Llywodraethu Gofal y Llygaid (PgCert)
- Hyd: 2 flynedd (dechrau mis Mawrth)
- Dull astudio: Rhan amser yn dysgu o bell
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Nod ein Tystysgrif Ôl-raddedig (Tyst. Ôl-radd) mewn Llywodraethiant Gofal Llygaid yw darparu cymhwyster proffesiynol yw rhoi cymhwyster nad yw ar gael ar hyn o bryd i’r rhai sy’n cymryd rhan mewn llywodraethiant gofal llygaid.
Mae’r Dystysgrif Ôl-raddedig (PG Cert) mewn Optometreg mewn Llywodraethiant Gofal Llygaid yn gymhwyster Lefel 7, 60 credyd, a’i nod yw darparu cymhwyster proffesiynol i’r rhai sy’n ymwneud â llywodraethiant gofal llygaid yn y DU. Er ein bod ni hefyd yn cynnig cymwysterau hynod lwyddiannus i bobl sy’n ymwneud ag ymarfer clinigol, mae’r cymhwyster hwn i bobl sy’n ymgymryd â rolau llywodraethiant clinigol ac ymgynghori yn y sector.
Mae’r cwrs hwn yn dechrau ym mis Medi, ac mae’n cynnwys tri modiwl craidd - sgiliau arwain, archwilio a gofal llygaid seiliedig ar dystiolaeth, ac agweddau cyfreithiol ar optometreg y DU - ynghyd â dewis o 20 credyd i ganiatáu i fyfyrwyr ddilyn eu diddordebau a gwella’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth am faes penodol. Nod y cwrs yw rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar weithwyr gofal llygaid proffesiynol i oruchwylio gwasanaethau offthalmig yn llwyddiannus, gyda'r cyfle i ddod yn arweinwyr effeithiol yn y sector, a throsolwg cynhwysfawr o'u rhwymedigaethau cyfreithiol mewn ymarfer optometreg yn y DU.
Mae nifer o fodiwlau yn cyd-fynd â safonau cymhwysedd y cytunwyd arnyn nhw’n genedlaethol - er enghraifft, Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru a chynllun MECS, ymhlith eraill.
Gall myfyrwyr sydd â thystiolaeth o gyflawni safonau o’r fath o fewn y tair blynedd ddiwethaf ei chyflwyno i Gyfarwyddwr y rhaglen i’w hystyried ar gyfer achrediad dysgu blaenorol cymeradwy (APL), gyda chredydau modiwl yn cael eu rhoi i’r myfyriwr i gydnabod ei gyflawniadau blaenorol.
Nodweddion unigryw
- The opportunity to learn with one of the leading Optometry Schools in Europe, rated excellent for teaching and research.
- The involvement of research-active staff in course design and delivery.
- The variety of modules on offer.
- The flexibility of open learning.
- The only eye care governance course available in the UK.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg
Mae ein myfyrwyr yn elwa o addysgu rhagorol ac ymarferol mewn amgylchedd ymchwil arloesol.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Os ydych wedi cofrestru gyda'r GOC, gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Tystiolaeth o gofrestru GOC llawn (myfyrwyr y DU). Os ydych wedi cofrestru gyda'r GOC, rhaid i chi ddarparu eich rhif GOC yn adran Aelodaeth Cyrff Proffesiynol y ffurflen gais.
Os nad ydych wedi cofrestru gyda'r GOC, gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd mewn Optometreg neu gymhwyster optometreg proffesiynol. Os yw eich tystysgrif neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau interim neu dystysgrifau dros dro.
- copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrion
- Rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Cyflwynir mwyafrif y cwrs ar Dysgu Canolog, sef system e-Ddysgu’r Brifysgol. Bydd cyflwyniadau darlith aml-gyfrwng, adnoddau ategol a thrafodaethau wedi’u harwain gan diwtoriaid cyrsiau ar gael i chi. Ar lawer o’r modiwlau, bydd addysgwyr blaenllaw yn y maes hefyd yn cynnig tiwtorialau a gweithdai sgiliau ymarferol. Gwneir asesiadau ffurfiannol a chrynodol drwy gwestiynau aml-ddewis ar-lein, aseiniadau a gwaith cwrs ysgrifenedig wedi’u cyflwyno (gan gynnwys blogiau a wicis grŵp) ynghyd ag arholiadau ymarferol, lle y bo’n briodol.
Mae tri o'r modiwlau'n orfodol, a gellir cymryd yr ugain credyd arall o'r amrywiaeth eang sydd ar gael.
Mae gan rai modiwlau fodiwlau partner rhagofynnol.
Mae modiwlau'n dechrau ar wahanol adegau drwy gydol y flwyddyn a gall y tîm PGT gynghori myfyrwyr ar y drefn orau o'u hastudio yn unol ag amgylchiadau personol.
Gall yr 20 credyd sy'n weddill gynnwys unrhyw un o'n modiwlau eraill.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.
Blwyddyn un
Blwyddyn dau
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Dysgu hyblyg, agored ond â chymorth yw ethos y rhaglen hon.
Mae pob modiwl yn wahanol, ond gall myfyrwyr ddisgwyl cael eu haddysgu ar-lein (drwy ddarlithoedd a gweminarau), a mynychu gweithdai ar gyfer modiwlau clinigol.
Sut y caf fy asesu?
Mae'r gweithgareddau asesu wedi'u cynllunio'n benodol i hwyluso dysgu a chyflawniadau cyfranogwyr. Mae holl elfennau’r asesiad yn orfodol.
Mae asesiadau yn amrywio ar draws y modiwlau, ond mae'n cynnwys:
- Adroddiadau ysgrifenedig
- Asesiadau gwaith cwrs
- Cwestiynau amlddewis
- Arholiadau ymarferol
- Senarios Nodweddion Allweddol (a ddefnyddir mewn addysg feddygol i brofi rhesymu clinigol, gallu datrys problemau a'r gallu i gymhwyso gwybodaeth benodol)
- OSCEs - Arholiadau Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol
- Wicis grŵp
- Blogiau.
Bydd adborth o asesiadau yn cael ei ddarparu ar ffurf ysgrifenedig ar gyfer adroddiadau ysgrifenedig a gwaith cwrs, ac yn ysgrifenedig a/neu ar lafar ar gyfer cyflwyniadau ac arholiadau ymarferol. Bydd trafodaeth wyddonol drwy fforymau ar-lein yn cael ei chymedroli gan arweinwyr modiwlau, gan roi mewnbwn a chyfle iddyn nhw gynnig adborth ar unwaith. Bydd angen i fyfyrwyr basio pob cydran unigol er mwyn pasio'r modiwl.
Sut y caf fy nghefnogi?
Ar ddechrau eich cwrs ceir modiwl ymsefydlu ar-lein, sy’n orfodol.
Bydd hwn yn eich helpu i ganfod eich ffordd o amgylch Dysgu Canolog a bydd hefyd yn darparu gwybodaeth gyffredinol gan gynnwys am y system tiwtor personol, a sut bydd ein timau gweinyddu a TG yn eich cefnogi chi.
Ar ddechrau pob semester, byddwch yn cael gwybod pwy yw Arweinydd eich Modiwl. Ar ddechrau pob blwyddyn bydd Cadeirydd y Panel Myfyrwyr yn cael ei benodi a bydd yr holl fyfyrwyr yn cael gwybod am hynny.
Mae Staff Gweinyddu, Tiwtoriaid ac Arweinwyr Modiwlau, a Thiwtoriaid Personol ar gael drwy e-bost drwy gydol y cwrs. Mae'r Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn gallu helpu gyda llawer o faterion amrywiol os bydd y myfyriwr yn teimlo na all droi at staff yn yr adran Optometreg.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
O ganlyniad i ymgysylltu’n llawn yn y cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:
- Gwerthuso’n feirniadol wybodaeth sydd ar flaen y gad mewn ystod o ddisgyblaethau ym maes optometreg.
- Dangos gwybodaeth uwch yn eich maes arbenigol dewisol.
- Deall yr angen am ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn optometreg.
- Chwilio am dystiolaeth briodol yn y maes i gefnogi eich datblygiad proffesiynol.
- Gwerthfawrogi rôl optometryddion o ran darparu gwasanaethau gwell yn y gymuned.
Dylech hefyd allu ymarfer a datblygu'r sgiliau canlynol:
Academaidd
- Y gallu i chwilio am wybodaeth briodol i gefnogi dysgu.
- Y gallu i werthuso gwybodaeth o'r fath yn feirniadol.
- Dylunio arbrofion.
- Casglu a dadansoddi data.
Penodol i’r pwnc
- Gwneud penderfyniadau clinigol wrth reoli cleifion glawcoma.
- Lefelau uwch o sgiliau a gwybodaeth broffesiynol.
- Gweithio mewn grwpiau cyfoedion fel rhan o system fentora ar gyfer myfyrwyr mewn lleoliadau ysbyty.
Generig/cyflogadwyedd
- Sgiliau dysgu annibynnol
- Rheoli amser
- Rheoli prosiect
- Datrys problemau
- Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Caiff ffioedd eu hanfonebu fesul modiwl. Fel arfer, caiff anfonebau eu rhyddhau yn fuan ar ôl cofrestru ar gyfer yr holl fodiwlau y byddwch yn eu hastudio. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau ffioedd dysgu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Caiff ffioedd eu hanfonebu fesul modiwl. Fel arfer, caiff anfonebau eu rhyddhau yn fuan ar ôl cofrestru ar gyfer pob modiwl unigol. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalennau ffioedd dysgu.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Nid oes angen unrhyw offer penodol, fodd bynnag, gan mai ar-lein y bydd y rhan fwyaf o'ch astudiaethau, bydd angen cyfrifiadur dibynadwy arnoch sydd â chysylltiad cryf da â'r rhyngrwyd.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd graddedigion
Nod y cwrs yw rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar weithwyr gofal llygaid proffesiynol i oruchwylio gwasanaethau offthalmig yn llwyddiannus, gyda'r cyfle i ddod yn arweinwyr effeithiol yn y sector, a throsolwg cynhwysfawr o'u rhwymedigaethau cyfreithiol mewn ymarfer optometreg yn y DU.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Optometry, Healthcare
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.