Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddor Data a Dadansoddi (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn - yn dechrau ym mis Medi
  • Dull astudio: Amser llawn

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Cewch ddysgu amrywiaeth o sgiliau y mae galw amdanynt ar gyfer echdynnu a thrin 'data mawr' a datblygu eich sgiliau ymarferol drwy gael eich amlygu i broblemau a setiau data'r byd real.

people

Dysgwch gan rwydwaith o arbenigwyr

Mae gennym rwydwaith trawsddisgyblaethol o arbenigwyr ar draws yr Ysgol Mathemateg, yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg a grwpiau ymchwil eraill y Brifysgol.

briefcase

Profiad yn y diwydiant

Cewch brofiad gwaith gwerthfawr mewn lleoliadau gwaith a phrosiectau proffesiynol gydag ymarferwyr gwyddor data blaenllaw yn y DU a thramor.

notepad

Datrys problemau yn y byd go iawn

Mae'r cwrs hwn yn ymgorffori dysgu sy'n seiliedig ar brosiectau yn defnyddio setiau data a phroblemau'r byd real.

building

Cyfleusterau blaengar

Byddwch yn cael eich addysgu yn ein hadeilad blaenllaw newydd Abacws.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol i fyfyrwyr o gymhwyso dulliau sy’n deillio o wyddor data a dadansoddeg. Byddwch yn datblygu ystod o sgiliau y mae galw mawr amdanyn nhw ar gyfer echdynnu a thrin ""data mawr"" a defnyddio offer modelu i helpu busnesau a sefydliadau'r llywodraeth i wneud penderfyniadau gwell.

Ar ôl gorffen y cwrs, byddwch mewn sefyllfa dda i symud ymlaen i amrywiaeth o rolau mewn diwydiannau data-ddwys neu yrfa ymchwil berthynol.

Mae’r radd hon, sy’n para blwyddyn, yn dod o dan ymbarél yr Academi Gwyddor Data (DSA), sy’n cael ei rhedeg gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, mewn partneriaeth â’r Ysgol Mathemateg. Byddwch yn elwa ar wybodaeth a sgiliau’r ddwy Ysgol. Fodd bynnag, yr Ysgol Mathemateg fydd yn dal i redeg eich gradd.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Ein hymchwil amlddisgyblaeth sy'n rhoi ffurf i'n rhaglenni gradd, ac yn eu gwneud yn berthnasol i gyflogwyr heddiw, gan eu gosod mewn sefyllfa dda i fanteisio ar ddatblygiadau yfory.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone
  • MarkerFfordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Yr Ysgol Mathemateg

Mae ein graddau deallusol cyffrous wedi'u hachredu er mwyn cwrdd â gofynion addysgol enwebiad Mathemategydd Siartredig.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4811
  • MarkerFfordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu: 

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc perthnasol fel peirianneg, mathemateg neu wyddoniaeth, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS. 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn rhaglen dau gam a addysgir dros flwyddyn am gyfanswm o 180 o gredydau. Mae’r cam a addysgir yn werth 120 credyd, ac fe’i dilynir gan brosiect ymchwil gwerth 60 credyd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.

Byddwch yn ymgymryd â'r holl fodiwlau gorfodol 20-credyd (100 credyd i gyd), ac yn dewis 20 credyd pellach o blith rhestr o'r modiwlau dewisol a ddewiswyd yn ofalus. Bydd y prosiect 60 credyd a wneir yn yr haf yn golygu gweithio gyda chwmni fel arfer ar broblem gwirioneddol arwyddocaol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Bydd y dulliau addysgu y byddwn yn eu defnyddio yn amrywio o un modiwl i’r llall, fel y bo'n briodol, yn dibynnu ar y pwnc a'r dull asesu. Rydyn ni’n addysgu gan ddefnyddio cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai cyfrifiadurol a thiwtorialau.

Bydd sgiliau rhaglennu a defnyddio pecynnau meddalwedd perthnasol yn cael eu haddysgu yn ein hystafelloedd cyfrifiaduron pwrpasol. Rydyn ni’n aml yn gwahodd arbenigwyr yn y diwydiant i roi cyflwyniadau, ac mae croeso i'n myfyrwyr eu mynychu.

Byddwn yn dyrannu tri goruchwyliwr i chi ar gyfer eich prosiect traethawd hir. Fel arfer, bydd eich goruchwylwyr yn ddau aelod o staff academaidd sydd â diddordeb neu arbenigedd yn eich maes ymchwil a goruchwyliwr noddi o'r sefydliad lle byddwch yn gweithio yn ystod eich prosiect. Dylech gyfarfod yn rheolaidd â'ch goruchwyliwr drwy gydol eich prosiect.

Sut y caf fy asesu?

Byddwn yn asesu eich cynnydd drwy gydol y cwrs. Gall yr asesiadau hyn fod ar ffurf papurau arholiad ysgrifenedig, aseiniadau mewn modiwlau, a thraethawd hir y prosiect, lle bydd gwybodaeth a chymhwysedd technegol yn cael eu gwerthuso. Gallwn hefyd ddefnyddio gwaith grŵp, cyflwyniadau llafar ac arddangosfeydd posteri i brofi sgiliau cyfathrebu, sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau datrys problemau.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae tiwtor personol yn cael ei neilltuo i bob un o'n myfyrwyr yn yr Ysgol Mathemateg a'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg pan fyddan nhw’n cofrestru ar y cwrs. Mae tiwtor personol yno i'ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau, a gall roi cyngor i chi ar faterion academaidd a phersonol a all fod yn effeithio arnoch.

Bydd gennych fynediad i Lyfrgell Trevithick, sy'n dal ein casgliad o adnoddau mathemategol a chyfrifiadureg, yn ogystal ag i Lyfrgelloedd eraill Prifysgol Caerdydd.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddealltwriaeth newydd, gyda llawer o hyn ar flaen ein disgyblaeth academaidd, neu'n seiliedig arno.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu i nodi dulliau priodol o ddatrys problemau mewn Gwyddor Data a Dadansoddi.
  • Mentergarwch a chyfrifoldeb personol wrth wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oes modd eu rhagweld.
  • Dulliau systematig a chreadigol ar gyfer delio â materion cymhleth; defnyddio barn gadarn yn absenoldeb data cyflawn.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Ysgolheictod uwch a phrofiad ymarferol mewn sgiliau rhaglennu, trin data a sgiliau echdynnu, dysgu peiriannol a sgiliau gwybodeg, a sgiliau datrys problemau a modelu
  • Y gallu i werthuso methodolegau a’u gwerthuso a, lle bo hynny'n briodol, i gynnig damcaniaethau newydd.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu i gyfleu syniadau, egwyddorion a damcaniaethau yn effeithiol drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig ac ymarferol i gynulleidfaoedd sy’n arbenigwyr ac i rai nad ydyn nhw’n arbenigwyr.
  • Gweithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol.
  • Y gallu i feddwl yn rhesymegol a dadansoddol am broblemau.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Costau ychwanegol

Mae'r Brifysgol o'r farn nad oes angen i'r ysgolion dalu'r costau canlynol gan nad ydyn nhw’n hanfodol neu maen nhw’n gostau sylfaenol y dylid disgwyl i fyfyriwr eu talu eu hunain:

  • Cyfrifianellau
  • Deunydd ysgrifennu cyffredinol
  • Gwerslyfrau (y tybir eu bod ar gael yn y llyfrgell)
  • Gwaith copïo / argraffu heb fod yn angenrheidiol.

Os oes costau/ffioedd dewisol i'w talu gan y myfyriwr, nid yw'r rhain yn ofyniad i basio'r radd. Yr eithriad i hyn yw cost argraffu a rhwymo'r traethawd hir terfynol i'w gyflwyno. Mae’n rhaid i'r myfyriwr dalu am hyn.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Bydd angen i chi ddefnyddio eich gliniadur eich hun. Bydd gwybodaeth am y gliniadur penodol sydd ei angen yn cael ei rhannu gyda chi cyn ymrestru.  Byddwch chi’n cael mynediad i'r holl feddalwedd angenrheidiol heb unrhyw gost ychwanegol.

Mae cynlluniau cymorth amrywiol ar gael i wneud yn siŵr bod gan bob myfyriwr fynediad at yr offer angenrheidiol, yn amodol ar gymhwysedd.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Bydd y sgiliau a enillwch yn ystod y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer rolau i raddedigion yn y maes hwn. Mae ôl-raddedigion blaenorol wedi mynd ymlaen i weithio gydag amrywiaeth o gwmnïau a sefydliadau'r Llywodraeth gan gynnwys y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Lloyds Banking Group, Nationwide, British Airways, Network Rail, Llywodraeth y DU, The Financial Times, Virgin Media, Dŵr Cymru ac Admiral Insurance.

Lleoliadau

Nodwedd bwysig o’r rhaglen MSc yw’r prosiect traethawd hir. Mae’n eich galluogi i gymhwyso’r dulliau a’r sgiliau a enilloch chi yn ystod y rhaglen a addysgir, naill ai i broblem yn y byd go iawn neu broblem fwy damcaniaethol. Gallai hyn gynnwys gweithio gyda chwmni neu sefydliad allanol. Yn y gorffennol, mae ein myfyrwyr wedi gweithio gyda sefydliadau megis Admiral Insurance, Grŵp Bancio Lloyds, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Cyfrifiadureg , Mathemateg


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.