Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu (MA)
- Hyd: 1 flwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Mae’r cwrs yn rhoi golwg i chi ar sut mae newyddiaduraeth a’r cyfryngau’n newid mewn cyd-destun byd eang - o foesoldeb newyddiaduraeth i'r modd y llywodraethir y we. Bydd hefyd yn trin a thrafod dulliau adrodd am argyfyngau, a sut gallai technolegau newydd drawsnewid y maes.
Yn agored i bawb
Bydd y radd hon yn addas i'r rheini sydd â phrofiad yn y cyfryngau a heb brofiad sy'n ceisio dyfnhau eu dealltwriaeth o ddiwydiannau'r cyfryngau.
Rhagolygon rhyngwladol
Rydym yn denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd, gan gynnig cyd-destun cyfoethog ac amrywiol ar gyfer astudiaethau academaidd a beirniadaeth.
Y Sgwâr Canolog, Caerdydd
Byddwch yn astudio yng nghanol ardal cyfryngau bywiog Caerdydd mewn adeilad pwrpasol sydd drws nesaf i adeilad newydd BBC Cymru.
Rhagoriaeth ymchwil
Byddwch yn astudio yn un o ysgolion mwyaf blaenllaw’r DU ar gyfer ymchwil newyddiaduraeth, ac yn ôl y Llywodraeth, yr Ysgol yw’r 2il yn y DU.
Bydd MA Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o sut mae'r cyfryngau'n gweithio ar draws amrywiaeth o gyd-destunau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a gwleidyddol.
Mae'n canolbwyntio ar astudio newyddiaduraeth yn academaidd, ond mae hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau proffesiynol drwy fodiwlau dewisol yn yr ail semester a thrwy ymchwil.
Mae'r cwrs yn rhoi cipolwg ar sut mae newyddiaduraeth yn newid mewn cyd-destun byd-eang, gan archwilio dadleuon a materion allweddol mewn astudiaethau newyddiaduraeth heddiw. Mae hefyd yn darparu hyfforddiant ar ddefnyddio ystod o sgiliau ymchwil mewn astudiaethau newyddiaduraeth, i gefnogi ysgolheictod academaidd ym maes astudiaethau newyddiaduraeth.
Byddwch yn dysgu asesu sut mae'r cyfryngau'n gysylltiedig â grymoedd globaleiddio, sefydliadau gwleidyddol, ymatebion byd-eang i ryfel a gwrthdaro, a heriau amgylcheddol, ymhlith pethau eraill.
Byddwch hefyd yn archwilio rolau technolegau gwybodaeth a chyfathrebu newydd, eu cyfleoedd a'u heriau, eu potensial democrataidd a'u prosesau rheoleiddio. Byddwn hefyd yn ystyried materion dinasyddiaeth, hil, rhywedd, ethnigrwydd a dosbarth sy'n llunio ffurfiau cyfoes o gynnwys cyfryngau newyddion.
Mae'r cwrs hwn yn cynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau newyddiaduraeth, y cyfryngau a chyfathrebu neu fel sylfaen ar gyfer ymchwil PhD.
Nid yw'r radd hon wedi'i chynllunio fel gradd alwedigaethol ac nid yw'n darparu hyfforddiant ymarferol mewn Newyddiaduraeth. Ni ddylech ystyried y radd hon fel cymhwyster proffesiynol.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Diwylliant
Rydym yn darparu amgylchedd ysgolheigaidd er mwyn i chi fagu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich maes penodol yn y cyfryngau.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc perthnasol fel disgyblaethau'r dyniaethau neu'r gwyddorau cymdeithasol, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 7.0 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, a bod lleoedd ar gael o hyd, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae elfen a addysgir y cwrs yn cyfateb i 120 o gredydau ac fe'i haddysgir dros ddau semester (hydref a gwanwyn) o ddiwedd mis Medi i ddechrau mis Mehefin ac mae'n cyfuno modiwlau craidd a dewisol.
Byddwch yn cyflwyno traethawd hir ddiwedd mis Awst. Mae’r traethawd hir yn werth 60 credyd.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cyflwyniad i Astudiaethau Newyddiaduraeth | MCT493 | 20 credydau |
Gwleidyddiaeth Cyfathrebu Byd-eang | MCT532 | 20 credydau |
Rhoi ymchwil ar waith 1 | MCT533 | 20 credydau |
Rhoi ymchwil ar waith 2 | MCT534 | 20 credydau |
Dadleuon a Chysyniadau yn y Cyfryngau a Chyfathrebu | MCT565 | 20 credydau |
Traethawd hir yn seiliedig ar y prosiect | MCT444 | 60 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Adroddiadau Argyfwng Byd-eang | MCT494 | 10 credydau |
Ymddygiad Etholiadol, Barn y Cyhoedd a'r Cyfryngau | MCT535 | 10 credydau |
Cyfryngau Cymdeithasol a Gwleidyddiaeth | MCT540 | 10 credydau |
Dealltwriaeth o'r cyfryngau a gwleidyddol | MCT566 | 10 credydau |
Cysylltiadau Cyhoeddus, All-lein ac Ar-lein | MCT567 | 10 credydau |
Yng nghadeirydd y golygydd | MCT588 | 20 credydau |
Cyfathrebu Achosion | MCT591 | 20 credydau |
Theori a Dadansoddiad Diwylliannol | MCT606 | 10 credydau |
Diwydiannau Cerddoriaeth Byd-eang | MCT607 | 10 credydau |
Cyfryngau, Gwyddoniaeth ac Iechyd | MCT608 | 20 credydau |
Cynhyrchu Fideo Ffurf Fer | MCT610 | 20 credydau |
Rhywedd, Rhywioldeb a Diwylliant Digidol | MCT611 | 20 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfres o ddarlithoedd a seminarau sy'n ategu natur academaidd y cwrs.
Sut y caf fy asesu?
Defnyddir amrywiaeth o asesiadau ffurfiannol a chrynodol i’ch asesu drwy gydol y cwrs. Gwaith cwrs yw’r prif ddull o asesu ar y rhaglen hon.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi i roi cymorth a chefnogaeth gydag anghenion academaidd a bugeiliol. Bydd eich tiwtor personol ar gael pan fydd arnoch angen trafod cynnydd, cael cyngor ac arweiniad, yn ôl yr angen.
Bydd gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yr ysgol, ac adnoddau ehangach y brifysgol, ar gael i’ch cefnogi hefyd.
Byddwch yn cael tiwtorialau rheolaidd gyda chyfarwyddwyr rhaglenni/tiwtoriaid personol yn ogystal â'r cyfle i gwrdd â chydlynwyr modiwlau ar gais.
Adborth
Mae adborth yn cael ei ddarparu ar bob pwynt asesu ar gyfer asesiadau crynodol, ac mae adborth ffurfiannol yn cael ei ddarparu mewn sesiynau ymarferol a thrwy gydol yr addysgu.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Mae MA Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu yn darparu'r sgiliau ymchwil diweddaraf i gasglu, gwerthuso, cyfosod a dehongli data ansoddol a meintiol ac i gynnal ymchwil wreiddiol.
Mae'n rhoi sgiliau i chi mewn meysydd fel:
- Dadansoddi cynnwys
- Cyfweliadau
- Arolygon
- Dulliau digidol
- Sgiliau cyflwyno
- Y gallu i rannu gwybodaeth a chanfyddiadau'n gadarn â chyfoedion
- Gallu chwilio am wybodaeth ac adalw gwybodaeth
- Hyfedredd mewn dulliau llafar ac ysgrifenedig yng nghyswllt adolygu a threfnu swyddi academaidd a datblygu safbwynt ymgysylltiol.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd graddedigion
Cyflogir graddedigion MA Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Chyfathrebu mewn ystod o alwedigaethau mewn newyddiaduraeth, cyfryngau a sefydliadau cyfathrebu yn y DU ac yn fyd-eang, gan ymgymryd ag amrywiaeth o rolau blaenllaw.
Fel cwrs academaidd sy'n canolbwyntio ar ddadansoddiad beirniadol, mae'r rhaglen hon hefyd yn fan cychwyn perffaith ar gyfer ymchwil PhD ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd mewn sefydliadau ymchwil, yn y brifysgol a sefydliadau cyhoeddus neu breifat eraill.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Journalism, Language and communication, Media
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.