerdydd
Rydym yn Ysgol Busnes sydd wedi’i hachredu gan AACSB ac AMBA ac mae gennym bwrpas clir: cael effaith gadarnhaol yng nghymunedau Cymru a'r byd.
Meini prawf derbyn
Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu'ch gyrfa bresennol, a'ch cefnogi gyda newid gyrfa. Nid oes angen gwybodaeth na gradd flaenorol yn y pwnc.
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn unrhyw bwnc, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r gofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Cynhelir y cwrs hwn rhwng mis Medi a mis Medi. Rhwng mis Medi a mis Mehefin byddwch yn astudio 120 credyd o fodiwlau a addysgir o ystod o fodiwlau craidd gorfodol ac amrywiaeth o opsiynau.
Ar ôl y cam hwn a addysgir, byddwch yn ymgymryd â phrosiect traethawd hir, a gyflwynir ym mis Medi, gyda chymorth goruchwyliwr academaidd.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.
Yn y semester cyntaf, byddwch yn astudio pedwar modiwl gwerth 15 credyd yr un. Nod dau fodiwl gorfodol yw rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o logisteg a rheoli gweithrediadau. Daw'r ddau fodiwl sy'n weddill o amrywiaeth o opsiynau sy'n ategu'r cydrannau gorfodol.
Byddwch hefyd yn astudio pedwar modiwl 15 credyd yn yr ail semester. Yma, mae un modiwl gorfodol yn darparu hyfforddiant dulliau ymchwil i gefnogi'r traethawd hir yn arbennig. Daw gweddill y modiwlau o gronfa o opsiynau, sy'n eich galluogi i archwilio amrywiaeth o wahanol agweddau ar logisteg a rheoli gweithrediadau. Wrth wneud hynny, gallwch addasu eich profiad dysgu tra'n bodloni deilliannau dysgu cyffredinol y rhaglen.
Daw'r cyfnod a addysgir i ben ym mis Mehefin ac, yn amodol ar gwblhau'n llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i'r cyfnod traethawd hir. Drwy ysgrifennu'r traethawd hir, byddwch yn caffael ac yn datblygu sgiliau ymchwil sy'n berthnasol i'ch dewis o bwnc. Cyflwynir y traethawd hir ddechrau mis Medi.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Rheoli Gweithrediadau | BST803 | 15 credydau |
Logisteg a'i Darpariaeth | BST804 | 15 credydau |
Sgiliau a Dulliau Ymchwil | BST847 | 15 credydau |
Traethawd Hir Rheoli Logisteg a Gweithrediadau | BST848 | 60 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Rheoli Cadwyn Gyflenwi Strategol | BST805 | 15 credydau |
Dadansoddeg Data Busnes | BST811 | 15 credydau |
Systemau a Sefydliadau Gwybodaeth | BST812 | 15 credydau |
Rheoli Prosiect | BST815 | 15 credydau |
Cynllunio a Rheoli Adnoddau Menter | BST825 | 15 credydau |
Logisteg Ryngwladol | BST827 | 15 credydau |
Cadwyni Cyflenwi Dyngarol | BST833 | 15 credydau |
Gweithrediadau Trafnidiaeth Amlfoddol | BST834 | 15 credydau |
Rheoli Risg mewn Cadwyni Cyflenwi | BST835 | 15 credydau |
Dynameg Cadwyn Gyflenwi | BST838 | 15 credydau |
Rheoli Porthladdoedd | BST840 | 15 credydau |
Rhagoriaeth Lean a Gweithredol | BST841 | 15 credydau |
Cadwyn Gyflenwi Ddigidol a Logisteg | BST843 | 15 credydau |
Gweithrediadau Economi Cylchlythyr | BST844 | 15 credydau |
Modelu a Dadansoddi ar gyfer Cadwyn Gyflenwi Cynaliadwy a Logisteg | BST846 | 15 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae ein dulliau addysgu yn cael eu llywio’n helaeth gan ymchwil ac maen nhw’n cyfuno manylrwydd academaidd â pherthnasedd ymarferol. Mae ein cyfadran, sydd o fri rhyngwladol, yn cynnwys academyddion sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth yn eu maes. Maen nhw’n dod â’r gwersi maen nhw wedi eu dysgu o’u hymchwil ddiweddaraf i’r ystafell ddosbarth, gan eich galluogi i feddwl yn feirniadol am fusnes a chynnig enghreifftiau a senarios cyfredol, go iawn. Mae Gwerth Cyhoeddus wedi'i ymgorffori yn ein haddysgu, gan adlewyrchu strategaeth ehangach yr Ysgol Busnes.
Bydd nifer o adnoddau addysgu a dysgu yn cael eu darparu'n electronig drwy Dysgu Canolog. Er mwyn llwyddo i gwblhau'r cwrs, bydd gofyn i chi weithio yn ystod a thu allan i sesiynau addysgu ffurfiol, a manteisio ar y cyfleusterau sy’n cael eu darparu.
Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd ac addysgu mewn grwpiau bach (dosbarthiadau, seminarau, gweithdai neu sesiynau tiwtorial). Mewn darlith, bydd y darlithydd yn rhoi trosolwg yn bennaf o agwedd benodol ar gynnwys y modiwl. Bydd gennych gyfle i ofyn cwestiynau a myfyrio mewn darlithoedd. Mae dosbarthiadau a gweithdai yn rhoi cyfle i chi ymarfer technegau, trafod syniadau, cymhwyso cysyniadau a chryfhau eich dealltwriaeth o'r pwnc.
Yn ogystal â dosbarthiadau wedi'u hamserlennu, bydd ymarferwyr yn cael gwahoddiad i roi cyflwyniadau hefyd, gan eich galluogi i gysylltu'r wybodaeth sy’n cael ei darparu gan y darlithwyr ag enghreifftiau o'r byd go iawn.
Sut y caf fy asesu?
Mae'r dulliau asesu'n amrywio o fodiwl i fodiwl ond, ar draws cynllun y radd yn gyffredinol, gallwch ddisgwyl cymysgedd o arholiadau, gwaith cwrs, traethodau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau a phrosiectau unigol ac mewn grŵp.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae’r Brifysgol yn cynnig llawer o gymorth i ôl-raddedigion. Mae'r rhain yn cynnwys:
Dysgu Canolog
Amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol yw Dysgu Canolog. Cyhoeddir deunyddiau pob rhaglen a modiwl yno ar gyfer sylw myfyrwyr cyn darlithoedd, yn ystod darlithoedd ac ar ôl darlithoedd.
Llyfrgelloedd
Mae copïau caled ac electronig o amryw o lyfrau, cyfnodolion a chronfeydd data ar gael i fyfyrwyr y rhaglen. Mae Llyfrgell Aberconwy ar brif safle Ysgol Busnes Caerdydd, ac mae adnoddau ychwanegol yn y llyfrgelloedd eraill sydd ar y campws. Mae llawer o gyfnodolion a llyfrau ar ffurf electronig ar gael hefyd.
System Tiwtor Personol
Byddwch yn cael Tiwtor Personol. Bydd yr aelod hwnnw o’r staff academaidd yn goruchwylio eich profiadau dysgu ac addysgol yn barhaus. Os cewch unrhyw anawsterau, bydd eich Tiwtor Personol ar gael i wrando a chynnig arweiniad proffesiynol os oes modd, neu gall eich cyfeirio at y cymorth priodol.
Gwasanaeth Cynghori’r Myfyrwyr
Mae gwasanaeth cyfrinachol a diduedd yn rhad ac am ddim ar gael i chi, a hynny heb fynegi barn, ynglŷn ag ystod eang o faterion personol, ariannol ac academaidd.
Y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia
Mae cyngor a chymorth cyfrinachol yn cael ei ddarparu i chi os ydych chi’n anabl neu os oes gennych chi anhawster dysgu penodol, fel dyslecsia, neu gyflwr meddygol hirdymor.
Gwasanaeth Cwnsela
Mae Gwasanaeth Cwnsela Prifysgol Caerdydd yn rhoi cyfle i aelodau o gymuned y Brifysgol edrych ar y materion sy’n eu rhwystro rhag cyflawni eu llawn botensial ac ystyried ffyrdd o newid. Mae’r Gwasanaeth Cwnsela yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim. Mae wedi’i gydnabod yn rhyngwladol yn Ganolfan Ragoriaeth o ran cwnsela unigolion a grwpiau.
Canolfan y Graddedigion
Mae'r Ganolfan ar drydydd llawr Adeilad Undeb y Myfyrwyr ym Mlas y Parc, ac mae'n gwasanaethu'r holl fyfyrwyr ôl-raddedig ymchwil ac a addysgir sydd wedi cofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnig cyfleusterau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer y gymuned ôl-raddedig.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- dealltwriaeth systematig ac ymwybyddiaeth feirniadol o egwyddorion, theori, athroniaeth ac arfer logisteg a rheoli gweithrediadau.
- gwybodaeth gynhwysfawr am y materion allweddol ym maes logisteg a rheoli gweithrediadau modern.
- y gallu i werthuso ac arfarnu effaith tueddiadau logisteg a rheoli gweithrediadau sy'n datblygu ar sefydliadau.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- creadigrwydd wrth gymhwyso egwyddorion logisteg a rheoli gweithrediadau mewn amgylcheddau ymarferol cymhleth ac mewn senarios heb ddata cyflawn.
- y gallu i gymhwyso gwybodaeth mewn ffordd arloesol a gwreiddiol i’r ymchwil i broblemau logisteg a rheoli gweithrediadau.
- y gallu i werthuso methodolegau a ddefnyddir yn feirniadol wrth ymchwilio'n empirig i faterion logisteg a rheoli gweithrediadau ac asesu'r atebion a geir ganddynt.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- y gallu i werthuso'r cyfaddawdau sy'n rhan annatod o benderfyniadau logisteg a rheoli gweithrediadau.
- gwreiddioldeb ac annibyniaeth wrth fynd i’r afael â gwahanol broblemau a’u datrys yng nghyd-destun logisteg a rheoli gweithrediadau.
- gallu delio â materion cymhleth mewn ffordd systematig a chreadigol.
- cymhwysedd wrth ddadansoddi problemau cymhleth ar sail data trwyadl a chyfleu eu hatebion yn glir i gynulleidfaoedd arbenigol neu heb fod yn arbenigwyr.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- cymhwysedd mewn cyfleu syniadau, egwyddorion a theorïau'n effeithiol drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig ac ymarferol.
- gallu gweithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol
- gallu defnyddio TG (e.e. y rhyngrwyd, taenlenni, prosesu geiriau) mewn amgylchedd dysgu cymhwysol.
- gallu gweithio i ystod o amserlenni i gyd-fynd â gofynion tasgau ac allbynnau'r rhaglen.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Yn Ysgol Busnes Caerdydd, cewch addysg fydd yn newid eich gyrfa gan academyddion o safon fyd-eang sydd â safbwyntiau gwahanol. Byddant yn herio eich ffordd o feddwl wrth i chi ystyried y byd busnes o ystod o safbwyntiau gwahanol.
Ar ein cwrs MSc Logisteg a Rheoli Gweithrediadau, byddwch yn elwa ar wybodaeth ac arbenigedd ein Tîm Gwella Gyrfaoedd. Maent yn barod ac yn aros i ganfod digwyddiadau a chyfleoedd i’ch helpu i gyflawni eich dyheadau yn y dyfodol.
Rydym wedi datblygu perthnasoedd sy’n amrywio o’r cwmnïau rhyngwladol mwyaf i’r microfusnesau lleiaf, a’r rhai hynny’n cynnwys amrywiaeth eang o fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol. Rydym yn defnyddio’r rhwydweithiau hyn i sicrhau gwerth i’n myfyrwyr, a hynny trwy sicrhau a threfnu’r canlynol:
- interniaethau ac astudiaethau achos o’r byd go iawn
- cydweithrediad â’n Hentrepreneuriaid Gwerth Cyhoeddus Preswyl
- darlithoedd gwadd gan aelodau o Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth
- tripiau maes a gweithdai.
Bydd y profiad amrywiol ac eang hwn yn helpu i hyrwyddo eich gyrfa ac yn dangos sut y gallwch wneud gwahaniaeth ar y daith.
Mae ein graddedigion MSc Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn mynd ymlaen i ystod eang o yrfaoedd yn y diwydiannau logisteg a/neu reoli gweithrediadau.
Gall hyn fod gyda chwmnïau aml-genedlaethol byd-eang fel Huawei, Panalpina, DHL, PDO neu Amazon, neu fentrau BBaCh llai.
Mae graddedigion yn ymgymryd â swyddi arwain a gweithredol, yn ogystal â dilyn llwybrau llunio polisïau a gyrfa academaidd – mae nifer o gynfyfyrwyr wedi cwblhau eu PhD mewn pwnc sy'n ymwneud â logisteg a/neu reoli gweithrediadau.
Lleoliadau
Yn y cyfnod traethawd hir, byddwch yn cael cynnig cyfle (yn amodol ar berfformiad academaidd) i ymgymryd â phrosiect ar y cyd â phartner diwydiannol. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ennill gwybodaeth am ymarfer diwydiannol, a chyfrannu data sylfaenol ar gyfer yr astudiaeth traethawd hir ar yr un pryd. Mae nifer cyfyngedig o brosiectau ar gael bob blwyddyn, a chynhelir proses gystadleuol i ddewis myfyrwyr sy'n addas ar gyfer y prosiect.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.