Llenyddiaeth Saesneg (MA)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Ewch ar drywydd eich diddordeb mewn Llenyddiaeth Saesneg, ar raglen wedi’i hysbrydoli gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad o ran ymchwil o safon fyd-eang.
Dilyn eich llwybr eich hun
Rhyddid i roi rhaglen astudio at ei gilydd sydd wedi’i theilwra at eich diddordebau personol a phroffesiynol.
Canolbwyntio ar ymchwil
Hyfforddiant lefel uchel yn y dulliau ymchwil diweddaraf, damcaniaeth feirniadol, ysgrifennu ysgolheigaidd, a sgiliau cyflwyno.
Mireinio eich crefft
Cyfle i gyflwyno papur byr mewn awyrgylch cefnogol a bywiog mewn cynhadledd boblogaidd sy’n cael ei harwain gan y myfyrwyr.
Eich gyrfa mewn golwg
Ymrwymiad i'ch gyrfa yn y dyfodol, gan gynnwys symposiwm sy'n ymroddedig i gynyddu eich sgiliau cyflogadwyedd.
Mae ein cwrs MA mewn Llenyddiaeth Saesneg yn rhaglen radd ysgogol, heriol a hyblyg, sy’n cael ei haddysgu gan staff ag enw da yn rhyngwladol am ymchwil arloesol a dylanwadol.
Rydyn ni’n gymuned amrywiol a chefnogol, yn angerddol am y pwnc, ac mae gennyn ni sail ymchwil eang ac amrywiol. Mae hyn yn sail i’n haddysgu ac yn siapio rhaglen sy’n gyffrous ac yn amrywiol.
Trwy ymagwedd gynhwysol, rydyn ni’n addysgu ar draws rhychwant cronolegol cyfan Llenyddiaeth Saesneg – o Saesneg Canol i destunau'r unfed ganrif ar hugain. Rydyn ni hefyd yn cynnig modiwlau ag amrywiaeth o ddulliau beirniadol, o astudiaethau golygyddol a thestunol i'r datblygiadau diweddaraf mewn damcaniaeth feirniadol. Mae ein hamrywiaeth destunol yn cynnwys drama, astudiaethau ffilm, ysgrifennu cyfoes merched, testunoldebau cwiar, diwylliant materol, ac archifau. Fe welwch ein bod ni’n ymddiddori yn y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a diwylliant poblogaidd, a llenyddiaeth a theori, ac mae ein haddysgu’n adlewyrchu hynny.
Caiff ein modiwlau eu harwain a’u dylunio gan staff sy’n cael eu parchu’n rhyngwladol yn eu meysydd ymchwil. Maen nhw’n dod â’u gwybodaeth a’u profiad i’r ystafell seminar, gan eich galluogi i ymgysylltu â syniadau a dadleuon cyfredol sy’n helpu i siapio ac ailddiffinio llenyddiaeth Saesneg ar gyfer y dyfodol.
Bydd y modiwlau craidd mewn dulliau ymchwil a chyfathrebu yn caniatáu i chi ymarfer a meistroli amrywiaeth o sgiliau cyfathrebu ac ymchwil proffesiynol hanfodol a fydd o gymorth i chi ar y cwrs a thu hwnt. Mae’r ystod o fodiwlau dewisol yn rhoi rhyddid i chi ddatblygu arbenigeddau beirniadol a thestunol sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau a’ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Byddwch yn graddio ag ystod o sgiliau beirniadol, creadigol a dadansoddol, a’r hyder i’w cymhwyso, a fydd o fudd i chi mewn nifer o wahanol yrfaoedd a sectorau.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
Wedi ein pweru gan ymchwil arloesol, rydym yn dathlu chwilfrydedd, yn ymgysylltu mewn trafodaethau gwybodus a dadansoddi beirniadol ac yn eich annog i feddwl yn greadigol - ar draws a thu hwnt i'n disgyblaethau.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn unrhyw bwnc, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro. Mae ceisiadau gan y rhai sydd â 2:2 yn cael eu hystyried fesul achos.
- Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 7.0 gyda 6.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol neu os oes gennych radd anrhydedd 2:2 gallwch wneud cais o hyd ond dylech ddarparu tystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais fel CV a geirdaon. Dylech hefyd ddarparu traethawd enghreifftiol ar bwnc llenyddol o'ch dewis. Bydd rhywbeth rydych wedi'i gyflwyno'n flaenorol ar gyfer rhan o'ch asesiad ar gyfer gradd flaenorol yn dderbyniol.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrion
- Rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Rhaglen amser llawn a blwyddyn o hyd yw hon. Byddwch yn cwblhau cyfanswm o 180 credyd sy'n cynnwys dau fodiwl craidd 20 credyd a phedwar modiwl dewisol 20 credyd, yn ogystal ag un traethawd hir 60 credyd.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.
Mae cam a addysgir eich gradd yn cynnwys modiwlau craidd a dewisol. Byddwch yn gwneud dau fodiwl craidd gwerth 20 credyd yr un yn semester yr hydref a'r gwanwyn. Yna byddwch yn dewis 4 modiwl dewisol (2 y semester) o blith amrywiaeth o opsiynau arbenigol.
Ar ôl cwblhau'r cam a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i gam traethawd hir y rhaglen, ac yn ystod y cyfnod hwn byddwch yn ysgrifennu traethawd hir 15,000 i 16,000 o eiriau gyda chefnogaeth eich goruchwyliwr. Caiff y cam traethawd hir ei bwysoli i gyfrif fel un rhan o dair o ganlyniad terfynol y radd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Llenyddiaeth Saesneg MA Traethawd Hir | SET230 | 60 credydau |
Dulliau Ymchwil a Chyfathrebu I | SET296 | 20 credydau |
Dulliau Ymchwil a Chyfathrebu II | SET297 | 20 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Ffyrdd o gyfieithu | SET292 | 20 credydau |
Myth y Brenin Arthur yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif | SET298 | 20 credydau |
Arwyr a dihirod o Chaucer i Shakespeare | SET299 | 20 credydau |
Ffeministion Spectral | SET300 | 20 credydau |
Brontë ôl-drefedigaethol | SET302 | 20 credydau |
Dysgu sut i arwain yn Shakespeare | SET303 | 20 credydau |
Diwylliant materol a beirdd menywod Americanaidd modern | SET309 | 20 credydau |
Ecotheories | SET310 | 20 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae'r holl addysgu'n digwydd drwy seminarau a gweithdai, sydd wedi'u strwythuro ar sail cyfranogiad myfyrwyr, ac maen nhw'n cynnwys cyfleoedd i gyflwyno eich gwaith. Mae pob modiwl yn cynnwys seminar dwy awr o hyd bob wythnos.
Mae'r addysgu yn y modiwlau dewisol yn seiliedig ar destunau ac ar archwilio cysyniadau o amrywiaeth o safbwyntiau llenyddol, hanesyddol a damcaniaethol ym maes eang Llenyddiaeth Saesneg.
Mae'r gweithgareddau dysgu'n amrywio o fodiwl i fodiwl fel y bo'n briodol ond byddant yn cynnwys gweithgareddau fel trafodaethau rhyngweithiol o destunau/pynciau wedi'u paratoi ac, mewn rhai achosion, cyflwyniadau wedi'u harwain gan fyfyrwyr.
Fe’ch anogir yn gryf i wneud yn fawr o’n hadnoddau llyfrgell rhagorol, a disgwylir i chi wneud gwaith paratoi, er enghraifft drwy ddarllen yn eang er mwyn gallu cymryd rhan lawn.
Sut y caf fy asesu?
Caiff y cam a addysgir ei asesu drwy ystod o ddulliau sydd wedi’u dylunio i ddatblygu eich gallu i gyflwyno eich syniadau eich hun wrth siarad ac ysgrifennu’n ffurfiol. Mae hyn yn cynnwys traethodau, cyflwyniadau ar lafar (sy'n ffurfiannol yn bennaf ac yn anelu at egluro eich syniadau traethawd cyn yr asesiad crynodol), a mathau eraill o asesu sydd wedi'u dylunio i wella eich sgiliau ymchwil a chyfathrebu; er enghraifft prosiect sy'n caniatáu chi i archwilio mathau o gyfathrebu fel cyflwyniadau wedi'u recordio (traethawd fideo); blog, wici, ffrwd cyfryngau cymdeithasol, cyflwyniad ar wefan, neu bodlediad. Caiff rhai modiwlau a addysgir eu hasesu ar sail un darn hir (4,000 o eiriau) o waith er mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer cam traethawd hir y rhaglen.
Mae’r cam traethawd hir yn cael ei arholi drwy draethawd hir rhwng 15,000 a 16,000 o eiriau. Datblygir y traethawd hir trwy gyfarfodydd ffurfiol gyda’ch goruchwyliwr, sy’n darparu adborth ar adrannau drafft ac yn trafod syniadau rydych chi’n eu cyflwyno yn y cyfarfodydd.
Mae cyfleoedd asesu ffurfiannol ym mhob modiwl; fe’ch anogir hefyd i drafod syniadau ar gyfer eich gwaith a asesir gydag arweinydd y modiwl neu’r goruchwyliwr.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi. Byddwch yn cwrdd â'r tiwtor unwaith y semester o leiaf, a bydd yn eich helpu i fyfyrio ar eich gwaith ac yn rhoi cyngor i chi, gan gynnwys eich cyfeirio at y cymorth sydd ar gael mewn cysylltiad â thechnegau astudio neu wasanaethau cymorth i fyfyrwyr yn y Brifysgol. Mae'r cyfarfodydd ffurfiol â'ch tiwtor personol wedi'u dylunio i lunio strategaethau cadarn i'ch helpu i wireddu eich potensial academaidd a phroffesiynol. Eich tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt cyntaf os byddwch yn cael unrhyw anawsterau yn ystod eich astudiaethau. Gall myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ofyn am diwtor personol sy'n siarad Cymraeg.
Mae arweinwyr modiwlau ar gael yn ystod eu horiau swyddfa neu drwy apwyntiad er mwyn trafod unrhyw faterion sy'n ymwneud yn benodol â'u modiwlau. Fe'ch anogir i drafod pynciau a deunydd darllen ar gyfer eich asesiadau gyda'ch arweinwyr modiwl yn y lle cyntaf.
Gallwch gwrdd â Chyfarwyddwr y Rhaglen Llenyddiaeth Saesneg MA i drafod eich cynnydd ac unrhyw anawsterau rydych yn eu cael.
Gellir trafod cynlluniau traethawd a chynigion ar gyfer y traethawd hir drwy gydol y rhaglen, a darperir adborth ysgrifenedig ar asesiadau ffurfiannol a chrynodol er mwyn i chi ddatblygu asesiadau dilynol yng ngoleuni eich adborth. Mae modd cael adborth pellach ar eich cynnydd yn ystod trafodaethau seminar ac yn y gynhadledd i fyfyrwyr.
Byddwch hefyd yn cael goruchwyliaeth un-i-un tra byddwch chi’n gweithio ar eich traethawd hir ar ôl i chi gwblhau cam a addysgir yr MA. Cefnogir y traethawd hir hefyd gan y modiwlau ymchwil a chyfathrebu craidd sy’n rhedeg drwy gydol y cam a addysgir.
Mae cymorth sgiliau ysgrifennu ar gael i bob myfyriwr gan y staff academaidd a thrwy Ganolfan Datblygu Ysgrifennu yr Ysgol.
Mae'r cymorth gyrfaoedd yn cynnwys cyfarfodydd un-i-un i gael cyngor ar gynllunio gyrfa, a gwybodaeth am gyfleoedd lleoliad.
Tu hwnt i’r Ysgol, mae’r Brifysgol yn cynnig ystod o ddigwyddiadau a gwasanaethau cymorth sy’n eich helpu i gynllunio’ch gyrfa, rheoli eich iechyd meddwl, emosiynol, a chorfforol, yn rhoi cyngor i chi ar faterion ariannol, ac yn rhoi mynediad at gymorth yn ymwneud ag anableddau a dyslecsia. Lleolir y gwasanaethau hyn yng Nghanolfan Bywyd Myfyrwyr y brifysgol.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen yn disgrifio'r hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.
Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn gallu:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth(GD):
- Deall yn systematig y perthnasoedd rhwng testunau llenyddol a'u cyd-destunau diwylliannol, hanesyddol ac esthetig.
- Gwybodaeth feirniadol o ymchwil gyfoes ac ymchwil berthnasol arall yn y ddisgyblaeth.
- Deall yn systematig y perthnasoedd rhwng llenyddiaeth a ffurfiau diwylliannol eraill, fel ffilm, celf, a diwylliannau materol/digidol.
Sgiliau Deallusol:
- Archwilio a dehongli testunau o amrywiaeth o ffynonellau yn gynhwysfawr, gan ddangos ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfoes a/neu wybodaeth newydd yn y ddisgyblaeth.
- Datblygu ymchwil wreiddiol sy'n soffistigedig feirniadol ac yn hunanymwybodol.
- Cyfleu dehongliadau yn gywir ar gyfer cynulleidfa arbenigol.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
- Rheoli gwybodaeth o amrywiol ffynonellau wrth ddelio â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol.
- Cyfathrebu syniadau cymhleth wedi'u hymchwilio'n annibynnol yn glir i gynulleidfaoedd arbenigol neu anarbenigol.
- Asesu a datrys problemau'n annibynnol, gan ystyried barn pobl eraill mewn ffordd systematig a gwerthusol.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
- Datblygu menter drwy gymryd cyfrifoldeb a rheoli amser ar dasg ymchwil fawr.
- Cyfathrebu'n berswadiol, gan gyfleu syniadau academaidd uwch a dadleuon technegol i gynulleidfaoedd arbenigol neu anarbenigol a hynny drwy ddefnyddio technegau ysgrifenedig neu lafar.
- Asesu’n feirniadol y wybodaeth a geir er mwyn datblygu a chyfleu dealltwriaeth newydd gymhleth.
- Meithrin mentergarwch a chyfrifoldeb personol wrth ddysgu’n annibynnol ac olrhain datblygiad proffesiynol parhaus.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau ychwanegol
Cyflwynir pob asesiad ar ffurf electronig felly nid oes unrhyw gostau argraffu ychwanegol.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd graddedigion
Mae graddedigion ein rhaglen Llenyddiaeth Saesneg (MA) yn gyfathrebwyr cydweithredol ac effeithiol sy’n gallu dangos uniondeb personol a phroffesiynol, dibynadwyedd a chymhwysedd.
Byddwch yn datblygu arbenigedd mewn ymagweddau sefydledig a datblygol tuag at ymchwil y dyniaethau tra hefyd yn paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Bydd eich sgiliau ysgrifennu, cyflwyno ac ymchwil yn cael eu gwella i gefnogi eich datblygiad proffesiynol, a byddwch yn ennill ystod o sgiliau hanfodol sy'n ofynnol ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig lwyddiannus ym maes llenyddiaeth, yn ogystal ag amrywiaeth o yrfaoedd anacademaidd a chyhoeddus yn y dyfodol.
Byddwch yn dysgu sut i gyfleu eich ymchwil yn effeithiol ac yn broffesiynol ar draws ystod o blatfformau a chyfryngau, a sut i gyflwyno eich syniadau mewn ffordd a fydd yn apelio at wahanol fathau o gynulleidfaoedd. Mae hyn yn ddelfrydol ar gyfer llawer o swyddi a gyrfaoedd.
Yn ystod eich astudiaethau, byddwch wedi elwa ar gyfleoedd ymarferol i drafod, dadlau ac ystyried barn pobl eraill. Bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu, gweithio mewn tîm a meddwl yn feirniadol. Yn y cyfamser, bydd cynllunio ac ysgrifennu'r traethawd hir terfynol yn gwella eich gallu i ysgogi'ch hun, cwrdd â chyfrifoldebau y cytunwyd arnynt, a chyfathrebu'n effeithiol mewn darn estynedig o ymchwil annibynnol.
Byddwch yn elwa ar gefnogaeth a gwasanaethau gyrfaoedd a gynigir gan y Brifysgol a byddwch hefyd yn gallu mynd i symposiwm Diwrnod y Diwydiant Ysgrifennu Creadigol, sy'n sbardun proffesiynol ardderchog i'r rhai sy'n ystyried gyrfa ym maes cyhoeddi neu ysgrifennu.
Mae astudiaeth ôl-raddedig mewn llenyddiaeth Saesneg yn borth i lawer o yrfaoedd yn y byd academaidd a thu hwnt. Fe welwch ein graddedigion mewn ystod syfrdanol o swyddi a sectorau, o’r sector cyhoeddus i’r sector preifat. Mae ein cyn-fyfyrwyr yn gwneud eu marc mewn meysydd sy’n cynnwys y byd academaidd, addysg gynradd ac uwchradd, newyddiaduraeth, cyhoeddi, gwaith archifo a llyfrgell, y Gwasanaeth Sifil, gweinyddu'r celfyddydau, a'r diwydiannau creadigol.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Llenyddiaeth saesneg
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.