Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid gyda Thechnoleg Ariannol (MSc)

  • Hyd: 1 year
  • Dull astudio: Amser llawn

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.


Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Ewch ati i feistroli hanfodion cyllid ac arbenigo ym maes deinamig a datblygol technoleg ariannol.

microchip

Integreiddio cyllid a thechnoleg

Byddwch yn astudio pynciau cyllid traddodiadol ochr yn ochr â thechnolegau ariannol blaengar fel Deallusrwydd Artiffisial a Dadansoddi Data Mawr.

briefcase

Cyfle i wella eich gyrfa

Byddwch yn gweithio gyda chynghorwyr proffesiynol sy'n cynnig cymorth wedi'i deilwra i wella, neu ddatblygu eich cynnydd yn y gweithle a chyflawni eich dyheadau gyrfaol.

people

Amserol a pherthnasol

Cewch y cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau sy'n gysylltiedig â heriau amserol ac ehangu eich rhwydwaith gyda chymdeithasau fel y Gymdeithas Cyllid a Masnach

star

Gain practical skills

Put knowledge into practice with cutting-edge trading simulations in our flagship Trading Room.

Bydd y rhaglen yn eich galluogi i astudio MSc mewn Cyllid a meithrin arbenigedd mewn Technoleg Ariannol. Byddwch yn dysgu am dechnoleg ariannol sy'n dod i'r amlwg yn ogystal â theori ac arferion cyllid craidd. Bydd hyn yn eich galluogi i lwyddo mewn maes cyllid rhyngwladol rhyng-gysylltiedig, amrywiol ac sy'n esblygu'n gyflym.

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o agweddau strategol ar gyllid a thechnoleg ariannol. Gyda'n gilydd, byddwn yn trin a thrafod pynciau allweddol gan gynnwys rheoli buddsoddiadau, cyllid corfforaethol, data mawr a chymhwyso deallusrwydd artiffisial mewn cyllid. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn datblygu eich sgiliau ymchwil a'ch hyfedredd o ran rhaglennu ar gyfer dadansoddi data a dysgu peirianyddol. Bydd modiwlau dewisol yn eich helpu i deilwra eich addysg mewn agweddau penodol ar gyllid neu dechnoleg ariannol er mwyn cyflawni eich dyheadau gyrfaol yn y dyfodol. Bydd yr arbenigedd hwn yn cael ei gryfhau ymhellach drwy draethawd hir sy'n canolbwyntio ar Dechnoleg Ariannol sy'n mynd i'r afael â heriau go iawn yn y maes hwn.

Yn ystod eich astudiaethau, cewch brofiad hefyd o efelychiadau masnachu arloesol yn ein Hystafell Fasnachu arbennig. Mae’r cyfleuster hwn, sydd â lle i 56 o bobl, ymhlith y mwyaf yn y DU ac mae’n rhoi’r cyfle i chi feithrin y sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch yn y gyfnewidfa stoc. Cynigir Tystysgrif Bloomberg Ddewisol hefyd.

Bydd y rhaglen yn eich galluogi i gael gyrfa draddodiadol neu un sy’n canolbwyntio ar dechnoleg ariannol ym maes rheoli buddsoddiadau neu fasnachu, neu weithio fel uwch-weithredwr neu ymgynghorydd mewn sefydliadau corfforaethol neu ariannol.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Busnes Caerdydd

Rydym yn Ysgol Busnes sydd wedi’i hachredu gan AACSB ac AMBA ac mae gennym bwrpas clir: cael effaith gadarnhaol yng nghymunedau Cymru a'r byd.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4674
  • MarkerRhodfa Colum, Cathays, Caerdydd, CF10 3EU

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.


Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn cyllid neu bwnc cysylltiedig, y mae'n rhaid iddo gynnwys o leiaf 60%/2:1 mewn un modiwl meintiol a thri modiwl cyllid dadansoddol, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudiwyd yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.
 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
 

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Rhaglen amser llawn a blwyddyn o hyd yw hon.

Byddwch yn astudio 5 modiwl craidd sy'n eich galluogi i feithrin gwybodaeth arbenigol ym meysydd cyllid a thechnoleg ariannol. Byddwch yn dewis un modiwl o ddetholiad o fodiwlau sy'n edrych ar sut y defnyddir elfennau arloesol ym maes cyllid a thechnoleg ariannol. Bydd hyn yn eich galluogi i ymgymryd ag astudiaeth arbenigol mewn maes sydd o ddiddordeb neu sy'n berthnasol i'ch gyrfa yn y dyfodol.

Daw’r rhaglen i ben drwy gwblhau darn unigol o ymchwil fanwl mewn ymateb i gwestiwn sy’n ymwneud â thechnoleg ariannol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/26. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025.

Mae cam addysgu’r rhaglen rhwng mis medi a mis Mehefin. Bydd yn cynnwys 4 bloc addysgu. Bydd cymysgedd o ddarlithoedd, tiwtorialau a dysgu annibynnol, a bydd y modiwlau yn cael eu hasesu ar ddiwedd pob bloc.

Yng ngham y traethawd hir, byddwch yn ymgymryd â darn annibynnol o ymchwil, ond bydd y pwnc yn canolbwyntio ar dechnoleg ariannol. Byddwch yn ymgymryd â’r traethawd hir rhwng mis Mehefin a mis Medi. Bydd goruchwyliwr traethawd hir wrth law i’ch cynorthwyo ac yn cwrdd â chi’n rheolaidd yn ystod y cyfnod hwn.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae dull dysgu gweithredol wedi’i ymgorffori yn y rhaglen. Credwn fod dysgu effeithiol wedi’i seilio ar ddau beth – cymryd rhan mewn profiadau amrywiol, a’r ffordd rydych yn gwneud synnwyr o’r profiadau hynny, yn unigol ac ar y cyd ag eraill. 

Mae pob bloc dysgu yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau megis astudiaethau achos, fideos, heriau bach mewn tîm a chwarae rôl, ac mae’r cyfan yn ceisio cyflwyno syniadau newydd a datblygu’ch dealltwriaeth.

Byddwn yn eich helpu i wella’r sgiliau technegol a dadansoddi beirniadol a gyflwynwyd i chi yn ystod eich gradd gyntaf, er mwyn datblygu’ch gallu a’ch proffil fel arbenigwr cyllid. Byddwn hefyd yn eich helpu i weithio gyda myfyrwyr eraill i fyfyrio ar eich gwybodaeth a’ch sgiliau presennol a datblygu dealltwriaeth o’r newydd o natur cyllid a thechnoleg ariannol mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Cewch eich annog i gydweithio mewn timau amrywiol i ystyried ystod o ddealltwriaethau ac arferion amgen.

Mae rhoi’r hyn a ddysgwyd o’r newydd ar waith yn bwysig hefyd. Byddwch yn integreiddio ac yn cymhwyso dealltwriaeth newydd, ynghyd â sgiliau cyllid a thechnoleg ariannol newydd, mewn tasgau ymarferol sydd wedi'u hymgorffori ym mhob bloc dysgu, ac mewn gweithgareddau gwaith cwrs ffurfiol.

Sut y caf fy asesu?

Mae strwythur blociau’r rhaglen yn rhoi digon o gyfleoedd i chi fyfyrio’n anffurfiol ar yr hyn sydd wedi’i ddysgu ac ar eich datblygiad. Ym mhob modiwl, mae gweithgareddau byr ar gyfer adolygu gwybodaeth a medrau fel y gallwch chi gadw llygad ar eich cynnydd a gwella’ch ffordd o ddysgu. Bydd hynny’n cryfhau’ch hyder ac yn gwella eich ffordd o drin a thrafod gorchwylion asesu ffurfiol.

Mae amrywiaeth o dasgau asesu ffurfiol yn rhoi cyfle i ystyried cysyniadau a modelau mewn ffyrdd creadigol ac ymarferol. Bydd y rhain yn cynnwys cyflwyniadau ar ffurf poster, astudiaethau achos, cyflwyniadau grŵp, adroddiadau a fideos. Byddwch yn gweithio'n unigol ac yn rhan o dîm, yn union fel y byddech chi yn y gweithle.

Bydd addysgu mewn blociau’n eich galluogi i atgyfnerthu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu cyn ei ddefnyddio i gyflawni’r gorchwylion asesu sydd wedi’u seilio ar waith cymhleth gweithwyr proffesiynol ym maes cyllid. Er enghraifft, mae profion dosbarth ac arholiadau yn adlewyrchiad realistig o’r amserlenni ar gyfer cwblhau tasgau yn y gweithle.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae’r Brifysgol yn cynnig llawer o gymorth i ôl-raddedigion, gan gynnwys: 

Dysgu Canolog

Amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol yw Dysgu Canolog.  Cyhoeddir deunyddiau pob rhaglen a modiwl yno ar gyfer sylw myfyrwyr cyn darlithoedd, yn eu hystod ac wedyn.

Llyfrgelloedd

Mae dros 1.1 miliwn o lyfrau printiedig yn ein llyfrgelloedd ar draws y campws. Bydd dros 1.5 miliwn o lyfrau ar-lein, cyfnodolion, adnoddau a chronfeydd data ar gael i chi, hefyd.

System y Tiwtoriaid Personol

Byddwch yn cael tiwtor personol.  Bydd eich tiwtor personol yw goruchwylio’ch dysgu a’ch profiad addysgol.  Bydd eich tiwtor personol yno i wrando ar unrhyw bryderon gan gynnig cyfarwyddyd proffesiynol lle bo modd neu ddangos ble mae’r cymorth priodol.

Ar ben hynny, mae ein timau Bywyd Myfyrwyr yn cynnig cyfres o wasanaethau cymorth. Mae'r gwasanaethau hyn wedi'u lleoli yn adeilad pwrpasol Canolfan Bywyd y Myfyrwyr ac yn cynnwys: Cyngor ac Arian, Dyfodol Myfyrwyr ar gyfer cymorth gyrfaoedd, gwasanaethau Cwnsela, Iechyd a Lles, y Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr gan gynnwys cymorth dyslecsia, Sgiliau Astudio Academaidd a Mentora Myfyrwyr.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch yn ei gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

O gwblhau’r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

  • Gwerthuso'r cysylltiadau rhwng theori, egwyddorion ac arferion ym maes cyllid.
  • Cynnal gwerthusiad beirniadol o faterion cyfoes ym maes cyllid drwy ddefnyddio ymchwil gyfredol a nodi’r goblygiadau posibl i ymchwil ac arferion yn y dyfodol.
  • Cynnal gwerthusiad beirniadol o berthnasedd cysyniadau damcaniaethol modern yng nghyd-destun yr amgylchedd ariannol deinamig.
  • Cymhwyso ymchwil ym maes cyllid a gwybodaeth broffesiynol i ddatrys senarios busnes go iawn.
  • Defnyddio a gwerthuso atebion technoleg ariannol megis dadansoddi data mawr a dysgu peirianyddol ar gyfer rhaglenni ariannol.

Sgiliau Deallusol:

  • Diffinio problem fusnes neu ymchwil yn glir.
  • Adolygu a dethol dull ymchwil priodol.
  • Dewis offerynnau priodol i ymchwilio i broblemau busnes neu broblemau sy’n seiliedig ar ymchwil.
  • Dadansoddi’n feirniadol safbwyntiau cyferbyniol a thystiolaeth ategol, eu cyfosod a’u gwerthuso.
  • Creu dealltwriaeth ar sail data a’i chyfleu er mwyn llywio strategaethau a gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dechnoleg ariannol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Dadansoddi data, nodi’r sefyllfa bresennol a rhagweld tueddiadau yn y dyfodol.
  • Dewis ac archwilio cronfeydd data priodol a phecynnau meddalwedd perthnasol.
  • Datblygu sgiliau rhaglennu sy'n hanfodol er mwyn creu datrysiadau technoleg ariannol a’u rhoi ar waith.
  • Cymhwyso gwybodaeth ariannol berthnasol er mwyn gwneud penderfyniadau o ddydd i ddydd yn effeithiol.
  • Datblygu perthnasoedd gwaith effeithiol gyda chymheiriaid.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Defnyddio technoleg ariannol i ddatrys problemau cymhleth.
  • Cyfathrebu â chynulleidfaoedd amryfal trwy nifer o gyfryngau.
  • Herio tybiaethau ar sail tystiolaeth gadarn.
  • Gweithio’n annibynnol/cydweithio.
  • Cymryd y cam cyntaf a bod yn rhagweithiol.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Drwy gydol cyfnod y rhaglen, byddwch yn datblygu ac yn cymhwyso'r sgiliau technegol a meddal allweddol sydd eu hangen i fod yn arbenigwr effeithiol ym meysydd cyllid a thechnoleg ariannol. Byddwch yn gweld eich arbenigedd yn cynyddu’n raddol ym mhob rhan o’r rhaglen wrth i chi gael llu o gyfleoedd i archwilio ymchwil ac ymarfer ac ymateb i heriau cyllid a masnachu ymarferol. Bydd hyn yn rhoi mantais ychwanegol i chi wrth i chi ddechrau arni yn y gweithle fel arbenigwr ym meysydd cyllid a thechnoleg ariannol.

Mae graddedigion ein rhaglenni cyllid yn mynd yn eu blaenau i ymgymryd â rolau fel dadansoddwyr, rheolwyr ariannol, ymgynghorwyr, masnachwyr ac archwilwyr yng Ngrŵp Cyfnewidfa Stoc Llundain, Deloitte, KPMG, PwC, JP Morgan, China Merchants Bank a Petronas ymhlith llu o gyflogwyr eraill.

Lleoliadau

Nid oes cyfleoedd i wneud lleoliad gwaith ar y rhaglen hon.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.