Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol (MSc)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn

Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Nod ein cwrs yw datblygu gwybodaeth ac arbenigedd ynghylch dylunio amgylcheddau iach a chyfforddus mewn adeiladau ac o'u cwmpas, beth bynnag fo'r hinsawdd, gan roi sylw priodol i faterion cynaliadwyedd.
Ysgol bensaernïaeth flaenllaw
Astudio yn un o ysgolion pensaernïaeth gorau'r deyrnas.
Wedi'i achredu gan CIBSE
Wedi ei hachredu gan Sefydliad Siartredig Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu (CIBSE) ac mae’n bodloni’r gofynion academaidd ar gyfer y cofrestriad proffesiynol CEng.
Amrywiaeth o opsiynau astudio
Ar gael fel cwrs amser llawn, rhan-amser a dysgu o bell.
Cwrs wedi'i sefydlu
Cwrs sefydledig, sy’n rhoi sylfaen ymarferol i weithwyr proffesiynol yr amgylchedd adeiledig ym mhwnc dylunio amgylcheddol ers 1993.
Arbenigedd ymchwil o fri rhyngwladol
Yn seiliedig ar yr arbenigedd ymchwil o fri rhyngwladol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, mae gennym brofiad ers tro mewn dylunio, monitro ar ymgynghori ar adeiladau cynaliadwy megis Tŷ carbon bositif SOLCER.
Mae gwaith adeiladu, gweithredu a thriniaeth diwedd oes adeiladau yn aml yn defnyddio llawer o adnoddau. Maent yn mynnu ynni, trydan a dŵr, wrth gynhyrchu gwastraff tirlenwi, allyriadau CO2 a llygredd arall. Gydag ymwybyddiaeth gynyddol o adnoddau byd-eang sy'n prinhau a phwysigrwydd materion cynaliadwyedd, mae galw cynyddol am weithwyr proffesiynol sy'n gallu mynd i'r afael â phroblemau amgylcheddol yn yr amgylchedd adeiledig a'u datrys.
Nod ein cwrs MSc Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol yw meithrin gwybodaeth ac arbenigedd sy’n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch dylunio amgylcheddau iach a chyfforddus mewn adeiladau ac o'u cwmpas, gan ymateb i’r hinsawdd a rhoi sylw priodol i faterion cynaliadwyedd.
Mae dewisiadau dysgu amser llawn, rhan-amser a dysgu o bell (sy'n arbennig o addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y maes) yn cael eu cynnig ar gyfer y cwrs hwn.
Achrediadau
Ble byddwch yn astudio
Ysgol Pensaernïaeth Cymru
Ein nod yw gwneud y byd yn lle gwell gyda phensaernïaeth sy'n sensitif i'w gyd-destun, yn gynaliadwy a phrydferth.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis pensaernïaeth, peirianneg gwasanaethau adeiladu, technoleg adeiladu, neu astudiaethau amgylcheddol, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
- Datganiad personol sy'n cynnwys eich rhesymau dros astudio'r rhaglen hon ac unrhyw brofiad gyda materion sy'n ymwneud â dylunio amgylcheddau cynaliadwy, cyfforddus ac iach yn eich astudiaethau blaenorol neu yrfa broffesiynol.
Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrion
- Rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau ychwanegol
Mae’r ffioedd yn cwmpasu'r holl ffioedd dysgu, costau hanfodol y cwrs, cofrestru ac arholiadau. Mae'r Ysgol yn talu cost popeth sy'n rhan hanfodol o'r rhaglen. Bydd hyn yn cael ei nodi'n glir yng ngwybodaeth y rhaglen. Bydd unrhyw ymweliadau dewisol / teithiau maes yn golygu costau ychwanegol – caiff hyn ei gyfleu’n glir i fyfyrwyr ymlaen llaw.
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Byddwn yn darparu unrhyw offer sy'n hanfodol i'r cwrs. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn dod â gliniadur sy'n gallu rhedeg meddalwedd Design Builder. Gallai USB neu yriant caled, deunydd ysgrifennu cyffredinol a rhywfaint o offer llunio sylfaenol fod o ddefnydd hefyd.
Lle bo hynny'n briodol, rydym yn darparu trwyddedau myfyrwyr neu fynediad i'r feddalwedd efelychu arbenigol a ddefnyddiwn ar gyfer y cwrs, ond ar hyn o bryd gallwn ond warantu bod y rhain yn gweithio ar gyfrifiaduron gyda system weithredu Windows.
Yn ystod y cwrs, bydd gennych fynediad i'r Llyfrgell Bensaernïaeth arbenigol, a llyfrgelloedd eraill y Brifysgol, a mannau astudio ar draws y campws. Yn yr Ysgol, gallwch ddefnyddio ein hystafelloedd cyfrifiadura a chyfleusterau eraill sy'n cynnwys plotwyr fformat mawr, torrwr laser digidol, a gweithdy sydd yn helaeth ei offer.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd graddedigion
Mae myfyrwyr ar y cwrs hwn yn aml yn mynd yn ôl i'w proffesiwn gwreiddiol gyda'r fantais o ennill arbenigedd newydd mewn dylunio amgylcheddol a chynaliadwy. Ar ôl cwblhau'r cwrs, mae rhai o'n myfyrwyr sydd â digon o brofiad blaenorol yn eu gyrfa wedi mynd yn eu blaenau i gael eu penodi ar gyfer rolau blaenllaw yn eu proffesiynau perthnasol.
Mae'r rhaglen wedi helpu nifer fawr o weithwyr proffesiynol i ddilyn gyrfa mewn ystod eang o sectorau megis (ymhlith rhai eraill):
- Gwaith pensaernïol neu beirianneg, gydag arbenigedd mewn dylunio amgylcheddol
- Ymgynghori (dadansoddiad amgylcheddol o adeiladau a gwerthuso perfformiad adeiladau)
- Academia (addysgu a/neu ymchwil)
- Polisi (yn y DU a thramor)
Nodwch nad yw’r cwrs hwn yn addas i’r rhai sydd am astudio Pensaernïaeth Tirwedd.
I won a Chevening scholarship award to study at Cardiff University. The academic and non-academic education, and the research experience I gained at Cardiff University have made a significant contribution to my dream of contributing to my country’s development. I am now a practising Architect leading a Myanmar design firm working on various projects with emphasis on environmental performance. I am currently a vice chair of the Green building committee of Myanmar Building Engineering Institute which is a leading non-Government organisation pushing things forward to advocate green buildings in Myanmar. I am now actively working on setting up a green building policy in Myanmar in collaboration with international experts.
Gwaith maes
Yn ystod y cwrs, rydym yn mynd ar ystod o deithiau astudio. Trefnir ymweliadau tywys o gwmpas adeiladau sy'n dangos sut mae’r syniadau a addysgir ar y cwrs yn cael eu cymhwyso. Yn y gorffennol, mae'r rhain wedi cynnwys ymweld â Thŷ SOLCER (Cymru), sy’n adeilad carbon bositif, ac adeiladau sy’n defnyddio dulliau arloesol o gyflawni effeithlonrwydd ynni yn Sbaen ac yn Zurich.

Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Pensaernïaeth, Peirianneg bensaernïol , Peirianneg sifil , Gwyddor amgylcheddol
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.