Ewch i’r prif gynnwys

(MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Llywio'r ffordd gymhleth y mae natur a chymdeithas yn rhyngweithio i leddfu risgiau amgylcheddol a chreu dyfodol gwydn.

Mae'r rhaglen MSc hon wedi'i chynllunio i'ch grymuso i gyfrannu at yr ymdrech fyd-eang i gryfhau gallu cymdeithas i wrthsefyll trychinebau. Rydym yn wynebu nifer cynyddol o beryglon amgylcheddol oherwydd newid yn yr hinsawdd a thwf cyflym yn y boblogaeth, gan arwain at gynnydd mewn trychinebau sy’n costio biliwn o ddoleri. Er gwaethaf ymdrechion byd-eang fel Fframwaith Sendai a Rhwydwaith Dinasoedd Gwydn, mae cymhlethdod lleihau risg trychineb yn parhau i fod yn her sylweddol. Mae angen dealltwriaeth ddofn o beryglon naturiol a dynol, o lifogydd a daeargrynfeydd i benderfyniadau corfforaethol a llywodraeth sy'n arwain at wastraff gwenwynig a llygredd aer.

Gan integreiddio disgyblaethau amrywiol megis gwyddoniaeth amgylcheddol, ystadegau, synhwyro o bell, a dadansoddi data, bydd y rhaglen hon yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o leihau risg trychineb. Trwy hyfforddiant ymarferol mewn modelu rhifiadol ac ystadegol, technegau synhwyro o bell, gwaith maes, a dadansoddi data, byddwch yn ennill sgiliau ymarferol sy'n hanfodol ar gyfer cynnal asesiadau perygl a risg effeithiol. Mae'r pwyslais hwn ar gymhwyso ymarferol yn sicrhau eich bod wedi'ch paratoi'n dda i fynd i'r afael â senarios y byd go iawn o ran lliniaru ac ymateb i drychinebau.

Byddwch yn graddio gyda sgiliau ymarferol ac arbenigedd technegol y mae galw mawr amdanynt mewn rolau sy'n ymwneud ag asesu peryglon a risg, rheoli trychinebau, a chynllunio gwytnwch, mewn sefyllfa dda ar gyfer cyfleoedd gyrfa amrywiol mewn sefydliadau llywodraethol ac anllywodraethol, ymgyngoriaethau amgylcheddol, cwmnïau yswiriant, a diwydiannau cysylltiedig.

Nodweddion unigryw

Agwedd fyd-eang

Ymunwch â'r ymdrech fyd-eang i wella ein gallu i wrthsefyll trychinebau amgylcheddol, fel yr amlinellwyd yn fframwaith Sendai ac a gymeradwywyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.

Addysgu a arweinir gan ymchwil

Manteisio ar addysgu a arweinir gan ymchwil gan ymarferwyr blaenllaw fydd yn rhannu eu harbenigedd amrywiol ym maes gwyddoniaeth ryngddisgyblaethol i asesu peryglon a rheoli risg.

Rhagolygon i raddedigion

Ennill y sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr graddedig mewn rheoli peryglon, ymghyngoriaethau amgylcheddol, cynllunio cadernid trefol, polisi’r llywodraeth, a diwydiannau cyfathrebu mewn argyfwng

Teilwra i'ch diddordebau

Byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil sy'n cael ei yrru gan eich diddordebau eich hun mewn lleoliad o'ch dewis, gan gynnwys y tu allan i'r DU.

Dull rhyngddisgyblaethol

 Astudiwch amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan roi sgiliau amlbwrpas i chi i fynd i'r afael â heriau amlochrog ym maes rheoli trychinebau ac integreiddio safbwyntiau cymdeithasol a gwleidyddol wrth wneud penderfyniadau.

Achrediadau

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd

Rydym yn gwneud synnwyr o'n byd sy'n newid ac yn datrys rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein cymdeithas, economi ac amgylchedd.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4830
  • MarkerPlas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis daearyddiaeth, daeareg, neu gynllunio trefol, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudiwyd yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol neu os oes gennych radd anrhydedd 2:2, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais fel CV a chyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol:
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r gofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu neu ddarparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn).

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hwn yn gwrs llawn amser un flwyddyn academaidd. Byddwch yn astudio cyfanswm o 120 credyd ar ffurf modiwlau a addysgir  yn ystod cam Diploma eich gradd. Nid yw rhai cyfuniadau o fodiwlau ar gael oherwydd bod y rhaglen wedi'i dylunio'n ofalus.  Bydd pob opsiwn yn cael ei reoli trwy ddewis dan arweiniad.

Prosiect unigol (gwerth 60 credyd) fydd cam Meistr eich gradd, a byddwch yn ei ysgrifennu ar ffurf traethawd hir, wedi’r cam Diploma.  Cyflawnir y prosiect hwn yn ystod yr haf dan oruchwyliaeth aelod o staff academaidd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.

Mae'r rhaglen yn pwysleisio natur fyd-eang lleihau risg trychineb, gan eich gwneud yn agored i wahanol beryglon a gwendidau ar raddfa leol a byd-eang. Trwy archwilio astudiaethau achos o wahanol ranbarthau a chyd-destunau, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynnil o ryng-gysylltedd peryglon amgylcheddol a phwysigrwydd cydweithio rhyngwladol mewn ymdrechion i wrthsefyll trychineb.

Mae'r flwyddyn yn cynnwys modiwlau gorfodol a dewisol, gan gydbwyso cefndir damcaniaethol rhagarweiniol mewn cynaliadwyedd, peryglon, a lleihau risg trychineb gyda hyfforddiant methodolegol uwch. Mae tymor y gwanwyn yn cynnwys modiwlau dewisol sy'n archwilio asesu risg, bregusrwydd, a gwytnwch. Yn olaf, mae'r traethawd hir 60-credyd yn rhoi cyfle i chi wneud ymchwil i beryglon yn eich maes diddordeb arbenigol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Building destroyed by landslide

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Wedi'i lywio gan ymchwil flaengar, mae'r MSc yn cael ei hwyluso gan academyddion a gydnabyddir yn rhyngwladol, sy'n arbenigwyr blaenllaw yn eu priod feysydd. Mae'r academyddion hyn yn dod â'u cyfoeth o wybodaeth a'u harbenigedd i'r ystafell ddosbarth, gan sicrhau y byddwch yn dod i gysylltiad â'r datblygiadau a'r mewnwelediadau diweddaraf i leihau risg trychineb.

Mae’r cwricwlwm yn integreiddio cysyniadau damcaniaethol â phrofiadau dysgu ymarferol. Mae darlithoedd yn darparu sylfaen gadarn o wybodaeth ddamcaniaethol, tra bod sesiynau addysgu mewn grwpiau bach, seminarau, gweithdai, a thiwtorialau yn cynnig cyfleoedd ar gyfer trafodaethau rhyngweithiol, astudiaethau achos, ac ymarferion ymarferol. Bydd y cyfuniad hwn yn eich galluogi i ddyfnhau eich dealltwriaeth o gysyniadau damcaniaethol, tra hefyd yn eu cymhwyso i senarios byd go iawn.

Integreiddir ymchwil i'r ystafell ddosbarth trwy gynnwys enghreifftiau cyfoes o fywyd go iawn ac astudiaethau achos. Byddwch yn cael mynediad at y canfyddiadau ymchwil diweddaraf, ac yn cael eich annog i ymgysylltu'n feirniadol â llenyddiaeth academaidd a phapurau ymchwil. Mae darlithoedd gwadd gan ymarferwyr ac arbenigwyr yn y maes yn gwella perthnasedd y cwricwlwm ymhellach, trwy ddarparu mewnwelediad uniongyrchol i heriau cyfredol ac arferion gorau wrth leihau risg trychineb.

Mae'r rhaglen yn pwysleisio dysgu trwy brofiad a datblygu sgiliau mewn cyd-destunau dilys. Byddwch yn cymryd rhan mewn gwaith maes, interniaethau, a phrosiectau ymchwil i gymhwyso'ch gwybodaeth a'ch sgiliau mewn lleoliadau byd go iawn. Mae'r profiadau dysgu dilys hyn nid yn unig yn gwella eich sgiliau ymarferol, ond hefyd yn eich paratoi ar gyfer cymhlethdodau ac ansicrwydd gweithio ym maes lleihau risg trychineb.

Ar y cyfan, mae'r rhaglen yn mabwysiadu ymagwedd gytbwys sy'n cyfuno trylwyredd academaidd â pherthnasedd ymarferol, gan sicrhau eich bod yn datblygu'r wybodaeth, y profiad, a'r sgiliau sydd eu hangen i wneud cyfraniadau ystyrlon i ymdrechion gwytnwch trychineb yn fyd-eang.

Sut y caf fy asesu?

Mae asesiad y rhaglen wedi'i gynllunio'n ofalus i gyd-fynd â'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau y disgwylir i chi eu hennill. Dewisir dulliau asesu amrywiol i werthuso'ch cynnydd a'ch cyrhaeddiad o ran canlyniadau dysgu'r rhaglen yn gywir.

Defnyddir asesiadau traddodiadol fel traethodau ac adroddiadau i asesu dyfnder eich gwybodaeth, eich sgiliau meddwl yn feirniadol, a'ch gallu i ddadansoddi a chyfosod gwybodaeth. Mae'r asesiadau hyn yn cyd-fynd â phwyslais y rhaglen ar ddealltwriaeth ddamcaniaethol a thrylwyredd academaidd.

Ymgorfforir asesiadau ymarferol i adlewyrchu perthnasedd ymarferol y rhaglen. Er enghraifft, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau aseiniadau gwaith maes, cynnal asesiadau perygl a risg, neu ddatblygu cynlluniau rheoli trychineb. Mae'r asesiadau hyn nid yn unig yn asesu eich gallu i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol i senarios byd go iawn, ond hefyd yn dangos eich sgiliau ymarferol a'ch galluoedd datrys problemau.

Mae pob tasg asesu wedi'i mapio'n ofalus i ddeilliannau dysgu penodol, gan sicrhau ymdriniaeth gynhwysfawr o'r cwricwlwm. Trwy ddarparu ystod amrywiol o dasgau asesu, cewch gyfleoedd i arddangos eich hyfedredd mewn gwahanol feysydd, gan gynnwys caffael gwybodaeth, dadansoddi beirniadol, cymhwyso ymarferol, a sgiliau cyfathrebu.

At hynny, mae'r rhaglen yn integreiddio asesu ffurfiannol ag asesiad crynodol i gefnogi'ch dysgu a'ch datblygiad trwy gydol eich astudiaethau. Defnyddir asesiadau ffurfiannol, megis cwisiau, adolygiadau cymheiriaid, ac adborth ar aseiniadau drafft, i ddarparu adborth parhaus a nodi meysydd i'w gwella. Mae’r broses ailadroddus hon yn eich galluogi i fireinio eich dealltwriaeth a’ch sgiliau dros amser, sy’n arwain at wella yn y pen draw eich perfformiad mewn asesiadau crynodol.

Yn gyffredinol, mae strategaeth asesu'r rhaglen wedi'u cynllunio i fod yn amrywiol, yn gynhwysfawr, ac wedi'i halinio â chanlyniadau dysgu'r rhaglen, gan sicrhau y gallwch ddangos eich cymhwysedd a'ch parodrwydd i gyfrannu'n effeithiol at faes lleihau risg trychineb.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn derbyn cefnogaeth gynhwysfawr i sicrhau eich llwyddiant a'ch lles trwy gydol eich astudiaethau. Mae'r cymorth hwn yn cwmpasu amrywiol agweddau, gan gynnwys arweiniad academaidd, adborth ar asesiadau, a gwasanaethau cymorth personol.

Un agwedd allweddol ar gynhaliaeth yw'r ddarpariaeth o diwtoriaid personol. Neilltuir tiwtor personol i chi sy'n gwasanaethu fel mentor a chynghorydd academaidd. Mae tiwtoriaid personol yn cynnig arweiniad ar faterion academaidd, yn rhoi adborth ar waith cwrs, ac yn eich cynorthwyo i osod a chyflawni eich nodau academaidd a phroffesiynol. Maent hefyd yn bwynt cyswllt ar gyfer unrhyw faterion personol neu les y gallech ddod ar eu traws, gan gynnig clust gefnogol a'ch cysylltu â gwasanaethau cymorth priodol os oes angen.

Darperir adborth ar asesiadau, yn ffurfiannol ac yn grynodol, mewn modd amserol ac adeiladol. Ar gyfer asesiadau ffurfiannol, megis cwisiau, aseiniadau drafft, a chyflwyniadau, byddwch yn derbyn adborth gyda'r nod o'ch helpu i wella'ch gwaith a datblygu eich sgiliau. Gellir darparu'r adborth hwn ar lafar yn ystod sesiynau dosbarth neu ei ysgrifennu fel sylwadau ar waith a gyflwynwyd.

Ar gyfer asesiadau crynodol, megis arholiadau, traethodau, ac adroddiadau, rhoddir adborth manwl i chi yn dilyn yr asesiad. Mae'r adborth hwn yn amlygu eich cryfderau a meysydd i'w gwella, gan ganiatáu i chi fyfyrio ar eich perfformiad a nodi meysydd i'w datblygu ymhellach. Yn ogystal ag adborth ysgrifenedig, efallai y cewch gyfle i drafod eich asesiadau gyda thiwtoriaid yn ystod oriau swyddfa neu sesiynau adborth.

Y tu hwnt i gymorth academaidd, mae gennych fynediad at ystod o wasanaethau cymorth ysgol-benodol, i fynd i'r afael ag unrhyw anghenion ychwanegol a allai fod gennych. Gall hyn gynnwys gweithdai sgiliau astudio, sesiynau cyfarwyddyd gyrfa, cymorth iechyd meddwl a lles, a gwasanaethau anabledd. Mae'r gwasanaethau hyn wedi'u cynllunio i sicrhau eich bod yn teimlo bod gennych gefnogaeth a'ch grym i lwyddo yn eich ymdrechion academaidd.

Yn gyffredinol, mae'r rhaglen yn blaenoriaethu cymorth i fyfyrwyr, gan ddarparu ystod o wasanaethau ac adnoddau i'ch helpu i ffynnu yn academaidd, yn broffesiynol ac yn bersonol. O diwtoriaid personol i adborth ar asesiadau a mynediad at wasanaethau cymorth, rydych yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch i ragori yn eich astudiaethau a thu hwnt.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

O gwblhau’r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth(GD):

  • Dangos gwybodaeth gynhwysfawr am ystod o beryglon amgylcheddol
  • Asesu fframweithiau a modelau damcaniaethol yn feirniadol i ddadansoddi risg trychineb
  • Dangos dealltwriaeth o ryng-gysylltedd peryglon a'u heffeithiau economaidd-gymdeithasol
  • Gwerthuso'n feirniadol strategaethau ar gyfer lleihau'r risg o drychinebau ac adeiladu gwytnwch

Sgiliau Deallusol:

  • Gwerthuso ffeithiau a syniadau yn feirniadol , gan wahaniaethu rhwng barn a dadl
  • Nodi a diffinio problemau a chynhyrchu atebion creadigol i gefnogi lleihau risg trychineb
  • Cymhwyso sgiliau dadansoddol uwch i asesu a dehongli data a gwybodaeth gymhleth yn ymwneud â risg trychineb
  • Cynnal ymholiadau ac ymchwiliadau annibynnol ym maes lleihau risg trychineb

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Gweithredu sgiliau meintiol ac ansoddol wrth ddadansoddi mentrau lleihau risg trychineb
  • Arddangos sgiliau meintiol ar gyfer amcangyfrif amlder a maint peryglon posibl
  • Cymhwyso synhwyro o bell o'r radd flaenaf, defnyddio codio a dulliau cyfrifiannu eraill ar gyfer dadansoddi peryglon a risg
  • Cyfleu dealltwriaeth o gymhlethdodau trychinebau mewn ffordd sy'n ddealladwy i'r gymuned bolisi a defnyddwyr eraill asesiadau risg trychineb
  • Cyfathrebu syniadau a gwybodaeth gymhleth yn ymwneud â lleihau risg trychineb yn effeithiol i gynulleidfaoedd amrywiol
  • Meithrin ymwybyddiaeth foesegol ac uniondeb proffesiynol yn yr arfer o leihau risg trychineb

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Cymhwyso sgiliau ymarferol mewn rheoli a gweithredu prosiect a dangos y gallu i gwblhau prosiect ymchwil hirdymor, (naill ai ar gyfer problem gymhwysol neu academaidd)
  • Cymhwyso sgiliau llythrennedd gwybodaeth i leoli, gwerthuso a chyfosod gwybodaeth berthnasol o ffynonellau amrywiol
  • Datblygu’r gallu i gydweithio a gweithio’n effeithiol mewn timau rhyngddisgyblaethol, gan feithrin deialog gynhwysol a chyd-ddealltwriaeth
  • Arddangos sgiliau cyfathrebu gwell i gyfleu syniadau, gwybodaeth ac argymhellion yn effeithiol i randdeilliaid amrywiol.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Costau ychwanegol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Nac ydy

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i'ch paratoi ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus mewn lleihau risg trychineb a meysydd cysylltiedig, trwy ddarparu set gynhwysfawr o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau ymarferol y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Trwy gyfuniad o waith cwrs academaidd trwyadl, hyfforddiant ymarferol, ac ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol y diwydiant, byddwch yn datblygu'r arbenigedd a'r cymwyseddau proffesiynol sydd eu hangen i ragori mewn amrywiaeth o rolau o fewn sefydliadau llywodraethol ac anllywodraethol, ymgyngoriaethau amgylcheddol, cwmnïau yswiriant, a diwydiannau cysylltiedig.

Mae'r rhaglen yn cyd-fynd yn agos â phriodoleddau graddedigion y Brifysgol, gan sicrhau eich bod nid yn unig yn caffael gwybodaeth ddisgyblaethol ond hefyd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy a rhinweddau y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt. Mae nodweddion graddedigion allweddol sydd wedi'u hymgorffori yn y rhaglen yn cynnwys meddwl beirniadol, datrys problemau, cyfathrebu, gwaith tîm, y gallu i addasu, a chyfrifoldeb moesegol. Mae'r priodoleddau hyn yn cael eu meithrin trwy ystod o weithgareddau dysgu, gan gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, gwaith maes, a phrosiectau grŵp, sy'n eich galluogi i ddatblygu ac arddangos eich galluoedd mewn cyd-destunau amrywiol.

Un nodwedd arbennig o'r rhaglen yw cyfranogiad darlithwyr gwadd o ddiwydiannau neu broffesiynau perthnasol. Mae'r arbenigwyr hyn yn y diwydiant yn dod â safbwyntiau byd go iawn a mewnwelediadau ymarferol i'r ystafell ddosbarth, gan gyfoethogi eich profiadau dysgu a darparu cyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr. Yn ogystal, cewch gyfle i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol neu gyflogwyr perthnasol mewn gweithgareddau dysgu eraill, megis darlithoedd gwadd, trafodaethau panel, ymweliadau safle, ac interniaethau. Mae'r rhyngweithiadau hyn yn eich galluogi i gael gwybodaeth uniongyrchol am dueddiadau, arferion a disgwyliadau'r diwydiant, yn ogystal ag adeiladu perthnasoedd proffesiynol a all wella eich rhagolygon cyflogaeth.

Ar ôl cwblhau'r rhaglen, byddwch mewn sefyllfa dda i ddilyn ystod eang o lwybrau gyrfa ym maes lleihau'r risg o drychinebau, ac ymdrechion i feithrin gwydnwch. Mae rolau swyddi posibl yn cynnwys:

  • Dadansoddwr Risg Trychineb
  • Arbenigwr Rheoli Argyfwng
  • Cynlluniwr Gwydnwch
  • Ymgynghorydd Amgylcheddol
  • Asesydd/Rheolwr Risg
  • Cynghorydd/Dadansoddwr Polisi
  • Cydlynydd Ymgysylltu Cymunedol
  • Arbenigwr Addasu Hinsawdd
  • Gweithiwr Cymorth Dyngarol
  • Rheolwr Prosiect mewn Ymateb i Drychineb ac Adfer

Ar y cyfan, mae'r rhaglen yn rhoi sylfaen gadarn i chi o wybodaeth academaidd, sgiliau ymarferol, a chysylltiadau â diwydiant a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus ac effeithiol wrth fynd i'r afael â heriau cymhleth lleihau risg trychineb, ac adeiladu gwydnwch yn ein byd cynyddol agored i niwed.

Lleoliadau

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid diwydiannol ac academaidd i gefnogi datblygiad a goruchwyliaeth traethodau hir. Byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu'r cysylltiadau hyn yn ystod datblygiad traethawd hir yn Nhymor y Gwanwyn.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Earth sciences, Hazard management, Environment, Environmental science


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.