Cyfraith Masnach Ryngwladol (LLM)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Mae'r cwrs yma o dan adolygiad
Rydym yn gweithio i ddiweddaru a gwella cynnwys ein cyrsiau i sicrhau'r canlyniadau addysg a gyrfa gorau. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol ac yn destun newid. Gallwch wneud cais nawr o hyd. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon ac yn cysylltu â holl ddeiliaid y cynnig pan fydd yr adolygiad wedi'i gwblhau i gadarnhau unrhyw newidiadau.
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Astudiwch gyfraith masnach o safbwynt rhyngwladol a pharatowch eich hun ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd.
Paratoi eich hun ar gyfer gyrfa arbenigol
Bydd elfennau damcaniaethol a chymhwysol yn eich paratoi ar gyfer ystod o swyddi gan gynnwys masnach, cyllid, yswiriant a datrys anghydfod.
Dangos eich gwybodaeth
Dyma’r cyfle i ymgymryd ag ymchwil fanwl mewn maes sy'n ymwneud â Chyfraith Fasnachol Ryngwladol sydd o ddiddordeb ichi.
Bod yn feddyliwr annibynnol
Rydym yn cynnig dulliau critigol ichi fel y gallwch werthuso rheoleiddio cyfredol ac arfaethedig, a'n nod yw meithrin y gallu i feddwl yn annibynnol.
Dysgwch gan ein harbenigwyr
Byddwch yn cael eich addysgu gan ymchwilwyr blaenllaw a fydd yn cyfuno agweddau perthnasol ar eu hymchwil yn rhan o’u haddysgu.
Mae ein rhaglen LLM Cyfraith Gydwladol Masnach yn un o’n rhaglenni LLM mwyaf poblogaidd sydd wedi hen ennill ei phlwyf ac mae’r prif gwmnïau cyfraith masnach rhyngwladol yn ei pharchu.
Nod y rhaglen yw diwallu anghenion y myfyrwyr a’r cyfreithwyr sy’n dymuno astudio cyfraith masnach o bersbectif rhyngwladol, a rhoi’r pwyslais ar gonfensiynau a chytundebau rhyngwladol ac ar eu cymhwyso’n ymarferol.
Mae cyfraith masnach mewn economi sydd wedi’i globaleiddio ac sy’n symud yn gyflym yn cyflwyno heriau a chyfleoedd. Mae angen cyfreithwyr arbenigol er mwyn ateb heriau a chwilio am gyfleoedd, yn enwedig wrth roi cyngor a allai gael effaith ariannol sylweddol.
Mae’r rhaglen LLM Cyfraith Gydwladol Masnach yn hynod hyblyg ac yn cynnig ystod eang o fodiwlau sy’n eich galluogi i deilwra’r rhaglen i ddiwallu eich anghenion neu ddiddordebau proffesiynol a/neu gyflogaeth. Dyma rai o’r modiwlau: Cymrodeddu Masnachol, Llywodraethu Corfforaethol Cymharol, Cyfraith Forol Fasnachol Ryngwladol a Chyfraith Yswiriant.
Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno rhaglenni sy'n arloesol ac yn berthnasol, a chynnig y deilliannau dysgu a'r rhagolygon gyrfaol gorau i'n myfyrwyr. O gofio hyn, rydym yn adolygu rhai elfennau o'r rhaglen hon ar hyn o bryd. Felly, mae'r manylion yn rhai dangosol yn unig a gallent gael eu newid. Gallwch gyflwyno cais o hyd. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon ac yn cysylltu â'r holl ddeiliaid cynnig pan fydd yr adolygiad wedi'i gwblhau er mwyn cadarnhau unrhyw newidiadau.
Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Mae ein corff myfyrwyr bywiog, ynghyd â'n staff academaidd hynod gymwysedig, yn darparu'r amgylchedd perffaith i archwilio meysydd dynamig a phrysur y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 yn y gyfraith, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.5 yn ysgrifenedig a 6.0 ym mhob is-sgil arall, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol neu os oes gennych radd anrhydedd 2:2 gallwch wneud cais o hyd ond dylech ddarparu tystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais fel CV a geirdaon.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Rhaid i chi ddewis o leiaf dau o’ch modiwlau a addysgir a chwblhau’r traethawd hir ym maes Cyfraith Fasnach Ryngwladol. Cewch hefyd ddewis hyd at ddau fodiwl o’r rhai a restrir mewn unrhyw raglen LLM arall neu o gyfuniad o raglenni LLM.
Cyflwynir y rhaglen mewn dau gam. Mae Cam Un (yr elfen a addysgir) yn cynnwys pedwar modiwl 30 credyd. Mae Cam Dau yn cynnwys y traethawd hir. Bydd dau o’r modiwlau Cam Un yn cael eu haddysgu a'u hasesu yn y semester cyntaf a'r ddau sy'n weddill yn yr ail semester. Byddwch yn symud ymlaen i'r traethawd hir ar ôl cwblhau Cam Un yn llwyddiannus.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.
Mae Blwyddyn Un yn cynnwys pedwar modiwl a addysgir sydd werth cyfanswm o 120 credyd. Ar ôl cwblhau'r cam a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen at y traethawd hir 60 credyd.
Modiwlau sy'n gysylltiedig â’r ffocws Cyfraith Masnach Rynglwadol:
- Cyfraith Fasnachol Gymharol
- Cyfraith Buddsoddi Ryngwladol
- Cyfraith Newid Hinsawdd ac Amgylcheddol
- Cyfraith Ynni Rhyngwladol
- Gwyngalchu Arian a Throseddau Ariannol
- Cyfraith Yswiriant
- Cyfraith Gwerthu Rhyngwladol
- Llywodraethu Corfforaethol Cymharol
- Cyfraith Masnach y Byd
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Traethawd hir | CLT600 | 60 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae astudio ar gyfer LLM yn ddwys a heriol ac mae’n bwysig eich bod yn manteisio’n llawn ar yr addysgu a ddarperir er mwyn llwyddo. Mae bod yn bresennol mewn dosbarthiadau a sesiynau goruchwylio traethodau hir yn orfodol a byddwn yn disgwyl i chi fod wedi paratoi'n dda.
Mae ein haddysgu'n hyblyg iawn a gellir cyflwyno eich modiwlau drwy seminarau neu gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Ymhlith y dulliau addysgu eraill mae defnyddio byrddau trafod ar-lein, pecynnau astudio hunan-ddefnyddio a chwisiau a gweithgareddau ffurfiannol.
Gall modiwlau fod yn amrywiol o ran cynnwys i ddarparu ar gyfer cyfran uchel o fyfyrwyr tramor neu fyfyrwyr sydd â chymwysterau blaenorol heblaw yn y gyfraith. Fel arfer, caiff modiwlau eu harwain gan staff profiadol sy’n cymryd rhan weithredol mewn ymchwil sy’n berthnasol i’w maes pwnc.
Sut y caf fy asesu?
Rydyn ni’n defnyddio dulliau asesu ffurfiannol a chrynodol.
Nid yw asesiadau ffurfiannol yn cyfrif tuag at eich gradd ond maen nhw wedi'u cynllunio i roi'r cyfle i chi ymarfer ar gyfer eich asesiadau crynodol a'ch galluogi chi a'ch tiwtoriaid i asesu eich cynnydd yn eich modiwlau. Bydd asesiadau ffurfiannol fel arfer yn cynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig neu brawf dosbarth neu gallant gynnwys cyflwyniadau unigol gan fyfyrwyr.
Mae asesiadau crynodol yn cyfrif tuag at eich gradd. Mae eich marciau yn yr asesiadau hyn yn cyfrif tuag at eich dilyniant ffurfiol o gam un (modiwlau a addysgir) i gam dau (y traethawd hir), a thuag at benderfynu ar eich dyfarniad terfynol. Bydd asesiadau crynodol yng ngham un yn amrywio yn ôl y modiwl ond fel arfer byddant yn cynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig (traethodau 5,000 gair), arholiadau heb eu gweld ymlaen llaw neu arholiadau wedi’u rhyddhau ymlaen llaw. Mae’r traethawd hir (hyd at 15,000 o eiriau) yn cynnwys asesiad crynodol cam dau.
Sut y caf fy nghefnogi?
Rydyn ni wedi creu modiwl sgiliau ymchwil ac astudio wedi'i gynllunio'n arbennig, sy'n cael ei astudio gan bob myfyriwr LLM ar ddechrau'r rhaglen. Rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth sgiliau ysgrifennu i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf.
Defnyddir e-ddysgu i gefnogi eich dysgu. Cefnogir pob modiwl gan Dysgu Canolog, sef amgylchedd dysgu rhithwir sydd ar gael ar ac oddi ar y campws, lle byddwch yn cael gafael ar ystod eang o ddeunyddiau ar gyfer eich modiwlau.
Byddwch yn cael cymorth bugeiliol penodedig drwy ein cynllun tiwtor personol. Rydyn ni’n cynnig rhaglen helaeth o ddarlithoedd a gweithdai gyrfaoedd yn yr Ysgol gyda Chydlynydd Cynllun Pro-bono ac Ymgynghorydd Gyrfaoedd y Gyfraith mewnol. Mae Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth dynodedig yn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr ag anableddau. Mae gan y Brifysgol amrywiaeth o wasanaethau i'ch cefnogi, gan gynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a llyfrgelloedd rhagorol gyda llyfrgellwyr y gyfraith arbenigol a chanolfannau adnoddau.
Adborth
Mae adborth llafar ar gael yn ystod seminarau a byddwch yn derbyn adborth ysgrifenedig ar eich asesiadau ffurfiannol a chrynodol. Bydd adborth unigol ar waith ffurfiannol yn eich helpu i nodi cryfderau a gwendidau yn eich dysgu, yn ogystal â sut gallech wella eich perfformiad mewn asesiadau crynodol. Bydd adborth ysgrifenedig ar gael heb fod yn hwyrach na phedair wythnos ar ôl i chi gyflwyno'ch asesiad.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Mae disgwyl i chi gymryd mwy o gyfrifoldeb am eich addysg wrth i chi ymgymryd â'ch astudiaethau ôl-raddedig. Trwy'r LLM, byddwch yn ennill ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr - rhai sy'n benodol i’r ddisgyblaeth a sgiliau cyflogadwyedd mwy generig. Yn ystod y rhaglen byddwch yn gallu ymestyn eich sgiliau cyfathrebu a chyflwyno, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Byddwch hefyd yn gallu datblygu sgiliau cydweithio, ysgwyddo rolau arwain a gwella sgiliau astudio disgybledig ac annibynnol.
Fe’ch anogir i weithio'n annibynnol i chwilio am ddeunyddiau cyfreithiol drosoch eich hun, i ddarllen a dadansoddi'r deunyddiau hyn yn feirniadol ac i gyflwyno dadl strwythuredig a rhesymegol o dan arweiniad eich tiwtoriaid a'ch goruchwylwyr. Byddwch yn cael hyfforddiant mewn sgiliau ymchwil ôl-raddedig i ddatblygu eich gallu ymchwilio, ysgrifennu a dadansoddi cyfreithiol annibynnol.
Cewch gyfle i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ehangach drwy gymryd rhan yng nghynlluniau pro-bono y Gyfraith ar Waith yr Ysgol, sy'n cael eu rhedeg ar y cyd â sefydliadau partner, lle mae gwirfoddolwyr sy'n fyfyrwyr yn cynorthwyo pobl go iawn wrth ymwneud â'r gyfraith. Mae'r cynlluniau ar hyn o bryd yn cynnwys:
- Y Gyfraith mewn Cyfiawnder: Prosiect Dieuogrwydd, (sy'n ymdrin ag achosion honedig o gamweinyddu cyfiawnder).
- Y Gyfraith mewn Gofal Iechyd: Cynllun Gofal Iechyd Parhaus y GIG, (heriau i asesiadau ariannu gofal iechyd y GIG).
- Y Gyfraith mewn Chwaraeon: Prosiect Rygbi'r Undeb - (darparu cyngor cyfreithiol a chylchlythyrau cyfreithiol i glybiau rygbi).
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £10,450 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £23,700 | £2,500 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd graddedigion
Nid yw gradd yn y gyfraith yn cyfyngu graddedigion i yrfaoedd o fewn y proffesiwn cyfreithiol. Mae graddedigion y gyfraith yn mynd i broffesiynau amrywiol fel cyllid, gwerthu a marchnata, cyfathrebu digidol a recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ymestyn cyfleoedd allgyrsiol i'n myfyrwyr, gan helpu i wella eu CVs mewn marchnad swyddi gystadleuol i raddedigion. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyfreithwyr, elusennau a sefydliadau gwirfoddol i roi cyfle i fyfyrwyr ymarfer ac ehangu eu sgiliau. Rydym yn cynnal nifer o gynlluniau Pro Bono ac yn rhoi cyngor i aelodau'r gymuned ar wahanol faterion cyfreithiol.
Efallai y bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r rhaglen LLM yn llwyddiannus yn cael cyfle i barhau â'u hastudiaeth gyfreithiol drwy raglen PhD yr Ysgol, neu drwy raglenni proffesiynol y Ganolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol (y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol neu Gwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar).
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Law
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.