Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a Chyfathrebu (MA)
- Hyd: 1 year
- Dull astudio: Amser llawn
Cwrs trosi
Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu yrfa gyfredol, a'ch cefnogi gyda newid llwybr gyrfa.
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Cwrs achrededig sydd wedi’i gydnabod yn rhyngwladol, fydd yn eich grymuso â’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen er mwyn dod yn arbenigwr ar gysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu strategol.
Achrediad proffesiynol
Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus, y corff proffesiynol mwyaf ar gyfer ymarferwyr cysylltiadau cyhoeddus yn Ewrop gyda dylanwad byd-eang ar bob lefel a sector o'r diwydiant.
Safbwyntiau byd-eang
Cymuned dysgu o ystod o gefndiroedd cenedlaethol a diwylliannol a bydd hyn yn eich galluogi i ddeall ymarfer cysylltiadau cyhoeddus ar sail fyd-eang.
Rhagorol
Byddwch yn astudio yn un o ysgolion mwyaf blaengar y DU, yn y 50 uchaf ar gyfer Cyfathrebu ac Astudiaethau'r Cyfryngau yn y Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn ôl Pwnc 2025.
Lleoliad canolog
Astudiwch yng nghanol ardal cyfryngau bywiog Caerdydd mewn adeilad pwrpasol sydd drws nesaf i adeilad newydd BBC Cymru.
Nod ein rhaglen MA Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu Rhyngwladol yw’ch grymuso â’r sgiliau a thechnegau hanfodol sydd eu hangen i lwyddo fel gweithiwr proffesiynol CC a chyfathrebu mewn diwydiannau amrywiol ar raddfa fyd-eang. Mae ein cwricwlwm wedi’i deilwra i fodloni gofynion newidiol y diwydiant, gan ddarparu ar gyfer ystod eang o sectorau a sefydliadau.
Cewch eich cyflwyno i wybodaeth, sgiliau ac ymarfer cysylltiadau cyhoeddus gan gyfadran sy'n cynnwys staff ac ymarferwyr, gyda phob un yn dod â safbwynt unigryw ac amrywiol i'w haddysgu. Y cyfuniad hwn o ymchwil a phrofiad, sy'n rhychwantu nifer o sectorau a gwledydd, sy'n gwneud ein rhaglen yn arbennig.
Byddwch yn meithrin dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol o gysylltiadau cyhoeddus a hefyd yn datblygu sgiliau sy'n berthnasol i'r diwydiant yn ymwneud â chynllunio, strategaeth, darparu a gwerthuso cyfathrebiadau effeithiol. Byddwch hefyd yn gallu archwilio ystod o feysydd arbenigol, gan deilwra rhan o'ch profiad dysgu gyda dewis o opsiynau i helpu i alinio'r rhaglen â'ch diddordebau neu'ch dyheadau gyrfa.
Mae ein haseiniadau wedi'u dylunio i hwyluso cymhwyso theori yn ymarferol ac i'ch helpu i ddangos dealltwriaeth feirniadol o'r hyn sy'n cael ei ddysgu. Mae'r gydran traethawd hir yn rhoi cyfle unigryw i chi ddilyn maes ymchwil o'ch dewis ym maes cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu. Mae'r prosiect mawr hwn yn meithrin dadansoddiad a dealltwriaeth fanwl o fewn maes ymarfer penodol, gan gefnogi eich arbenigedd neu ddiddordebau proffesiynol a fwriadwyd.
Mae graddio o'n rhaglen ag achrediad CIPR nid yn unig yn gwella eich cymwysterau academaidd ond hefyd yn eich gosod o fewn rhwydwaith o weithwyr proffesiynol cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu blaengar ac uchel eu parch. Bydd y cymhwyster hwn yn ychwanegiad gwerthfawr i'ch CV, gan ddangos eich ymrwymiad i dwf a rhagoriaeth yn y maes hwn.
Achrediadau
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Diwylliant
Rydym yn darparu amgylchedd ysgolheigaidd er mwyn i chi fagu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich maes penodol yn y cyfryngau.
Meini prawf derbyn
Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu'ch gyrfa bresennol, a'ch cefnogi gyda newid gyrfa. Nid oes angen gwybodaeth na gradd flaenorol yn y pwnc.
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn unrhyw bwnc, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 7.0 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
Os nad oes gennych radd, efallai y bydd eich cais yn cael ei ystyried ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, a bod lleoedd ar gael o hyd, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd graddedigion
Bydd cymhwyster academaidd o’r rhaglen achrededig hon yn eich paratoi ar gyfer ystod o swyddi ym maes cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu. Mae'r sgiliau lefel uchel rydych chi wedi'u datblygu yn ystod y rhaglen megis cyfathrebu effeithiol, meddwl yn feirniadol, a gwybodaeth am y diwydiant yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr. Ar hyn o bryd, mae graddedigion y rhaglen yn gweithio mewn sectorau amrywiol yn rhyngwladol fel swyddogion gweithredol cysylltiadau cyhoeddus, rheolwyr cyfathrebu, swyddogion cysylltiadau’r wasg a llawer o rolau arbenigol eraill.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Journalism, Language and communication, Public relations
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.