Cyfraith Hawliau Dynol (LLM)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn

Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Datblygwch eich gwybodaeth a’ch arbenigedd ym maes damcaniaeth a rheolau cyfreithiol cyfraith hawliau dynol rhyngwladol a domestig.
Dangos eich gwybodaeth
Dyma’r cyfle i ymgymryd ag ymchwil fanwl mewn maes sy'n ymwneud â Chyfraith Hawliau Dynol sydd o ddiddordeb ichi.
Yn berthnasol i'ch proffesiwn
Yn addas ar gyfer y rheini sy'n chwilio am yrfa ym maes ymgyfreitha hawliau dynol neu lunio polisïau.
Defnyddiwch ein hymchwil
Rydym yn gartref i'r Ganolfan Hawliau Dynol a Chyfraith Gyhoeddus, y Ganolfan Cyfraith Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chanolfan y Gyfraith a’r Gymdeithas.
Y cyfle i gymryd rhan ar y cyd â’ch astudiaethau academaidd
Rydym yn cynnig ystod o brosiectau pro-bono arloesol. Gallwch weithio gyda chleientiaid dan oruchwyliaeth pobl broffesiynol neu weithio ar bolisïau cyfreithiol.
Mae ein rhaglen LLM mewn Cyfraith Hawliau Dynol yn dadansoddi effaith ddomestig a rhyngwladol Confensiynau mawr y Cenhedloedd Unedig ac Ewrop yn feirniadol – hawliau sifil a gwleidyddol yn ogystal â hawliau economaidd-gymdeithasol a diwylliannol. Mae’n ystyried pwysigrwydd ac effaith hawliau dynol ar grwpiau penodol megis ffoaduriaid a phobl ag anableddau.
Ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, mae cytundebau hawliau dynol byd-eang a rhanbarthol wedi trwytho codau cyfreithiol domestig, gan ad-drefnu llawer o egwyddorion cyfraith sifil a chyfraith gyffredin. Mae Hawliau Dynol bellach yn rhan annatod o nifer o feysydd y gyfraith a pholisi. Nod y rhaglen hon yw darparu archwiliad beirniadol o’r damcaniaethau a’r rheolau cyfreithiol sy’n berthnasol i’r cytundebau hawliau dynol rhyngwladol a domestig.
Mae’r cwrs LLM Cyfraith Hawliau Dynol yn hynod hyblyg ac yn cynnig ystod eang o fodiwlau sy’n eich galluogi i deilwra’r rhaglen i ddiwallu eich anghenion neu ddiddordebau proffesiynol a/neu gyflogaeth. Dyma rai o’r modiwlau: Hawliau Dynol, Cyfraith Ryngwladol Ffoaduriaid, Iechyd ac Anabledd, Cydsyniad i Driniaeth, Cyfraith Ddyngarol Ryngwladol a Chyfiawnder Byd-eang.
Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Mae ein corff myfyrwyr bywiog, ynghyd â'n staff academaidd hynod gymwysedig, yn darparu'r amgylchedd perffaith i archwilio meysydd dynamig a phrysur y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 yn y gyfraith, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.5 yn ysgrifenedig a 6.0 ym mhob is-sgil arall, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd graddedigion
Nid yw gradd yn y gyfraith yn cyfyngu graddedigion i yrfaoedd o fewn y proffesiwn cyfreithiol. Mae graddedigion y gyfraith yn mynd i broffesiynau amrywiol fel cyllid, gwerthu a marchnata, cyfathrebu digidol a recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ymestyn cyfleoedd allgyrsiol i'n myfyrwyr, gan helpu i wella eu CVs mewn marchnad swyddi gystadleuol i raddedigion. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyfreithwyr, elusennau a sefydliadau gwirfoddol i roi cyfle i fyfyrwyr ymarfer ac ehangu eu sgiliau. Rydym yn cynnal nifer o gynlluniau Pro Bono ac yn rhoi cyngor i aelodau'r gymuned ar wahanol faterion cyfreithiol.
Efallai y bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r rhaglen LLM yn llwyddiannus yn cael cyfle i barhau â'u hastudiaeth gyfreithiol drwy raglen PhD yr Ysgol, neu drwy raglenni proffesiynol y Ganolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol (y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol neu Gwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar).
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Law
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.