Ewch i’r prif gynnwys

Rheoli Adnoddau Dynol (MSc)

  • Hyd: 2 flynedd
  • Dull astudio: Rhan amser

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Datblygwch sgiliau Adnoddau Dynol proffesiynol gan ein harbenigwyr academaidd ac ymarfer ar y rhaglen hon sydd ag achrediad CIPD.

tick

Encil: rheoli

Cyfle i gymryd rhan mewn encil tri diwrnod ar reoli, gan roi eich sgiliau negodi a datrys gwrthdaro ar waith.

briefcase

Deall Diwydiant

Cyfleoedd i gael y wybodaeth ddiweddaraf o ymchwil ac ymarfer Adnoddau Dynol gan siaradwyr busnes proffil uchel ac ymweliadau gan gwmnïau.

star

Newid busnes er gwell

Cyfle i fynd i'r afael â her fusnes gyfoes yn eich Prosiect Rheoli Adnoddau Dynol.

academic-school

Yn gyfrifol yn gymdeithasol

Fel Ysgol Fusnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf y byd, rydym wedi ymrwymo i sicrhau gwelliant cymdeithasol ochr yn ochr â datblygu economaidd.

Mae denu’r math cywir o bobl a meithrin eu doniau yn hanfodol i lwyddiant pob sefydliad ac yn ffynhonnell allweddol o fantais gystadleuol. Fodd bynnag, mewn diwylliant sy’n gwerthfawrogi ac yn gwobrwyo meddylfryd ‘byw i weithio’, mae cydbwysedd a lles yn bethau sydd yn gynyddol o dan fygythiad.

Mae’n rhaid i hyn newid.

Gall gweithwyr proffesiynol hynod fedrus a gwybodus Adnoddau Dynol, sy’n gallu cwestiynu, gwerthuso’n feirniadol a gwneud dyfarniadau effeithiol, fod yn gyfrifol am y newid yma.

Newid y byd yw ein busnes ni.

Mae ein cwrs MSc Rheoli Adnoddau Dynol yn canolbwyntio ar y gwahaniaethau y gallwch chi eu gwneud i sefydliad a’u cyflogwyr. Byddwch yn datblygu’r hyder, y wybodaeth a’r sgiliau i gwestiynu, gwerthuso a gwneud dyfarniadau effeithiol ar strategaethau ac arferion sy’n cyflawni effaith a sicrhau gwerth.

Bydd ein tîm o arbenigwyr academaidd ac ymarfer yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel gweithiwr proffesiynol ym maes Adnoddau Dynol, gan ddatblygu eich sgiliau dadansoddi beirniadol, trafod a’ch sgiliau datrys problemau a gwrthdaro. Byddant yn defnyddio ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol i ddangos sut mae ymarferwyr Adnoddau Dynol yn llywio ac yn dylanwadu ar broses recriwtio, diwylliant gweithio a pherfformiad sefydliad.

Woman in graduation cap and down
“Ar ôl gweithio fel cyfrifydd am yn agos at 20 mlynedd, roedd hi’n bryd newid gyrfa. Penderfynais ailhyfforddi i fod yn weithiwr proffesiynol ym maes Adnoddau Dynol a meddwl y byddai’r cwrs MSc Rheoli Adnoddau Dynol yn fy helpu i gyflawni’r newid mewn cyfeiriad yma. Fe wnes i wir fwynhau’r her o fynd i’r afael â phwnc cwbl newydd. Roedd yn wych defnyddio fy ymennydd eto a mynd nôl ati i ddysgu. Roeddwn i wrth fy modd gyda rhan ysgrifennu traethawd hir y cwrs; dewis pwnc roeddwn i’n angerddol iawn amdano a chynnal ymchwil yn ei gylch o’r dechrau hyd at y diwedd.”
Sarah Reypert MSc Rheoli Adnoddau Dynol

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Busnes Caerdydd

Rydym yn Ysgol Busnes sydd wedi’i hachredu gan AACSB ac AMBA ac mae gennym bwrpas clir: cael effaith gadarnhaol yng nghymunedau Cymru a'r byd.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4674
  • MarkerRhodfa Colum, Cathays, Caerdydd, CF10 3EU

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis busnes, dyniaethau, y gyfraith, gwyddorau cymdeithasol neu bynciau perthnasol eraill, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 7.0 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn rhaglen ran-amser a fydd yn cymryd ychydig dros ddwy flynedd i'w chwblhau (27 mis). Bydd cydrannau a addysgir yn rhoi sylfaen drylwyr i chi ym mhob agwedd o Reoli Adnoddau Dynol.

Byddwch yn cwblhau prosiect hunan-gyfeiriedig o fis Mehefin o flwyddyn dau i fis Rhagfyr o flwyddyn dau.

Erbyn diwedd y rhaglen byddwch wedi astudio wyth modiwl gorfodol ac wedi cwblhau prosiect.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Blwyddyn un

Byddwch yn cymryd pedwar modiwl a addysgir yn y flwyddyn gyntaf, wedi'u pwysoli ar 15 credyd yr un

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Rheoli Adnoddau DynolBST22115 credydau
Rheoli GwobrwyoBST22315 credydau
Cyfraith CyflogaethBST22615 credydau
HRM, Cyd-destun a StrategaethBST23115 credydau

Blwyddyn dau

Byddwch yn cymryd pedwar modiwl a addysgir yn yr ail flwyddyn, wedi'u pwysoli ar 15 credyd yr un.

O fis Mehefin yr ail flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â darn o ymchwil hunangyfeiriedig sy'n archwilio mater Adnoddau Dynol byw. Byddwch yn ysgrifennu prosiect 15000 gair ar y mater hwn ac yn gwneud argymhellion ar gyfer gwella.  I'ch cefnogi yn eich prosiect, byddwch yn derbyn hyfforddiant dulliau ymchwil yn ystod eich ail flwyddyn.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Caiff ein dulliau addysgu eu llywio’n helaeth gan ymchwil ac maen nhw’n cyfuno manylrwydd academaidd gyda pherthnasedd ymarferol. Mae ein cyfadran sydd o fri rhyngwladol yn cynnwys academyddion sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth o fewn eu maes. Maen nhw’n dod â’r gwersi maen nhw wedi eu dysgu o’u hymchwil ddiweddaraf i’r ystafell ddosbarth, gan eich galluogi i feddwl yn feirniadol am fusnes a chynnig enghreifftiau a senarios go iawn.

Byddwn yn darparu eich adnoddau addysgu a dysgu, ac yn ymateb i’ch anghenion a’ch safbwyntiau. O'ch rhan chi, bydd gofyn i chi wneud y gwaith angenrheidiol yn ystod a thu allan i’r sesiynau addysgu ffurfiol, a gwneud defnydd da o'r cyfleusterau a ddarperir.

Dulliau Addysgu

Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd ac addysgu mewn grwpiau bach (dosbarthiadau, seminarau, gweithdai neu sesiynau tiwtorial).

Mewn darlith, byddwch yn cael trosolwg o agwedd benodol ar gynnwys y modiwl (yn ogystal â rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ofyn cwestiynau a bod yn fyfyriol). Yna mewn dosbarthiadau a gweithdai, cewch gyfle i ymarfer technegau, trafod syniadau, cymhwyso cysyniadau a chyfnerthu eich dealltwriaeth yn y pwnc.

Sut y caf fy asesu?

Mae'r dulliau asesu'n amrywio o fodiwl i fodiwl ond, ar draws cynllun y radd yn gyffredinol, gallwch ddisgwyl cymysgedd o arholiadau, gwaith cwrs, traethodau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau a phrosiectau unigol ac mewn grŵp.

Cofnodion Adfyfyriol

Bydd gofyn i chi gadw cofnod myfyriol a fydd yn cofnodi agweddau ar eich dysgu yn ystod y rhaglen MSc. Yn ystod y rhaglen byddwch yn datblygu sgiliau astudio, sgiliau effeithiolrwydd personol a sgiliau Adnoddau Dynol penodol ac yn ysgrifennu cofnodion myfyriol yn manylu ar sut y caiff y sgiliau hyn eu defnyddio a'u datblygu.

Defnyddir y myfyrdod hwn i'ch helpu i nodi cysylltiadau rhwng y gwahanol fodiwlau a datblygu'r ystod o sgiliau sydd eu hangen i weithredu'n llwyddiannus mewn rôl Adnoddau Dynol.

Mae'r cofnodion myfyriol yn un o ofynion y cwrs a rhaid eu cwblhau i safon dderbyniol cyn y gallwch gwblhau'r rhaglen MSc.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael tiwtor personol ar ddechrau eich astudiaethau. Fel arfer, bydd eich tiwtor personol yn addysgu ar eich cwrs gradd chi a byddwch yn cadw’r un tiwtor personol drwy gydol eich cwrs.

Bydd eich tiwtor personol yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion academaidd, gan gynnwys dewis modiwlau ac asesu. Os cewch unrhyw broblemau sy'n effeithio ar eich astudiaethau, eich tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt cyntaf bob tro. Bydd eich tiwtor yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad ag ystod eang o wasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer myfyrwyr a ddarperir gan y Brifysgol, ac Undeb y Myfyrwyr, fel y bo'n briodol. Bydd gofyn i chi gyfarfod â’ch tiwtor personol dair gwaith yn ystod pob blwyddyn academaidd, ond fe’ch anogir hefyd i gysylltu â nhw ar unrhyw adeg arall os oes angen help neu gyngor arnoch chi.

I gael gwybodaeth gyffredinol, mae staff ein Hyb Myfyrwyr Ôl-raddedig ar gael, yn bersonol, dros y ffôn neu trwy ebost, bob dydd o'r wythnos yn ystod y tymor i ateb eich cwestiynau.

Byddwn hefyd yn defnyddio Dysgu Canolog, sef amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol. Cyhoeddir deunyddiau pob rhaglen a modiwl yma.

Mae'r Brifysgol yn cynnig cyfoeth o gefnogaeth i fyfyrwyr ôl-raddedig y gellir eu gweld ar ein tudalennau cefnogi myfyrwyr canolog.

Adborth

Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn rheolaidd. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys adborth ar lafar, adborth personol ar waith ysgrifenedig, ac adborth ysgrifenedig cyffredinol.

Byddwch yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl pob cyfnod arholi a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol.

Wrth weithio ar eich traethawd hir/prosiect, mae disgwyl i chi gyfarfod â’ch goruchwylydd yn rheolaidd i adolygu eich cynnydd a thrafod unrhyw gwestiynau. Bydd eich goruchwylydd yn gallu rhoi adborth i chi ar eich cynllun ymchwil ac ar ddrafftiau o’ch gwaith wrth i chi weithio arnynt.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon i’w gweld isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o waith ymchwil damcaniaethol ac empirig cyfredol ym maes eang Rheoli Adnoddau Dynol ac o'i fethodoleg ymchwil sylfaenol
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddimensiynau allweddol o strwythur cymdeithasol a threfniadaeth gwaith, o wahanol ddulliau a safbwyntiau damcaniaethol o brosesau sefydliadol, a natur rheolaeth gan reolwyr a strategaethau rheoli sydd ar gael i reolwyr.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o'r prif weithgareddau a thasgau sy'n gysylltiedig â rheoli adnoddau dynol
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r prif ddulliau o reoleiddio cyflogaeth, gan gynnwys systemau cenedlaethol mewn amrywiaeth o wledydd

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Eich bod yn gallu asesu gwyddoniaeth gymdeithasol ym maes HMRC yn feirniadol ac yn gallu ymgymryd â phrosiect ymchwil gwreiddiol gydag adroddiad rheoli
  • Y gallu i drafod materion a dadleuon cyfoes mewn theori ac ymarfer sefydliadol
  • Eich bod yn gallu gwerthuso sut y mae grymoedd economaidd, cymdeithasol, cyfreithiol a gwleidyddol yn llywio cysylltiadau cyflogaeth
  • Y gallu i werthuso priodoldeb deunydd sy'n seiliedig ar ymchwil a gafwyd wrth astudio sefydliadau a rheoli adnoddau dynol

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu i gyfrannu at ddatblygu ac adolygu polisi mewn Rheoli Adnoddau Dynol o fewn sefydliadau rheoli, polisi cyhoeddus a sefydliadau llafur
  • Eich bod yn gallu ysgrifennu adolygiad o lenyddiaeth a dylunio cynnig ymchwil i astudio gwahanol faterion rheoli adnoddau dynol
  • Eich bod wedi ennill y sgiliau angenrheidiol i gyflawni ac ysgrifennu'r cynnig ymchwil a gynlluniwyd uchod

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

Eich bod wedi ennill sgiliau mewn:

  • ymchwil yn seiliedig o’r llyfrgell
  • gwaith a thrafodaethau tîm
  • cyflwyniadau ysgrifenedig a llafar;
  • dadlau, trafodaeth, cyflafareddu a chyd-drafod
  • TGCh, gan gynnwys Photoshop ac SPSS

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £6,100 Dim
Blwyddyn dau £6,100 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £13,600 £2,500
Blwyddyn dau £13,600 Dim

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Yn Ysgol Busnes Caerdydd, cewch addysg fydd yn newid eich gyrfa gan academyddion o safon fyd-eang sydd â safbwyntiau gwahanol. Byddant yn herio eich ffordd o feddwl wrth i chi ystyried y byd busnes o ystod o safbwyntiau gwahanol.

Yn ogystal â dysgu o ymchwil arloesol gan aelodau ein cyfadran, byddwch yn gweithio tuag at ennill cymhwyster proffesiynol lefel 7 Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, sy’n gymhwyster gofynnol gan lawer o gyflogwyr ar gyfer swyddi rheoli Adnoddau Dynol yn y DU.

Byddwch hefyd yn elwa ar wybodaeth ac arbenigedd ein Tîm Gwella Gyrfaoedd. Maent yn barod ac yn aros i ganfod digwyddiadau a chyfleoedd i’ch helpu i gyflawni eich dyheadau yn y dyfodol.

Cyflogwyr graddedigion:

  • Whitbread
  • Capita HR Solutions
  • Pantechnicon
  • Associate British Ports
  • Cartrefi Cymru Co-operative
  • Tîm y Cipolygon Ymddygiadol
  • Focus Enterprise Hub
  • Prifysgol Caerdydd

Mae graddedigion o'n rhaglenni gradd Adnoddau Dynol wedi mynd ymlaen i yrfaoedd Adnoddau Dynol llwyddiannus mewn amrywiaeth o ddiwydiannau gan gynnwys busnesau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae nifer o fyfyrwyr hefyd wedi dilyn dysgu pellach drwy ymgymryd â gradd ymchwil ar ôl cwblhau eu gradd meistr.

Gyrfaoedd ein graddedigion

  • Rheolwr Adnoddau Dynol
  • Cynghorydd Adnoddau Dynol
  • Cynorthwy-ydd Adnoddau Dynol
  • Gweinyddwr Systemau Adnoddau Dynol
  • Cydgysylltydd Adnoddau Dynol
  • Cydgysylltydd Recriwtio
  • Rheolwr Gwobrwyo
  • Cydlynydd Hybiau Menter

Cyflogwyr graddedigion

Logo for beverage company Logo of telecommunications firm Logo of children's clothing store

Headshot of woman in sunshine
“Fe gefais i fy Nghymrodoriaeth Siartredig o fewn chwe blynedd o gwblhau’r MSc HRM yn Ysgol Busnes Caerdydd. Gwnaeth y rhaglen fy ngalluogi i symud fy ngyrfa yn ei blaen yn gyflym i lefel strategol fwy neu lai, tra hefyd yn cynnig llwyfan i barhau â fy natblygiad proffesiynol trwy’r broses uwchraddio CIPD!”
Ceri James MSc Rheoli Adnoddau Dynol

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Busnes, Rheoli


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.